ERTHYGL ASTUDIO 20
CÂN 67 “Pregetha’r Gair”
Gad i Dy Gariad Dy Gymell i Bregethu!
“Yn yr holl genhedloedd, mae’n rhaid i’r newyddion da gael eu pregethu’n gyntaf.”—MARC 13:10.
PWRPAS
Sut mae cariad yn ein cymell ni i wneud ein gorau i bregethu’n selog.
1. Beth gwnaethon ni ei ddysgu yn ystod cyfarfod blynyddol 2023?
YNG nghyfarfod blynyddol 2023, a cafodd newidiadau cyffrous eu cyhoeddi yn ein dealltwriaeth ac ynglŷn â’n gweinidogaeth. Er enghraifft, dysgon ni efallai bydd ’na gyfle i unigolion ochri gyda Jehofa hyd yn oed ar ôl dinistr Babilon Fawr. Hefyd, gwnaethon ni ddysgu ni fydd rhaid i gyhoeddwyr y Deyrnas roi adroddiad i mewn o fis Tachwedd 2023 ymlaen. Ydy’r newidiadau hyn yn golygu bod ein gweinidogaeth yn llai pwysig nag o’r blaen? Dim o gwbl!
2. Pam mae ein gweinidogaeth yn dod yn bwysicach bob diwrnod? (Marc 13:10)
2 Wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae ein gweinidogaeth yn dod yn bwysicach byth. Pam? Oherwydd mae’r amser yn fyr. Ystyria beth ragfynegodd Iesu am y gwaith pregethu yn y dyddiau olaf. (Darllen Marc 13:10.) Yn ôl llyfr Mathew, dywedodd Iesu y bydd y newyddion da “yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd” cyn i’r “diwedd” ddod. (Math. 24:14) Mae’r ymadrodd hwnnw’n cyfeirio at ddiwedd byd drygionus Satan. Mae Jehofa wedi penodi “dydd” ac “awr” ar gyfer y pethau sydd ar fin digwydd. (Math. 24:36; 25:13; Act. 1:7) Wrth i bob dydd fynd heibio, rydyn ni’n un cam yn agosach i’r amser hwnnw. (Rhuf. 13:11) Yn y cyfamser, mae’n rhaid inni ddal ati i bregethu.
3. Beth sy’n ein cymell ni i bregethu?
3 Ar adegau, mae’n beth da inni ofyn cwestiwn pwysig i ni’n hunain: Pam rydyn ni’n pregethu’r newyddion da? Yn syml, mae cariad yn ein cymell ni i bregethu. Mae ein gwaith pregethu yn dangos ein cariad at y newyddion da, at bobl eraill, ac yn bennaf, at Jehofa a’i enw. Gad inni ystyried y rhain fesul un.
RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD EIN CARIAD AT Y NEWYDDION DA
4. Sut rydyn ni’n ymateb wrth inni dderbyn newyddion da?
4 Wyt ti’n cofio sut roeddet ti’n teimlo wrth dderbyn newyddion da—efallai genedigaeth plentyn yn y teulu, neu dderbyn swydd roeddet ti’n wir yn ei angen? Siŵr o fod roeddet ti’n ysu i rannu’r newyddion hynny â dy deulu a dy ffrindiau. A wnest ti ymateb mewn ffordd debyg wrth dderbyn y newyddion gorau oll—y newyddion da am Deyrnas Dduw?
5. Sut roeddet ti’n teimlo pan wnest ti ddysgu’r gwir am y tro cyntaf? (Gweler hefyd y lluniau.)
5 Meddylia am sut roeddet ti’n teimlo ar ôl clywed y gwir yng Ngair Duw am y tro cyntaf. Dysgaist ti fod dy Dad nefol yn dy garu di, ei fod eisiau iti fod yn rhan o’i deulu, ei fod wedi addo dod â diwedd ar boen a dioddefaint, bod gen ti’r gobaith o weld dy anwyliaid yn cael eu hatgyfodi yn y byd newydd, a llawer mwy. (Marc 10:29, 30; Ioan 5:28, 29; Rhuf. 8:38, 39; Dat. 21:3, 4) Gwnaeth y gwirioneddau hynny gyffwrdd â dy galon. (Luc 24:32) Roeddet ti eisiau dweud wrth bawb amdanyn nhw wrth i dy gariad dyfu!—Cymhara Jeremeia 20:9.
6. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth brofiad Ernest a Rose?
6 Ystyria esiampl brawd o’r enw Ernest. b Roedd ef tua 10 mlwydd oed pan wnaeth ei dad farw. Mae Ernest yn dweud: “O’n i’n gofyn: ‘Ydy dad wedi mynd i’r nefoedd? Neu ydy ef wedi marw am byth?’ O’n i’n teimlo’n genfigennus o weld plant eraill oedd â thad.” Roedd Ernest yn mynd yn aml i’r fynwent ac yn glinio o flaen bedd ei dad. Byddai’n gweddïo: “Plîs, Duw, dwi eisiau gwybod lle mae dad.” Tua 17 mlynedd ar ôl i’w dad farw, gwnaeth Ernest dderbyn gwahoddiad i ddechrau astudio’r Beibl. Roedd ef wrth ei fodd pan ddysgodd fod y meirw yn anymwybodol, fel eu bod nhw mewn cwsg dwfn, a bod y Beibl yn addo y bydd ’na atgyfodiad yn y dyfodol. (Preg. 9:5, 10; Act. 24:15) O’r diwedd, roedd ef wedi dod o hyd i atebion i’r cwestiynau roedd wedi bod yn gofyn am gymaint o amser! Roedd Ernest wedi gwirioni’n llwyr oherwydd yr hyn roedd yn ei ddysgu o’r Beibl. Gwnaeth ei wraig Rose ymuno ag ef yn ei astudiaeth Feiblaidd, a dechrau meithrin yr un cariad tuag at neges y deyrnas. Ym 1978, cawson nhw eu bedyddio. Roedden nhw’n pregethu’n selog i deulu, i ffrindiau, ac i eraill am y gwirioneddau gwerthfawr roedden nhw wedi eu dysgu. O ganlyniad i hynny, mae Ernest a Rose wedi helpu dros 70 o unigolion i ddod i adnabod Jehofa a chael eu bedyddio.
7. Beth sy’n digwydd wrth i’r gwir wreiddio yn ein calonnau? (Luc 6:45)
7 Yn amlwg, wrth i’r gwir o’r Beibl wreiddio yn ein calonnau, allwn ni ddim cadw’n ddistaw. (Darllen Luc 6:45.) Rydyn ni’n teimlo’r un fath â disgyblion cynnar Iesu, pan ddywedon nhw: “Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Act. 4:20) Rydyn ni’n caru’r gwir cymaint nes inni eisiau ei rannu â phawb.
RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT BOBL
8. Beth sy’n ein cymell ni i rannu’r newyddion da ag eraill? (Gweler y blwch “ Caru Pobl—Gwneud Disgyblion.”) (Gweler hefyd y llun.)
8 Fel Jehofa ac Iesu, rydyn ni’n caru pobl. (Diar. 8:31; Ioan 3:16) Rydyn ni’n teimlo dros y rhai sydd “heb Dduw” a heb obaith. (Eff. 2:12) Mae fel petai bod problemau’r byd yn eu boddi nhw, ond gallwn ni roi siaced achub iddyn nhw—y newyddion da am Deyrnas Dduw. Mae ein cariad a’n tosturi at y rhai hyn yn ein cymell ni i wneud pob ymdrech i rannu’r newyddion da â nhw. Gall y neges werthfawr honno lenwi eu calonnau â gobaith, eu helpu nhw i ddod o hyd i’r bywyd gorau heddiw, a rhoi’r cyfle iddyn nhw fwynhau’r “bywyd go iawn”—bywyd am byth ym myd newydd Duw.—1 Tim. 6:19.
