ERTHYGL ASTUDIO 18
Sut i Osod Amcanion Ysbrydol a’u Cyrraedd
“Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti’n dod yn dy flaen.”—1 TIM. 4:15.
CÂN 84 Rhown Help Llaw
CIPOLWG a
1. Pa fath o amcanion ysbrydol gallwn ni eu gosod?
RYDYN ni eisiau gwneud ein gorau glas i Jehofa am ein bod ni’n ei garu. Ond os ydyn ni am gyrraedd ein llawn botensial, rydyn ni angen gosod amcanion ysbrydol, fel meithrin rhinweddau Cristnogol, dysgu sgiliau defnyddiol, neu wneud mwy i helpu eraill. b
2. Pam dylen ni osod amcanion ysbrydol a gweithio’n galed i’w cyrraedd?
2 Pam dylen ni fod eisiau gwneud cynnydd ysbrydol? Yn bennaf am ein bod ni eisiau plesio Jehofa. Mae ef wrth ei fodd pan ydyn ni’n gwneud defnydd da o’n sgiliau a’n doniau yn ei wasanaeth. Ar ben hynny, rydyn ni’n awyddus i wneud mwy i helpu ein brodyr a chwiorydd. (1 Thes. 4:9, 10) Gall pob un ohonon ni wneud cynnydd ysbrydol, ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn y gwir. Gad inni weld sut gallwn ni wneud hynny.
3. Yn ôl 1 Timotheus 4:12-16, beth gwnaeth yr apostol Paul annog Timotheus i’w wneud?
3 Er roedd Timotheus yn ifanc, roedd ef eisoes yn henuriad profiadol pan wnaeth yr apostol Paul ysgrifennu ei lythyr cyntaf ato. Ond eto, gwnaeth Paul ei annog i ddal ati i wneud cynnydd ysbrydol. (Darllen 1 Timotheus 4:12-16.) Wrth iti ddarllen geiriau Paul, wnei di sylwi ei fod eisiau i Timotheus wneud cynnydd mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, drwy fyw bywyd glân a meithrin rhinweddau Cristnogol, fel cariad a ffydd. Ac yn ail, drwy wella sgiliau fel darllen yn gyhoeddus, ac annog a dysgu eraill. Wrth drafod esiampl Timotheus, gad inni weld sut gall gosod amcanion rhesymol ein helpu ni i wneud cynnydd ysbrydol. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni wneud mwy yn y weinidogaeth.
MEITHRIN RHINWEDDAU CRISTNOGOL
4. Yn ôl Philipiaid 2:19-22, pam roedd Timotheus yn ddefnyddiol i Jehofa?
4 Rhinweddau Cristnogol hyfryd Timotheus oedd yn ei wneud yn ddefnyddiol i Jehofa. (Darllen Philipiaid 2:19-22.) O’r ffordd gwnaeth Paul ddisgrifio Timotheus, rydyn ni’n gweld ei fod yn ostyngedig, yn ffyddlon, yn weithgar, ac yn ddibynadwy. Ac yn amlwg roedd ganddo gonsýrn dros ei frodyr a chwiorydd, ac roedd yn eu caru nhw’n fawr. Does dim syndod bod Paul wedi meddwl yn uchel o Timotheus, ac wedi ei drystio ag aseiniadau anodd. (1 Cor. 4:17) Mewn ffordd debyg, pan fyddwn ni’n meithrin rhinweddau Cristnogol, bydd Jehofa yn ein caru ni’n fwy byth a byddwn ni’n fwy defnyddiol i’r gynulleidfa.—Salm 25:9; 138:6.
5. (a) Sut gelli di benderfynu pa rinwedd i’w meithrin? (b) Sut mae’r chwaer iau yn y llun yn gweithio ar ei nod o ddangos empathi tuag at eraill?
5 Dewisa nod penodol. Bydda’n onest gyda ti dy hun a gofynna i Jehofa am help i weld pa rannau o dy bersonoliaeth rwyt ti angen eu gwella. Dewisa un rinwedd benodol i weithio arni. Er enghraifft, a wyt ti eisiau dangos mwy o empathi, neu helpu dy frodyr a chwiorydd yn fwy? Neu a wyt ti eisiau gwella o ran cadw heddwch ag eraill a bod yn barod i faddau? Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i ofyn i ffrind lle gelli di wella.—Diar. 27:6.
