ERTHYGL ASTUDIO 32
Efelycha Jehofa—Bydda’n Rhesymol
“Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol.”—PHIL. 4:5.
CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion
CIPOLWG a
1. Ym mha ffyrdd mae Cristnogion yn gorfod bod fel coeden? (Gweler hefyd y llun.)
“NID yw’r gwynt yn torri coeden sy’n gallu plygu.” Mae’r ddihareb hon yn tynnu sylw at y rhinwedd pwysig sy’n galluogi i goeden ffynnu: hyblygrwydd. Er mwyn blodeuo’n ysbrydol, mae’n rhaid i Gristnogion fod yn hyblyg, yn barod i blygu. Sut? Pan fydd ein hamgylchiadau personol yn newid, y mae’n rhaid inni fod yn rhesymol, a hefyd y mae’n rhaid inni fod yn rhesymol wrth inni barchu safbwyntiau a phenderfyniadau eraill.
2. Pa rinweddau fydd yn ein helpu ni i addasu i amgylchiadau newydd, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
2 Fel gweision Jehofa, rydyn ni eisiau bod yn rhesymol. Rydyn ni hefyd eisiau bod yn ostyngedig ac yn drugarog. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut mae’r rhinweddau hyn yn gallu helpu rhai Cristnogion i ymdopi pan fydd eu hamgylchiadau’n newid. Byddwn ni hefyd yn gweld sut mae’r rhinweddau hyn yn gallu ein helpu ni. Ond yn gyntaf, gad inni ddysgu gan esiamplau perffaith Jehofa ac Iesu o fod yn rhesymol.
MAE JEHOFA AC IESU YN RHESYMOL
3. Beth sy’n dangos bod Jehofa yn rhesymol?
3 Mae Jehofa yn cael ei alw yn ‘Graig’ oherwydd ei fod yn gadarn ac yn sefydlog. (Deut. 32:4) Ond, mae ef hefyd yn rhesymol. Wrth i’r byd yma newid, mae Jehofa yn hyblyg ac yn gwneud yn siŵr bod popeth mae ef wedi ei addo am ddod yn wir. Creodd Jehofa ddynolryw yn ei ddelw ei hun gyda’r gallu i addasu pan mae amgylchiadau yn newid. Mae wedi rhoi egwyddorion clir inni yn y Beibl sy’n ein helpu i wneud penderfyniadau doeth ni waeth pa heriau byddwn ni’n eu hwynebu. Mae esiampl Jehofa ei hun, a’r egwyddorion y mae ef wedi eu rhoi inni, yn dangos ei fod nid yn unig yn ‘Graig’ ond hefyd ei fod yn rhesymol.
4. Rho esiampl o sut roedd Jehofa yn rhesymol. (Lefiticus 5:7, 11)
4 Mae Jehofa yn berffaith ac yn rhesymol. Dydy ef ddim yn llym yn y ffordd mae ef yn trin pobl. Ystyria, er enghraifft, sut gwnaeth Jehofa ddangos ei fod yn rhesymol wrth ddelio gyda’r Israeliaid. Nid oedd yn disgwyl yr un aberth gan y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd. Mewn rhai achosion, gadawodd i bob person gynnig aberth yn ôl ei amgylchiadau.—Darllen Lefiticus 5:7, 11.
5. Rho esiampl o ostyngeiddrwydd a thrugaredd Jehofa.
5 Roedd gostyngeiddrwydd a thrugaredd Jehofa yn ei ysgogi i fod yn rhesymol. Er enghraifft, daeth gostyngeiddrwydd Jehofa i’r amlwg pan oedd ef ar fin dinistrio’r bobl ddrwg yn Sodom. Drwy ei angylion, dywedodd Jehofa wrth y dyn cyfiawn Lot i ddianc i’r mynyddoedd. Roedd gan Lot ofn i fynd yno. Felly plediodd iddo ef a’i deulu gael mynd i Soar am loches, tref fach a oedd i fod i gael ei dinistrio. Gallai Jehofa fod wedi mynnu bod Lot yn dilyn ei gyfarwyddiadau i’r dim. Yn hytrach, gwrandawodd ar Lot, er bod hynny’n golygu arbed Soar. (Gen. 19:18-22) Canrifoedd yn hwyrach, dangosodd Jehofa drugaredd tuag at bobl Ninefe. Gyrrodd y proffwyd Jona i ddweud wrth bobl ddrwg Ninefe eu bod nhw a’u dinas yn mynd i gael eu dinistrio. Ond pan edifarhaodd pobl Ninefe, teimlodd Jehofa drostyn nhw ac achubodd y ddinas.—Jona 3:1, 10; 4:10, 11.