9. Pa rybudd rydyn ni’n ei roi am y dyfodol, a pham? (Eseciel 33:7, 8)
9 Mae cariad at bobl hefyd yn ein hysgogi ni i roi rhybudd bod diwedd y byd drygionus hwn ar fin dod. (Darllen Eseciel 33:7, 8.) Rydyn ni’n teimlo trueni dros ein cymdogion a’n teulu sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Mae bywyd bob dydd yn cymryd sylw llawer, sy’n eu gwneud nhw’n anymwybodol o beth sy’n dod—‘Trychineb mawr o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau’r byd hyd nawr ac na fydd yn digwydd byth eto.’ (Math. 24:21) Rydyn ni’n dymuno iddyn nhw wybod beth fydd yn digwydd yn ystod yr adeg honno o farnu—pan fydd gau grefydd, ac yna’r holl system ddrygionus hon, yn cael ei chwalu yn ystod Armagedon. (Dat. 16:14, 16; 17:16, 17; 19:11, 19, 20) Rydyn ni’n gweddïo y bydd cymaint â phosib yn ymateb i’r rhybudd hwn ac yn ymuno â ni yn addoliad pur. Ond beth am y rhai sydd ddim yn gwrando ar y rhybudd ar hyn o bryd, gan gynnwys aelodau o’n teulu?
10. Pam mae’n bwysig inni ddal ati i rybuddio pobl?
10 Fel gwnaeth yr erthygl flaenorol esbonio, efallai bydd Jehofa’n achub y rhai sy’n newid eu meddyliau wrth iddyn nhw weld Babilon Fawr yn cael ei dinistrio. Os felly, mae’n bwysicach byth inni ddal ati i’w rhybuddio nhw nawr. Ystyria hyn: Gall ein geiriau heddiw roi rhywbeth iddyn nhw ei gofio bryd hynny. (Cymhara Eseciel 33:33.) Efallai byddan nhw’n cofio beth ddywedon ni ac yn dod i addoli Jehofa cyn i amser rhedeg allan. Yn debyg i geidwad y carchar yn Philipi a newidiodd ei feddwl ar ôl i “ddaeargryn mawr” daro, efallai bydd y rhai sydd ddim yn ymateb heddiw yn newid eu meddyliau ar ôl i ddinistr Babilon Fawr ysgwyd y byd.—Act. 16:25-34.
RYDYN NI’N PREGETHU OHERWYDD CARIAD AT JEHOFA A’I ENW
11. Sut rydyn ni’n rhoi clod, anrhydedd, a grym i Jehofa? (Datguddiad 4:11) (Gweler hefyd y lluniau.)
11 Ein prif reswm dros bregethu’r newyddion da yw ein cariad tuag at Jehofa Dduw a’i enw sanctaidd. O’n safbwynt ni, mae’r weinidogaeth yn gyfle inni foli Duw. (Darllen Datguddiad 4:11.) Rydyn ni’n cytuno bod Jehofa Dduw yn deilwng i dderbyn gogoniant, anrhydedd, a grym gan ei addolwyr ffyddlon. Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa drwy ddangos i eraill mai ef sydd wedi ein creu ni a rhoi bywyd inni. Rydyn ni’n rhoi ein grym i Jehofa wrth inni ddefnyddio ein hamser, ein hegni, a’n hadnoddau i wneud cymaint ag y gallwn ni i bregethu. (Math. 6:33; Luc 13:24; Col. 3:23) Yn syml, rydyn ni wrth ein boddau yn siarad am y Duw rydyn ni’n ei garu. Rydyn ni hefyd yn cael ein cymell i ddweud wrth eraill am ei enw a’r math o berson ydy ef. Pam?
12. Sut rydyn ni’n sancteiddio enw Duw yn ein gweinidogaeth?
12 Mae ein cariad at Jehofa yn ein cymell ni i sancteiddio ei enw. (Math. 6:9) Rydyn ni eisiau gwneud ein rhan i glirio enw Jehofa o gelwyddau Satan. (Gen. 3:1-5; Job 2:4; Ioan 8:44) Yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n awyddus i siarad o blaid Duw a dweud y gwir amdano wrth bawb sy’n barod i wrando. Ein dymuniad yw i bawb deall mai cariad ydy prif rinwedd Duw, bod ei ffordd o reoli’n gyfiawn, a bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar ddioddefaint a dod â heddwch a hapusrwydd i ddynolryw. (Salm 37:10, 11, 29; 1 Ioan 4:8) Rydyn ni’n sancteiddio Jehofa drwy amddiffyn ei enw yn y weinidogaeth, ac rydyn ni’n cael yr hapusrwydd sy’n dod o wneud beth sy’n iawn fel ei Dystion. Sut felly?
