HANES BYWYD
Bendithiodd Jehofa Fy Mhenderfyniad yn Hael
Y flwyddyn oedd 1939. Gwnaethon ni ddeffro yng nghanol y nos a gyrru fwy nag awr i’r ddinas fach Joplin yn ne-orllewin Missouri, UDA. Yno, dechreuon ni’n ddistaw bach roi taflenni o dan ddrws pob tŷ yn y diriogaeth. Ar ôl gorffen, aethon ni yn y car i gwrdd â’r grwpiau eraill. Erbyn hyn, roedd hi’n gynnar yn y bore. Ond pam yr aethon ni yn y weinidogaeth y diwrnod hwnnw cyn iddi wawrio, a gadael y diriogaeth mor gyflym? Cei wybod maes o law.
FE’M ganwyd ym 1934. Roedd fy rhieni, Fred ac Edna Molohan, eisoes wedi bod yn Fyfyrwyr y Beibl (Tystion Jehofa) am 20 mlynedd. Rwy’n ddiolchgar eu bod nhw wedi fy nysgu i garu Jehofa. Roedden ni’n byw yn Parsons, tref fechan yn ne-ddwyrain Kansas. Roedd bron pawb yn ein cynulleidfa yn eneiniog. Roedd ein teulu yn mynd i’r cyfarfodydd ac yn pregethu’n rheolaidd. Ar brynhawn Sadwrn, roedden ni fel arfer yn gwneud gwaith stryd, yr hyn rydyn ni’n ei alw’n dystiolaethu cyhoeddus heddiw. Weithiau roedden ni’n blino, ond roedd Dad bob amser yn prynu hufen iâ inni ei fwynhau ar ôl gorffen.
Roedd gan ein cynulleidfa diriogaeth fawr gyda sawl tref fechan a llawer o ffermydd. Yn hytrach na rhoi arian inni am ein llenyddiaeth, roedd rhai ffermwyr yn rhoi llysiau cartref, wyau ffres (yn syth o’r nyth), ac ieir hyd yn oed. Roedd Dad eisoes wedi cyfrannu arian ar gyfer y llenyddiaeth, felly roedd y bwyd hwn yn helpu i fwydo’r teulu.
YMGYRCHOEDD TYSTIOLAETHU
Cafodd fy rhieni ffonograff i’w ddefnyddio yn y gwaith pregethu. Roeddwn i’n rhy fach i’w ddefnyddio, ond roeddwn i’n mwynhau helpu fy rhieni i chwarae recordiadau o’r Brawd Rutherford yn rhoi anerchiadau a hynny ar ail alwadau ac astudiaethau Beiblaidd.
Rhoddodd fy nhad seinydd mawr ar dop y car, Ford 1936, a’i droi, felly, yn gar sain. Roedd yn wych ar gyfer y weinidogaeth. Fel arfer, roedden ni yn chwarae ychydig o gerddoriaeth yn gyntaf, i ennyn diddordeb pobl, ac yna chwarae anerchiad Beiblaidd. Ar ôl hynny, roedden ni’n cynnig llenyddiaeth i’r rhai â diddordeb.
Yn y dref fechan Cherryvale, Kansas, roedd Dad yn gyrru’r car sain i mewn i barc y dref, lle’r oedd llawer o bobl yn ymlacio ar y Sul. Yna, daeth yr heddlu a dweud wrtho y gallai ddefnyddio’r car sain y tu allan i’r parc yn unig. Symudodd Dad y car i stryd wrth ymyl y parc fel roedd y bobl yn dal yn gallu clywed y rhaglen yn glir. Roedd hi bob
amser yn gyffrous cael bod gyda fy nhad a fy mrawd hŷn, Jerry, ar adegau fel hyn.Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedden ni’n cynnal ymgyrchoedd arbennig mewn ardaloedd lle’r oedd pobl yn gwrthwynebu’n chwyrn. Fel dywedais ar y cychwyn, bydden ni’n codi yn oriau bach y bore a rhoi taflenni yn ddistaw bach o dan ddrws pob tŷ. Wedyn, bydden ni i gyd yn cwrdd y tu allan i’r ddinas i weld a oedd rhywun wedi ei arestio gan yr heddlu.
