HANES BYWYD
Mae Jehofa Wedi ‘Dangos y Ffordd Iawn Imi’
GOFYNNODD brawd ifanc imi unwaith, “Beth yw dy hoff adnod?” Heb oedi, atebais, “Diarhebion 3, adnodau 5 a 6, sy’n dweud: ‘Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.’” Ac yn wir, mae Jehofa wedi dangos y ffordd iawn imi. Sut?
GWNAETH ARWEINIAD FY RHIENI FY ROI I AR Y LLWYBR IAWN
Yn y 1920au cyn iddyn nhw briodi, dysgodd fy rhieni y gwir. Ges i fy ngeni ym 1939. Fel bachgen yn Lloegr, es i gyda fy rhieni i gyfarfodydd Cristnogol a mwynhau Ysgol y Weinidogaeth. Hyd heddiw, dw i’n cofio sut o’n i’n teimlo wrth ddringo ar ben bocs i fod yn ddigon tal i weld dros y darllenfa er mwyn rhoi fy anerchiad cyntaf. O’n i’n chwe mlwydd oed ac yn nerfus ofnadwy wrth edrych ar yr holl oedolion o ’mlaen i yn y gynulleidfa.
Ar gyfer y weinidogaeth, teipiodd fy nhad gyflwyniad syml ar gerdyn imi ei ddefnyddio ar y drysau. O’n i’n wyth mlwydd oed pan es i at ddrws ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf. O’n i wedi gwirioni pan ddarllenodd deiliad y tŷ fy ngherdyn a derbyn y llyfr “Let God Be True” yn syth! Rhedais nerth fy nhraed i lawr y lôn i ddweud wrth fy nhad. Rhoddodd y weinidogaeth a’r cyfarfodydd lawer o lawenydd imi, a fy helpu i feithrin fy awydd i wasanaethu Jehofa yn llawn amser.
Dechreuodd gwirioneddau’r Beibl gyffwrdd fy nghalon yn fwy ar ôl i ’nhad gael tanysgrifiad i’r Tŵr Gwylio imi. Darllenais bob copi yn frwd ar ôl iddo gyrraedd yn y post. O’n i’n ymddiried yn Jehofa yn fwy ac yn fwy felly wnes i ymgysegru iddo.
Ym 1950, aethon ni fel teulu i’r cynulliad “Theocracy’s Increase” yn Efrog Newydd. Ar ddydd Iau, Awst y 3ydd, thema’r diwrnod oedd “Diwrnod y Cenhadon.” Y diwrnod hwnnw, cafodd yr anerchiad bedydd ei gyflwyno gan y Brawd Carey Barber, a fyddai’n mynd ymlaen i wasanaethu ar y Corff Llywodraethol. Ar ddiwedd ei anerchiad, pan ofynnodd
y ddau gwestiwn i’r ymgeiswyr bedydd, sefais a dweud, “Ydw!” O’n i’n 11 mlwydd oed ond yn sylweddoli fy mod i wedi cymryd cam pwysig. Ond, o’n i’n poeni am fynd i’r dŵr oherwydd oeddwn i heb ddysgu nofio eto. Aeth fy ewythr â fi at y pwll a fy sicrhau y byddai popeth yn iawn. Ac yn wir ichi, oedd y cyfan drosodd mor sydyn wnaeth fy ’nhraed erioed gyffwrdd gwaelod y pwll. Es i o afael un brawd i’r llall; wnaeth un fy medyddio, a’r llall fy nghodi o’r pwll. A byth oddi ar y diwrnod pwysig hwnnw, mae Jehofa wedi parhau i ddangos y ffordd iawn imi.DEWIS TRYSTIO JEHOFA
Pan adewais yr ysgol, o’n i eisiau arloesi, ond roedd fy athrawon yn fy annog i fynd am addysg uwch. Ildiais i’w pwysau a mynd i’r Brifysgol; ond, yn fuan iawn wnes i sylweddoli nad o’n i’n gallu aros yn gadarn yn y gwir a chanolbwyntio ar fy astudiaethau ar yr un pryd, felly fy newis oedd gadael. Siaradais â Jehofa mewn gweddi ac ysgrifennu llythyr parchus i ddweud fy mod i am adael ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Gan drystio’n llwyr yn Jehofa, dechreuais arloesi ar unwaith.