13. Pam rydyn ni’n prowd o gael ein galw’n Dystion Jehofa? (Eseia 43:10-12)
13 Mae Jehofa wedi ein dewis ni i fod yn “dystion” iddo. (Darllen Eseia 43:10-12.) Rai blynyddoedd yn ôl, dywedodd llythyr gan y corff llywodraethol: “Yr anrhydedd mwyaf gallwn ni ei gael ydy cael ein galw’n Dystion Jehofa.” c Pam felly? Ystyria eglureb. Petaset ti yn y llys ac angen rhywun i fod yn dyst cymeriad iti, pwy fyddet ti’n ei ddewis? Rhywun sydd ag enw da y byddai pobl eraill yn ei drystio, ac sy’n dy adnabod di yn dda. Mae Jehofa yn dangos ei fod yn dy adnabod ac yn dy drystio i dystiolaethu mai ef ydy’r unig wir Dduw. Fel ei Dystion, mae’n fraint inni gymryd pob cyfle inni hysbysebu ei enw, a phrofi’r holl gelwyddau ofnadwy sy’n cael eu dweud amdano yn ffals. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n prowd o ddwyn yr enw Tystion Jehofa!—Salm 83:18; Rhuf. 10:13-15.
BYDDWN NI’N DAL ATI I BREGETHU HYD Y DIWEDD
14. Pa ddigwyddiadau cyffrous sydd o’n blaenau ni?
14 Mae digwyddiadau cyffrous o’n blaenau ni! Gyda bendith Jehofa, rydyn ni’n gobeithio gweld llawer mwy yn derbyn y gwir cyn i’r trychineb mawr ddechrau. Ar ben hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at y posibilrwydd o weld hyd yn oed mwy o bobl yn cefnu ar fyd Satan ac ymuno â ni wrth foli Jehofa ar ôl i’r trychineb mawr ddechrau!—Act. 13:48.
15-16. Beth byddwn ni’n dal ati i’w wneud, ac am faint?
15 Yn y cyfamser, mae gynnon ni waith pwysig iawn i’w wneud, gwaith ni fydd yn cael ei wneud byth eto—y fraint o bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw drwy’r byd i gyd. Ar yr un pryd, mae’n rhaid inni ddal ati i rybuddio pobl bod y byd drygionus hwn ar fin dod i ben. Yna, pan ddaw’r amser i farnu, byddan nhw’n gwybod bod y neges rydyn ni wedi ei bregethu wedi dod oddi wrth Dduw.—Esec. 38:23.
16 Beth, felly, rydyn ni’n benderfynol o’i wneud? Gadael i gariad at y newyddion da, cariad at bobl, ac yn bennaf oll, cariad at Jehofa a’i enw, ein cymell ni i ddal ati i bregethu’n selog nes bod Jehofa’n dweud, “Dyna ddigon!”
CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”
a Cafodd y cyfarfod blynyddol ei gynnal ar Hydref 7, 2023, yn Neuadd Cynulliad Tystion Jehofa yn Newburgh, Efrog Newydd, UDA. Yn nes ymlaen, cafodd y cyfarfod cyfan ei ryddhau ar raglenni JW Broadcasting®. Roedd rhan 1 ar gael ym mis Tachwedd 2023, a rhan 2 ym mis Ionawr 2024.
b Gweler yr erthygl “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau—Gwnaeth Atebion Clir a Rhesymegol y Beibl Greu Argraff Arna I,” o rifyn Chwefror 1, 2015, o’r Tŵr Gwylio.
c Gweler y 2007 Yearbook of Jehovah’s Witnesses, t. 3.