Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 12

Dysga Fwy am Jehofa o’i Greadigaeth

Dysga Fwy am Jehofa o’i Greadigaeth

“Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu. Rydyn ni’n gallu dysgu amdano drwy edrych yn fanwl ar y pethau mae ef wedi eu creu.”—RHUF. 1:20.

CÂN 6 Mae’r Nefoedd yn Adrodd Gogoniant Duw

CIPOLWG a

1. Beth ydy un ffordd daeth Job i adnabod Jehofa yn well?

 MAE’N rhaid bod Job wedi sgwrsio â llawer o bobl yn ystod ei fywyd, ond roedd un sgwrs yn sefyll allan yn arbennig—ei sgwrs â Jehofa Dduw ei hun. Beth oedd gan Jehofa i’w ddweud wrth Job? Anogodd Job i edrych ar rai o’r pethau rhyfeddol ym myd natur. Pam? Roedd Jehofa eisiau dangos ei ddoethineb i Job, a’i allu i ofalu am Ei weision. Er enghraifft, fe wnaeth atgoffa Job ei fod yn gofalu am yr anifeiliaid, er mwyn cryfhau hyder Job yn ei allu i ofalu amdano yntau hefyd. (Job 38:39-41; 39:1, 5, 13-16) Dysgodd Job lawer am rinweddau Duw drwy ystyried y greadigaeth.

2. Pam mae hi’n anodd weithiau i astudio creadigaeth Jehofa?

2 Gall edrych yn fanwl ar y greadigaeth gael yr un effaith arnon ninnau hefyd. Ond weithiau gall fod yn her. Er enghraifft, os ydyn ni’n byw mewn dinas, efallai na fyddwn ni’n gweld llawer o fyd natur o ddydd i ddydd. Ond hyd yn oed os ydyn ni’n byw yng nghefn gwlad, efallai byddwn ni’n meddwl ein bod ni’n rhy brysur. Felly gad inni drafod pam mae’n werth yr ymdrech a’r amser i astudio’r greadigaeth, a sut gallwn ni wneud hynny. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut roedd Jehofa ac Iesu yn defnyddio’r greadigaeth wrth ddysgu eraill.

PAM DYLEN NI EDRYCH YN FANWL AR Y GREADIGAETH?

Roedd Jehofa eisiau i Adda fwynhau Ei greadigaeth ac i enwi’r anifeiliaid (Gweler paragraff 3)

3. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau i Adda fwynhau’r greadigaeth?

3 Pan greodd Jehofa y dyn cyntaf, Adda, roedd Ef eisiau iddo fwynhau’r baradwys berffaith roedd wedi ei chreu. Rhoddodd y fraint anhygoel iddo o ehangu’r ardd a gofalu amdani. (Gen. 2:8, 9, 15) Gallwn ni ddychmygu llawenydd Adda wrth iddo wylio hadau’n egino a gweld blodau hyfryd yn ymddangos. Ar ben hynny, yn lle enwi’r holl anifeiliaid ei hun, rhoddodd Jehofa y dasg honno i Adda. (Gen. 2:19, 20) Mae’n rhaid bod Adda wedi mwynhau astudio’r anifeiliaid yn ofalus, a gweld sut roedden nhw’n ymddwyn cyn penderfynu ar eu henwau. Roedd yn gyfle gwych iddo werthfawrogi’n fwy byth pa mor ddoeth, artistig, a chreadigol ydy Jehofa.

4. (a) Beth ydy un rheswm dylen ni edrych yn fanwl ar y greadigaeth? (b) Beth rwyt ti’n ei werthfawrogi fwyaf yn y greadigaeth?

4 Un rheswm da dros astudio’r greadigaeth ydy am fod Jehofa eisiau inni wneud hynny. Mae’n dweud: “Edrychwch i fyny ar y sêr!” Yna mae’n gofyn: “Pwy wnaeth eu creu nhw?” Mae’r ateb yn glir. (Esei. 40:26) Mae’r nefoedd, y ddaear, a’r môr yn llawn pethau anhygoel mae Jehofa wedi eu creu. Gallwn ni ddysgu oddi wrth bob un o’r rhain. (Salm 104:24, 25) A meddylia am sut mae Jehofa wedi ein creu ni, gyda’r gallu i werthfawrogi’r pethau hyfryd ym myd natur. Rydyn ni’n mwynhau gwneud hynny gyda’r pum synnwyr mae ef wedi eu rhoi inni—y gallu i weld, clywed, cyffwrdd, blasu, ac arogli.