Dechreuais arloesi’n llawn amser ym mis Gorffennaf 1957, mewn tref o’r enw Wellingborough. Gofynnais i’r brodyr ym Methel Llundain i awgrymu arloeswr profiadol y byddwn i’n gallu ymuno ag ef. Daeth y Brawd Bert Vaisey yn hyfforddwr imi, wnaeth ei bregethu selog fy helpu i sefydlu rwtîn da ar y weinidogaeth. Dim ond chwe chwaer oedrannus, y Brawd Vaisey, a minnau oedd yn y gynulleidfa. Roedd paratoi am y cyfarfodydd, a chael rhan ym mhob un, yn rhoi llawer o gyfleoedd imi drystio’n fwy yn Jehofa a mynegi fy ffydd.
Ar ôl cyfnod byr yn y carchar am wrthod gwasanaeth milwrol, wnes i gyfarfod Barbara, arloeswraig arbennig. Wnaethon ni briodi ym 1959, ac oedden ni’n barod i fynd i le bynnag oedden ni’n cael ein haseinio. Yn gyntaf, aethon ni i Sir Gaerhirfryn yng ngogledd orllewin Lloegr. Ac yna, yn Ionawr 1961, ges i fy ngwahodd ar gwrs un mis Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas ym Methel Llundain. Er mawr syndod i mi, ar ddiwedd y cwrs, ges i fy aseinio i’r gwaith teithio. Ges i hyfforddiant am bythefnos oddi wrth arolygwr cylchdaith profiadol yn ninas Birmingham, a chafodd Barbara ddod gyda mi. Wedyn, i ffwrdd â ni i’n haseiniad ein hunain yn ôl yn siroedd Caerhirfryn a Chaer.
TRYSTIO JEHOFA—WASTAD Y PETH GORAU
Tra oedden ni ar ein gwyliau ym mis Awst 1962, cawson ni lythyr o swyddfa’r gangen. Ynddo roedd ffurflenni cais ar gyfer Ysgol Gilead! Ar ôl gweddïo am y mater, llenwodd Barbara a minnau y ffurflenni a’u dychwelyd i swyddfa’r gangen ar unwaith fel roedden nhw wedi gofyn. Pum mis wedyn, oedden ni ar ein ffordd i Brooklyn, Efrog Newydd, i fynychu dosbarth 38 Gilead, cwrs deng mis o addysg theocrataidd.
Yn Gilead, cawson ni ein dysgu, nid yn
unig am Air Duw a’i gyfundrefn, ond hefyd am ein brawdoliaeth. A ninnau’n dal yn ein 20au, wnaethon ni ddysgu llawer oddi wrth fyfyrwyr eraill yn ein dosbarth. Roedd hi’n fraint imi gael aseiniad i weithio bob dydd gyda’r Brawd Fred Rusk, un o’n hyfforddwyr. Pwysleisiodd un wers drawiadol yr angen i roi cyngor cyfiawn bob tro, hynny yw, i wneud yn siŵr fod unrhyw gyngor wedi’i seilio’n llwyr ar yr Ysgrythurau. Ymhlith y rhai oedd yn darlithio ar y cwrs oedd brodyr profiadol fel Nathan Knorr, Frederick Franz, a Karl Klein. A dysgon ni lawer oddi wrth y brawd gostyngedig A. H. Macmillan; helpodd ei ddarlith inni gael darlun cliriach o arweiniad Jehofa yn ystod y cyfnod o brofi rhwng 1914 a dechrau 1919!NEWID ASEINIAD
Tuag at ddiwedd y cwrs, cafodd Barbara a minnau wybod gan y Brawd Knorr y bydden ni’n cael ein haseinio i Bwrwndi yn Affrica. Wnaethon ni ruthro i lyfrgell y Bethel i edrych yn y Blwyddlyfr faint o gyhoeddwyr oedd yn gwasanaethu yn Bwrwndi adeg honno. Er syndod i ni, doedd dim ffigurau i gael yn unlle ar gyfer y wlad honno! Ie, oedden ni’n mynd i diriogaeth newydd, heb ei gweithio, ar gyfandir doedden ni ddim yn gwybod llawer amdano. Wel, oedden ni’n nerfau i gyd! Ond helpodd gweddi daer i’w tawelu.