6. Rho esiampl o sut gwnaeth Iesu efelychu ffordd Jehofa o fod yn rhesymol.
6 Gwnaeth Iesu efelychu’r ffordd roedd Jehofa’n rhesymol. Cafodd ei yrru i’r ddaear i bregethu i “ddefaid coll tŷ Israel.” Ond dangosodd ei fod yn rhesymol wrth gyflawni ei aseiniad. Ar un achlysur, gwnaeth dynes doedd ddim o Israel erfyn arno i iacháu ei merch oedd “wedi ei meddiannu’n greulon gan gythraul.” Gwnaeth Iesu wrando ar y ddynes ac iacháu ei merch. (Math. 15:21-28) Ystyria esiampl arall. Yn gynnar yn ei weinidogaeth, dywedodd Iesu: “Pwy bynnag sy’n fy ngwadu i . . . , bydda innau hefyd yn ei wadu yntau.” (Math. 10:33) Ond a wnaeth Iesu wadu Pedr ac yntau wedi ei wadu dair gwaith? Cymerodd Iesu i ystyriaeth edifeirwch a ffydd Pedr. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, ymddangosodd i Pedr a chadarnhau ei fod wedi maddau iddo ac yn ei garu.—Luc 24:33, 34.
7. Yn unol â Philipiaid 4:5, pa enw rydyn ni eisiau ei feithrin?
7 Rydyn ni wedi gweld bod Jehofa Dduw ac Iesu Grist yn rhesymol. Beth amdanon ni? Mae Jehofa yn disgwyl i ni fod yn rhesymol. (Darllen Philipiaid 4:5.) Fel hyn mae un cyfieithiad yn cyfleu’r adnod: “Gwna enw i ti dy hun o fod yn rhesymol.” Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘A ydy pobl yn fy ngweld i’n rhesymol, yn barod i ildio, ac yn oddefgar? Neu a ydyn nhw’n fy ngweld i’n berson ddi-ildio, llym, neu bengaled? A ydw i’n mynnu bod eraill yn gwneud pethau yn yr union ffordd dw i’n dweud y dylen nhw gael eu gwneud? Neu a ydw i’n gwrando ar eraill ac yn ildio i’w gofynion pan fydd hynny’n briodol?’ Y mwyaf rhesymol ydyn ni, y mwyaf rydyn ni’n efelychu Jehofa ac Iesu. Gad inni ystyried dwy sefyllfa sy’n galw am fod yn rhesymol—pan fydd ein hamgylchiadau personol yn newid a phan fydd safbwyntiau a phenderfyniadau eraill yn wahanol i’n rhai ni.
BYDDA’N RHESYMOL PAN FYDD AMGYLCHIADAU’N NEWID
8. Beth gall ein helpu ni i fod yn rhesymol pan fydd amgylchiadau’n newid? (Gweler hefyd y troednodyn.)
8 Mae bod yn rhesymol yn cynnwys bod yn hyblyg pan fydd ein hamgylchiadau yn newid. Gall y fath newidiadau greu caledi annisgwyl inni. Gallwn wynebu argyfwng iechyd. Neu gall newidiadau yn yr economi neu yn y byd gwleidyddol wneud ein bywydau yn anodd iawn. (Preg. 9:11; 1 Cor. 7:31) Gall hyd yn oed newid mewn aseiniad theocrataidd roi prawf arnon ni. Beth bynnag yr her, gallwn ni addasu yn llwyddiannus i amgylchiadau newydd os wnawn ni ddilyn y pedwar cam canlynol: (1) derbyn ein realiti, (2) edrych i’r dyfodol, (3) canolbwyntio ar y positif, a (4) gwneud pethau ar gyfer eraill. b Gad inni ystyried profiadau go iawn sy’n dangos sut gall cymryd y camau hyn helpu.
