ERTHYGL ASTUDIO 16
Cael Llawenydd o Wneud Dy Orau i Jehofa
“Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw.”—GAL. 6:4.
CÂN 37 Gwasanaethu Jehofa â’th Holl Enaid
CIPOLWG a
1. Beth sy’n ein gwneud ni’n llawen dros ben?
MAE Jehofa eisiau inni fod yn hapus. Rydyn ni’n gwybod hynny am fod llawenydd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd glân. (Gal. 5:22) Mae rhoi yn dod â mwy o lawenydd na derbyn. Felly pan ydyn ni’n cael rhan lawn yn y weinidogaeth, ac yn gwneud ein gorau i helpu ein brodyr a chwiorydd, rydyn ni’n llawen dros ben.—Act. 20:35.
2-3. (a) Yn ôl Galatiaid 6:4, pa ddau beth all ein helpu ni i gadw ein llawenydd yng ngwasanaeth Jehofa? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Yn Galatiaid 6:4, mae’r apostol Paul yn sôn am ddau beth all ein helpu ni i gadw ein llawenydd. (Darllen.) Yn gyntaf, dylen ni wneud y gorau y gallwn ni i Jehofa, a gallwn ni fod yn hapus o wneud hynny. (Math. 22:36-38) Yn ail, dylen ni osgoi cymharu ein hunain ag eraill. Mae popeth sydd gynnon ni yn dod oddi wrth Jehofa, felly dylen ni fod yn ddiolchgar iddo am bopeth mae’n hiechyd, hyfforddiant, a’n gallu naturiol yn ein caniatáu i’w wneud. Ar y llaw arall, os oes gan rywun sgiliau pregethu gwell na ni, dylen ni fod yn hapus eu bod nhw’n defnyddio’r sgiliau hynny er mwyn rhoi clod i Jehofa yn hytrach na nhw’u hunain. Felly, yn lle cystadlu â nhw, dylen ni ddysgu oddi wrthyn nhw.
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gallwn ni ymdopi pan nad ydyn ni’n gallu gwneud cymaint ag y bydden ni’n hoffi yn ein gwasanaeth i Jehofa. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni wneud y defnydd gorau o’n galluoedd naturiol, a beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl pobl eraill.
PAN FYDD EIN CYFYNGIADAU YN EIN DIGALONNI
4. Beth all wneud i rai deimlo’n ddigalon? Rho enghraifft.
4 Mae rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yn mynd yn hen, neu’n sâl, felly dydyn nhw ddim yn gallu gwneud gymaint ag y bydden nhw’n hoffi yng ngwasanaeth Jehofa. Gall hyn eu digalonni, fel yn achos Carol. Roedd hi’n arfer gwasanaethu lle roedd mwy o angen, ac yn ystod yr adeg honno, gwnaeth hi gynnal 35 astudiaeth Feiblaidd, a helpu nifer ohonyn nhw i gyrraedd bedydd. Felly, roedd ganddi weinidogaeth ffrwythlon! Ond yn anffodus, aeth hi’n sâl iawn ac roedd rhaid iddi aros gartref rhan fwyaf o’r amser. Dyma ddywedodd hi: “Dw i’n gwybod bod fy mhroblemau iechyd yn ei gwneud hi’n amhosib imi wneud y pethau mae eraill yn gallu, ond dw i dal yn teimlo fy mod i ddim mor ffyddlon ag yr oeddwn i. Mae’r ffaith fy mod i ddim yn gallu gwneud gymaint ag ydw i eisiau yn fy ngwneud i’n ddigalon iawn.” Mae Carol eisiau gwneud ei gorau glas i Jehofa, ac mae hynny’n beth gwych! Mae’n siŵr bod ein Duw tosturiol wrth ei fodd am ei bod hi’n gwneud hynny.
5. (a) Beth dylen ni ei gofio os ydyn ni’n digalonni am ein bod ni ddim yn gallu gwneud cymaint ag yr oedden ni? (b) Fel mae’r lluniau yn dangos, sut mae’r brawd wedi gwneud ei orau i Jehofa ar hyd ei fywyd?