Rhan gyffrous arall o’n gweinidogaeth oedd y gorymdeithiau gwybodaeth. Bydden ni’n gwisgo arwyddion mawr a gorymdeithio drwy’r ddinas. Rwy’n cofio un adeg pan ddaeth y brodyr i’n tref ni a cherdded drwy wisgo arwyddion a oedd yn dweud “Mae Crefydd yn Fagl ac yn Dwyll.” Dechreuon nhw wrth ein cartref ni, cerdded tua un filltir drwy’r dref, ac yna yn eu holau aton ni. Yn ffodus, wnaeth neb eu stopio nhw, ond roedd llawer o bobl eisiau gwybod mwy am beth oedd yn digwydd.
CYNADLEDDAU PAN OEDDWN YN IFANC
Roedd ein teulu yn aml yn teithio i Texas am y gynhadledd. Roedd Dad yn gweithio i’r cwmni rheilffyrdd, ac felly roedden ni’n gallu mynd ar y trên heb dalu i’r cynadleddau ac i ymweld â’n teulu. Roedd brawd hŷn Mam, Fred Wismar, a’i wraig, Eulalie, yn byw yn Temple, Texas. Dysgodd fy ewythr Fred y gwirionedd yn gynnar ar ôl 1900 pan oedd yn ifanc, cael ei fedyddio, a dweud wrth ei deulu gan gynnwys Mam, am yr hyn a ddysgodd. Roedd y brodyr yng nghanolbarth Texas yn adnabod Fred yn dda iawn oherwydd roedd yn arfer bod yn was parth (arolygwr y gylchdaith). Roedd yn garedig, yn hapus, ac yn selog ac yn esiampl dda iawn imi.
Ym 1941, teithion ni ar y trên i St. Louis, Missouri, ar gyfer cynhadledd fawr. Gwahoddwyd y rhai ifanc i eistedd gyda’i gilydd wrth ymyl y llwyfan i wrando ar yr anerchiad “Children of the King” gan y Brawd Rutherford. Ar ddiwedd ei anerchiad, cafodd pob un o’r 15,000 o rai ifanc syrpréis mawr. Rhoddodd y Brawd Rutherford a’i gynorthwywyr i bob un ohonon ni y llyfr newydd Children.
Ym mis Ebrill 1943, aethon ni i’r cynulliad “Call to Action” yn Coffeyville, Kansas. Yno, clywson ni’r cyhoeddiad y byddai pob cynulleidfa yn cael ysgol newydd, Ysgol y Weinidogaeth. Derbynion ni lyfr bach yn cynnwys 52 o wersi i’w ddefnyddio yn yr ysgol honno. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, rhoddais fy anerchiad cyntaf. Roedd y cynulliad hwnnw’n bwysig imi oherwydd, gydag ambell un arall, cefais fy medyddio mewn pwll o ddŵr oer ar fferm gyfagos.
ROEDDWN I EISIAU GWASANAETHU YN Y BETHEL
Gwnes i adael yr ysgol uwchradd ym 1951 ac roedd yn rhaid imi benderfynu beth i’w wneud gyda fy mywyd. Roedd fy mrawd Jerry wedi gwasanaethu yn y Bethel. Roeddwn innau hefyd yn wir eisiau mynd i’r Bethel, felly anfonais fy ffurflen gais. Yn fuan wedyn, ges i wahoddiad i’r Bethel a dechreuais wasanaethu yno ar 10 Mawrth 1952. Penderfyniad da iawn oedd hwnnw sydd wedi fy helpu i wasanaethu Duw yn llawn.
