Gad i Gyfraith Caredigrwydd Dy Gymell Di
“CAREDIGRWYDD y brodyr a chwiorydd wnaeth greu’r argraff fwyaf arna i,” meddai Lisa. * Dywedodd Anne rywbeth tebyg, “I gychwyn, cafodd caredigrwydd y Tystion fwy o effaith arna i na beth roedden nhw’n ei ddysgu.” Erbyn hyn, mae’r ddwy chwaer yn mwynhau darllen y Beibl a myfyrio arno, ond caredigrwydd wnaeth eu denu nhw at y gwir yn y lle cyntaf.
Sut gallwn ni ddangos caredigrwydd sy’n calonogi eraill? Byddwn ni’n trafod dwy ffordd: Beth rydyn ni’n ei ddweud, a beth rydyn ni’n ei wneud. Byddwn ni hefyd yn trafod pwy dylen ni fod yn garedig atyn nhw.
BOD YN GAREDIG YN Y FFORDD RWYT TI’N SIARAD
Mae Diarhebion pennod 31 yn disgrifio gwraig dda fel un sy’n garedig wrth siarad. (Diar. 31:26) Mae hi’n gadael i’r caredigrwydd hwnnw ddylanwadu ar beth mae hi’n ei ddweud, a’r ffordd mae hi’n dweud pethau. Dylai tadau hefyd wneud yr un fath. Mae’r rhan fwyaf o rieni yn sylweddoli bod siarad mewn ffordd angharedig yn gallu cael effaith ddrwg ar eu plant. Er enghraifft, os ydyn nhw’n siarad yn swta â’u plant, neu’n defnyddio tôn oeraidd, bydd y plant yn annhebygol o wrando. Felly pan mae rhieni’n siarad mewn ffordd garedig, bydd y plant yn fwy tebygol o ufuddhau.
P’un a wyt ti’n rhiant neu ddim, sut gelli di ddysgu i siarad yn garedig? Mae rhan gyntaf Diarhebion 31:26 yn dweud: “Mae hi’n siarad yn ddoeth bob amser.” Dylen ni wneud yr un peth. Mae’n rhaid inni wneud mwy na dewis ein geiriau’n ddoeth. Mae’n rhaid inni hefyd ddewis tôn ein llais yn ddoeth. Er mwyn gwneud hynny gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A fydd beth dw i ar fin ei ddweud yn gwylltio rhywun, neu’n hyrwyddo heddwch?’ (Diar. 15:1) Yn wir, mae meddwl cyn siarad yn ddoeth.
Mae Diarhebion 12:18 yn dweud: “Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu.” Bydd hi’n haws inni reoli beth rydyn ni’n ei ddweud os ydyn ni’n meddwl am y ffordd gall ein geiriau a thôn ein llais effeithio ar eraill. Os ydyn ni’n garedig wrth siarad, byddwn ni ond yn siarad mewn ffordd gynnes a phositif, yn hytrach na defnyddio geiriau neu dôn cas. (Eff. 4:31, 32) Gosododd Jehofa esiampl wych yn hyn o beth pan wnaeth ef gysuro Elias. Pan oedd y proffwyd hwnnw wedi dychryn, gwnaeth yr angel oedd yn cynrychioli Jehofa ei galonogi mewn “llais tawel yn sibrwd.” (1 Bren. 19:12, troednodyn) Ond mae bod yn garedig yn cynnwys mwy na dim ond siarad yn garedig. Rydyn ni hefyd angen gwneud pethau caredig. Sut?
EFFAITH CAREDIGRWYDD AR ERAILL
Rydyn ni’n efelychu Jehofa drwy ddweud a gwneud pethau caredig. (Eff. 4:32; 5:1, 2) Dyma sut gwnaeth Lisa, a ddyfynnwyd yn gynharach, ddisgrifio’r caredigrwydd a ddangosodd y Tystion tuag ati: “Pan oedd rhaid i fy nheulu symud tŷ ar fyr rybudd, dyma ddau gwpl o’r gynulleidfa yn cymryd amser i ffwrdd o’u gwaith i’n helpu ni i bacio. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn astudio’r Beibl ar y pryd!” Oherwydd caredigrwydd y Tystion hynny, roedd Lisa eisiau dysgu mwy am y gwir.
Mae Anne hefyd yn gwerthfawrogi’r caredigrwydd a ddangosodd y Tystion tuag ati. Dywedodd: “Oherwydd cyflwr y byd yn gyffredinol, roedd hi’n anodd imi drystio pobl. Felly pan wnes i gyfarfod y Tystion, doeddwn i ddim yn eu trystio nhw. Roeddwn i’n gofyn i fi fy hun, ‘Pam maen nhw’n dangos diddordeb yno i?’ Ond yn y pen draw, roeddwn i’n gallu trystio’r chwaer oedd yn astudio’r Beibl gyda mi oherwydd roedd hi’n dangos caredigrwydd go iawn.” Beth oedd effaith hynny? “Yn hwyrach ymlaen o’n i’n gallu canolbwyntio ar beth o’n i’n ei ddysgu.”