5 A wyt ti’n teimlo’n ddigalon weithiau am dy fod ti ddim yn gallu gwneud gymaint ag yr oeddet ti? Os felly, cofia fod Jehofa ond eisiau iti wneud dy orau—beth bynnag ydy hynny ar hyn o bryd. Er enghraifft, dyweda fod ’na chwaer yn ei 80au sy’n teimlo’n ddigalon am nad ydy hi’n gallu gwneud cymaint ag yr oedd hi yn ei 40au. Mae hi’n poeni nad ydy hi’n plesio Jehofa er ei bod hi’n gwneud ei gorau. Ond meddylia am y peth: Os ydy’r chwaer wedi gwneud ei gorau yn ei 40au, ac mae hi’n dal yn gwneud ei gorau heddiw yn ei 80au, dydy hi erioed wedi stopio gwneud ei gorau. Os ydyn ni’n teimlo bod ein gwasanaeth i Jehofa ddim yn ddigon da i’w blesio, rhaid inni gofio mai Jehofa sy’n penderfynu beth sy’n ddigon i’w blesio. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau, bydd fel petai Jehofa yn dweud wrthon ni: “Da iawn ti!”—Cymhara Mathew 25:20-23.
6. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Maria?
6 Mae’n llawer haws inni fod yn llawen os ydyn ni’n canolbwyntio ar beth rydyn ni’n gallu ei wneud, yn hytrach nag ar beth allwn ni ddim ei wneud. Mae profiad chwaer o’r enw Maria yn dangos hynny. Mae ganddi salwch sy’n cyfyngu ar faint mae hi’n gallu ei wneud yn y weinidogaeth. I ddechrau, roedd hi’n teimlo’n isel ac yn ddiwerth. Ond wedyn, gwnaeth hi feddwl am chwaer arall yn y gynulleidfa oedd yn gaeth i’w gwely a phenderfynu ei helpu hi. Dywedodd Maria: “Wnes i drefnu i weithio gyda hi ar y weinidogaeth. Gwnaethon ni’n ysgrifennu llythyrau a thystiolaethu dros y ffôn. A phob tro oedden ni’n gweithio gyda’n gilydd, o’n i’n teimlo’n hapus ac yn fodlon am fy mod i wedi helpu fy chwaer.” Fel Maria, byddwn ni’n hapusach os ydyn ni’n canolbwyntio ar beth sydd o fewn ein cyrraedd, yn hytrach nag ar beth sydd y tu hwnt i’n cyrraedd. Ond beth os ydyn ni mewn sefyllfa i wneud mwy, neu os oes gynnon ni sgiliau gallwn ni eu defnyddio yng ngwasanaeth Jehofa? Beth gallwn ni ei wneud?
OS OES GEN TI DDAWN—DEFNYDDIA HI
7. Pa gyngor ymarferol rhoddodd yr apostol Pedr i Gristnogion?
7 Yn 1 Pedr 4:10, gwnaeth yr apostol Pedr annog ei frodyr i ddefnyddio eu doniau a’u sgiliau i galonogi eraill. Ysgrifennodd: “Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill.” Beth amdanon ni heddiw? Ddylen ni ddim dal yn ôl rhag defnyddio ein galluoedd yn llawn, hyd yn oed os ydyn ni’n poeni y bydd eraill yn genfigennus, neu’n digalonni. Petasen ni’n dal yn ôl, fydden ni ddim yn rhoi ein gorau i Jehofa.