Roeddwn i’n gobeithio gweithio yn yr argraffdy i helpu cynhyrchu ein cylchgronau a chyhoeddiadau eraill. Ond, ches i ddim y cyfle i wneud hynny. Yn hytrach, ces i fy aseinio i weithio fel gweinydd ac yna yn y gegin. Gwnes i fwynhau’r gwaith hwnnw a dysgais lawer o bethau. Roedden ni’n gweithio shifftiau, ac yn cael amser rhydd yn ystod y dydd. Roeddwn i’n aml yn mynd i lyfrgell y Bethel ac yn defnyddio’r llyfrau yno i wneud fy astudiaeth bersonol. Gwnaeth hyn fy helpu i gryfhau fy ffydd a fy nghyfeillgarwch â Jehofa. Roeddwn i’n teimlo’n fwy penderfynol o wasanaethu Jehofa yn y Bethel mor hir â phosib. Roedd Jerry wedi gadael y Bethel ym 1949 a phriodi Patricia, ond roedden nhw’n byw yn Brooklyn ac yn fy helpu ac yn fy annog tra oeddwn i’n newydd yn y Bethel.
Ychydig ar ôl imi gyrraedd y Bethel, dechreuodd y brodyr edrych am aelodau Bethel i’w hychwanegu at y rhestr o siaradwyr Bethel. Cafodd y brodyr ar y rhestr honno eu haseinio i ymweld
â chynulleidfaoedd hyd at 200 milltir i ffwrdd o Brooklyn. Yno, bydden nhw’n rhoi anerchiad cyhoeddus a gweithio gyda’r gynulleidfa yn y weinidogaeth. Ces i fy newis i fod yn un o’r brodyr hynny. Er fy mod i’n nerfus, dechreuais wneud yr ymweliadau hynny a rhoi anerchiadau cyhoeddus. Yr adeg honno, roedd anerchiadau cyhoeddus yn para am awr. Fel arfer, roeddwn i’n teithio i’r cynulleidfaoedd ar y trên. Rydw i’n cofio’n glir iawn un prynhawn Sul yng ngaeaf 1954. Gwnes i ddal y trên yn mynd yn ôl i Efrog Newydd ac roeddwn i fod i gyrraedd yn ôl yn y Bethel y noswaith honno. Ond, ar y ffordd yn ôl, roedd ’na storm o wyntoedd cryfion ac eira. Roedd yr injan drydanol ar y trên wedi stopio gweithio, ac ni wnaeth gyrraedd Dinas Efrog Newydd tan bump o’r gloch fore dydd Llun. Fe es i ar y rheilffordd danddaearol o’r orsaf drenau i Brooklyn ac yn syth i weithio yn y gegin. Roeddwn i ychydig bach yn hwyr ac yn flinedig iawn oherwydd doeddwn i ddim wedi cysgu o gwbl y noson cynt. Ond, roedd y llawenydd a deimlais o wasanaethu’r cynulleidfaoedd ac o gyfarfod cymaint o frodyr a chwiorydd newydd yn werth mwy nag unrhyw aberth.Yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf yn y Bethel, dechreuais hefyd ymuno mewn rhaglen astudiaeth Feiblaidd a ddarlledid bob wythnos ar yr orsaf radio WBBR. Roedd y stiwdio ar ail lawr yr adeilad yn 124 Columbia Heights. Roedd y Brawd Alexander H. Macmillan, a oedd wedi bod yn gwasanaethu yn y Bethel am lawer o flynyddoedd, yn cymryd rhan yn y rhaglenni radio hyn yn aml. Roedden ni’n ei alw yn y Brawd Mac. Roedd yn esiampl ardderchog i ni frodyr ifanc yn y Bethel oherwydd iddo aros yn ffyddlon er gwaethaf llawer o anawsterau.
Ym 1958, gwnaeth fy aseiniad newid a dechreuais weithio’n agos â’r rhai a oedd wedi graddio o Ysgol Gilead. Byddaf yn helpu’r dynion a merched selog hyn i gael eu fisas, a byddaf yn trefnu eu taith. Roedd teithio ar awyren bryd hynny yn ddrud ofnadwy, felly, roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr a oedd yn mynd i Affrica neu Asia yn teithio ar long gargo. Flynyddoedd wedyn, pan oedd prisiau hedfan wedi gostwng, roedd y rhan fwyaf o genhadon yn teithio i’w haseiniadau ar awyrennau.