Yn ein haseiniad newydd, roedd popeth mor wahanol i’r hyn roedden ni wedi profi ynghynt—y tywydd, y diwylliant, a’r iaith. A nawr, roedd rhaid inni feistroli Ffrangeg. Hefyd roedd gynnon ni’r her o gael rhywle i fyw. Deuddydd ar ôl inni gyrraedd, daeth un o’n cyd-ddisgyblion Gilead, Harry Arnott, i’n gweld ni ar ei ffordd yn ôl i’w aseiniad yn Sambia. Wnaeth ef ein helpu i gael hyd i fflat, a hwnnw oedd ein cartref cyntaf fel cenhadon. Ond yn fuan, dechreuon ni gael gwrthwynebiad oddi wrth yr awdurdodau lleol a oedd yn gwybod dim am Dystion Jehofa. Fel roedden ni’n dechrau mwynhau ein haseiniad, dywedodd yr awdurdodau na fydden ni’n cael aros heb drwydded gwaith dilys. Yn anffodus, roedd rhaid inni adael ac addasu i wlad newydd, Iwganda y tro hwn.
Roedden ni’n pryderu am fynd i Iwganda heb fisa, ond wnaethon ni drystio yn Jehofa. Llwyddodd brawd o Ganada oedd yn gwasanaethu yn Iwganda i esbonio ein sefyllfa
i’r swyddog mewnfudo, a chawson ni rai misoedd i gael trwydded er mwyn aros yn y wlad. Wnaeth hynny ddangos i ni fod Jehofa yn ein helpu ni.Roedd amgylchiadau ein haseiniad newydd yn wahanol iawn i’r rhai yn Bwrwndi. Roedd y gwaith pregethu wedi ei sefydlu’n barod, er mai dim ond 28 Tyst oedd yn y wlad i gyd. Daethon ni o hyd i lawer oedd yn siarad Saesneg yn y diriogaeth. Ond yn fuan iawn, er mwyn helpu rhai â diddordeb i wneud cynnydd, wnaethon ni sylweddoli ein bod ni angen dysgu o leiaf un o’r llu o ieithoedd brodorol. Dechreuon ni bregethu yn ardal Kampala, lle roedd y mwyafrif yn siarad Lwgandeg, felly wnaethon ni benderfynu canolbwyntio ar yr iaith honno. Cymerodd flynyddoedd inni ddod yn rhugl, ond am wahaniaeth wnaeth hi i’n gweinidogaeth! Dechreuon ni ddeall anghenion ysbrydol ein myfyrwyr y Beibl yn well. Ac yn eu tro, wnaethon nhw agor eu calonnau a mynegi sut oedden nhw’n teimlo am yr hyn oedden nhw’n ei ddysgu.
LLAWER O SAFFARIS
Cawson ni lawenydd mawr o helpu pobl ostyngedig i ddysgu’r gwirionedd. Ond, daeth mwy o lawenydd byth o gael ein haseinio i’r gwaith teithio yn y wlad honno. O dan arweiniad cangen Cenia, aethon ni ar “saffari sgowtio” i chwilio am lefydd lle roedd mwy o angen am arloeswyr arbennig. Lawer gwaith cawson ni letygarwch heb ei ail gan bobl a oedd erioed wedi cyfarfod Tystion o’r blaen. Roedden nhw’n groesawus ofnadwy a hyd yn oed yn paratoi bwyd inni.