9. Sut gwnaeth un cwpl a oedd yn genhadon ymdopi â threialon annisgwyl?
9 Derbyn y realiti. Cafodd Emanuele a Francesca eu haseinio fel cenhadon mewn gwlad estron. Wrth iddyn nhw ddechrau dysgu’r iaith a theimlo’n gartrefol yn eu cynulleidfa newydd, dyma’r pandemig COVID-19 yn taro ac roedd rhaid iddyn nhw eu hynysu eu hunain yn gorfforol. Yna, yn annisgwyl, bu farw mam Francesca. Roedd Francesca wir eisiau bod gyda’i theulu, ond doedd hi ddim yn gallu teithio i’w gweld nhw oherwydd y pandemig. Sut roedd hi’n gallu ymdopi â’r amgylchiadau torcalonnus hyn? Yn gyntaf, gweddïodd Emanuele a Francesca gyda’i gilydd am ddoethineb i gymryd un dydd ar y tro. Atebodd Jehofa eu gweddïau ar yr union amser iawn drwy ddefnyddio ei gyfundrefn. Er enghraifft, cawson nhw eu calonogi’n fawr gan un brawd a ddywedodd mewn cyfweliad fideo: “Y cyflyma’n y byd wnawn ni dderbyn yr amgylchiadau newydd, y cyflyma’n y byd bydd ein llawenydd yn dod yn ôl ynghyd â’r cyfle i wneud y gorau o’r sefyllfa newydd.” c Yn ail, cawson nhw eu hysgogi i ddod yn fwy medrus wrth dystiolaethu ar y ffôn a gwnaethon nhw hyd yn oed ddechrau astudiaeth Feiblaidd. Yn drydydd, roedden nhw’n hapus i dderbyn cariad a chefnogaeth y brodyr lleol. Gwnaeth un chwaer yrru neges ysbrydol iddyn nhw bob dydd am flwyddyn. Pan fyddwn ni, yn yr un modd, yn derbyn ein hamgylchiadau newydd, gallwn ni fod yn llawen yn yr hyn fedrwn ni ei wneud.
10. Sut gwnaeth un chwaer addasu i newid mawr yn ei bywyd?
10 Edrycha at y dyfodol, a chanolbwyntia ar y positif. Roedd Christina, chwaer o Rwmania sy’n byw yn Japan, wedi siomi pan gafodd y gynulleidfa Saesneg roedd hi’n ei mynychu ei chau. Ond, roedd hi’n benderfynol o beidio byw yn y gorffennol. Yn hytrach, gwnaeth hi benderfynu gwneud ei gorau yn y gynulleidfa Japaneg leol a chymryd rhan lawn yn y maes. Gwnaeth hi ofyn i ddynes roedd hi wedi gweithio gyda hi gynt i’w helpu hi i wella ei sgiliau iaith. Cytunodd y ddynes i ddefnyddio’r Beibl a’r llyfryn Mwynhewch Fywyd am Byth! i ddysgu Japaneg i Christina. Nid yn unig gwnaeth Christina wella yn ei gallu i gyfathrebu yn Japaneg, ond gwnaeth y ddynes ddechrau dangos diddordeb yn y gwir. Pan fyddwn ni’n edrych ymlaen at y dyfodol, ac yn aros yn bositif, gall newidiadau annisgwyl ddod â bendithion annisgwyl.
11. Sut gwnaeth un cwpl a oedd yn wynebu problemau economaidd ymdopi?
11 Gwna bethau i eraill. Gwnaeth cwpl a oedd yn byw mewn gwlad lle mae ein gwaith wedi ei wahardd golli eu bywoliaeth pan aeth yr economi ar chwâl. Sut gwnaethon nhw addasu? Yn gyntaf, aethon nhw ati i symleiddio eu bywydau. Yna, yn lle canolbwyntio ar eu problemau eu hunain, gwnaethon nhw benderfynu mynd ati i helpu eraill drwy gadw’n brysur yn y gwaith pregethu. (Act. 20:35) Mae’r gŵr yn dweud, “Gwnaeth cadw’n brysur yn y weinidogaeth roi llai o amser inni feddwl am bethau negyddol a mwy o amser inni ganolbwyntio ar wneud ewyllys Duw.” Pan fydd ein hamgylchiadau ni’n newid, mae’n rhaid inni gofio pa mor bwysig ydy parhau i helpu eraill, yn enwedig yn ein gweinidogaeth Gristnogol.
