ERTHYGL ASTUDIO 30
Hen Broffwydoliaeth Sy’n Effeithio Arnat Ti
“Byddi di a’r wraig yn elynion.”—GEN. 3:15.
CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!
CIPOLWG a
1. Beth wnaeth Jehofa yn fuan ar ôl i Adda ac Efa bechu? (Genesis 3:15)
YN FUAN iawn ar ôl i Adda ac Efa bechu, rhoddodd Jehofa obaith i’w holl ddisgynyddion drwy’r broffwydoliaeth ryfeddol yn Genesis 3:15.—Darllen.
2. Beth sydd mor rhyfeddol am y broffwydoliaeth hon?
2 Er bod y broffwydoliaeth hon yn codi yn llyfr cyntaf y Beibl, mae ganddi gysylltiad â phob un o’r llyfrau eraill hefyd. Yn union fel mae meingefn llyfr yn clymu’r holl dudalennau at ei gilydd, mae geiriau Genesis 3:15 yn clymu holl lyfrau’r Beibl at ei gilydd mewn un neges. Beth ydy’r neges honno? Byddai Duw yn anfon Achubwr i ddinistrio’r Diafol, a phawb sy’n ei gefnogi. b Bydd pawb sy’n caru Jehofa wrth eu boddau pan fydd hynny’n digwydd.
3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri pheth am y broffwydoliaeth yn Genesis 3:15: (1) Pwy ydy’r cymeriadau yn y broffwydoliaeth, (2) sut mae’r broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni, a (3) sut rydyn ni’n elwa ohoni.
PWY YDY’R CYMERIADAU YN Y BROFFWYDOLIAETH?
4. Pwy ydy’r “neidr,” a sut rydyn ni’n gwybod?
4 Mae Genesis 3:14, 15 yn sôn am bedwar cymeriad sydd o ddiddordeb inni, sef y “neidr,” “had y neidr,” y “wraig,” a “had” y wraig. Mae’r Beibl yn ein helpu ni i wybod pwy yn union ydyn nhw. c Beth am inni gychwyn gyda’r “neidr,” neu’r sarff? Fyddai neidr lythrennol ddim wedi gallu deall beth ddywedodd Jehofa yng ngardd Eden. Felly mae’n rhaid ei fod yn sôn am rywun deallus. Ond pwy? Mae Datguddiad 12:9 yn dweud yn gwbl glir mai Satan y Diafol ydy’r “hen sarff,” neu neidr. Ond pwy ydy had y neidr?
5. Pwy ydy had y neidr?
5 Pan mae’r Beibl yn cyfeirio at had mewn ffordd ffigurol, mae’n cyfeirio at rywun sy’n efelychu rhywun arall yn agos iawn, fel mae plentyn yn efelychu ei dad. Felly yn fan hyn, had y neidr ydy’r angylion drwg a’r bobl sy’n efelychu Satan drwy wrthwynebu Jehofa a’i bobl. Mae hyn yn cynnwys yr angylion wnaeth gefnu ar eu bywydau yn y nef yn adeg Noa, yn ogystal â phobl ddrwg sy’n ymddwyn fel eu tad y Diafol.—Gen. 6:1, 2; Ioan 8:44; 1 Ioan 5:19; Jwd. 6.
6. Sut rydyn ni’n gwybod nad Efa ydy’r “wraig”?
6 Felly pwy ydy’r “wraig”? Nid Efa ydy hi oherwydd mae’r broffwydoliaeth yn dweud y byddai had y wraig yn “sathru” pen y neidr. Ac os mai Satan ydy’r neidr, fyddai disgynyddion Efa ddim yn gallu ei ddinistrio am eu bod nhw’n fodau dynol amherffaith. Roedd angen rhywun cryfach.
7. Yn ôl Datguddiad 12:1, 2, 5, 10, pwy ydy’r wraig yn Genesis 3:15?
7 Mae llyfr olaf y Beibl yn dweud wrthon ni pwy ydy’r wraig. (Darllen Datguddiad 12:1, BCND, 2, 5, 10.) Rydyn ni’n gweld nad ydy hi’n ddynes go iawn. Mae’r lleuad wrth ei thraed, ac mae ganddi goron o ddeuddeg seren ar ei phen. Mae hi’n cael plentyn, sef Teyrnas Dduw. Ond am fod y Deyrnas honno yn y nef, mae’n rhaid bod y wraig yn y nef hefyd. Felly, yn syml, mae’r wraig yn cynrychioli rhan nefol cyfundrefn Jehofa, sy’n cynnwys ei holl angylion ffyddlon.—Gal. 4:26.
