“Gwnewch Rywbeth i Ddangos Eich Cariad!”
“Peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!”—1 IOAN 3:18.
1. Beth yw’r math pwysicaf o gariad, a sut byddi di yn ei ddisgrifio? (Gweler y llun agoriadol.)
MAE cariad yn dod o Jehofa. (1 Ioan 4:7) Mae’r math pwysicaf o gariad yn seiliedig ar egwyddorion cywir. Yn y Beibl, mae’r math hwn o gariad yn cael ei ddisgrifio gan y gair Groeg a·gaʹpe. Gall y cariad hwn gynnwys hoffter a theimladau cynnes tuag at rywun, ond mae’n cynnwys mwy na theimladau yn unig. Fe’i dangosir drwy weithredoedd anhunanol a hynny er lles pobl eraill. Cariad sy’n ein hysgogi i wneud pethau da ar gyfer eraill. Mae’r math hwn o gariad yn rhoi llawenydd ac ystyr i’n bywydau.
2, 3. Sut mae Jehofa wedi dangos cariad anhunanol tuag at ddynolryw?
2 Dangosodd Jehofa gariad tuag at ddynolryw hyd yn oed cyn iddo greu Adda ac Efa. Creodd y ddaear i gynnwys popeth sydd ei angen arnon ni i fyw. Yn fwy na hynny, gwnaeth y ddaear yn gartref lle gallwn ni fwynhau bywyd yn fawr iawn. Nid er ei les ei hun y gwnaeth Duw hyn ond er ein lles ni. Pan oedd ein cartref yn barod, creodd fodau dynol a
rhoi iddyn nhw’r gobaith o fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear.3 Wedyn, dangosodd Jehofa ei gariad anhunanol tuag at y ddynoliaeth yn y ffordd orau posib. Er bod Adda ac Efa wedi gwrthryfela, roedd Jehofa yn sicr y byddai rhai o’u disgynyddion yn ei garu, a dyma’n trefnu aberth pridwerthol ei Fab i’w hachub. (Genesis 3:15; 1 Ioan 4:10) O’r foment yr oedd Jehofa wedi addo’r pridwerth, roedd fel petai’r aberth wedi ei roi yn barod. Yna, 4,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd Jehofa ei unig-anedig Fab er mwyn iddo farw dros ddynolryw. (Ioan 3:16) Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gariad Jehofa!
Dangosa gariad hyd yn oed pan fydd hi’n anodd
4. Sut rydyn ni’n gwybod bod pobl amherffaith yn gallu dangos cariad anhunanol?
4 A allwn ni ddangos cariad anhunanol er ein bod ni’n amherffaith? Gallwn, yn bendant. Creodd Jehofa fodau dynol ar ei ddelw ef ei hun, hynny yw, gyda’r gallu i’w efelychu. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd dangos cariad anhunanol, ond mae gwneud hyn yn bosib. Dangosodd Abel gariad tuag at Dduw pan roddodd y gorau oedd ganddo yn offrwm iddo. (Genesis 4:3, 4) Dangosodd Noa gariad anhunanol drwy barhau i bregethu neges Duw am flynyddoedd er nad oedd y bobl yn gwrando. (2 Pedr 2:5) Hefyd, dangosodd Abraham fod ei gariad tuag at Dduw yn gryfach nag unrhyw beth arall drwy fod yn barod i aberthu ei fab annwyl Isaac. (Iago 2:21) Yn debyg i’r dynion ffyddlon hynny, rydyn ninnau hefyd eisiau dangos cariad hyd yn oed pan fydd gwneud hynny’n anodd.
BETH YW GWIR GARIAD?
5. Ym mha ffordd y gallwn ni ddangos cariad go iawn?
5 Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni ddangos cariad go iawn nid drwy “siarad am gariad,” ond drwy wneud rhywbeth i ddangos ein cariad. (1 Ioan 3:18) Ydy hynny’n golygu nad yw hi’n bosib inni ddangos cariad drwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud? Nac ydy, dim o gwbl. (1 Thesaloniaid 4:18) Mae’n golygu dydy hi ddim bob amser yn ddigon i ddweud y geiriau “dwi’n dy garu di.” Rhaid inni ddangos ein bod ni o ddifri. Er enghraifft, os nad oes gan ein brodyr a’n chwiorydd ddigon o fwyd neu ddillad, mae angen mwy na geiriau cynnes yn unig arnyn nhw. (Iago 2:15, 16) Yn yr un ffordd, oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa a’n cymdogion, rydyn ni nid yn unig yn gweddïo am fwy o bobl i bregethu gyda ni ond rydyn ni hefyd yn gweithio’n galed yn y weinidogaeth.—Mathew 9:38.
