ERTHYGL ASTUDIO 44
Cadwa Dy Obaith yn Gryf
“Gobeithia yn yr ARGLWYDD.”—SALM 27:14.
CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!
CIPOLWG *
1. Pa obaith mae Jehofa wedi ei roi inni?
MAE Jehofa wedi rhoi’r gobaith hyfryd inni o fyw am byth. Mae rhai yn gobeithio byw am byth yn y nef fel ysbryd-greaduriaid. (1 Cor. 15:50, 53) Ond mae’r rhan fwyaf ohonon ni yn gobeithio byw am byth ar y ddaear yn hapus braf a gyda iechyd perffaith. (Dat. 21:3, 4) Beth bynnag yw ein gobaith, rydyn ni’n ei drysori yn fawr iawn!
2. Beth ydy sail ein gobaith, a pham gallwn ni ddweud hynny?
2 Yn y Beibl, mae’r gair “gobaith” yn golygu “disgwyl y bydd pethau da yn digwydd.” Mae ein gobaith am y dyfodol yn sicr o gael ei gyflawni am fod ein gobaith yn dod oddi wrth Jehofa. (Rhuf. 15:13) Rydyn ni’n gwybod yn union beth mae ef wedi ei addo, ac mae bob tro yn cadw at ei air. (Num. 23:19) Does dim dwywaith amdani, mae Jehofa yn awyddus i gyflawni ei addewidion, ac mae ganddo’r grym i wneud hynny. Felly, dydyn ni ddim yn dychmygu pethau—mae ein gobaith wedi ei seilio ar dystiolaeth, a realiti.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Salm 27:14)
3 Mae ein Tad nefol yn ein caru ni, ac mae ef eisiau inni ei drystio. (Darllen Salm 27:14.) Os ydy ein gobaith yn gryf, byddwn ni’n gallu dal ati’n ddewr ac yn hapus, ni waeth pa dreialon y byddwn ni’n eu hwynebu nawr, neu yn y dyfodol. Gad inni drafod sut mae gobaith yn ein hamddiffyn, sut mae gobaith yn debyg i angor a helmed, a sut gallwn ni gryfhau ein gobaith.
MAE EIN GOBAITH FEL ANGOR
4. Sut mae ein gobaith yn debyg i angor? (Hebreaid 6:19)
4 Yn ei lythyr at yr Hebreaid, gwnaeth yr apostol Paul gymharu ein gobaith ag angor. (Darllen Hebreaid .) Teithiodd Paul ar y môr yn aml, felly roedd yn gwybod yn iawn pa mor bwysig ydy angor i gadw llong rhag drifftio. Ar un achlysur, cafodd ei ddal mewn storm ofnadwy a gwyliodd wrth i’r morwyr hyrddio’r angorau i mewn i’r môr i rwystro’r llong rhag taro’r creigiau. ( 6:19Act. 27:29, 39-41) Fel mae angor yn sefydlogi llong, mae ein gobaith yn ein cadw ni’n agos at Jehofa fel na fyddwn ni’n drifftio i ffwrdd pan fydd stormydd bywyd yn codi. Mae’r gobaith hwnnw yn ein helpu ni i beidio â chynhyrfu am ein bod ni’n hollol sicr y bydd pethau yn tawelu cyn bo hir. Wedi’r cwbl, gwnaeth Iesu rybuddio y bydden ni’n cael ein herlid. (Ioan 15:20) Felly bydd myfyrio ar ein gobaith ar gyfer y dyfodol yn ein helpu ni i ddal ati yn ein gwasanaeth i Jehofa.
5. Sut gwnaeth gobaith Iesu ei gryfhau pan oedd yn wynebu marwolaeth?
5 Meddylia sut roedd Iesu’n teimlo wrth iddo wynebu marwolaeth greulon. Drwy gydol hynny i gyd, ei obaith a wnaeth ei gadw’n gryf. Ar ddydd Pentecost 33 OG, gwnaeth yr apostol Pedr ddyfynnu rhywbeth o’r Salmau a wnaeth ddisgrifio pa mor hyderus oedd Iesu: “Mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw . . . bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.” (Act. 2:25-28; Salm 16:8-11) Er roedd Iesu’n gwybod y byddai’n marw, roedd yn credu i’r carn y byddai ei Dad yn ei atgyfodi, ac roedd yn edrych ymlaen yn arw at fod gydag Ef yn y nef unwaith eto.—Heb. 12:2, 3.
