ERTHYGL ASTUDIO 29
CÂN 121 Rhaid Cael Hunanreolaeth
Bydda’n Effro yn Erbyn Temtasiwn
“Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.”—MATH. 26:41.
PWRPAS
I’n helpu ni i ddeall yr angen i osgoi pechu ac i osgoi’r camau sy’n arwain ato.
1-2. (a) Pa rybuddion roddodd Iesu i’w ddisgyblion? (b) Pam gwnaeth y disgyblion ildio o dan bwysau? (Gweler hefyd y lluniau.)
“MAE’R ysbryd yn awyddus, ond mae’r cnawd yn wan.” a (Math. 26:41b) Gyda’r geiriau hynny, roedd Iesu yn dangos ei fod yn deall ein bod ni’n amherffaith. Ond roedd ef hefyd yn ein rhybuddio ni i beidio â bod yn orhyderus. Ychydig o oriau cyn iddo ddweud hynny, roedd ei ddisgyblion wedi dweud yn hyderus y bydden nhw’n glynu wrth eu Meistr. (Math. 26:35) Roedd ganddyn nhw gymhellion da, ond eto, doedden nhw ddim yn deall pa mor sydyn roedden nhw’n gallu ildio i bwysau. Dyna pam gwnaeth Iesu eu rhybuddio nhw: “Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.”—Math. 26:41a.
2 Yn hwyrach ymlaen, pan gafodd Iesu ei arestio, a wnaeth ei ddisgyblion lynu wrtho neu ildio i’r temtasiwn i ffoi? Yn drist iawn, ni wnaethon nhw gadw’n effro. Oherwydd hynny, gwnaethon nhw yn union beth ddywedon nhw na fydden nhw byth yn ei wneud a gadael Iesu.—Math. 26:56.
3. (a) Er mwyn aros yn ufudd i Jehofa, pam dylen ni osgoi bod yn orhyderus? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Mae’n rhaid inni osgoi bod yn orhyderus. Er ein bod ni’n benderfynol o wneud beth sy’n plesio Jehofa, rydyn ni hefyd yn amherffaith ac yn agored i demtasiwn. (Rhuf. 5:12; 7:21-23) Yn annisgwyl, gallwn ni wynebu sefyllfaoedd sy’n gwneud i’r peth anghywir edrych yn apelgar. Er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa a’i Fab, mae’n rhaid inni ddilyn cyngor Iesu i aros yn effro yn erbyn y temtasiwn i bechu. Gall yr erthygl hon ein helpu ni i wneud hynny. Yn gyntaf, byddwn ni’n trafod pa bethau all ein temtio. Nesaf, byddwn ni’n ystyried sut i fod yn effro i’n gwendidau. Ac yn olaf, byddwn ni’n trafod sut i gadw’n effro.
BYDDA’N YMWYBODOL O DY WENDIDAU
4-5. Pam mae’n rhaid inni fod yn effro yn erbyn pechodau bach?
4 Gall hyd yn oed pechodau bach niweidio ein perthynas â Jehofa. Ar ben hynny, gallen nhw arwain at bechodau difrifol.
5 Mae’r temtasiwn i bechu yn gyffredin inni i gyd. Ond, rydyn ni i gyd yn fregus mewn ffyrdd gwahanol, yntau i bechu’n ddifrifol, i ildio i weithredoedd aflan, neu i ddechrau meddwl fel y byd. Er enghraifft, efallai fod un person yn brwydro yn erbyn anfoesoldeb rhywiol. Efallai fod rhywun arall yn brwydro yn erbyn y temtasiwn i wneud rhywbeth aflan, fel mastyrbio neu wylio pornograffi. Ac efallai fod rhywun arall yn stryglo yn erbyn ofn dyn, balchder, y tueddiad i golli ei dymer, neu rywbeth arall. Fel dywedodd Iago: “Mae pob un yn cael ei demtio trwy gael ei ddenu a’i hudo gan ei chwant ei hun.”—Iago 1:14.
6. Am ba bethau y dylen ni fod yn onest?
6 A wyt ti’n gwybod beth yw dy wendidau di? Rydyn ni’n twyllo ein hunain os ydyn ni’n meddwl nad oes gynnon ni unrhyw wendidau, neu’n meddwl ein bod ni’n rhy gryf i ildio i demtasiwn. (1 Ioan 1:8) Wedi’r cwbl, dywedodd Paul gall hyd yn oed y rhai sydd â chymwysterau ysbrydol bechu os nad ydyn nhw’n cadw’n effro. (Gal. 6:1) Mae’n rhaid inni fod yn onest â ni’n hunain a chydnabod ein gwendidau.—2 Cor. 13:5.