Felly, mae’n amlwg bod caredigrwydd y brodyr a chwiorydd wedi cael effaith fawr ar Lisa ac Anne. Yn y diwedd, dyna wnaeth eu cymell nhw i ddysgu mwy am y gwir, ac i ddod i drystio Jehofa a’i bobl.
EFELYCHA GAREDIGRWYDD DUW TUAG AT ERAILL
Mae llawer wedi arfer bod yn gwrtais a gwenu ar eraill am ei fod yn rhan o’u diwylliant neu gefndir. Er bod hynny’n ganmoladwy, os mai dyna’r unig beth sy’n ein cymell, efallai nad ydyn ni’n efelychu caredigrwydd Duw.—Cymhara Actau 28:2.
Mae gwir garedigrwydd yn rhan o ffrwyth ysbryd Duw. (Gal. 5:22, 23) Felly er mwyn meithrin y rhinwedd honno, mae angen inni adael i ysbryd Duw ddylanwadu ar ein gweithredoedd a’n ffordd o feddwl. Wrth inni wneud hynny, byddwn ni’n efelychu Jehofa ac Iesu, sydd wedyn yn cyd-fynd â’n hawydd Cristnogol i ddangos diddordeb mewn eraill. Yn syml, ein cariad tuag at Jehofa, yn ogystal â’n cariad tuag at ein cyd-ddyn, sydd yn ein cymell ni. O ganlyniad i hynny, mae ein caredigrwydd yn rymus, yn dod o’r galon, ac yn plesio Duw.
AT BWY DYLEN NI DDANGOS CAREDIGRWYDD?
Mae’n ddigon hawdd bod yn garedig â’n ffrindiau neu’r rhai sydd wedi bod yn garedig â ni. (2 Sam. 2:6) Un ffordd inni ddangos hynny, er enghraifft, ydy drwy ddiolch iddyn nhw. (Col. 3:15) Ond beth os ydyn ni’n teimlo nad ydy rhywun yn haeddu cael ei drin yn garedig?
Meddylia am yr esiampl wych mae Jehofa yn ei gosod o ran dangos caredigrwydd tuag at y rhai sydd ddim yn ei haeddu. Gallwn ni ddysgu llawer am hynny drwy ddarllen ei Air, y Beibl. Mae’r ymadrodd “caredigrwydd hael” yn cael ei ddefnyddio lawer o weithiau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Felly sut mae Duw yn dangos ei garedigrwydd tuag aton ni?
Mae’n anhygoel i feddwl bod Jehofa wedi bod yn garedig â phawb sydd wedi bodoli erioed, drwy roi popeth roedden nhw ei angen i fyw. (Math. 5:45) Hyd yn oed cyn inni ddod i adnabod Jehofa, roedd yn garedig â ni. (Eff. 2:4, 5, 8) Sut? Talodd y pris uchaf dros y ddynoliaeth gyfan, sef ei unig Fab. Fel ysgrifennodd yr apostol Paul, trefnodd Jehofa y pridwerth am ei fod “mor anhygoel o hael.” (Eff. 1:7) Ar ben hynny, mae Jehofa yn dal i’n harwain a’n dysgu, er ein bod ni’n pechu ac yn ei siomi’n aml. Mae ei gyngor yn debyg i “law mân,” sydd yn ein hadfywio. (Deut. 32:2) Mae’n amhosib inni dalu’n ôl iddo am ei holl garedigrwydd tuag aton ni. A’r gwir amdani yw, fyddai gynnon ni ddim gobaith am y dyfodol oni bai am garedigrwydd Jehofa.—Cymhara 1 Pedr 1:13.
Heb os, mae caredigrwydd Jehofa yn ein denu ni ato, ac yn ein cymell ni i’w efelychu. Dydy Jehofa ddim yn dewis a dethol pwy mae’n garedig atyn nhw. Mae’n garedig â phawb, a dylen ni geisio gwneud yr un fath yn ein bywydau bob dydd. (1 Thes. 5:15) Drwy wneud hynny, byddwn ni fel tân cynnes ar ddiwrnod oer, ac yn gysur i’n teulu, ein brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa, ein cyd-weithwyr, ein ffrindiau ysgol, a’n cymdogion.
Elli di feddwl am rywun yn dy deulu, neu yn dy gynulleidfa, a fydd yn ffynnu os wyt ti’n dweud neu’n gwneud rhywbeth caredig? Efallai bod rhywun angen help yn y tŷ neu yn yr ardd, neu angen help rheolaidd i siopa. Hyd yn oed yn y weinidogaeth, a wyt ti’n effro i gyfleoedd i gynnig help ymarferol i’r rhai rwyt ti’n eu cyfarfod?
O ystyried hyn i gyd, gad inni efelychu Jehofa a bod “yn garedig” mewn gair a gweithred.
^ Newidiwyd yr enwau.