6. Sut gelli di feithrin rhinwedd benodol?
6 Gweithia tuag at dy nod. Un ffordd gallet ti wneud hynny yw drwy wneud prosiect astudio ar y rhinwedd benodol rwyt ti eisiau ei gwella. Dyweda dy fod ti eisiau bod yn fwy parod i faddau. Mae darllen am rai yn y Beibl oedd yn barod i faddau, a’r rhai oedd ddim, a myfyrio ar eu hesiamplau yn fan cychwyn da. Er enghraifft, gallet ti gymharu esiampl Iesu ag esiampl y Phariseaid. Roedd Iesu yn maddau’n hael ac yn gweld potensial pobl. (Luc 7:47, 48) Ar y llaw arall, roedd y Phariseaid yn “edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall.” (Luc 18:9) Ar ôl myfyrio ar yr esiamplau hynny, gofynna i ti dy hun: ‘Beth ydw i’n ei weld yn eraill? Ydw i’n canolbwyntio ar eu cryfderau neu eu gwendidau?’ Os wyt ti’n cael trafferth maddau i rywun, gwna restr o’i rinweddau da. Yna, gofynna i ti dy hun: ‘Sut mae Iesu yn teimlo am y person hwn? A fyddai ef yn maddau iddo?’ Gall gwneud prosiect o’r fath ein helpu ni i newid ein hagwedd a chyrraedd ein nod. Bydd rhoi hyn ar waith yn gofyn am ymdrech i ddechrau, ond mae’n bwysig dal ati i weithio tuag at dy nod. Wedyn yn y pen draw bydd hi’n haws inni faddau i eraill.
DYSGA SGILIAU DEFNYDDIOL
7. Yn unol â Diarhebion 22:29, sut mae Jehofa yn defnyddio gweithwyr medrus heddiw?
7 A allet ti osod y nod o ddysgu sgìl newydd? Meddylia am yr holl adeiladau Bethel, Neuaddau Cynulliad, a Neuaddau’r Deyrnas sydd angen eu hadeiladu. Mae ’na wastad angen am fwy o weithwyr ar gyfer prosiectau fel hyn. Gwnaeth llawer o’r brodyr a chwiorydd sy’n gweithio arnyn nhw ddysgu eu sgiliau oddi wrth frodyr a chwiorydd profiadol. A dyna’n union sy’n digwydd yn y llun. Dyma un ffordd mae Jehofa Dduw, y “Brenin am byth,” ac Iesu Grist, “Brenin y brenhinoedd,” yn defnyddio ein sgiliau i wneud pethau mawr. (1 Tim. 1:17; 6:15, BCND; darllen Diarhebion 22:29.) Felly er ei fod yn gofyn am waith caled, mae defnyddio ein sgiliau i ddod â chlod i Jehofa, yn hytrach na ni’n hunain, yn beth hynod o arbennig.—Ioan 8:54.
8. Sut gelli di benderfynu pa sgìl i’w dysgu?
8 Dewisa nod penodol. Pa sgìl gallet ti ei gwella? Beth am ofyn i’r henuriaid yn dy gynulleidfa, ac efallai arolygwr dy gylchdaith, am eu barn nhw? Os ydyn nhw’n awgrymu dy fod ti’n gwella dy sgiliau siarad a dysgu er enghraifft, gofynna iddyn nhw am help i wybod pa sgìl benodol sydd angen sylw. Yna, bwrw iddi. Sut?
9. Sut gelli di ddysgu sgìl newydd?
9 Gweithia tuag at dy nod. Dyweda dy fod ti eisiau gwella dy sgiliau dysgu. Gallet ti astudio’r llyfryn Ymroi i Ddarllen a Dysgu. Yna, pan gei di aseiniad yn y cyfarfod canol wythnos, gallet ti ofyn i frawd profiadol wrando ar dy anerchiad o flaen llaw, a rhoi awgrymiadau ar sut i wella. Gweithia’n galed fel dy fod ti’n ennill enw da, nid jest am dy sgiliau dysgu, ond hefyd am fod yn weithgar ac yn ddibynadwy.—Diar. 21:5; 2 Cor. 8:22.
10. Rho enghraifft o sut gallwn ni ddatblygu sgìl.
10 Ond beth os wyt ti eisiau datblygu sgìl sydd ddim yn dod yn naturiol iti? Paid â rhoi’r ffidil yn y to. Mae gan frawd o’r enw Garry gyflwr sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn iddo ddarllen. Roedd trio darllen yn uchel yn y cyfarfodydd yn arfer codi cywilydd arno, ond gwnaeth ef ddal ati. A bellach mae’n ddigon hyderus i roi anerchiadau yn y cyfarfodydd, cynulliadau, a hyd yn oed cynadleddau, oherwydd yr hyfforddiant mae ef wedi ei gael.