5. Yn ôl Rhufeiniaid 1:20, sut rydyn ni’n elwa o astudio creadigaeth Jehofa?

5 Mae Rhufeiniaid 1:20 yn datgelu rheswm arall pam dylen ni astudio’r greadigaeth—mae’n ein dysgu ni am rinweddau Jehofa. (Darllen.) Ystyria ddwy enghraifft. O edrych ar y greadigaeth, mae’n amlwg ei bod wedi ei dylunio’n ofalus gan Jehofa, ac mae hynny’n dangos ei ddoethineb. Ac mae’r amrywiaeth eang o fwyd sydd ar gael yn dangos ei gariad tuag aton ni. Pan fyddwn ni’n gweld personoliaeth Jehofa yn y pethau mae ef wedi eu creu, byddwn ni’n dod i’w adnabod yn well ac yn closio ato. Nesaf, byddwn ni’n edrych ar rai gwersi pwysig mae Jehofa wedi eu dysgu i’w bobl drwy ddefnyddio ei greadigaeth.

MAE DUW YN DEFNYDDIO’R GREADIGAETH I’N DYSGU NI AMDANO’I HUN

6. Pa wers gallwn ni ei dysgu o edrych ar adar sy’n mudo?

6 Mae gan Jehofa amserlen. Bob blwyddyn, rhwng diwedd Chwefror a chanol Mai, byddai’r Israeliaid yn gweld storciaid yn mudo tua’r gogledd. “Mae’r crëyr [storc] yn gwybod pryd i ymfudo,” meddai Duw wrth yr Israeliaid. (Jer. 8:7) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o hyn? Yn union fel mae Jehofa wedi gosod amserlen i’r adar, mae wedi dewis amser i weithredu ei farn. Wrth inni weld adar yn mudo heddiw, mae’n ein hatgoffa ni bod Jehofa am ddod â’r byd drwg hwn i ben “ar yr amser iawn.”—Hab. 2:3.

7. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd mae adar yn hedfan? (Eseia 40:31)

7 Mae Jehofa yn rhoi nerth i’w weision. Trwy Eseia, gwnaeth Jehofa addo y byddai’n atgyfnerthu ei bobl i allu “hedfan i fyny fel eryrod” petasen nhw’n teimlo’n wan neu’n ddigalon. (Darllen Eseia 40:31.) Yn Israel, roedd hi’n ddigon cyffredin i weld eryr yn codi ar gerrynt aer heb fawr o ymdrech. Beth ydy’r wers i ni? Yn union fel mae Jehofa wedi rhoi nerth i’r adar hynny, mae hefyd yn gallu rhoi nerth i ni. Felly y tro nesaf byddi di’n gweld aderyn yn codi yn uwch ac yn uwch, heb symud ei adenydd, cofia fod Jehofa yn gallu rhoi’r nerth i ti godi uwchlaw dy broblemau.

8. Beth ddysgodd Job o’r greadigaeth, a beth gallwn ni ei ddysgu?

8 Mae Jehofa yn haeddu cael ei drystio. Gwnaeth Jehofa helpu Job i’w drystio’n fwy. (Job 32:2; 40:6-8) Gwnaeth Jehofa sôn wrth Job am lawer o’r pethau roedd ef wedi eu creu, gan gynnwys y sêr, y cymylau, a’r mellt. Aeth ymlaen i sôn am anifeiliaid hefyd, fel yr ych gwyllt a’r ceffyl. (Job 38:32-35; 39:9, 19, 20) Roedd hynny’n dystiolaeth o’i nerth aruthrol, ond hefyd o’i gariad a’i ddoethineb. Oherwydd y sgwrs hon, roedd Job yn trystio Jehofa yn fwy nag erioed. (Job 42:1-6) Beth amdanon ni? Pan fyddwn ni’n astudio’r greadigaeth, byddwn yn gweld yn glir gymaint doethach a chryfach ydy Jehofa o’i gymharu â ni. Gwelwn hefyd bod ganddo’r gallu i ddod â’n holl dreialon i ben, a dyna’n union bydd yn ei wneud.

