ERTHYGL ASTUDIO 27
Paid â Meddwl Gormod Ohonot Ti Dy Hun
“Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun.”—RHUF. 12:3.
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
CIPOLWG *
1. Yn ôl Philipiaid 2:3, sut mae gostyngeiddrwydd yn hyrwyddo perthynas dda ag eraill?
ILDIWN yn ostyngedig i safonau Jehofa, gan sylweddoli bod Jehofa wastad yn gwybod beth sydd orau inni. (Eff. 4:22-24) Mae gostyngeiddrwydd yn ein hysgogi i roi ewyllys Jehofa o flaen ein hewyllys ein hunain ac i ystyried eraill yn bwysicach na ni. O ganlyniad, rydyn ni’n mwynhau perthynas dda â Jehofa a’n brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa.—Darllen Philipiaid 2:3.
2. Beth gwnaeth yr apostol Paul ei gydnabod, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
2 Os nad ydyn ni’n ofalus, gall pobl falch a hunanol byd Satan ddylanwadu arnon ni. * Mae’n ymddangos bod hynny wedi digwydd i rai Cristnogion cynnar, am fod Paul wedi dweud wrth y Rhufeiniaid: “Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun.” (Rhuf. 12:3) Gwnaeth Paul gydnabod ein bod ni angen rhywfaint o hunan-barch. Ond, bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu i gadw agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut y gall gostyngeiddrwydd ein helpu ni osgoi meddwl gormod ohonon ni’n hunain yn (1) ein priodas, (2) ein cyfrifoldebau yng nghyfundrefn Jehofa, a (3) ein defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
DANGOSA OSTYNGEIDDRWYDD YN DY BRIODAS
3. Pam gall problemau godi mewn priodas, a sut mae rhai yn ceisio datrys y problemau hynny?
3 Creodd Jehofa’r briodas er mwyn i ŵr a gwraig gael 1 Cor. 7:28) Mae rhai yn ffeindio eu bod nhw wastad yn ffraeo â’u cymar, ac yn dechrau meddwl na ddylen nhw fod wedi priodi yn y lle cyntaf. Os ydy’r byd wedi dylanwadu arnyn nhw, yna byddan nhw’n neidio i’r casgliad mai ysgariad yw’r ateb. Byddan nhw’n teimlo mai’r peth pwysicaf yw gofalu amdanyn nhw eu hunain.
bod yn hapus gyda’i gilydd. Ond does neb yn berffaith, felly mae’n debyg y byddan nhw’n anghytuno weithiau. Mewn gwirionedd, ysgrifennodd Paul y gall y rhai sy’n priodi ddisgwyl rhywfaint o broblemau. (4. Beth dylen ni ei osgoi?
4 Mae rhaid inni osgoi diflasu ar ein priodas. Fe wyddon ni’n iawn mai anfoesoldeb rhywiol yw’r unig reswm Ysgrythurol dros ysgaru. (Math. 5:32) Felly, pan fydd problemau’n codi yn y briodas, ddylen ni ddim gadael i falchder achosi inni feddwl: ‘Dydy fy nghymar yn malio dim amdana i. Dw i’n haeddu mwy o gariad na hyn. Efallai byddwn i’n hapusach gyda rhywun arall.’ Sylwa fod y pwyslais i gyd ar y fi. Byddai doethineb y byd yn dweud wrthot ti: ‘Dilyna dy galon a gwna beth sy’n dy wneud di yn hapus, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu rhoi terfyn ar y briodas.’ Ond mae doethineb Duw’n dweud: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.” (Phil. 2:4) Mae Jehofa eisiau iti gadw dy briodas, nid dod â hi i ben. (Math. 19:6) Mae ef yn dymuno iti feddwl amdano ef yn gyntaf, nid ti dy hun.
5. Yn ôl Effesiaid 5:33, sut dylai gŵr a gwraig drin ei gilydd?
5 Dylai gŵr a gwraig drin ei gilydd gyda chariad a pharch. (Darllen Effesiaid 5:33.) Mae’r Beibl yn ein dysgu i ganolbwyntio ar roi yn hytrach na derbyn. (Act. 20:35) Pa rinwedd fydd yn helpu cwpl priod i ddangos cariad a pharch? Yr ateb yw gostyngeiddrwydd. Bydd gwŷr a gwragedd gostyngedig yn ceisio lles y llall, nid eu lles eu hunain.—1 Cor. 10:24.
6. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau Steven a Stephanie?
6 Mae gostyngeiddrwydd wedi helpu llawer o gyplau Cristnogol i fod yn hapusach yn eu priodas. Er enghraifft, dywedodd gŵr o’r enw Steven: “Os ydych chi’n dîm, byddwch chi’n gweithio gyda’ch gilydd, yn enwedig pan fydd ’na broblemau. Yn lle meddwl ‘beth sydd orau i mi?’ byddwch yn meddwl ‘beth sydd orau i ni?’” Mae ei wraig Stephanie o’r un farn. Dywedodd hi: “Does neb eisiau byw gyda rhywun sy’n dadlau bob munud. Pan fyddwn ni’n anghytuno, byddwn ni’n ceisio ffeindio beth oedd wrth wraidd y broblem. Wedyn byddwn ni’n gweddïo, gwneud ymchwil, a thrafod sut i ddatrys y mater. Byddwn ni’n ymosod ar y broblem, nid ar ein gilydd.” Bydd gwŷr a gwragedd yn hapusach os byddan nhw’n osgoi meddwl eu bod yn bwysicach na’u cymar.
GWASANAETHA JEHOFA YN OSTYNGEDIG
7. Pa agwedd dylai brawd ei chael pan fydd yn derbyn aseiniad?
7 Rydyn ni’n ei hystyried yn fraint i wasanaethu Jehofa mewn unrhyw ffordd y gallwn ni. (Salm 27:4; 84:10) Os yw brawd yn fodlon gwneud mwy yng nghyfundrefn Jehofa, mae hynny’n ganmoladwy. Ac mae’r Beibl yn dweud: “Pwy bynnag sydd â’i fryd ar swydd arolygydd, y mae’n chwennych gwaith rhagorol.” (1 Tim. 3:1, BCND) Fodd bynnag, pan fydd yn derbyn aseiniad, ni ddylai feddwl bod hynny’n ei wneud yn berson pwysig. (Luc 17:7-10) Dylai ganolbwyntio ar wasanaethu eraill yn ostyngedig.—2 Cor. 12:15.
8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth esiamplau Diotreffes, Wseia, ac Absalom?
8 Mae’r Beibl yn cynnwys esiamplau rhybuddiol o bobl a oedd yn meddwl gormod ohonyn nhw’u hunain. Doedd Diotreffes ddim yn wylaidd. Ceisiodd fod “yn geffyl blaen” yn y gynulleidfa. (3 Ioan 9) Roedd Wseia yn falch a cheisiodd wneud rhywbeth nad oedd Jehofa wedi ei aseinio iddo. (2 Cron. 26:16-21) Roedd Absalom eisiau bod yn frenin, ac felly aeth ati’n slei i geisio ennill cefnogaeth y bobl. (2 Sam. 15:2-6) Mae’r esiamplau hynny yn dangos yn glir nad yw’n plesio Jehofa pan fydd pobl yn ceisio eu gogoniant eu hunain. (Diar. 25:27) Yn y pen draw, mae balchder ac uchelgais yn arwain at drychineb.—Diar. 16:18.
9. Pa esiampl a osododd Iesu?
9 Yn wahanol i’r esiamplau rhybuddiol hynny, ystyria Iesu. “Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio.” (Phil. 2:6, BCND) Er mai Jehofa yn unig sy’n uwch nag ef, dydy Iesu ddim yn meddwl gormod ohono’i hun. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Pwy bynnag sy’n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy’r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.” (Math. 18:4) Am fendith yw gwasanaethu gydag arloeswyr, gweision gweinidogaethol, henuriaid, ac arolygwyr cylchdaith, sy’n efelychu gostyngeiddrwydd Iesu! Mae gweision gostyngedig Jehofa yn cyfrannu at yr ysbryd cariadus sy’n dynodi cyfundrefn Jehofa.—Ioan 13:35.