12. Sut gall esiampl yr apostol Paul ein helpu ni i fod yn hyblyg wrth i amgylchiadau newid yn ein gweinidogaeth?
12 Mae’n rhaid inni fod yn hyblyg yn ein gweinidogaeth. Rydyn ni’n cyfarfod â phobl sydd â daliadau ac agweddau gwahanol ac sydd yn dod o wahanol gefndiroedd. Roedd yr apostol Paul yn hyblyg, a gallwn ni ddysgu o’i esiampl. Penododd Iesu Paul fel “apostol i’r cenhedloedd.” (Rhuf. 11:13) Yn y rôl honno, pregethodd Paul i Iddewon, Groegiaid, ysgolheigion, y werin bobl, a brenhinoedd. Er mwyn cyffwrdd calonnau gymaint o bobl wahanol, daeth Paul yn “gaethwas i bawb.” (1 Cor. 9:19-23) Gwnaeth ef dalu sylw i ddiwylliant, cefndir, a daliadau ei wrandawyr ac roedd yn hyblyg yn y ffordd roedd yn siarad â nhw. Gallwn ninnau hefyd fod yn effeithiol yn ein gweinidogaeth os byddwn ni’n hyblyg ac yn ceisio meddwl am y ffordd orau medrwn ni helpu pob unigolyn.
PARCHA FARN POBL ERAILL
13. Yn ôl 1 Corinthiaid 8:9, beth fedrwn ni ei osgoi wrth barchu barn pobl eraill?
13 Mae bod yn rhesymol yn ein helpu ni i barchu barn pobl eraill. Er enghraifft, mae rhai chwiorydd yn mwynhau gwisgo colur, ond mae rhai eraill yn dewis peidio. Mae rhai Cristnogion yn mwynhau yfed tipyn bach o alcohol, ond mae rhai yn dewis peidio â’i yfed o gwbl. Mae pob Cristion eisiau gofalu am ei iechyd ond yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol. Petasen ni’n teimlo’n gryf am ein syniadau ac yn trio gwthio ein syniadau ar bobl eraill yn y gynulleidfa, bydden ni’n gallu baglu eraill a chreu rhaniadau. Yn wir, fydden ni ddim eisiau gwneud hynny! (Darllen 1 Corinthiaid 8:9; 10:23, 24) Dyma ddwy enghraifft sy’n dangos sut gall egwyddorion y Beibl ein helpu ni i gadw cydbwysedd a cheisio heddwch.
14. Pa egwyddorion o’r Beibl dylen ni eu cofio ym materion gwisg a thrwsiad?
14 Gwisg a thrwsiad. Dydy Jehofa ddim wedi creu rheolau ar sut dylen ni wisgo, ond mae wedi rhoi egwyddorion inni eu dilyn. Dylen ni wisgo dillad gweddus sy’n anrhydeddu Duw ac sy’n dangos ein bod ni’n “wylaidd a synhwyrol.” (1 Tim. 2:9, 10; 1 Pedr 3:3) Felly, dydyn ni ddim eisiau tynnu gormod o sylw aton ni’n hunain oherwydd ein dillad. Mae egwyddorion y Beibl hefyd yn helpu henuriaid i beidio â chreu eu rheolau eu hunain ar wisg a thrwsiad. Er enghraifft, roedd gwallt brodyr ifanc mewn un gynulleidfa yn fyr ond yn flêr. Roedd yr henuriaid eisiau eu helpu nhw ond hefyd eisiau osgoi creu rheol. Sut byddan nhw’n gwneud hynny? Gwnaeth arolygwr y gylchdaith gynnig i’r henuriaid ddweud wrth y brodyr, “Os ydych chi ar y llwyfan, ac mae’r gynulleidfa’n rhoi mwy o sylw i sut rydych chi’n edrych na beth rydych chi’n dweud, mae ’na broblem efo’ch gwisg a thrwsiad.” Gwnaeth yr esboniad syml hwn ddatrys y broblem heb orfod creu rheol. d
15. Sut gall y Beibl ein helpu ni i wneud penderfyniadau ynglŷn â’n hiechyd? (Rhufeiniaid 14:5)