6. Beth ddywedodd un brawd am obaith?
6 Mae ein gobaith wedi rhoi’r nerth i lawer o’n brodyr a chwiorydd ddyfalbarhau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Leonard Chinn, brawd ffyddlon o Loegr, ei garcharu am ei fod wedi gwrthod ymuno â’r fyddin. Cafodd ei garcharu ar ei ben ei hun am ddeufis, ac yna ei orfodi i wneud gwaith caled ofnadwy. Wrth sôn am ei brofiad, dywedodd: “Wnes i sylweddoli gymaint ’dyn ni angen gobaith er mwyn gallu dyfalbarhau. Mae Iesu, yr apostolion, a’r proffwydi yn y Beibl wedi gosod esiampl wych inni. Ar ben hynny, mae addewidion y Beibl yn rhoi gobaith inni ar gyfer y dyfodol, a’r nerth i ddal ati.” Roedd gobaith yn angor i Leonard, ac mae’n gallu bod yn angor i ninnau hefyd.
7. Sut mae treialon yn cryfhau ein gobaith? (Rhufeiniaid 5:3-5; Iago 1:12)
7 Wrth inni fynd trwy dreialon, a gweld llaw Jehofa yn ein bywydau, rydyn ni’n sylweddoli ei fod yn ein helpu ni ac yn ein cefnogi ni. Mae hynny ond yn cryfhau ein gobaith. (Darllen Rhufeiniaid 5:3-5; Iago 1:12.) Wrth reswm felly, mae ein gobaith yn gryfach na phan ddaethon ni i’r gwir. Byddai Satan wrth ei fodd petasen ni’n suddo o dan y don, ond gyda help Jehofa gallwn ni drechu pob treial yn llwyddiannus.
MAE EIN GOBAITH FEL HELMED
8. Sut mae gobaith yn debyg i helmed? (1 Thesaloniaid 5:8)
8 Mae’r Beibl hefyd yn cymharu ein gobaith â helmed. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:8.) Mae milwr yn gwisgo helmed i amddiffyn ei ben rhag ymosodiadau’r gelyn. Mewn ffordd debyg, rydyn ni angen amddiffyn ein meddyliau rhag ymosodiadau Satan. Mae’n lluchio cymaint o bethau aton ni i’n temtio ni, neu i lygru ein ffordd o feddwl. Cofia, rydyn ni’n brwydro yn erbyn Satan, ond gallwn ni aros yn ffyddlon i Jehofa am fod ein gobaith, fel helmed, yn amddiffyn ein meddyliau.
9. Beth sy’n digwydd pan does gan bobl ddim gobaith?
9 Os ydyn ni’n canolbwyntio ar ein gobaith o fyw am byth, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau doeth. Ond os ydyn ni’n colli golwg ar hynny, bydd agwedd hunanol y byd yn cael gafael arnon ni. Dyna ddigwyddodd yn achos rhai Cristnogion yng Nghorinth gynt. Gwnaethon nhw golli eu ffydd yn un o addewidion pwysicaf Duw, sef gobaith yr atgyfodiad. (1 Cor. 15:12) Dywedodd Paul fod pobl yn byw yn y foment oni bai bod ganddyn nhw obaith ar gyfer y dyfodol. (1 Cor. 15:32) A dyna sy’n digwydd nawr. Mae pobl yn gwneud unrhyw beth i gael cymaint o hwyl ag y gallan nhw. Ond rydyn ni, fel pobl Jehofa, yn wahanol am fod gynnon ni hyder yn addewidion Jehofa am y dyfodol. Fel yr helmed ffigurol, mae ein gobaith yn amddiffyn ein ffordd o feddwl, ac yn ein cadw ni rhag byw bywyd hollol hunanol a fydd yn difetha ein perthynas â Jehofa.—1 Cor. 15:33, 34.