8. Pwy ydy rhan bwysicaf had y wraig, ac ers pryd? (Genesis 22:15-18)
8 Mae’r Beibl yn ein helpu ni i weld pwy ydy rhan bwysicaf had y wraig. Byddai’r person hwnnw yn un o ddisgynyddion Abraham. (Darllen Genesis 22:15-18.) Roedd hynny’n wir yn achos Iesu. (Luc 3:23, 34) Ond er mwyn dinistrio Satan y Diafol, roedd yn rhaid i’r had fod yn fwy pwerus nag unrhyw fod dynol. Felly, pan oedd Iesu tua 30 mlwydd oedd, cafodd ei eneinio gan yr ysbryd glân, a dyna pryd daeth yn rhan bwysicaf had y wraig. (Gal. 3:16) Ar ôl iddo farw a chael ei atgyfodi, gwnaeth Duw ei “goroni ag ysblander ac anrhydedd,” a rhoi iddo “awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” Roedd hynny’n cynnwys yr awdurdod “i ddinistrio gwaith y diafol.”—Heb. 2:7; Math. 28:18; 1 Ioan 3:8.
9-10. (a) Pwy arall sy’n rhan o had y wraig, a phryd maen nhw’n dod yn rhan o’i had? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod nesaf?
9 Byddai eraill yn rhan o’r had hefyd. Cawn wybod pwy ydyn nhw o ddarllen beth ddywedodd Paul wrth Gristnogion eneiniog: “Os dych chi’n perthyn i’r Meseia, dych chi’n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi eu haddo.” (Gal. 3:28, 29) Pan mae Jehofa yn eneinio rhywun â’r ysbryd glân, mae’r person hwnnw’n dod yn rhan o had y wraig. Felly mae had y wraig yn cynrychioli Iesu Grist, a’r 144,000 a fydd yn rheoli gydag ef. (Dat. 14:1) Mae pob un o’r rhain yn efelychu eu Tad, Jehofa.
10 Nawr ein bod ni’n gwybod pwy ydy’r cymeriadau yn Genesis 3:15, gad inni weld beth mae Jehofa eisoes wedi ei wneud i gyflawni’r broffwydoliaeth hon, a sut mae hynny yn ein helpu ni heddiw.
SUT MAE’R BROFFWYDOLIAETH WEDI CAEL EI CHYFLAWNI?
11. Sut cafodd had y wraig ei daro yn ei sawdl?
11 Yn ôl Genesis 3:15, byddai’r neidr yn taro had y wraig yn “ei sawdl.” A dyna wnaeth Satan, pan ddefnyddiodd yr Iddewon a’r Rhufeiniaid i ladd Iesu. (Luc 23:13, 20-24) Fel mae rhywun sydd wedi brifo ei sawdl yn gorfod gorffwys am gyfnod, doedd Iesu ddim yn gallu gwneud unrhyw beth tra oedd yn y bedd am dridiau.—Math. 16:21.
12. Pryd a sut bydd pen y neidr yn cael ei sathru?
12 Mae proffwydoliaeth Genesis 3:15 yn dangos y byddai had y wraig yn sathru pen y neidr. Felly er mwyn gwneud hynny, allai Iesu ddim aros yn y bedd. Byddai’n rhaid i’r briw ar ei sawdl wella, fel petai. A dyna’n union ddigwyddodd pan gafodd ei atgyfodi i’r nef. A phan ddaw’r amser, bydd Iesu’n cael gwared ar Satan unwaith ac am byth. (Heb. 2:14, NWT) Bydd yr eneiniog yn gweithio gyda Iesu i ddileu holl elynion Duw, sef had y neidr, oddi ar wyneb y ddaear.—Dat. 17:14; 20:4, 10. d
SUT RYDYN NI’N ELWA O’R BROFFWYDOLIAETH HON?
13. Sut rydyn ni’n elwa o gyflawniad y broffwydoliaeth hon?
13 Mae pob un o weision Duw yn elwa o’r ffaith bod y broffwydoliaeth hon yn cael ei chyflawni. Daeth Iesu i’r ddaear fel dyn oedd yn adlewyrchu personoliaeth ei Dad yn berffaith. (Ioan 14:9) Felly oherwydd hynny, rydyn ni wedi dod i adnabod Jehofa Dduw a’i garu. Rydyn ni hefyd yn elwa o’r ffordd mae Iesu’n arwain y gynulleidfa heddiw. Mae wedi ein helpu ni i ddysgu’r gwir, ac i wybod sut i fyw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn elwa o farwolaeth Iesu, pan gafodd ei daro ar ei sawdl, am fod ei aberth wedi ein “glanhau ni o bob pechod.”—1 Ioan 1:7.
14. Pam na allai proffwydoliaeth Jehofa yng ngardd Eden fod wedi cael ei chyflawni’n syth?
14 Mae’r hyn a ddywedodd Jehofa yng ngardd Eden yn dangos na fyddai’r broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni yn syth. Pam? Oherwydd y byddai’n cymryd amser i had y wraig ymddangos, i’r Diafol gasglu ei ddilynwyr, ac i’r ddau grŵp ddod i gasáu ei gilydd. Mae’r broffwydoliaeth hon hefyd yn ein helpu ni i ddeall y byddai’r byd o dan reolaeth Satan yn casáu pobl Jehofa. Gwnaeth Iesu ategu hyn pan ddywedodd rywbeth tebyg wrth ei ddisgyblion. (Marc 13:13; Ioan 17:14) Ac mae hynny’n sicr wedi dod yn wir, yn enwedig yn ystod y can mlynedd diwethaf. Sut?