15 Gofal iechyd. Mae’n rhaid i bob Cristion ddewis drosto’i hun sut i ofalu am ei iechyd. (Gal. 6:5) Mae’r Beibl yn cynnwys dim ond ychydig o gyfreithiau sy’n effeithio ar ddewis Cristion ynglŷn â thriniaeth meddygol, fel y cyfreithiau i osgoi gwaed ac ysbrydegaeth. (Act. 15:20; Gal. 5:19, 20) Heblaw am y rhai hynny, mae i fyny i ni. Mae rhai ond yn ceisio help gan feddygon, tra ei bod hi’n well gan eraill fynd ar ôl triniaeth gwahanol. Ni waeth pa mor gryf rydyn ni’n teimlo am ryw driniaeth, mae’n rhaid inni barchu hawl ein brodyr a’n chwiorydd i benderfynu drostyn nhw eu hunain sut i ofalu am eu hiechyd. Dyma rai pwyntiau fydd yn ein helpu ni i wneud hynny: (1) Dim ond Teyrnas Dduw fydd yn ein hiacháu ni unwaith ac am byth. (Esei. 33:24) (2) Mae rhaid i bob Cristion “fod yn hollol sicr yn ei feddwl ei hun” wrth wneud penderfyniad. (Darllen Rhufeiniaid 14:5.) (3) Dydyn ni ddim eisiau barnu eraill nac achosi iddyn nhw syrthio. (Rhuf. 14:13) (4) Mae Cristnogion yn dangos cariad, ac maen nhw’n deall bod undod y gynulleidfa yn fwy pwysig na’u penderfyniadau personol. (Rhuf. 14:15, 19, 20) Drwy gofio’r pwyntiau hyn, byddwn ni’n aros yn agos at ein brodyr a’n chwiorydd ac yn meithrin heddwch yn y gynulleidfa.
16. Sut gall henuriad ddangos ei fod yn rhesymol wrth ddelio â henuriaid eraill? (Gweler hefyd y lluniau.)
16 Mae’n rhaid i henuriaid osod esiampl dda ynglŷn â bod yn rhesymol. (1 Tim. 3:2, 3) Er enghraifft, ni ddylai henuriad resymu, am ei fod yn hŷn na’r lleill, y dylai pawb arall wrando arno. Mae’n sylweddoli bod ysbryd Jehofa yn gallu symud unrhyw un ar y corff i ddweud rhywbeth fydd yn eu helpu nhw i wneud penderfyniad doeth. Ac os nad ydy penderfyniad y mwyafrif yn mynd yn erbyn un o egwyddorion y Beibl, byddai henuriad rhesymol yn ei gefnogi, hyd yn oed os oedd ganddyn nhw syniad gwahanol eu hunain.
MANTEISION O FOD YN RHESYMOL
17. Sut rydyn ni’n elwa o fod yn rhesymol?
17 Mae Cristnogion yn cael eu bendithio’n fawr oherwydd eu bod nhw’n rhesymol. Rydyn ni’n cael perthynas gwell gyda’n brodyr a’n chwiorydd, ac mae’r gynulleidfa’n mwynhau heddwch. Rydyn ni’n mwynhau gweld personoliaethau a diwylliannau gwahanol ymysg pobl Jehofa. Er ein bod ni i gyd yn wahanol, mae’n hyfryd cael addoli Jehofa mewn undod. Y peth pwysicaf yw ein bod ni’n cael boddhad o wybod ein bod ni’n efelychu ein Tad rhesymol, Jehofa.
CÂN 90 Annog Ein Gilydd
a Mae Jehofa ac Iesu yn rhesymol, ac maen nhw eisiau inni efelychu’r rhinwedd honno. Pan ydyn ni’n rhesymol, byddwn ni’n ei gweld hi’n haws i addasu i’n hamgylchiadau, er enghraifft pan ydyn ni’n wynebu newid yn ein hiechyd neu yn ein hamgylchiadau ariannol. Byddwn ni hefyd yn cyfrannu at heddwch ac undod yn y gynulleidfa.
b Gweler yr erthygl “How to Deal With Change” yn Rhif 4 2016 y Deffrwch! Saesneg.
c Gwylia’r fideo Interview With Brother Dmitriy Mikhaylov sy’n gysylltiedig â’r erthygl “Jehofa yn Troi Erledigaeth yn Dystiolaeth” yn rhifyn Mawrth-Ebrill 2021 Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd.
d Am fwy o wybodaeth ar wisg a thrwsiad, gweler gwers 52 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!