Cwestiynau Ein Darllenwyr
A ddylai Tystion Jehofa ddefnyddio gwefannau canlyn neu apiau dêtio i gael hyd i gymar?
Mae Jehofa’n sicr eisiau i ddau berson sy’n priodi fod yn hapus a mwynhau perthynas agos sy’n para. (Math. 19:4-6) Os wyt ti eisiau priodi, sut gelli di fynd ati i ffeindio cymar da? Gan fod Jehofa wedi ein creu ni, mae’n gwybod yn union beth sy’n arwain at briodas hapus. Felly, os wnei di roi ei egwyddorion ar waith, mi gei di’r canlyniadau gorau. Ystyria rai o’r egwyddorion hynny.
Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ddeall rhywbeth am y galon: “Mae’n fwy twyllodrus na dim.” (Jer. 17:9) Pan fydd dau berson yn cyfarfod ac yn dechrau canlyn, mae teimladau cryf yn gallu datblygu’n sydyn a’i gwneud hi’n anodd iddyn nhw wneud penderfyniadau doeth. Pan fydd pobl yn priodi ar sail emosiwn yn bennaf, maen nhw’n aml yn cael eu brifo a’u siomi. (Diar. 28:26) Dyna pam dydy hi ddim yn beth doeth i ddau berson sôn am y teimladau dwfn sydd ganddyn nhw tuag at ei gilydd yn fuan yn y berthynas, neu wneud addewidion cyn iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd go iawn.
Mae Diarhebion 22:3 yn dweud: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.” Beth all fod yn beryglus am ddefnyddio gwefannau canlyn? Yn anffodus mae rhai wedi dysgu o brofiad chwerw fod pobl ddieithr wnaethon nhw gyfarfod ar lein wedi cymryd mantais ohonyn nhw’n emosiynol. Hefyd mae pobl anonest wedi creu cyfrifon ffug er mwyn twyllo pobl ddiniwed a dwyn eu harian. Ar brydiau, mae’r bobl anonest hyn wedi honni eu bod nhw’n Dystion.
Ystyria risg arall. Mae rhai gwefannau canlyn yn defnyddio algorithmau mathemategol, sydd i fod i weithio allan pwy fydd yn gwneud cwpl da. Ond does ’na ddim tystiolaeth sy’n dangos bod dulliau o’r fath yn gweithio. A fyddai’n ddoeth i drystio fformiwla wedi ei gwneud gan ddynion i wneud penderfyniad ynglŷn â rhywbeth mor bwysig â phriodi? Sut gall fformiwlâu mathemategol gymharu ag egwyddorion y Beibl?—Diar. 1:7; 3:5-7.
Mae’r egwyddor yn Diarhebion 14:15 yn dweud: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.” Cyn penderfynu a fydd rhywun yn gwneud cymar da, bydd angen iti ddod i adnabod y person yn dda. Ond gall cyfarfod ar lein wneud hynny’n anodd. Hyd yn oed os ydych chi’n gallu gweld proffil neu fanylion eich gilydd, ac yn treulio llawer o amser yn anfon negeseuon, a elli di ddweud mewn gwirionedd dy fod ti’n adnabod y person? Mae rhai oedd yn meddwl eu bod nhw wedi ffeindio gwir gariad wedi cael sioc ar ôl treulio amser gyda’r unigolyn wyneb yn wyneb.
Dywedodd y salmydd: “Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy’n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy’n anonest.” (Salm 26:4) Mae llawer yn meddwl ei bod yn normal i ddweud celwydd i wneud eu hunain edrych yn well ar eu proffil dêtio. Efallai byddan nhw’n cuddio eu gwir gymeriad neu efallai fydd eu gwendidau ddim yn amlwg ar lein. Er bod rhai pobl yn dweud eu bod nhw’n Dystion Jehofa, ydyn nhw wedi cael eu bedyddio? Ydyn nhw’n ysbrydol aeddfed? A oes ganddyn nhw berthynas bersonol â Jehofa? Oes ganddyn nhw enw da yn y gynulleidfa? Neu ydyn nhw’n gwneud pethau annoeth neu’n ‘gwmni drwg’ hyd yn oed? (1 Cor. 15:33; 2 Tim. 2:20, 21) Ac ydyn nhw’n rhydd yn Ysgrythurol i briodi? Rwyt ti angen gwybod y pethau ’ma, ond gall hynny fod yn anodd os nad wyt ti’n holi Tystion eraill sy’n adnabod yr unigolyn yn dda. (Diar. 15:22) Ac wrth gwrs fyddai un o weision ffyddlon Jehofa ddim hyd yn oed yn meddwl am briodi rhywun sydd ddim yn Dyst.—1 Cor. 7:39; 2 Cor. 6:14.
Wrth ystyried y peryglon sydd ynghlwm wrth ddefnyddio gwefannau canlyn, mae ’na ffyrdd gwell o edrych am gymar a meithrin perthynas â rhywun allet ti ei briodi. Lle gelli di gyfarfod rhywun a allai fod yn gymar da? Pan fydd yn bosib cyfarfod â’n gilydd wyneb yn wyneb, gelli di ddod i adnabod eraill drwy fynd i gyfarfodydd y gynulleidfa, cynulliadau, cynadleddau, a thrwy gymdeithasu fel grŵp.
Pan nad ydyn ni’n cael cymysgu â’n gilydd, fel yn ystod y pandemig COVID-19, rydyn ni’n defnyddio adnoddau electronig i fynd i gyfarfodydd y gynulleidfa, a gall hynny fod yn gyfle i ddod i adnabod Tystion sengl eraill. Gelli di weld sut maen nhw’n cymryd rhan yn y cyfarfodydd a gwrando arnyn nhw’n mynegi eu ffydd. (1 Tim. 6:11, 12) Efallai gewch chi gyfle i siarad â’ch gilydd mewn breakout room ar ôl y cyfarfod. Drwy gymdeithasu’n rhithiol gyda grwpiau o Dystion, gelli di weld sut mae’r person mae gen ti ddiddordeb ynddo yn trin eraill, a gall hynny ddatgelu ei wir gymeriad. (1 Pedr 3:4) Ymhen amser, unwaith ichi ddod i adnabod eich gilydd yn well, byddi di’n gweld os ydy eich amcanion a’ch gwerthoedd yn debyg ac os ydy’r ddau ohonoch chi yn addas i’ch gilydd.
Pan fydd pobl sengl yn dilyn egwyddorion y Beibl wrth chwilio am gymar, byddan nhw’n fwy tebygol o gael priodas hapus, yn union fel mae’r ddihareb yn dweud: “Mae’r dyn [neu ddynes] sydd wedi ffeindio gwraig [neu ŵr] yn hapus; mae’r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato [neu ati].”—Diar. 18:22.