ROEDD IESU’N DEFNYDDIO’R GREADIGAETH I DDYSGU ERAILL AM EI DAD

9-10. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o feddwl am yr haul a’r glaw?

9 Gweithiodd Iesu gyda’i Dad wrth greu’r bydysawd. Felly, fel “crefftwr,” roedd yn gwybod llawer am fyd natur. (Diar. 8:30) Yn ddiweddarach, pan oedd Iesu ar y ddaear, dysgodd ei ddisgyblion am ei Dad gan ddefnyddio’r greadigaeth. Dewch inni edrych ar rai esiamplau o hynny.

10 Mae Jehofa yn dangos cariad at bawb. Mae’n hawdd cymryd yr haul a’r glaw yn ganiataol er eu bod nhw’n hanfodol ar gyfer bywyd. Soniodd Iesu am y ddau beth hynny’n y Bregeth ar y Mynydd. Esboniodd fod Duw yn rhoi haul a glaw i bawb, hyd yn oed i’r rhai sydd ddim yn ei wasanaethu. (Math. 5:43-45) Beth oedd y wers? Mae Jehofa eisiau inni ddangos cariad at bawb. Felly pryd bynnag gweli di fachlud hyfryd neu gawod o law adfywiol, meddylia am gariad diduedd Jehofa. Gallwn ni ei efelychu a dangos cariad o’r fath drwy bregethu i bawb.

11. Sut gall gwylio’r adar ein calonogi?

11 Mae Jehofa yn darparu beth sydd ei angen arnon ni i fyw. Rhywbeth arall a ddywedodd Iesu yn y bregeth honno oedd: “Edrychwch yn ofalus ar adar y nefoedd; dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw.” Mae’n bosib byddai’r rhai oedd yn gwrando arno wedi sylwi ar adar yn hedfan uwch eu pennau pan ofynnodd Iesu iddyn nhw: “Onid ydych chithau yn werth mwy na nhw?” (Math. 6:26) Roedd hynny’n ffordd gariadus o’n hatgoffa ni y bydd Jehofa wastad yn gofalu am ein hanghenion materol. (Math. 6:31, 32) Mae profiad un arloeswraig ifanc o Sbaen yn dangos bod y wers hon yn dal i galonogi gweision Duw hyd heddiw. Roedd y chwaer wedi dechrau digalonni am ei bod hi’n cael trafferth cael hyd i le i fyw. Ond roedd gwylio adar yn bwydo ar hadau ac aeron yn codi ei chalon. Dywedodd hi: “Mae’r ffaith bod Jehofa yn gofalu am yr adar yn fy atgoffa i bydd e hefyd yn gofalu amdana i.” Yn fuan wedyn cafodd y chwaer hyd i rywle i fyw.

12. Yn ôl Mathew 10:29-31, beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o adar y to?

12 Mae Jehofa yn gweld ein gwerth fel unigolion. Cyn i Iesu anfon ei apostolion allan i bregethu, gwnaeth ef eu helpu nhw i beidio ag ofni gwrthwynebiad. Sut gwnaeth ef hynny? Drwy sôn am un o’r adar mwyaf cyffredin yn Israel ar y pryd: adar y to. (Darllen Mathew 10:29-31.) Doedd yr adar hynny ddim yn werthfawr o bell ffordd. Ond dywedodd Iesu: “Ni fydd yr un ohonyn nhw’n syrthio i’r ddaear heb i’ch Tad wybod amdano.” Yna, ychwanegodd: “Rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to.” Roedd hyn yn atgoffa’r disgyblion eu bod nhw’n werthfawr i Jehofa fel unigolion, felly doedd ganddyn nhw ddim rheswm i ofni cael eu herlid. Gallwn ni ddychmygu’r disgyblion yn cofio geiriau Iesu bob tro roedden nhw’n gweld adar y to wrth bregethu. Yn yr un ffordd, pryd bynnag gweli di aderyn bach, cofia dy fod ti’n werthfawr i Jehofa. Rwyt tithau hefyd yn “werth mwy na llawer o adar y to.” Gyda chefnogaeth Duw, gelli di aros yn ddewr os wyt ti’n cael dy wrthwynebu.—Salm 118:6.

SUT GALLWN NI DDYSGU MWY AM DDUW O’R GREADIGAETH?