10. Beth dylet ti ei wneud os wyt ti’n teimlo nad yw’r henuriaid yn delio â phroblemau yn y gynulleidfa yn iawn?
10 Beth petai’n ymddangos bod ’na broblemau yn y gynulleidfa a dy fod yn teimlo nad yw’r henuriaid yn delio â nhw’n iawn? Yn hytrach na chwyno, gelli di ddangos gostyngeiddrwydd drwy gefnogi’r rhai sy’n arwain. (Heb. 13:17) I dy helpu di i wneud hynny, gofynna i ti dy hun: ‘A ydy’r problemau mor ddifrifol eu bod nhw angen eu cywiro? Ai dyma’r adeg orau i’w cywiro nhw? Ai fy lle i yw eu cywiro nhw? Ac i fod yn onest, ydw i o ddifri’n ceisio hyrwyddo undod, neu ydw i’n ceisio rhoi fy hun ar bedestal?’
11. Yn ôl Effesiaid 4:2, 3, beth yw’r canlyniadau o wasanaethu Jehofa gyda gostyngeiddrwydd?
11 Mae Jehofa yn gwerthfawrogi gostyngeiddrwydd yn fwy na galluoedd, ac undod yn fwy nag effeithlonrwydd. Felly, gwna dy orau glas i wasanaethu Jehofa gyda gostyngeiddrwydd. Drwy wneud hynny, byddi di’n hyrwyddo undod yn y gynulleidfa. (Darllen Effesiaid 4:2, 3.) Bydda’n selog yn y weinidogaeth. Edrycha am ffyrdd i helpu eraill drwy wneud pethau caredig drostyn nhw. Bydda’n lletygar tuag at bawb, gan gynnwys y rhai sydd heb gyfrifoldebau yn y gynulleidfa. (Math. 6:1-4; Luc 14:12-14) Wrth iti weithio’n ostyngedig gyda’r gynulleidfa bydd eraill yn sylwi ar dy alluoedd, ond yn fwy na hynny, byddan nhw’n sylwi ar dy ostyngeiddrwydd.
DEFNYDDIA GYFRYNGAU CYMDEITHASOL YN OSTYNGEDIG
12. Ydy’r Beibl yn ein hannog i gael ffrindiau? Esbonia.
12 Mae Jehofa eisiau inni fwynhau cymdeithasu gyda’n teulu a’n ffrindiau. (Salm 133:1) Roedd gan Iesu ffrindiau da. (Ioan 15:15) Mae’r Beibl yn disgrifio sut rydyn ni’n elwa o gael ffrindiau go iawn. (Diar. 17:17; 18:24) Ac mae’n dweud wrthon ni nad yw’n beth da inni ynysu ein hunain. (Diar. 18:1) Mae llawer yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o gael llawer o ffrindiau ac osgoi teimlo’n unig. Ond, mae angen inni fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r dull hwn o gyfathrebu.
13. Pam mae rhai sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn teimlo’n unig ac yn isel?
13 Mae ymchwil wedi dangos fod pobl sy’n treulio llawer o amser yn sgrolio drwy luniau a sylwadau mae eraill wedi postio ar lein, yn gallu teimlo’n unig ac yn isel yn y pen draw. Pam? Un rheswm ydy bod pobl yn aml yn postio lluniau sy’n dangos uchafbwyntiau eu bywydau; y lluniau gorau ohonyn nhw eu hunain, eu ffrindiau, a’r llefydd cyffrous maen nhw wedi bod. Gall rhywun sy’n edrych ar y lluniau hynny ddod i’r casgliad fod eu bywyd nhw braidd yn ddiflas o’i gymharu. Mae chwaer 19 oed yn cyfaddef, “Dechreuais deimlo’n anhapus pan welais i eraill yn cael cymaint o hwyl ar y penwythnosau a finnau gartref wedi diflasu’n llwyr.”
14. Sut gall cyngor y Beibl yn 1 Pedr 3:8 ein helpu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddoeth?
14 Wrth gwrs, gallwn ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er da—er enghraifft, i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. A wyt ti wedi sylwi fod rhai pobl yn postio pethau ar lein i wneud iddyn nhw eu hunain edrych yn dda? Mae’n ymddangos eu bod nhw eisiau cyfleu’r neges, “edrycha arna i.” Mae rhai hyd yn oed yn defnyddio iaith anweddus wrth adael sylwadau ar eu lluniau eu hunain neu luniau pobl eraill. Mae hyn hefyd yn mynd yn groes i’r gostyngeiddrwydd a’r cydymdeimlad mae Cristnogion yn cael eu hannog i’w meithrin.—Darllen 1 Pedr 3:8.
