Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

Mae Pobl Jehofa yn Caru Cyfiawnder

Mae Pobl Jehofa yn Caru Cyfiawnder

“Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder [yn hapus].”—MATH. 5:6.

CÂN 9 Jehofa Yw Ein Brenin!

CIPOLWG a

1. Pa her wynebodd Joseff, a sut gwnaeth ef ymateb?

 WYNEBODD Joseff, fab Jacob, her anodd. Dywedodd gwraig Potiffar wrtho: “Tyrd i’r gwely hefo fi.” Ond gwrthod wnaeth Joseff, er doedd Potiffar ddim gartref, a byddai ei wraig yn gallu wneud bywyd yn anodd i Joseff am ei gwrthod. Wedi’r cwbl, gwas oedd Joseff. Felly pam gwnaeth Joseff ei gwrthod hi dro ar ôl tro? Dywedodd: “Sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?”—Gen. 39:7-12.

2. Sut roedd Joseff yn gwybod y byddai’n pechu yn erbyn Duw petai’n godinebu?

2 Sut roedd Joseff yn gwybod y byddai’n “pechu yn erbyn Duw,” petai’n derbyn cynnig gwraig Potiffar? Doedd Cyfraith Moses, oedd yn cynnwys y gorchymyn “Paid godinebu,” ddim yn bodoli eto. Fyddai hynny ddim yn digwydd am ddau gan mlynedd arall. (Ex. 20:14) Er hynny, roedd Joseff yn adnabod ei Dduw yn ddigon da i wybod sut byddai’n teimlo am y fath beth. Mae’n debyg roedd yn gwybod bod Jehofa wedi bwriadu i briodas fod rhwng un dyn ac un ddynes. Ac mae’n siŵr ei fod hefyd wedi clywed am sut gwnaeth Jehofa amddiffyn ei hen nain Sara fel ei bod hi’n gallu aros yn ffyddlon i’w gŵr. Roedd rhywbeth tebyg wedi digwydd yn achos Rebeca, gwraig Isaac. (Gen. 2:24; 12:14-20; 20:2-7; 26:6-11) Mae’n rhaid bod hyn i gyd wedi rhoi syniad go dda i Joseff o beth oedd yn dda ac yn ddrwg yng ngolwg Duw. Am fod Joseff yn caru Jehofa, roedd hefyd yn caru safonau cyfiawn Jehofa, ac yn benderfynol o gadw atyn nhw.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Er ein bod ni’n caru cyfiawnder, gall ein hamherffeithrwydd a dylanwad y byd ei gwneud hi’n anodd inni wneud y peth iawn bob tro. (Esei. 5:20; Rhuf. 12:2) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth ydy cyfiawnder, a sut gallwn ni elwa o garu cyfiawnder. Wedyn byddwn ni’n trafod tri cham a all ein helpu ni i garu safonau Jehofa yn fwy byth.

BETH YDY CYFIAWNDER?

4. Pa gamsyniad sydd gan lawer am gyfiawnder?

4 Mae llawer yn meddwl bod rhywun sy’n gyfiawn hefyd yn ffroenuchel, yn feirniadol, neu’n hunangyfiawn. Ond mae’n gas gan Dduw agweddau felly. Roedd Iesu’n ceryddu’r arweinwyr crefyddol am benderfynu drostyn nhw eu hunain beth oedd yn gyfiawn. (Preg. 7:16; Luc 16:15) Ond mae bod yn gyfiawn a bod yn hunangyfiawn yn ddau beth hollol wahanol.