10. Sut gall gobaith ein hamddiffyn ni rhag hel meddyliau negyddol?
10 A wyt ti erioed wedi teimlo fyddi di byth yn plesio Jehofa ni waeth faint wyt ti’n trio? Efallai dy fod ti hyd yn oed wedi meddwl i ti dy hun: “Does dim gobaith imi fyw am byth. Dw i jest ddim yn ddigon da; fydda i byth yn gallu cyrraedd safonau Jehofa.” Bydd ein helmed o obaith yn ein hamddiffyn ni rhag meddwl fel hyn. Gwnaeth Eliffas, un o ffrindiau gwael Job, blannu syniadau tebyg ym meddwl Job drwy ddweud: ‘Sut all person meidrol fod yn lân os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion, a’r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg?’ (Job 15:14, 15) Ond celwyddau oedd y cwbl. Heddiw, mae Satan eisiau inni hel meddyliau o’r fath a fydd yn chwalu ein gobaith. Felly mae’n rhaid inni wrthod ei gelwyddau a chanolbwyntio ar addewidion Jehofa. Paid byth â cholli golwg ar y ffaith bod Jehofa eisiau iti fyw am byth a’i fod am dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw.—1 Tim. 2:3, 4.
CADWA DY OBAITH YN GRYF
11. Pam dylen ni fod yn amyneddgar wrth inni ddisgwyl i’n gobaith gael ei gyflawni?
11 Dydy hi ddim yn hawdd bob tro i gadw ein gobaith yn gryf, yn enwedig os ydyn ni’n dechrau colli amynedd wrth inni ddisgwyl i Jehofa weithredu. Ond cofia, mae Jehofa wedi bodoli erioed, felly mae’n gweld amser yn wahanol i ni. (2 Pedr 3:8, 9) Mi fydd Jehofa yn cyflawni ei bwrpas, a hynny yn y ffordd orau ac ar yr adeg orau. Ond efallai bod yr adeg honno yn wahanol i beth roedden ni wedi ei ddisgwyl. Felly sut gallwn ni gadw ein gobaith yn gryf yn y cyfamser?—Iago 5:7, 8.
12. Yn ôl Hebreaid 11:1, 6, pa gysylltiad sydd ’na rhwng gobaith a ffydd?
12 Jehofa ydy’r un fydd yn gwneud ein gobaith yn realiti. Felly byddwn ni’n llwyddo i gadw ein gobaith yn gryf os ydyn ni’n aros yn agos ato. A dweud y gwir, os ydyn ni am gael gobaith, mae’n rhaid inni hefyd gael ffydd yn y ffaith bod Jehofa yn bodoli, a’i fod “yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri.” (Darllen Hebreaid 11:1, 6.) Y mwyaf rydyn ni’n credu hynny, y mwyaf hyderus byddwn ni y bydd Jehofa yn cadw at ei air. Gad inni weld sut gallwn ni gryfhau ein perthynas â Jehofa, a chadw ein gobaith yn gryf.
13. Sut gallwn ni glosio at Dduw?
13 Gweddïa ar Jehofa a darllen ei Air. Allwn ni ddim gweld Jehofa. Ond, gallwn ni glosio ato drwy weddïo arno—a hynny gan wybod, heb os, y bydd yn gwrando arnon ni. (Jer. 29:11, 12) Yna, drwy ddarllen ei Air a myfyrio arno, rydyn ni’n gwrando ar Dduw. Y mwyaf rydyn ni’n darllen am sut mae Jehofa wedi gofalu am ei bobl yn y gorffennol, y mwyaf bydd ein gobaith yn cryfhau. Wedi’r cwbl, cafodd popeth yng Ngair Duw ei ysgrifennu “i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhuf. 15:4.