15. Sut gall y Beibl ein helpu ni i osgoi agwedd hunanbwysig?
15 Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gofynna i ti dy hun: ‘A allai’r sylwadau, y lluniau, neu’r fideos dw i’n eu postio roi’r argraff i eraill fy mod i’n brolio? Ydy hi’n bosib fy mod i’n gwneud eraill yn genfigennus?’ Mae’r Beibl yn dweud: “Y cwbl mae’r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi’i gyflawni. O’r byd mae pethau felly’n dod, ddim oddi wrth y Tad.” (1 Ioan 2:16) Mae un cyfieithiad o’r Beibl yn trosi’r ymadrodd “brolio am beth sydd gynnon ni” fel “eisiau ymddangos yn bwysig.” Dydy Cristnogion ddim yn teimlo’r angen i fod yn bwysig na chael eu hedmygu gan eraill. Maen nhw’n dilyn cyngor y Beibl: “Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.” (Gal. 5:26) Bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu i osgoi cael ein rhwydo gan ysbryd balch a hunanbwysig y byd.
BYDDA’N ONEST GYDA TI DY HUN
16. Pam dylen ni osgoi balchder?
16 Mae rhaid inni feithrin gostyngeiddrwydd oherwydd dydy’r rhai sy’n falch ddim yn onest gyda nhw eu hunain o ran eu galluoedd. (Rhuf. 12:3) Mae pobl falch yn gwerylgar ac yn meddwl gormod ohonyn nhw eu hunain. Mae eu ffordd o feddwl ac ymddwyn yn aml yn achosi poen iddyn nhw eu hunain ac i eraill. Os na fyddan nhw’n newid eu ffordd o feddwl, gallan nhw gael eu llygru a’u dallu’n feddyliol gan Satan. (2 Cor. 4:4; 11:3) Ar y llaw arall, mae rhywun gostyngedig yn onest gyda’i hun. Mae ganddo feddwl cytbwys a rhesymol ohono’i hun, ac mae’n cydnabod bod eraill yn well nag ef mewn llawer o ffyrdd. (Phil. 2:3) Ac mae’n gwybod bod “Duw yn gwrthwynebu pobl falch ond mae’n hael at y rhai gostyngedig.” (1 Pedr 5:5) Dydy rhywun gydag agwedd felly ddim eisiau Jehofa yn elyn iddo.
17. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i aros yn ostyngedig?
17 Er mwyn aros yn ostyngedig, rhaid inni ddilyn cyngor y Beibl a ‘rhoi heibio’r hen fywyd a’i ffyrdd a gwisgo’r bywyd newydd.’ Mae hynny’n gofyn am ymdrech fawr. Rydyn ni angen astudio esiampl Iesu a cheisio ei efelychu mor agos â phosib. (Col. 3:9, 10; 1 Pedr 2:21) Ond mae’n werth yr ymdrech. Wrth inni feithrin gostyngeiddrwydd, bydd ein bywyd teuluol yn hapusach, byddwn ni’n hybu undod yn y gynulleidfa, a byddwn ni’n gwybod sut i osgoi defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd negyddol. Yn fwy na dim, byddwn ni’n ennill ffafr Jehofa a’i fendith.
CÂN 117 Rhinwedd Daioni
^ Par. 5 Heddiw, rydyn ni’n byw mewn byd sy’n llawn pobl falch a hunanol. Rhaid inni fod yn ofalus rhag iddyn nhw ddylanwadu arnon ni. Bydd yr erthygl hon yn trafod tair ffordd y gallwn ni osgoi meddwl gormod ohonon ni’n hunain.
^ Par. 2 ESBONIADAU: Mae rhywun balch yn tueddu meddwl mwy ohono’i hun nag eraill. Felly, mae rhywun balch yn hunanol. Ar y llaw arall, mae gostyngeiddrwydd yn helpu rhywun i fod yn anhunanol. Dydy rhywun gostyngedig ddim yn falch nac yn meddwl mai ef yw’r person pwysicaf.
^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae henuriad sydd â’r gallu i siarad mewn cynhadledd, ac i arolygu brodyr eraill, hefyd yn gwerthfawrogi’r fraint o arwain yn y weinidogaeth a glanhau Neuadd y Deyrnas.