15. Pam mae’r byd yn ein casáu ni’n fwy nag erioed, ond pam dydyn ni ddim yn poeni?
15 Yn fuan ar ôl i Iesu ddod yn Frenin ym 1914, cafodd Satan ei daflu i lawr o’r nef i’r ddaear. A dyna lle mae wedi gorfod aros ers hynny, gan wybod yn iawn y bydd yn cael ei ddinistrio yn y pen draw. (Dat. 12:9, 12) Mae wedi gwylltio’n lân, ac felly mae’n benderfynol o gwffio tan y diwedd, a gwneud i bobl Dduw ddioddef. (Dat. 12:13, 17) Dyna pam mae byd Satan yn ein casáu ni’n fwy nag erioed. Ond dydyn ni ddim yn poeni, oherwydd fel dywedodd Paul: “Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy’n ein herbyn ni!” (Rhuf. 8:31) Mae’n amlwg felly fod y rhan fwyaf o Genesis 3:15 eisoes wedi ei chyflawni. Onid ydy hynny yn cryfhau ein hyder yn Jehofa?
16-18. Sut mae Curtis, Ursula, a Jessica wedi elwa o ddeall Genesis 3:15?
16 Gall addewid Jehofa yn Genesis 3:15 ein helpu ni i wynebu unrhyw dreial. Dywedodd Curtis, sydd yn genhadwr yn Gwâm: “Mae treialon wedi codi yn fy mywyd sydd wedi ei gwneud hi’n anodd imi aros yn ffyddlon i Jehofa. Ond mae meddwl am y broffwydoliaeth yn Genesis 3:15 wedi helpu fi i aros yn gryf ac i drystio Jehofa.” Mae Curtis yn edrych ymlaen at y diwrnod y bydd Jehofa yn dod â’n treialon i gyd i ben.
17 Gwnaeth Genesis 3:15 brofi i Ursula, chwaer o Bafaria, fod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Roedd hi’n rhyfeddu ar y ffordd roedd pob proffwydoliaeth arall yn cysylltu â’r broffwydoliaeth hon. Dywedodd hi: “Dw i’n caru Jehofa’n fwy byth am ei fod wedi gwneud rhywbeth yn syth bin er mwyn rhoi gobaith inni.”
18 Dywedodd Jessica, o Feicronesia: “Dw i’n cofio fel ddoe sut o’n i’n teimlo pan wnes i sylweddoli mod i wedi ffeindio’r gwir. Roedd yn amlwg imi fod y broffwydoliaeth yn Genesis 3:15 yn cael ei chyflawni. Dyna sydd wedi fy helpu i gofio mai nid fel hyn roedd Jehofa yn bwriadu inni fyw. Oherwydd y broffwydoliaeth honno, dw i’n credu i’r carn, os ydw i’n gwasanaethu Jehofa, bydda i’n byw’r bywyd gorau nawr, ac yn cael bywyd gwell byth yn y dyfodol.”
19. Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd rhan olaf y broffwydoliaeth hefyd yn cael ei chyflawni?
19 Fel rydyn ni wedi gweld, mae Genesis 3:15 wrthi’n cael ei chyflawni. Rydyn ni’n gwybod yn union pwy ydy had y wraig a had y neidr. Daeth Iesu, prif ran had y wraig, dros yr anaf i’w sawdl, ac mae bellach yn Frenin pwerus, anfarwol. Mae Jehofa bron iawn â gorffen dewis yr eneiniog, sef ail ran had y wraig. Am fod y rhan fwyaf o’r broffwydoliaeth hon eisoes wedi ei chyflawni, gallwn ni fod yn sicr y bydd gweddill y broffwydoliaeth yn dod yn wir, sef sathru pen y neidr. Bydd pobl Jehofa wrth eu boddau pan gaiff Satan ei ddinistrio! Ond yn y cyfamser, rydyn ni’n dal ati. Rydyn ni’n trystio Jehofa, a fydd, drwy had y wraig, yn dod â bendithion di-rif i ‘genhedloedd y byd i gyd.’—Gen. 22:18.
CÂN 23 Jehofa yn Dechrau Rheoli
a Allwn ni ddim deall neges y Beibl yn iawn oni bai ein bod ni’n deall y broffwydoliaeth yn Genesis 3:15. Gall ei hastudio gryfhau ein ffydd yn Jehofa, a’n gwneud ni’n fwy sicr byth y bydd yn cyflawni pob un o’i addewidion.
b Gweler “Neges y Beibl,” yn y llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw.
c Gweler y blwch “Cymeriadau Genesis 3:14, 15.”
d Gweler y blwch “ Digwyddiadau Pwysig Sy’n Rhan o Gyflawniad Genesis 3:15.”