6, 7. (a) Pa fath o gariad sydd ddim yn “arwynebol”? (b) Beth yw rhai esiamplau o gariad ffug?
6 Dywedodd yr apostol Paul y dylen ni roi ein cariad ar waith. Felly, ni ddylai ein cariad fod yn “rhyw gariad arwynebol.” (Rhufeiniaid 12:9) Ar adegau, efallai bydd person yn cogio dangos cariad. Ond ydy ei gariad yn real ac yn onest? Beth sy’n cymell ei gariad? Does dim ffasiwn beth â chariad sy’n llawn rhagrith. Mae cariad ffug yn dda i ddim.
7 Gad inni ystyried esiamplau o gariad ffug. Pan siaradodd Satan ag Efa yn Eden, roedd ei eiriau yn awgrymu ei fod eisiau’r gorau iddi. Ond dangosodd ei weithredoedd nad oedd hynny’n wir. (Genesis 3:4, 5) Pan oedd Dafydd yn Frenin, roedd ganddo ffrind o’r enw Achitoffel. Ond gwnaeth Achitoffel fradychu Dafydd er ei les ei hun. Drwy ei weithredoedd, dangosodd nad oedd yn ffrind go iawn. (2 Samuel 15:31) Heddiw, mae gwrthgilwyr ac eraill yn gallu creu rhaniadau yn y gynulleidfa “gyda’u seboni a’u gweniaith.” (Rhufeiniaid 16:17, 18) Efallai eu bod nhw’n cogio bod eraill yn bwysig iddyn nhw ond, mewn gwirionedd, pobl hunanol ydyn nhw.
8. Pa gwestiynau dylen ni ofyn i ni ein hunain?
8 Mae cariad ffug yn warthus o beth oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio i dwyllo pobl. Efallai ei bod hi’n bosib inni dwyllo bodau dynol, ond mae hi’n amhosib inni dwyllo Jehofa. Dywedodd Iesu y byddai pob rhagrithiwr yn cael ei “gosbi’n llym.” (Mathew 24:51) Gan ein bod ni’n weision i Jehofa, dydyn ni byth eisiau bod yn rhagrithiol. Felly, dylen ni ofyn i ni ein hunain, ‘Ydy fy nghariad yn ddiffuant, neu ydw i’n hunanol ac yn anonest?’ Gad inni ystyried naw ffordd a fydd yn ein helpu i ddangos cariad sydd ddim yn “arwynebol.”
CARIAD AR WAITH
9. Beth bydd gwir gariad yn ein hysgogi ni i’w wneud?
9 Bydda’n hapus i wasanaethu hyd yn oed os nad oes neb yn sylwi ar yr hyn rwyt ti’n ei wneud. Dylen ni fod yn barod i wneud pethau caredig na fydd neb arall yn gwybod dim amdanyn nhw. (Darllen Mathew 6:1-4.) Pan gyfrannodd Ananias a Saffeira arian, roedd eu hagwedd nhw yn wahanol. Roedden nhw eisiau i eraill wybod am y cyfraniad, a dywedon nhw gelwydd ynglŷn â faint o arian y roedden nhw yn ei roi, a chawson nhw eu cosbi am eu rhagrith. (Actau 5:1-10) Ond, os ydyn ni’n wir yn caru ein brodyr, byddwn ni’n hapus i wneud pethau cariadus iddyn nhw heb i eraill wybod dim am y peth. Gallwn ni ddysgu oddi wrth y brodyr sy’n helpu’r Corff Llywodraethol i baratoi bwyd ysbrydol ar ein cyfer. Dydyn nhw ddim yn tynnu sylw atyn nhw eu hunain, a dydyn nhw ddim yn gadael i bobl wybod am y prosiectau maen nhw’n gweithio arnyn nhw.