TEITHIO I GYNADLEDDAU
Ym 1960, gwnes i drefnu i’r brodyr deithio o’r Unol Daleithiau i Ewrop ar gyfer cynadleddau rhyngwladol ym 1961. Gwnes i hedfan i un o’r cynadleddau hynny yn Hamburg, yr Almaen. Ar ôl y gynhadledd, gwnaeth tri brawd a minnau logi car a gyrru o’r Almaen i’r Eidal ac ymweld â swyddfa’r gangen yn Rhufain. O Rufain, aethon ni i Ffrainc, croesi Mynyddoedd y Pyreneau, ac i mewn i Sbaen, lle’r oedd ein gwaith wedi ei wahardd. Yn Barcelona, cawson ni gyfle i roi llenyddiaeth, a oedd wedi ei lapio i edrych fel anrhegion, i’r brodyr. Cyffrous iawn oedd cael eu cyfarfod nhw! Wedyn, gwnaethon ni yrru i Amsterdam a hedfan yn ôl i Efrog Newydd.
Ym 1962, ces i fy aseinio i drefnu cludiant ar gyfer y 583 o frodyr a chwiorydd a fyddai’n mynychu
cyfres arbennig o gynadleddau rhyngwladol ar draws y byd. Y cynulliad “Everlasting Good News” oedd hwnnw ym 1963. Byddai’r cynadleddwyr yn mynychu cynadleddau yn Ewrop, Asia, a De’r Cefnfor Tawel ac wedyn byddan nhw’n mynd i Honolulu, Hawäi, ac yn olaf i Pasadena, California. Byddan nhw hefyd yn ymweld â Lebanon a Gwlad yr Iorddonen ar gyfer teithiau tywys arbennig yng ngwledydd y Beibl. Roedd ein hadran ni yn trefnu iddyn nhw hedfan ac yn bwcio gwestai iddyn nhw, ynghyd â chael y fisas angenrheidiol.PARTNER TEITHIO NEWYDD
Roedd y flwyddyn 1963 yn bwysig iawn i mi am reswm arall hefyd. Ar 29 Mehefin, priodais Lila Rogers o Missouri, a oedd wedi dod i’r Bethel ym 1960. Wythnos ar ôl inni briodi, gwnaeth Lila a minnau ymuno â’r daith ryngwladol ac ymweld â Gwlad Groeg, yr Aifft, a Lebanon. O Lebanon, cymeron ni’r awyren i Wlad yr Iorddonen. Ond, roedd ein gwaith wedi ei gyfyngu yno, a doedd yr awdurdodau ddim yn rhoi fisas i Dystion Jehofa. Felly, doedden ni ddim yn sicr beth fyddai’n digwydd pan gyrhaeddon ni. Dychmyga ein hapusrwydd a’n syndod pan welon ni grŵp o frodyr a chwiorydd yn sefyll ar ben terfynfa fach y maes awyr, gyda baner fawr a oedd yn dweud “Croeso ichi Dystion Jehofa”! Profiad hyfryd oedd ymweld â gwledydd y Beibl a gweld llefydd lle’r oedd Abraham, Isaac, a Jacob wedi byw, lle’r oedd Iesu a’r apostolion wedi pregethu, a lle dechreuodd Cristnogaeth ledaenu i “ben draw’r byd.”—Actau 13:47.
Am 55 mlynedd, mae Lila wedi bod yn bartner ffyddlon imi yn ein holl aseiniadau. Gwnaethon ni ymweld â Sbaen a Portiwgal sawl gwaith pan oedd ein gwaith o dan waharddiad yno. Gallen ni galonogi’r brodyr a’r chwiorydd a dod â llenyddiaeth a phethau angenrheidiol eraill iddyn nhw. Cawson ni hyd yn oed gyfle i ymweld â rhai o’n brodyr a oedd yn y carchar yn Cádiz, Sbaen. Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i roi anerchiad calonogol iddyn nhw.