14. Pam dylen ni fyfyrio ar sut mae Jehofa wedi helpu eraill?
14 Myfyria ar sut mae Jehofa wedi cadw ei addewidion. Meddylia am Abraham a Sara, er enghraifft. Roedden nhw’n rhy hen i gael plant, ond eto gwnaeth Duw addo y byddan nhw’n cael plentyn. (Gen. 18:10) Sut gwnaeth Abraham ymateb? Mae’r Beibl yn dweud: “Credodd y byddai yn ‘dad i lawer o genhedloedd.’” (Rhuf. 4:18) Er bod y sefyllfa i weld yn un amhosib, roedd Abraham yn hollol hyderus y byddai Jehofa yn cyflawni ei addewid. A chafodd ef ddim ei siomi. (Rhuf. 4:19-21) Gallwn ni ddysgu gwersi pwysig o hanesion fel hyn. Mae Jehofa yn gallu gwneud yr amhosib yn bosib. Felly, gallwn ni wastad ddibynnu arno i gadw at ei air.
15. Pam dylen ni fyfyrio ar sut mae Jehofa eisoes wedi ein helpu ni?
15 Meddylia am sut mae Jehofa eisoes wedi dy helpu di. Gwnaeth Iesu addo y byddai ei Dad yn gofalu am dy anghenion bob dydd. (Math. 6:32, 33) Gwnaeth Iesu hefyd addo y byddai Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân iti pan wyt ti’n gofyn amdano. (Luc 11:13) Mae’n debyg y byddi di’n cytuno bod Jehofa wedi cadw’r addewidion hynny. Ond mae ’na fwy. Meddylia am sut mae ef wedi maddau iti, dy gysuro di, a dy fwydo di yn ysbrydol yn union fel gwnaeth ef addo iti. (Math. 6:14; 24:45; 2 Cor. 1:3) O feddwl am sut mae Jehofa wedi dy helpu di yn y gorffennol, onid ydy hynny’n cryfhau dy obaith am y dyfodol?
LLAWENHA YN Y GOBAITH
16. Pam mae gobaith yn anrheg mor arbennig?
16 Mae’r gobaith o fyw am byth yn anrheg hynod o werthfawr oddi wrth Dduw. Ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw ato am ein bod ni mor sicr y bydd yn digwydd. Mae’r gobaith hwnnw yn angor inni am ei fod yn ein sefydlogi ni yn wyneb treialon, erledigaeth, neu hyd yn oed marwolaeth. Ac fel helmed, mae’n amddiffyn ein meddyliau, sydd yn ei dro yn ein helpu ni i wrthod beth sy’n ddrwg a glynu wrth beth sy’n dda. Yn fwy na dim, mae ein gobaith yn ein helpu ni i glosio at Dduw, ac yn profi inni faint mae ef yn ein caru ni. Ar ddiwedd y dydd, mae cadw ein gobaith yn ddisglair ac yn gryf yn gwneud byd o les inni!
17. Sut mae ein gobaith yn ein gwneud ni’n llawen?
17 Yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, dywedodd yr apostol Paul: “Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi.” (Rhuf. 12:12) Roedd Paul yn gallu bod yn llawen oherwydd roedd yn siŵr y byddai’n cael byw am byth yn y nef dim ond iddo aros yn ffyddlon. Gallwn ninnau fod yn llawen wrth feddwl am ein gobaith oherwydd rydyn ni’n sicr y bydd Jehofa yn cadw ei addewidion. Fel dywedodd un salmydd, mae’r “un sy’n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw, [yn hapus] . . . mae e bob amser yn cadw ei air.”—Salm 146:5, 6.
CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd
^ Mae Jehofa wedi rhoi gobaith bendigedig inni ar gyfer y dyfodol. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut mae’r gobaith hwnnw yn codi ein calonnau, ac yn ein helpu ni i weld y tu hwnt i’r treialon rydyn ni’n eu hwynebu nawr. Byddwn ni hefyd yn trafod sut mae’n rhoi’r nerth inni aros yn ffyddlon mewn amseroedd caled. A hefyd, sut mae’n ein hamddiffyn rhag syniadau a allai lygru ein meddyliau.
^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn union fel mae helmed yn amddiffyn pen milwr, ac mae angor yn cadw llong yn sefydlog, mae ein gobaith yn amddiffyn ein meddyliau, ac yn ein cadw ni’n sefydlog yn ystod treialon. Mae chwaer yn gweddïo yn hyderus ar Jehofa. Mae brawd yn myfyrio ar sut gwnaeth Duw gadw ei addewidion i Abraham. Mae brawd arall yn meddwl yn ôl am ei holl fendithion.