8. Yn ôl 1 Corinthiaid 4:6, 7, pam dylen ni osgoi brolio am ein doniau?
8 Rydyn ni angen gwneud y defnydd gorau o’n doniau, ond rydyn ni hefyd angen bod yn ofalus i beidio â brolio amdanyn nhw. (Darllen 1 Corinthiaid 4:6, 7.) Er enghraifft, os wyt ti’n dda iawn am ddechrau astudiaethau Beiblaidd, ddylet ti ddim dal yn ôl rhag gwneud hynny. Ond, mae defnyddio dy ddawn, a brolio amdani, yn ddau beth hollol wahanol. Dyweda dy fod ti wedi cael profiad gwych yn y weinidogaeth ac wedi dechrau astudiaeth. Rwyt ti ar bigau drain eisiau dweud yr hanes wrth weddill y grŵp, ond pan wyt ti’n cyrraedd yn ôl atyn nhw, mae chwaer ynghanol adrodd ei phrofiad am osod cylchgrawn. Gwnaeth hi osod cylchgrawn, ond gwnest ti ddechrau astudiaeth, felly beth byddi di’n ei wneud? Er dy fod ti’n gwybod y bydd dy brofiad yn calonogi’r grŵp, efallai byddi di’n penderfynu disgwyl am adeg arall i’w rannu. Pam? Er mwyn bod yn garedig â’r chwaer a pheidio â lleihau ei llawenydd. Yna, fydd hi ddim yn teimlo ei bod hi ddim mor effeithiol â ti yn y weinidogaeth. Ond, paid byth â stopio cynnig astudiaethau. Mae gen ti ddawn, felly gwna’r defnydd gorau ohoni!
9. Sut dylen ni ddefnyddio ein doniau?
9 Cofia, mae ein doniau yn dod oddi wrth Jehofa, felly dylen ni eu defnyddio i annog y gynulleidfa, yn hytrach nag i wneud i’n hunain edrych yn dda. (Phil. 2:3) Drwy wneud hynny, gallwn ni fod yn llawen. Pam? Am ein bod ni’n defnyddio ein doniau er mwyn dod â chlod i Jehofa, yn hytrach na thrio dangos ein bod ni’n well nag eraill.
10. Pam na ddylen ni gymharu ein hunain â phobl eraill?
10 Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni ddechrau cymharu ein cryfderau ein hunain â gwendidau pobl eraill, a throi’n falch o ganlyniad i hynny. Er enghraifft, efallai bod brawd yn rhoi anerchiadau cyhoeddus gwych, a dyna ydy un o’i gryfderau. Ond, mae ’na beryg iddo ddechrau teimlo ei fod yn well na brawd sy’n ei chael hi’n anodd rhoi anerchiadau. Ar y llaw arall, efallai bod gan yr ail frawd gryfderau wahanol. Efallai ei fod yn lletygar iawn, yn dda yn hyfforddi ei blant, neu’n selog yn y weinidogaeth. Mae ’na lawer o frodyr a chwiorydd sydd â sgiliau a doniau arbennig. Pan maen nhw’n defnyddio’r doniau hynny er mwyn gwasanaethu Jehofa a helpu eraill, mae’n ein gwneud ni’n hapus iawn!
DYSGA O ESIAMPLAU POBL ERAILL
11. Pam dylen ni wneud ein gorau i ddilyn esiampl Iesu?
11 Er na ddylen ni gymharu ein hunain ag eraill, mae ’na lawer gallwn ni ei ddysgu oddi wrth y rhai sy’n gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon. Yr esiampl orau i’w dilyn ydy Iesu. Er nad ydyn ni’n berffaith fel yr oedd Iesu, mae ’na lawer gallwn ni ei ddysgu o’i rinweddau hyfryd, a’r hyn a wnaeth ef. (1 Pedr 2:21) Pan fyddwn ni’n dilyn ei esiampl mor agos ag y gallwn ni, byddwn ni’n gallu gwasanaethu Jehofa’n well, a bod yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth.
12-13. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth y Brenin Dafydd?
12 Mae Gair Duw yn cynnwys llawer o esiamplau o ddynion a merched ffyddlon sy’n werth eu hefelychu er nad oedden nhw’n berffaith. (Heb. 6:12) Meddylia er enghraifft am y Brenin Dafydd. Gwnaeth Jehofa ei alw yn “ddyn sydd wrth fy modd.” (Act. 13:22) Mae’n esiampl dda inni heddiw er nad oedd yn berffaith, a’i fod hyd yn oed wedi gwneud camgymeriadau difrifol. Pam? Yn hytrach na gwneud esgusodion pan gafodd gyngor cryf, gwnaeth ef ei dderbyn. Ar ben hynny, roedd yn teimlo’n wirioneddol sori am beth wnaeth ef. O ganlyniad i hynny, gwnaeth Jehofa faddau iddo.—Salm 51:3, 4, 10-12.