5. Beth yw cyfiawnder, yn ôl y Beibl? Rho enghreifftiau.

5 Mae cyfiawnder yn rhinwedd hyfryd. Yn syml, mae’n golygu gwneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw. Pan mae’r Beibl yn sôn am “gyfiawnder,” mae’n cyfleu’r syniad o fyw’n unol â safonau uchel Jehofa. Er enghraifft, gorchmynnodd Jehofa i fasnachwyr ddefnyddio pwysau cywir. (Deut. 25:15) Gall y gair Hebraeg sy’n cael ei drosi’n “gywir” yma, hefyd cael ei drosi’n “onest” neu’n “gyfiawn.” Felly er mwyn bod yn gyfiawn yng ngolwg Duw, mae’n rhaid i Gristion fod yn onest mewn materion busnes. Bydd yn gas ganddo weld rhywun yn cael ei drin yn annheg. A bydd wastad yn meddwl am sut mae Jehofa yn teimlo am ei benderfyniadau, er mwyn ei “blesio fe ym mhob ffordd.”—Col. 1:10.

6. Pam gallwn ni drystio safonau Jehofa o ran beth sy’n dda a drwg? (Eseia 55:8, 9)

6 Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa ydy Ffynhonnell cyfiawnder, ac mae’n ei ddisgrifio yn yr iaith wreiddiol fel “cartref cyfiawnder.” (Jer. 50:7, NWT) Jehofa sydd wedi ein creu, felly ef yw’r unig un sydd â’r hawl i ddweud beth sy’n dda neu’n ddrwg. Mae Jehofa hefyd yn berffaith, ac felly yn gwybod yn llawer gwell na ni beth sy’n dda neu’n ddrwg—rhywbeth sy’n amhosib i ni, gan ein bod ni’n amherffaith ac yn pechu. (Diar. 14:12; darllen Eseia 55:8, 9.) Er hynny, mae’n bosib inni fyw’n gyfiawn yn ôl ei safonau am ein bod ni wedi ein creu ar ei ddelw ef. (Gen. 1:27) A dyna’n union mae pob un ohonon ni eisiau ei wneud am ein bod ni’n caru Jehofa ac eisiau ei efelychu y gorau ag y medrwn ni.—Eff. 5:1.

7. Pam rydyn ni angen safonau dibynadwy? Eglura.

7 Elli di weld pam mae dilyn safonau Jehofa o les inni? Dychmyga beth fyddai’n digwydd petai pob banc yn penderfynu drosto’i hun beth ydy gwerth darn o arian, neu petai pob cwmni adeiladu yn dilyn ei fesuriadau arbennig ei hun. Byddai’n siop siafins go iawn! A beth petai meddygon yn methu cadw at safonau gofal cyson? Gallai rhai hyd yn oed golli eu bywydau. Mae safonau dibynadwy yn ein hamddiffyn, ac mae safonau Jehofa ynglŷn â da a drwg hefyd yn ein hamddiffyn.

8. Sut bydd Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n caru gwneud beth sy’n iawn?

8 Mae Jehofa yn addo y bydd y rhai sy’n ceisio byw yn ôl ei safonau yn “meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:29) Dychmyga fyw mewn byd lle mae pawb yn dilyn safonau Jehofa. Bydd undod, heddwch a hapusrwydd ym mhobman. Dyna’r union fywyd mae Jehofa eisiau inni ei gael. Nawr ein bod ni wedi gweld pam rydyn ni’n caru cyfiawnder, gad inni drafod tair ffordd y gallwn ni ei garu’n fwy byth.

CARA SAFONAU JEHOFA YN FWY BYTH

9. Beth fydd yn ein helpu i garu cyfiawnder?

9 Cam 1: Cara’r Un sy’n gosod y safonau. Os ydyn ni am garu cyfiawnder yn fwy, mae’n rhaid inni garu’r Un sy’n gosod y safonau. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n fwy awyddus i fyw yn ôl ei safonau cyfiawn. Er enghraifft, petai Adda ac Efa wedi caru Jehofa, bydden nhw wedi bod yn ufudd iddo.—Gen. 3:1-6, 16-19.