Yn y blynyddoedd ers 1963, rydw i wedi trefnu cludiant ar gyfer cynadleddau rhyngwladol yn Affrica, Awstralia, Canol a De America, Ewrop, y Dwyrain Pell, Hawäi, Seland Newydd, a Puerto Rico. Rydw innau a Lila wedi bod i lawer o gynadleddau bythgofiadwy, fel yr un yn Warsaw, Gwlad Pwyl, ym 1989. Roedd llawer o frodyr o Rwsia yn gallu mynychu’r gynhadledd fawr honno. Eu cynhadledd gyntaf erioed oedd honno! Gwnaethon ni gwrdd â brodyr a chwiorydd a oedd wedi bod yn y carchar yn yr Undeb Sofietaidd am lawer o flynyddoedd oherwydd eu ffydd.
Aseiniad arall rydw i wedi ei fwynhau’n fawr iawn ydy ymweld â theuluoedd Bethel a chenhadon ar draws y byd i’w calonogi nhw. Ar yr ymweliad olaf y gwnaethon ni, roedden ni yn Ne Corea a gwnaethon ni gwrdd â 50 o’n brodyr a oedd yn y carchar yn Suwon. Roedden nhw i gyd yn bositif iawn ac yn edrych ymlaen at wasanaethu Jehofa heb gyfyngiadau unwaith eto. Cawson ni ein calonogi’n fawr iawn o’u cyfarfod nhw!—Rhufeiniaid 1:11, 12.
MAE TWF YN DOD Â LLAWENYDD
Rydw i wedi gweld sut mae Jehofa wedi bendithio ei bobl dros y blynyddoedd. Pan ges i fy medyddio ym 1943, roedd ’na tua 100,000 o gyhoeddwyr. Nawr, mae ’na dros 8,000,000 yn gwasanaethu Jehofa mewn 240 o wledydd. Mae gwaith caled myfyrwyr Gilead wedi cyfrannu at y twf hwn yn fawr iawn. Rydw i wedi cael pleser mawr o weithio’n agos â llawer o’r cenhadon hyn a’u helpu i gyrraedd eu haseiniadau.
Rydw i’n falch fy mod i, tra oeddwn i’n dal yn ifanc, wedi penderfynu defnyddio fy mywyd i wasanaethu Jehofa a fy mod i wedi llenwi ffurflen gais Bethel. Mae Jehofa wedi rhoi llawer o fendithion imi drwy’r holl flynyddoedd. Yn ogystal â’r pethau rydyn ni’n eu mwynhau sy’n rhan o’n gwasanaeth yn y Bethel, rydw innau a Lila wedi mwynhau pregethu gyda sawl cynulleidfa yn Brooklyn am dros 50 mlynedd ac rydyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau da.
Rwy’n parhau i wasanaethu yn y Bethel gyda chefnogaeth Lila bob dydd. Er fy mod i dros 84 mlwydd oed erbyn hyn, rwy’n hapus fy mod i’n dal yn gallu gwneud gwaith ystyrlon ac yn helpu gyda gohebiaeth y gangen.
Pleser pur yw perthyn i gyfundrefn ryfeddol Jehofa a gweld pa mor wir ydy geiriau Malachi 3:18: “Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.” Bob diwrnod rydyn ni’n gweld bod byd Satan yn gwaethygu a bod pobl yn anobeithio, ac ychydig o lawenydd yn unig yn eu bywydau. Ond mae gan y rhai sy’n caru ac yn gwasanaethu Jehofa fywydau hapus, hyd yn oed yn yr “adegau ofnadwy o anodd” hyn, ac mae ganddyn nhw obaith sicr ar gyfer y dyfodol. Braint aruthrol ydy dweud wrth eraill am y newyddion da! (Mathew 24:14) Yn fuan, bydd Teyrnas Dduw yn disodli’r hen fyd hwn gyda pharadwys. Onid ydyn ni’n dyheu am gael gweld y diwrnod hwnnw’n dod? Yna, bydd pawb ar y ddaear yn iach a hapus a byddan nhw’n byw am byth.