13. Beth fydd yn ein helpu ni i ddysgu mwy am y greadigaeth?

13 Mae ’na lawer mwy gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r greadigaeth. Ond er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni gymryd amser i edrych yn fanwl ar fyd natur. Yna, mae’n rhaid inni hefyd feddwl am beth mae’n ei ddysgu inni am Jehofa. Dydy hi ddim wastad yn hawdd gwneud hynny. Dywedodd Géraldine, chwaer o Camerŵn: “Ces i fy magu yn y ddinas, felly roedd astudio natur yn cymryd tipyn o ymdrech imi.” Mae henuriad o’r enw Alfonso yn esbonio: “Dw i wedi dysgu bod rhaid imi neilltuo amser ar fy mhen fy hun i edrych yn fanwl ar y greadigaeth a myfyrio ar beth mae hynny’n ei ddysgu imi am Jehofa.”

Wrth edrych ar y greadigaeth o’i gwmpas, roedd Dafydd yn myfyrio ar beth roedd hynny’n ei ddysgu iddo am Jehofa (Gweler paragraff 14)

14. Beth ddysgodd Dafydd drwy fyfyrio ar greadigaeth Duw?

14 Roedd Dafydd yn amlwg yn un oedd yn meddwl yn ddwfn am greadigaeth Duw. Dywedodd wrth Jehofa: “Wrth edrych allan i’r gofod, a gweld gwaith dy fysedd, y lleuad a’r sêr a osodaist yn eu lle, Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?” (Salm 8:3, 4) Ond aeth Dafydd ymhellach na dim ond syllu ar y sêr. Roedd yn myfyrio ar beth roedd yr olygfa ryfeddol honno yn ei ddatgelu am Dduw. Dysgodd pa mor fawr ydy Jehofa. Ar adegau eraill, roedd Dafydd yn myfyrio ar sut roedd ei gorff wedi tyfu yng nghroth ei fam. Wrth wneud hynny, daeth i werthfawrogi doethineb Jehofa yn fwy byth.—Salm 139:14-17.

15. Rho enghreifftiau o sut rwyt ti wedi gweld rhinweddau Jehofa yn y greadigaeth. (Salm 148:7-10)

15 Yn debyg i Dafydd, does dim rhaid inni edrych yn bell i weld rhinweddau Jehofa yn y greadigaeth. Ac unwaith inni sylwi arnyn nhw, gallwn ni fyfyrio arnyn nhw. Meddylia am rai enghreifftiau. Mae teimlo gwres yr haul ar ein croen yn ein hatgoffa ni o nerth Jehofa. (Jer. 31:35) Gelli di ryfeddu ar ddoethineb Duw pan weli di aderyn yn adeiladu nyth. Meddylia am hiwmor Jehofa wrth weld ci bach yn rhedeg ar ôl ei gynffon ei hun. A rho ddiolch i Jehofa am ei gariad bob tro byddi di’n gweld mam yn chwarae gyda’i babi. Yn fawr neu’n fach, yn agos neu’n bell, mae popeth mae Jehofa wedi ei greu yn ei foli. Felly, mae gynnon ni hen ddigon o gyfleoedd i ddysgu am Jehofa.—Darllen Salm 148:7-10.

16. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

16 Mae rhinweddau Duw yn amlwg yn y greadigaeth os ydyn ni ond yn edrych amdanyn nhw. Er enghraifft, rydyn ni’n gweld ei fod yn hynod o ddoeth, cariadus, artistig, nerthol, a llawer iawn mwy. Felly gad inni i gyd neilltuo amser yn aml i fwynhau’r greadigaeth ac i feddwl am beth mae’n ei ddysgu inni am Jehofa. Y mwyaf byddwn ni’n gwneud hynny, y mwyaf byddwn ni’n closio at ein Creawdwr. (Iago 4:8) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n gweld sut gall rhieni ddefnyddio’r greadigaeth i helpu eu plant i glosio at Jehofa.

CÂN 5 Gweithredoedd Rhyfeddol Duw

a Mae creadigaeth Jehofa yn syfrdanol. Mae popeth mae ef wedi ei greu yn gwneud inni ryfeddu, o bethau anhygoel o bwerus fel yr haul, i bethau bregus fel petalau blodyn. Mae’r pethau hyn yn gallu dysgu gwersi pwysig inni am bersonoliaeth Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam dylen ni neilltuo amser i astudio’r greadigaeth, a sut gallwn ni glosio at Dduw drwy wneud hynny.