10. Sut daeth Abraham i ddeall Jehofa yn well?

10 Gallwn ni osgoi syrthio i’r un fagl ag Adda ac Efa drwy ddod i adnabod Jehofa yn well, a cheisio deall ei ffordd o feddwl. O ganlyniad byddwn ni’n dod i garu Jehofa yn fwy byth. Meddylia am Abraham. Yn sicr, roedd Abraham yn caru Jehofa er nad oedd bob amser yn deall ei benderfyniadau. Ond yn hytrach nag anufuddhau, gwnaeth ef ei orau i ddod i adnabod Jehofa yn well. Mae’n siŵr dy fod ti’n cofio beth ddigwyddodd pan benderfynodd Jehofa ddinistrio Sodom a Gomorra. Roedd Abraham yn poeni’n arw y byddai Jehofa, “Barnwr y byd,” yn cael gwared ar bobl dda gyda’r rhai drwg. Felly gofynnodd gyfres o gwestiynau i Jehofa. Ar ôl i Jehofa gymryd yr amser i ateb pob cwestiwn, sylweddolodd Abraham fod Jehofa yn edrych ar galon pob unigolyn, ac na fyddai byth yn dinistrio pobl dda gyda phobl ddrwg.—Gen. 18:20-32.

11. Sut dangosodd Abraham ei fod yn caru Jehofa ac yn ei drystio?

11 Cafodd y sgwrs honno am Sodom a Gomorra effaith fawr ar Abraham a’i helpu i garu ei Dad yn fwy nag erioed. Flynyddoedd wedyn, cafodd ffydd Abraham ei phrofi eto, pan ofynnodd Jehofa iddo aberthu ei fab Isaac. Ond y tro hwn, doedd gan Abraham ddim cwestiynau, achos erbyn hyn, roedd yn adnabod Jehofa yn llawer gwell. Felly, aeth ati i wneud beth roedd Jehofa wedi ei ofyn. Dychmyga pa mor boenus byddai hynny wedi bod i Abraham! Mae’n rhaid ei fod wedi meddwl yn ôl ar bopeth roedd ef wedi ei ddysgu am Jehofa. Roedd yn gwybod na fyddai Jehofa byth yn gwneud unrhyw beth anghyfiawn. Yn ôl yr apostol Paul, roedd Abraham yn sicr y byddai Jehofa yn atgyfodi Isaac. (Heb. 11:17-19) Cofiodd Abraham fod Jehofa wedi addo y byddai Isaac yn dad i genedl fawr, ond ar y pryd doedd gan Isaac ddim plant. Diwedd y gân ydy, roedd Abraham yn caru Jehofa, ac felly roedd yn gwbl sicr y byddai Jehofa yn gwneud y peth iawn bob tro. Dangosodd ffydd ac ufuddhau, er bod hynny’n anodd.—Gen. 22:1-12.

12. Sut gallwn ni efelychu Abraham? (Salm 73:28)

12 Gallwn ni efelychu Abraham drwy ddod i adnabod Jehofa yn well ac yn well. Yna, byddwn ni’n closio ato ac yn dod i’w garu’n fwy byth. (Darllen Salm 73:28.) Byddwn ni hefyd yn hyfforddi ein cydwybod ac yn efelychu ffordd Jehofa o feddwl. (Heb. 5:14) O ganlyniad, bydd y syniad o frifo Jehofa mor ffiaidd inni byddwn ni’n gwrthod unrhyw demtasiwn i wneud rhywbeth a fyddai’n niweidio ein perthynas ag ef. Ond ym mha ffordd arall gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru cyfiawnder?

13. Sut gallwn ni ddal ati i drio bod yn gyfiawn? (Diarhebion 15:9)

13 Cam 2: Ceisia garu cyfiawnder yn fwy bob dydd. Mae cryfhau ein cyhyrau’n gofyn am ymdrech reolaidd. Mae’r un peth yn wir am ein cariad at safonau Jehofa. Ond cofia, mae Jehofa yn rhesymol, a fydd ef byth yn gofyn inni wneud rhywbeth sydd y tu hwnt i’n gallu. (Salm 103:14) Mae’n dweud wrthon ni ei fod yn “caru’r rhai sy’n trïo byw’n iawn.” (Darllen Diarhebion 15:9.) Os oes gynnon ni nod ysbrydol penodol, mae’n naturiol inni ddal ati nes inni ei gyrraedd. Mae’r un peth yn wir am drio bod yn gyfiawn, a bydd Jehofa yn ein helpu ni bob cam o’r ffordd.—Salm 84:5, 7.