Bydda’n hapus i wasanaethu hyd yn oed pan fydd neb yn gweld beth rwyt ti’n ei wneud
10. Sut gelli di ddangos parch tuag at eraill?
10 Dangosa barch tuag at eraill. (Darllen Rhufeiniaid 12:10.) Dangosodd Iesu barch tuag at ei apostolion pan olchodd eu traed. (Ioan 13:3-5, 12-15) Dylen ni weithio’n galed i fod yn ostyngedig fel Iesu ac i wasanaethu eraill. Ni wnaeth yr apostolion ddeall yr hyn a wnaeth Iesu hyd nes iddyn nhw dderbyn yr ysbryd glân. (Ioan 13:7) Rydyn ni’n dangos parch tuag at eraill pan nad ydy’n ni’n meddwl ein bod ni’n well na phobl eraill oherwydd ein haddysg, ein cyfoeth, neu unrhyw aseiniad arbennig. (Rhufeiniaid 12:3) Dydyn ni ddim yn genfigennus pan fydd eraill yn derbyn canmoliaeth, ond rydyn ni’n llawenhau â nhw hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo y dylen ni fod wedi derbyn ychydig o’r ganmoliaeth honno.
11. Pam mae’n rhaid inni fod yn ddiffuant wrth ganmol eraill?
11 Rho ganmoliaeth. Edrycha am gyfleoedd i ganmol eraill. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod canmoliaeth yn “helpu pobl eraill.” (Effesiaid 4:29) Ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr fod yr hyn rydyn ni’n ei ddweud yn dod o’r galon ac nid yn ffals. Ni ddylen ni ddweud rhywbeth nad ydyn ni’n ei feddwl nac osgoi ein cyfrifoldeb o roi cyngor angenrheidiol. (Diarhebion 29:5) Bydden ni’n rhagrithwyr pe bydden ni’n canmol eraill ac yna’n siarad y tu ôl i’w cefnau. Roedd cariad yr apostol Paul yn ddiffuant. Pan ysgrifennodd at y Cristnogion yng Nghorinth, gwnaeth eu canmol am yr hyn roedden nhw yn ei wneud yn dda. (1 Corinthiaid 11:2) Ond pan oedd angen cyngor arnyn nhw, roedd yn esbonio’r rheswm mewn ffordd gariadus a chlir.—1 Corinthiaid 11:20-22.
12. Sut gallwn ni ddangos cariad go iawn wrth fod yn lletygar?
12 Bydda’n lletygar. Mae Jehofa yn disgwyl inni fod yn hael tuag at ein brodyr a’n chwiorydd. (Darllen 1 Ioan 3:17.) Ond mae’n rhaid inni fod yn lletygar am y rhesymau iawn. Gallwn ni ofyn i ni ein hunain: ‘Ydw i ond yn gwahodd fy ffrindiau agos a’r rhai rydw i’n eu hystyried yn bwysig yn y gynulleidfa i fy nhŷ? Ydw i’n gwahodd rhai dim ond oherwydd eu bod nhw’n gallu gwneud cymwynas â mi yn eu tro? Neu ydw i’n hael tuag at frodyr a chwiorydd nad ydw i’n eu hadnabod yn dda neu sydd ddim yn gallu gwneud cymwynas â mi?’ (Luc 14:12-14) Dychmyga’r sefyllfaoedd canlynol: Beth petai brawd eisiau help o ganlyniad iddo wneud penderfyniad annoeth? Neu beth petai rhywun rydyn ni wedi ei wahodd i’n cartref ddim yn rhoi diolch inni? Mae Jehofa yn dweud wrthyn ni i fod “yn groesawgar, a pheidio cwyno.” (1 Pedr 4:9) Byddwn ni’n hapus pan fyddwn ni’n hael am y rhesymau cywir.—Actau 20:35.
13. (a) Pryd mae angen mwy o amynedd? (b) Beth gallwn ni ei wneud i helpu’r rhai gwan?
13 Helpu’r rhai gwan. Mae gorchymyn y Beibl i “helpu’r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb” yn gallu profi a ydy ein cariad yn ddiffuant 1 Thesaloniaid 5:14) Mae llawer o frodyr a oedd ar un adeg yn wan bellach wedi cryfhau eu ffydd. Ond mae eraill yn parhau i angen ein hamynedd a’n help. Sut gallwn ni eu helpu? Gallwn ni ddefnyddio’r Beibl i’w hannog, gallwn fynd ar y weinidogaeth gyda nhw, neu gallwn wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Hefyd, ni ddylen ni feddwl am ein brodyr a’n chwiorydd fel pobl “gryf” neu “wan.” Yn hytrach, dylen ni gofio bod gan bob un ei gryfderau a’i ffaeleddau. Gwnaeth hyd yn oed yr apostol Paul gyfaddef fod ganddo ffaeleddau. (2 Corinthiaid 12:9, 10) Mae angen help ac anogaeth gan eraill ar bob un ohonon ni.
neu beidio. (14. Beth dylen ni fod yn barod i’w wneud er mwyn cadw heddwch â’n brodyr?