11. Fel Timotheus, beth bydd yn ein helpu ni i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa?
11 A wnaeth Timotheus ddod yn siaradwr da, neu’n athro gwych? Dydy’r Beibl ddim yn dweud, ond mae’n rhaid bod cyngor Paul wedi helpu Timotheus i wella yn ei aseiniad fesul tipyn. (2 Tim. 3:10) Yn yr un ffordd, os ydyn ni’n datblygu ein sgiliau, gallwn ni wneud mwy yn ein gwasanaeth i Jehofa.
CHWILIA AM FFYRDD I HELPU ERAILL
12. Sut mae dy frodyr a chwiorydd wedi dy helpu di dros y blynyddoedd?
12 Rydyn ni i gyd yn elwa o helpu ein gilydd. Er enghraifft, mae’n codi ein calonnau pan fydd rhai o henuriaid yr HLC, neu’r Grŵp Ymweld â Chleifion, yn dod i’n gweld ni yn yr ysbyty. A phan fyddwn ni’n wynebu heriau mewn bywyd, mae’n gysur mawr inni pan fydd henuriad yn cymryd yr amser i wrando arnon ni. A phan ydyn ni angen help gydag astudiaeth Feiblaidd, rydyn ni’n falch o gael cyngor ac awgrymiadau gan arloeswyr profiadol. Mae’r brodyr a chwiorydd hyn yn cael llawenydd mawr o’n helpu ni, a gallwn ni gael yr un fath o lawenydd drwy helpu eraill. Fel dywedodd Iesu: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Act. 20:35) Os wyt ti wedi gosod y nod o wneud mwy i helpu dy frodyr a chwiorydd, beth all dy helpu di i’w gyrraedd?
13. Beth dylen ni ei gofio wrth osod nod personol?
13 Mae ’na beryg o osod nod sy’n rhy gyffredinol. Er enghraifft, ‘Gwneud mwy yn y gynulleidfa.’ Ond gall fod yn anodd gwybod sut i gyrraedd nod o’r fath, heb sôn am wybod a wyt ti wedi ei gyrraedd neu ddim. Felly gwna’n siŵr dy fod ti’n dewis nod clir a phenodol. Beth am ysgrifennu’r nod i lawr, yn ogystal â chynllun o sut i’w gyrraedd?
14. Pam mae’n rhaid inni fod yn hyblyg wrth osod amcanion?
14 Weithiau, mae ein hamgylchiadau yn newid yn annisgwyl. Felly, mae angen bod yn hyblyg wrth osod nod. Meddylia beth ddigwyddodd i’r apostol Paul ar ôl iddo helpu i ffurfio cynulleidfa newydd yn Thesalonica. Mae’n debyg iawn roedd ganddo’r nod o aros yn Thesalonica i helpu ei frodyr a chwiorydd yno. Ond cafodd ei orfodi i adael y ddinas gan wrthwynebwyr. (Act. 17:1-5, 10) Byddai Paul wedi rhoi ei frodyr a chwiorydd mewn peryg petai wedi aros yno. Ond roedd yn dal yn benderfynol o’u helpu nhw, felly gwnaeth ef addasu i’w amgylchiadau newydd. Sut? Gwnaeth ef anfon Timotheus i roi help ysbrydol i’r Cristnogion newydd yn Thesalonica. (1 Thes. 3:1-3) Mae’n rhaid oedd y Thesaloniaid wrth eu boddau bod Timotheus yn barod i wasanaethu lle bynnag roedd angen!
15. Sut gall newidiadau annisgwyl effeithio ar ein hamcanion? Rho esiampl.
15 Efallai bydd dy amgylchiadau yn newid ar ddim, ac yn dy rwystro di rhag cyrraedd dy nod, fel digwyddodd i Paul yn Thesalonica. (Preg. 9:11) Ond fel Paul, gelli di ddewis nod sydd o fewn dy gyrraedd. Dyna’n union wnaeth cwpl o’r enw Ted a Hiedi. Roedd rhaid iddyn nhw adael Bethel oherwydd problem iechyd. Ond am eu bod nhw’n caru Jehofa, dyma nhw’n edrych am ffyrdd eraill i wneud mwy yn y weinidogaeth. Yn gyntaf, dechreuon nhw arloesi’n llawn amser. Yn hwyrach ymlaen, daethon nhw’n arloeswyr arbennig, a chafodd Ted ei hyfforddi i fod yn ddirprwy arolygwr y gylchdaith. Wedyn, dyma’r gofynion oed ar gyfer arolygwyr cylchdaith yn newid, a sylweddolodd Ted a Hiedi eu bod nhw bellach yn rhy hen ar gyfer yr aseiniad hwnnw. Fel gelli di ddychmygu, roedden nhw’n siomedig, ond roedden nhw’n gwybod eu bod nhw’n gallu gwasanaethu Jehofa mewn ffyrdd eraill. Dywedodd Ted, “’Dyn ni wedi dysgu i beidio â chyfyngu ein hunain i un math o wasanaeth.”