14. Beth ydy ‘llurig cyfiawnder,’ a pham rydyn ni ei angen?

14 Mae’n gysur i wybod nad ydy bod yn gyfiawn yn faich. (1 Ioan 5:3) I’r gwrthwyneb, mae’n ein hamddiffyn ni bob dydd. Meddylia am yr arfwisg ysbrydol a ddisgrifiodd yr apostol Paul. (Eff. 6:14-18) Roedd llurig llythrennol yn amddiffyn calon milwr. Mewn ffordd debyg, mae llurig cyfiawnder, sef safonau cyfiawn Jehofa, yn amddiffyn ein calonnau ni, hynny ydy’r person rydyn ni ar y tu mewn. Dyna pam mae hi mor bwysig inni gael llurig cyfiawnder yn rhan o’n harfwisg ysbrydol.—Diar. 4:23.

15. Sut gelli di wisgo llurig cyfiawnder?

15 Byddi di’n gwisgo llurig cyfiawnder drwy feddwl am sut gelli di blesio Jehofa yn dy benderfyniadau bob dydd. Wrth ddewis ffilm, rhaglen deledu, cerddoriaeth, llyfr, neu bwnc i siarad amdano, gofynna i ti dy hun: ‘Sut bydd hyn yn effeithio ar fy nghalon? A fyddai Jehofa yn ei gymeradwyo? Neu a yw’n hyrwyddo anfoesoldeb, trais, trachwant, ac agwedd hunanol, pethau sy’n anghyfiawn yn ei olwg ef?’ (Phil. 4:8) Os wyt ti’n gwneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa, byddi di hefyd yn amddiffyn dy galon.

Gall dy gyfiawnder di fod “fel tonnau’r môr” (Gweler paragraffau 16-17)

16-17. Sut mae Eseia 48:18 yn rhoi hyder inni y gallwn ni fyw’n unol â safonau cyfiawn Jehofa ddydd ar ôl dydd?

16 Wyt ti’n poeni weithiau na fyddi di’n gallu byw’n unol â safonau cyfiawn Jehofa ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn? Gall yr eglureb a roddodd Jehofa yn Eseia 48:18 helpu i dawelu dy bryderon. (Darllen.) Yno, mae Jehofa yn addo y bydd dy gyfiawnder “fel tonnau’r môr.” Dychmyga dy fod ti’n sefyll ar lân y môr, yn gwylio ton ar ôl ton yn rholio i mewn. Yn y foment honno, a wyt ti’n disgwyl iddyn nhw stopio? Nac wyt, siŵr. Mae’r tonnau wedi bod yn torri’n gyson ar y traeth ers miloedd o flynyddoedd, a does dim rheswm iddyn nhw stopio nawr.

17 Ond sut gall dy gyfiawnder di fod yn debyg i donnau’r môr? Bob tro mae ’na benderfyniad o dy flaen di, ystyria beth byddai Jehofa eisiau iti ei wneud, a gwna hynny. Ni waeth pa mor anodd ydy’r penderfyniad, bydd dy Dad nefol yn rhoi’r nerth iti wneud y peth iawn yn gyson, bob dydd.—Esei. 40:29-31.

18. Pam na ddylen ni farnu eraill yn ôl ein safonau ein hunain?

18 Cam 3: Gad i Jehofa wneud y barnu. Er mwyn byw yn unol â safonau cyfiawn Jehofa, mae’n rhaid inni beidio â barnu eraill, na bod yn hunangyfiawn. Dydy Jehofa ddim wedi rhoi’r hawl inni farnu eraill ar sail ein safonau ein hunain, oherwydd ef ydy “Barnwr y byd.” (Gen. 18:25) Cofia hefyd orchymyn Iesu: “Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi.”—Math. 7:1. b