7. Beth dylen ni roi sylw arbennig iddo? Eglura.
7 Beth dylen ni ei wneud unwaith inni ddysgu beth ydy ein gwendidau? Dylen ni gryfhau ein hunain yn erbyn temtasiwn! Er enghraifft, yn adeg y Beibl, rhan wanaf mewn dinas oedd y giatiau. Felly, roedd mwy o bobl yn gwarchod y giatiau nag unrhyw le arall. Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid inni roi sylw arbennig i’n gwendidau er mwyn inni allu gwrthod temtasiwn.—1 Cor. 9:27.
SUT I AMDDIFFYN EIN HUNAIN
8-9. Sut byddai wedi bod yn bosib i’r dyn ifanc yn Diarhebion pennod 7 osgoi pechu’n ddifrifol? (Diarhebion 7:8, 9, 13, 14, 21)
8 Sut gallwn ni amddiffyn ein hunain? Ystyria beth rydyn ni’n ei ddysgu o ddyn ifanc yn Diarhebion pennod 7 a wnaeth gyflawni anfoesoldeb rhywiol gyda dynes anfoesol. Mae adnod 22 yn dweud wrthon ni ei fod wedi dilyn “ar ei hôl ar unwaith,” neu yn sydyn. Ond, fel mae’r adnodau blaenorol yn ei ddangos, roedd ef wedi cymryd sawl cam a wnaeth arwain yn raddol at ei bechod.
9 Beth arweiniodd at ei bechod? Yn gyntaf, pasiodd heibio lle roedd y ddynes anfoesol yn byw “yn hwyr yn y dydd,” ac yna cerdded tuag at ei thŷ. (Darllen Diarhebion 7:8, 9.) Nesaf, pan welodd y ddynes, gadawodd iddi ei gusanu yn hytrach na throi i ffwrdd, a gwrandawodd arni’n sôn am ei haberthau heddwch. Efallai ei bod hi’n sôn am bethau felly i geisio gwneud argraff dda arno. (Darllen Diarhebion 7:13, 14, 21.) Petasai’r dyn ifanc wedi osgoi’r peryglon a wnaeth arwain at ei bechod, byddai wedi bod yn ddigon hawdd iddo wrthod temtasiwn ac osgoi pechu.
10. Sut gall rhywun heddiw wneud yr un camgymeriad â’r dyn ifanc?
10 Mae’r hanes hwn yn dangos beth all ddigwydd i unrhyw un sy’n addoli Jehofa. Efallai y byddai rhywun sy’n pechu’n ddifrifol wedyn yn teimlo bod popeth wedi digwydd yn sydyn neu’n annisgwyl. Ond eto, petasai’n meddwl am beth ddigwyddodd, mwy na thebyg byddai’n gweld bod cymryd rhai camau annoeth wedi arwain at ei bechod. Efallai dewisodd ffrindiau neu adloniant drwg, neu fynd i lefydd neu wefannau sy’n anaddas i Gristnogion. Efallai roedd wedi stopio gweddïo, darllen y Beibl, mynychu cyfarfodydd, neu fynd ar y weinidogaeth. Fel y dyn ifanc yn Diarhebion, efallai doedd ei bechod ddim mor annisgwyl wedi’r cwbl.
11. Beth mae’n rhaid inni ei osgoi er mwyn peidio â phechu?
11 Beth ydy’r wers inni? Mae’n rhaid inni osgoi nid yn unig y pechod ond hefyd y camau sy’n arwain at y pechod. Mae Solomon yn gwneud y pwynt hwnnw ar ôl yr hanes am y dyn ifanc a’r ddynes anfoesol drwy ddweud: “Peidiwch mynd yn agos ati.” (Diar. 7:25) Dywedodd hefyd am ddynes o’r fath: “Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi.” (Diar. 5:3, 8) Yn bendant, byddwn ni’n osgoi pechu drwy gadw’n bell i ffwrdd o sefyllfaoedd all arwain ato. b Gall hyn gynnwys sefyllfaoedd neu weithgareddau sydd ddim yn anghywir i Gristnogion ond sy’n gallu ein temtio ni i wneud rhywbeth drwg.—Math. 5:29, 30.
12. Pa benderfyniad a wnaeth Job, a sut byddai hwnnw wedi ei amddiffyn rhag temtasiwn? (Job 31:1)
12 Er mwyn osgoi sefyllfaoedd a all arwain at bechod, mae’n rhaid inni wneud penderfyniad cadarn. Dyna beth wnaeth Job. Gwnaeth ymrwymiad i beidio ag edrych mewn ffordd rywiol ar unrhyw un heblaw am ei wraig. (Darllen Job 31:1.) Byddai cadw at y penderfyniad hwnnw wedi ei helpu i beidio â godinebu. Gallwn ninnau hefyd wneud penderfyniad i osgoi unrhyw beth a all arwain at demtasiwn.