16. Pa wers gallwn ni ei dysgu o Galatiaid 6:4?
16 Allwn ni ddim rheoli popeth sy’n digwydd yn ein bywydau ni. Ond mae’n ddigon hawdd syrthio i’r fagl o fesur ein gwerth yn ôl ein breintiau, neu gymharu ein hunain ag eraill. Ond fel dywedodd Hiedi, “Byddwn ni’n colli ein heddwch os ydyn ni’n dechrau cymharu ein bywyd ni â beth rydyn ni’n gweld yn digwydd ym mywydau pobl eraill.” (Darllen Galatiaid 6:4.) Felly mae’n bwysig ein bod ni’n agored i ffyrdd gwahanol o wasanaethu Jehofa a helpu eraill. c
17. Sut gelli di weithio tuag at gael braint?
17 Gelli di wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa drwy gadw dy fywyd yn syml, ac osgoi dyled ddiangen. Er mwyn dy helpu i gyrraedd dy brif nod, beth am osod amcanion llai ar hyd y ffordd. Er enghraifft, os mai arloesi’n llawn amser ydy dy brif nod, allet ti arloesi’n gynorthwyol yn y cyfamser? Neu os mai bod yn was gweinidogaethol ydy dy nod, allet ti dreulio mwy o amser yn pregethu, neu’n ymweld â’r rhai hen neu sâl yn dy gynulleidfa? Drwy wneud hynny, byddi di’n magu profiad a all agor y ffordd i fwy o freintiau yn y dyfodol. Ni waeth pa aseiniad gei di, bydda’n benderfynol o wneud dy orau.—Rhuf. 12:11.
18. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o esiampl Beverley? Gweler y llun.
18 Fel mae profiad chwaer 75 mlwydd oed o’r enw Beverley yn ei ddangos, dydyn ni byth yn rhy hen i osod a chyrraedd amcanion ysbrydol. Roedd gan Beverley gyflwr oedd yn ei gwneud hi’n anodd iddi gerdded. Ond roedd hi wir eisiau cael rhan lawn yn ymgyrch y Goffadwriaeth. Pan welodd eraill ei hesiampl frwdfrydig, roedden nhwthau hefyd eisiau gwneud mwy yn y weinidogaeth. Hyd yn oed os nad ydy ein brodyr a chwiorydd hŷn yn gallu gwneud gymaint bellach oherwydd eu hamgylchiadau, mae Jehofa yn gwerthfawrogi pob ymdrech maen nhw’n ei wneud.—Salm 71:17, 18.
19. Beth yw rhai amcanion ysbrydol gallwn ni eu gosod?
19 Gosoda amcanion sydd o fewn dy gyrraedd. Meithrin rinweddau fydd yn plesio Jehofa. Dysga sgiliau newydd fydd yn dy helpu di i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Chwilia am ffyrdd i helpu dy frodyr a chwiorydd yn fwy. d Wedyn, fel Timotheus, “bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb,” gyda bendith Jehofa.—1 Tim. 4:15.
CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau
a Gwnaeth yr apostol Paul annog Timotheus i ddal ati i wneud cynnydd ysbrydol er bod Timotheus eisoes yn un da am bregethu. Am fod Timotheus wedi dilyn cyngor Paul, roedd yn fwy defnyddiol i Jehofa ac i’w frodyr a chwiorydd. Mae’n debyg dy fod ti, fel Timotheus, yn awyddus i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, ac ar gyfer dy frodyr a chwiorydd. Pa amcanion bydd yn dy helpu di i wneud hynny? A sut gelli di eu gosod a’u cyrraedd?
b ESBONIAD: Mae amcanion ysbrydol yn cynnwys unrhyw beth rydyn ni’n gweithio’n galed i’w wneud er mwyn gwasanaethu Jehofa’n well a’i wneud yn hapus.
c Gweler “Serving Where the Need Is Greater” yn y llyfr Organized to Do Jehovah’s Will, pennod 10, par. 6-9.