19. Sut dangosodd Joseff ei fod yn trystio Jehofa i farnu eraill?

19 Meddylia eto am Joseff. Wnaeth Joseff ddim barnu ei frodyr er eu bod nhw wedi ei drin yn ofnadwy. Roedden nhw wedi ymosod arno, ei werthu’n gaethwas, a dweud wrth eu tad ei fod wedi marw. Flynyddoedd wedyn, a Joseff bellach yn ddyn pwysig yn yr Aifft, gwnaeth ef gyfarfod ei deulu eto. Byddai wedi bod yn ddigon hawdd i Joseff eu barnu a thalu’r pwyth yn ôl. A dweud y gwir, dyna oedd ei frodyr yn ei ddisgwyl, er eu bod nhw’n wirioneddol sori am beth wnaethon nhw. Ond sylwa ar beth ddywedodd Joseff: “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?” (Gen. 37:18-20, 27, 28, 31-35; 50:15-21) Yn amlwg, roedd Joseff yn ddigon gostyngedig i sylweddoli mai dim ond Jehofa oedd â’r hawl i farnu ei frodyr.

20-21. Sut gallwn ni osgoi bod yn hunangyfiawn?

20 Rydyn ni’n, fel Joseff, yn gadael i Jehofa wneud y barnu. Does gynnon ni ddim ffordd o wybod pam mae ein brodyr a chwiorydd yn ymddwyn fel maen nhw. Dim ond Jehofa sy’n gallu darllen calonnau. Mae’n “pwyso a mesur y cymhellion.” (Diar. 16:2) Gallwn ni efelychu Jehofa drwy ‘agor ein calonnau’n llydan,’ a charu pobl o bob cefndir. (2 Cor. 6:13, BCND) Ein lle ni ydy caru ein brodyr a chwiorydd, nid eu barnu.

21 Ddylen ni ddim chwaith farnu’r rhai sydd y tu allan i’r gynulleidfa. (1 Tim. 2:3, 4) Byddai’n beth hunangyfiawn i farnu un o’n perthnasau sydd ddim yn y gwir, a neidio i’r casgliad na ddôn nhw byth i’r gwir, yn enwedig tra bod Jehofa yn dal i roi cyfle i “bobl ym mhobman i droi ato.” (Act. 17:30) Cofia fod hunangyfiawnder yn fath o anghyfiawnder.

22. Pam rwyt ti’n benderfynol o garu cyfiawnder?

22 Yn sicr, mae rhoi safonau cyfiawn Jehofa ar waith yn ein gwneud ni’n hapusach ac yn cael effaith dda ar y rhai o’n cwmpas. O ganlyniad, byddwn ni i gyd yn caru ein gilydd a Jehofa yn fwy byth. Mae “llwgu a sychedu am gyfiawnder” yn beth da—dalia ati! (Math. 5:6) Cofia fod Jehofa yn sylwi ar dy holl ymdrechion i wneud beth sy’n iawn. Felly, paid â phoeni. Er bod pobl y byd yn mynd yn fwy ac yn fwy anghyfiawn, mae Jehofa yn gweld ac yn “caru’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn.”—Salm 146:8.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

a Er bod cyfiawnder yn brin yn y byd heddiw, rwyt ti’n un o’r miliynau sy’n ceisio gwneud beth sy’n iawn. Mae Jehofa yn caru cyfiawnder, felly rwyt tithau’n caru cyfiawnder. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth ydy cyfiawnder, sut rydyn ni’n elwa o garu cyfiawnder, a sut gallwn ni garu’r rhinwedd honno yn fwy byth.

b Weithiau, mae’n rhaid i henuriaid farnu eraill mewn materion sy’n ymwneud â phechod difrifol ac edifeirwch. (1 Cor. 5:11; 6:5; Iago 5:14, 15) Ond maen nhw’n ostyngedig, ac yn cofio nad ydyn nhw’n gallu darllen calonnau, a’u bod nhw’n barnu ar ran Jehofa. (Cymhara 2 Cronicl 19:6.) Wrth wneud penderfyniad, maen nhw’n efelychu ffordd resymol, drugarog, a theg Jehofa o farnu.