13. Pam mae’n rhaid inni amddiffyn ein meddwl? (Gweler hefyd y lluniau.)
13 Hefyd, mae’n rhaid inni amddiffyn ein meddyliau. (Ex. 20:17) Mae rhai yn credu does ’na ddim byd yn bod gyda meddwl am bethau anaddas os dydyn nhw ddim yn gweithredu arnyn nhw. Ond mae hynny’n anghywir. Mae meddwl o hyd am rywbeth drwg yn gwneud y chwant yn gryfach. Mewn ffordd, mae person sy’n gwneud hynny yn creu temtasiwn iddo’i hun. Wrth gwrs, mae pethau anghywir yn codi yn ein meddyliau o bryd i’w gilydd. Ond pan mae hynny’n digwydd, mae’n hynod o bwysig inni wrthod y meddyliau hynny, a dechrau meddwl am bethau da yn eu lle. Trwy wneud hynny, rydyn ni’n stopio meddyliau drwg rhag tyfu mewn i rywbeth pwerus a pheryglus a all achosi inni bechu’n ddifrifol.—Phil. 4:8; Col. 3:2; Iago 1:13-15.
14. Beth arall gallwn ni ei wneud i amddiffyn ein hunain rhag temtasiwn?
14 Beth arall gallwn ni ei wneud i amddiffyn ein hunain rhag temtasiwn? Mae’n rhaid inni fod yn gwbl hyderus bod ufuddhau i Jehofa yn wastad yn dda inni. Efallai weithiau bydd yn anodd iawn inni ddod â’n meddyliau a’n teimladau yn unol â safonau Duw. Ond bydd yr heddwch meddwl sy’n dod o wneud hynny yn werth pob ymdrech.
15. Sut bydd meithrin rhinweddau da yn ein hamddiffyn ni rhag temtasiwn?
15 Mae’n rhaid inni feithrin yr awydd i wneud beth sy’n iawn. Os ydyn ni’n casáu’r drwg ac yn caru’r da, byddwn ni’n benderfynol o wneud beth sy’n iawn ac osgoi sefyllfaoedd a all arwain at bechod. (Amos 5:15) Bydd yr awydd i wneud beth sy’n dda hefyd yn ein cryfhau ni i aros yn gadarn os ydyn ni’n dod ar draws sefyllfa heriol doedden ni ddim yn gallu rhagweld na’i hosgoi.
16. Sut gall gweithgareddau ysbrydol ein helpu ni i fod yn effro yn erbyn temtasiwn? (Gweler hefyd yn lluniau.)
16 Sut gallwn ni feithrin yr awydd i wneud beth sy’n iawn? Drwy gadw mor brysur â phosib yn gwneud pethau ysbrydol. Pan ydyn ni’n mynychu ein cyfarfodydd neu fynd ar y weinidogaeth, rydyn ni’n cryfhau ein hawydd i blesio Jehofa, ac felly dydyn ni ddim fel arfer yn cael ein temtio i wneud rhywbeth anghywir. (Math. 28:19, 20; Heb. 10:24, 25) Drwy ddarllen gair Duw a myfyrio arno, byddwn ni’n caru beth sy’n dda yn fwy ac yn dod i gasáu beth sy’n ddrwg yn fwy byth. (Jos. 1:8; Salm 1:2, 3; 119:97, 101) Cofia, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Gweddïwch yn barhaol.” (Math. 26:41) Wrth inni dreulio amser gyda’n Tad nefol mewn gweddi, rydyn ni’n rhoi’r cyfle iddo ein helpu ni, ac rydyn ni hefyd yn cryfhau ein hawydd i’w blesio.—Iago 4:8.
CADWA’N EFFRO
17. Beth oedd yn broblem barhaol i Pedr?
17 Mae’n debyg y byddwn ni’n gallu cael gwared ar rai gwendidau yn gyfan gwbl. Ond efallai bydd rhai pethau eraill yn parhau i achosi trwbl inni. Ystyria esiampl yr apostol Pedr. Ildiodd Pedr i ofn dyn pan wnaeth ef wadu Iesu tair gwaith. (Math. 26:69-75) Roedd yn ymddangos bod Pedr wedi dod dros yr ofn hwnnw pan roddodd dystiolaeth gref o flaen y Sanhedrin. (Act. 5:27-29) Ond flynyddoedd wedyn, am ei fod yn “ofni’r rhai a oedd yn cefnogi enwaedu,” stopiodd Pedr fwyta gyda phobl y cenhedloedd. (Gal. 2:11, 12) Roedd ei ofn dyn wedi dod yn ôl. Efallai doedd yr ofn erioed wedi diflannu’n llwyr.