14 Gwneud heddwch. Mae bod yn heddychlon â’n brodyr yn rhywbeth gwerthfawr iawn. Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod pobl wedi ein camddeall neu wedi bod yn gas wrthyn ni, dylen ni wneud popeth a allwn ni i fod yn heddychlon. (Darllen Rhufeiniaid 12:17, 18.) Os ydyn ninnau wedi brifo teimladau rhywun, dylen ni ymddiheuro’n syth. Ond rhaid iddo ddod o’r galon. Er enghraifft, yn hytrach na dweud, “Mae’n ddrwg gen i dy fod ti’n teimlo fel ’na,” dylen ni syrthio ar ein bai a dweud, “Mae’n ddrwg gen i am ddweud rhywbeth a wnaeth dy frifo di.” Mae heddwch mewn priodas yn bwysig iawn. Anghywir fyddai i ŵr a gwraig weithredu fel eu bod nhw’n caru ei gilydd o flaen pobl eraill ond yn breifat iddyn nhw wrthod siarad â’i gilydd, dweud pethau cas wrth ei gilydd, neu hyd yn oed bod yn dreisgar tuag at ei gilydd.
15. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n maddau’n rhwydd?
15 Maddau’n rhwydd. Os bydd rhywun yn ein digio, rydyn ni’n maddau iddyn nhw ac yn cael gwared ar ein Effesiaid 4:2, 3) Er mwyn inni allu maddau, rhaid inni stopio meddwl am yr hyn a wnaeth y person. Mae cariad yn “fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.” (1 Corinthiaid 13:4, 5) Yn wir, os ydyn ni’n dal dig yn erbyn rhywun, gall hynny niweidio ein perthynas â’n brodyr a’n chwiorydd ac â Jehofa. (Mathew 6:14, 15) Dangoswn fod ein maddeuant yn ddiffuant pan ydyn ni’n gweddïo dros y person sydd wedi ein brifo.—Luc 6:27, 28.
teimladau chwerw. Dylen ni faddau hyd yn oed os nad yw’r person yn sylweddoli ei fod wedi ein brifo. Dywed y Beibl: “Goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi’ch gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.” (16. Sut dylen ni deimlo am aseiniadau arbennig yng ngwasanaeth Jehofa?
16 Ceisio lles pobl eraill. Pan ydyn ni’n derbyn aseiniad arbennig yng ngwasanaeth Jehofa, er mwyn inni brofi bod ein cariad yn ddiffuant, “dylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.” (1 Corinthiaid 10:24) Er enghraifft, yn ein cynulliadau a’n cynadleddau, hawdd fyddai i’r gwasanaethwyr sy’n cyrraedd cyn pawb arall, gadw’r seddi gorau ar gyfer eu teuluoedd. Ond yn hytrach, mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn dewis seddi llai deiniadol. Drwy wneud hynny, maen nhw’n dangos cariad anhunanol. Sut gelli di efelychu eu hesiampl dda?
17. Os bydd Cristion yn pechu’n ddifrifol, beth bydd cariad diffuant yn ei ysgogi i’w wneud?
17 Cyffesu a rhoi stop ar bechodau cudd. Mae rhai Cristnogion sydd wedi pechu’n ddifrifol wedi ceisio cadw’r peth yn gyfrinach. Efallai fod arnyn nhw gywilydd neu dydy nhw ddim eisiau siomi eraill. (Diarhebion 28:13) Ond dydy cuddio’r pechod ddim yn dangos cariad gan fod hynny’n brifo’r pechadur ac eraill hefyd. Sut? Efallai bydd Jehofa’n stopio bendithio’r gynulleidfa â’i ysbryd glân ac, o ganlyniad, ni fydd heddwch yn y gynulleidfa. (Effesiaid 4:30) Felly, os bydd Cristion yn pechu’n ddifrifol, bydd cariad go iawn yn ei ysgogi i siarad â’r henuriad a chael y cymorth sydd ei angen arno.—Iago 5:14, 15.
18. Pa mor bwysig yw cariad go iawn?
18 Y rhinwedd bwysicaf ydy cariad. (1 Corinthiaid 13:13) Mae’n helpu pobl i weld pwy yw gwir ddilynwyr Iesu a phwy sy’n efelychu Jehofa, sef ffynnon cariad. (Effesiaid 5:1, 2) Dywedodd Paul y byddai ef yn dda i ddim heb gariad. (1 Corinthiaid 13:2) Dywed y Beibl: “Peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad.”