13 Gallwn ni ddysgu oddi wrth Dafydd drwy ofyn i ni’n hunain: ‘Sut ydw i’n ymateb i gyngor? Ydw i’n barod i syrthio ar fy mai, neu ydw i’n gwneud esgusodion? Ydw i’n gyflym i roi’r bai ar rywun arall? Ydw i’n trio’n galed i beidio â gwneud yr un camgymeriad eto?’ Beth am ofyn cwestiynau tebyg i ti dy hun wrth iti ddarllen am ddynion a merched ffyddlon eraill yn y Beibl: ‘A oedden nhw’n wynebu heriau tebyg i fi? Pa rinweddau da oedden nhw’n eu dangos? A sut galla i eu hefelychu?’
14. Sut gallwn ni elwa o esiamplau ein brodyr a chwiorydd?
14 Gallwn ni hefyd elwa o esiamplau da ein brodyr a chwiorydd heddiw, boed nhw’n hen neu’n ifanc. Er enghraifft, meddylia am rywun yn dy gynulleidfa di sy’n wynebu rhyw fath o her—efallai ei fod o dan bwysau gan gyfoedion, yn cael ei wrthwynebu gan ei deulu, neu’n sâl. Pa rinweddau wyt ti’n eu hedmygu ynddo ac eisiau eu hefelychu? Drwy ddilyn ei esiampl, gallwn ni ddysgu sut i ddelio â’n treialon ein hunain. Rydyn ni mor ddiolchgar bod ’na gymaint o esiamplau ffyddlon yn ein hoes ni y gallwn ni eu hefelychu. Mae hynny’n ein gwneud ni’n hapus dros ben!—Heb. 13:7; Iago 1:2, 3.
BYDDA’N HAPUS YN DY WASANAETH I JEHOFA
15. Pa gyngor a roddodd yr apostol Paul all ein helpu ni i wasanaethu Jehofa’n llawen?
15 Er mwyn creu heddwch ac undod yn y gynulleidfa, mae’n rhaid i bob un ohonon ni wneud ein gorau. Ystyria Gristnogion y ganrif gyntaf. Er roedd ganddyn nhw wahanol ddoniau ac aseiniadau, doedden nhw ddim yn cystadlu â’i gilydd, nac yn ffraeo. (1 Cor. 12:4, 7-11) Beth oedd eu cyfrinach? Roedd Paul wedi annog pob un i wneud beth roedd ei angen er mwyn sicrhau bod “corff y Meseia . . . yn tyfu’n gryf.” Ac roedd yn gwbl glir pan ddywedodd y byddai’r gynulleidfa “yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.” (Eff. 4:1-3, 11, 12, 16) Gwnaeth y rhai a ddilynodd y cyngor hwnnw hyrwyddo heddwch ac undod yn y gynulleidfa, ac mae’r un peth yn wir heddiw.
16. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud? (Hebreaid 6:10)
16 Bydda’n benderfynol o beidio â chymharu dy hun ag eraill. Yn hytrach, dysga oddi wrth Iesu a cheisia efelychu ei rinweddau. Efelycha hefyd esiampl y rhai ffyddlon yn y Beibl, ac yn ein hoes ni. Ac wrth iti wneud dy orau, cofia, “dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth [rwyt ti] wedi’i wneud.” (Darllen Hebreaid 6:10.) Bydda’n llawen yn dy wasanaeth i Jehofa gan wybod ei fod yn gwerthfawrogi dy holl ymdrechion i wneud dy orau.
CÂN 65 Bwria Ymlaen!
a Mae ’na lawer gallwn ni ei ddysgu o esiampl pobl eraill, ond mae ’na beryg yn dod gyda hynny—gallwn ni ddechrau cymharu ein hunain ag eraill, a throi’n falch, neu ddechrau digalonni. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i osgoi hynny, a chadw ein llawenydd.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwasanaethodd un brawd yn y Bethel pan oedd yn ddyn ifanc. Yna, gwnaeth ef briodi ac arloesi gyda’i wraig. Unwaith iddyn nhw gael plant, gwnaethon nhw eu dysgu i bregethu. Mae’n dal ati i wneud ei orau ac yn tystiolaethu drwy ysgrifennu llythyrau.