18. Beth all ddigwydd yn achos rhai o’n tueddiadau drwg?
18 Fel Pedr, efallai bydd rhaid inni frwydro yn erbyn tueddiad roedden ni’n meddwl ein bod ni wedi ei drechu. Er enghraifft, mae un brawd yn cyfaddef: “Fe wnes i osgoi gwylio pornograffi am ddeng mlynedd, a pherswadio fy hun fy mod i wedi dod dros fy mhroblem. Ond yn anffodus, roedd fy ngwendid fel anifail rheibus a oedd yn aros am gyfle i ymosod.” Chwarae teg iddo, daliodd ati i frwydro. Sylweddolodd fod angen iddo weithio’n galed bob dydd i wrthod y temtasiwn, ac efallai bydd rhaid iddo wneud hynny am weddill ei fywyd yn y system hon. Gyda help ei wraig a’r henuriaid yn ei gynulleidfa, fe wnaeth gymryd camau cryfach i beidio ag edrych ar bornograffi.
19. Sut gallwn ni wrthod gwendid parhaol?
19 Sut gallwn ni sicrhau nad ydyn ni’n ildio i wendid rydyn ni’n dal yn brwydro yn ei erbyn? Drwy ddilyn cyngor Iesu i gadw’n effro yn erbyn temtasiwn. Dal ati i osgoi sefyllfaoedd a all arwain at demtasiwn, hyd yn oed pan wyt ti’n teimlo’n gryf. (1 Cor. 10:12) Parha i wneud y pethau sydd wedi dy helpu di i lwyddo, a gwna dy orau glas i amddiffyn dy hun rhag temtasiwn.—2 Pedr 3:14.
Y BENDITHION O GADW’N EFFRO
20-21. (a) Pa fendithion byddwn ni’n eu mwynhau os ydyn ni’n amddiffyn ein hunain rhag temtasiwn? (b) Os ydyn ni’n gwneud ein rhan ni, beth bydd Jehofa’n ei wneud? (2 Corinthiaid 4:7)
20 Gallwn ni fod yn sicr bod cadw’n effro yn erbyn temtasiwn yn werth pob ymdrech. Cawson ni ein dylunio i fyw yn ôl safonau Jehofa, ac mae dilyn ei ffyrdd yn gwneud inni deimlo’n llawer hapusach nag y mae pleserau dros dro pechod. (Heb. 11:25; Salm 19:8; Gen. 1:27) Mae byw bywyd sy’n plesio Jehofa yn rhoi cydwybod lân inni a’r cyfle i fyw am byth.—1 Tim. 6:12; 2 Tim. 1:3; Jwd. 20, 21.
21 Mae’n wir bod y “cnawd yn wan.” Ond, a ydy hynny’n golygu nad oes ’na unrhyw obaith inni? Nac ydy. Mae Jehofa’n barod i roi’r grym sydd ei angen arnon ni. (Darllen 2 Corinthiaid 4:7.) Ond sylwa, mae Jehofa ond yn rhoi’r grym sydd y tu hwnt i’r grym arferol inni. Mae’n rhaid inni ddefnyddio ein nerth ein hunain yn gyntaf i ymdrechu o ddydd i ddydd i frwydro yn erbyn temtasiwn. Drwy wneud ein rhan, gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa’n ateb ein gweddïau am fwy o gryfder. (1 Cor. 10:13) Yn bendant, gyda help Jehofa gallwn ni gadw’n effro yn erbyn temtasiwn.
CÂN 47 Gweddïa ar Jehofa Bob Dydd
a ESBONIAD: Yn Mathew 26:41, mae’r “ysbryd” yn cyfeirio at y grym mewnol sy’n achosi inni feddwl ac ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Mae’r “cnawd” yn cyfeirio at ein cyflwr pechadurus. Felly, hyd yn oed os ydyn ni eisiau gwneud beth sy’n iawn, os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ni ildio i’r temtasiwn i wneud beth sy’n ddrwg yn ôl y Beibl.
b Gall rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol gael hyd i help yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! gwers 57 pwyntiau 1-3, a’r erthygl “‘Edrych yn Syth o Dy Flaen’ i’r Dyfodol” yn y Tŵr Gwylio, Tachwedd 2020, tt. 27-29, par. 12-17.
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn darllen testun y dydd yn y bore, yn darllen y Beibl yn ystod amser cinio, ac yn mynd i’r cyfarfod canol wythnos gyda’r nos.