Daeth saffari o fath gwahanol nesaf. O Kampala wnaethon ni deithio ddeuddydd ar drên i borthladd Mombasa, cyn hwylio ymlaen i Ynysoedd y Seisiêl, sef grŵp o ynysoedd yng Nghefnfor India. Yna, rhwng 1965 a 1972, daeth Barbara gyda mi ar ymweliadau rheolaidd i Ynysoedd y Seisiêl. I gychwyn, dim ond dau o gyhoeddwyr oedd yno, yna daethon nhw’n grŵp, sydd bellach yn ffynnu fel cynulleidfa. Ar “saffaris” eraill es i i ymweld â’r brodyr yn Eritrea, Ethiopia, a’r Swdan.
Newidiodd y sefyllfa wleidyddol yn Iwganda ar ôl i grŵp milwrol gymryd rheolaeth o’r llywodraeth. Roedd y blynyddoedd wedyn yn erchyll a gwelais y doethineb o fod yn ufudd i’r cyfarwyddyd i dalu pethau “Cesar i Cesar.” (Marc 12:17) Ar un adeg, roedd rhaid i estroniaid gofrestru yn y swyddfa heddlu agosaf i’w cartrefi. Wnaethon ni ufuddhau yn syth. Rhai ddyddiau wedyn, wrth yrru drwy Kampala, ces i a chenhadwr arall ein stopio gan yr heddlu cudd. Oedd ein calonnau’n curo’n drwm! Cawson ni ein cyhuddo o fod yn ysbïwyr, a’n hebrwng i brif orsaf yr heddlu, lle wnaethon ni esbonio ein bod ni’n genhadon heddychlon. Roedd ein hymdrechion i ddweud wrth yr heddlu ein bod ni wedi cofrestru’n barod yn ofer. Cawson ni ein harestio a’n gyrru i’r swyddfa heddlu agosaf i’r cartref cenhadon. Am ryddhad oedd hi i weld bod y swyddog, a oedd yn gwybod ein bod ni wedi cofrestru’n barod, yn ein hadnabod, a rhoddodd orchymyn inni gael ein rhyddhau!
Yn y dyddiau hynny, oedd ’na ambell adeg annifyr wrth gael ein stopio wrth rwystrau ffordd milwrol, yn enwedig os oedd y
milwyr wedi bod yn yfed yn drwm. Ond, fydden ni bob amser yn gweddïo ac yn cael tawelwch meddwl wrth inni gael mynd yn ein blaenau yn ddiogel. Yn anffodus, ym 1973, cafodd pob cenhadwr estron orchymyn i adael Iwganda.Unwaith eto, cawson ni aseiniad newydd, y tro yma i’r Traeth Ifori, yng Ngorllewin Affrica. Am newid oedd hyn inni: dysgu diwylliant hollol newydd, unwaith eto yn siarad Ffrangeg drwy’r adeg, ac yn addasu i fywyd gyda chenhadon o wahanol gefndiroedd! Ond eto, gwelson ni arweiniad Jehofa wrth i bobl ostyngedig a diffuant o’r maes ymateb yn sydyn i’r newyddion da. Gyda’n gilydd, gwelson ni sut gwnaeth trystio yn Jehofa ddangos y ffordd iawn inni.
Yn sydyn, cafodd Barbara ei diagnosio â chanser. Aethon ni yn ôl ac ymlaen i Ewrop sawl gwaith iddi gael triniaeth, ond erbyn 1983 oedd hi’n amlwg na fydden ni’n gallu cario ’mlaen â’n aseiniad yn Affrica. Dyna ichi siom i’r ddau ohonon ni!
AMGYLCHIADAU YN NEWID
Gwaethygodd canser Barbara tra oedden ni’n gwasanaethu ym Methel Llundain, ac yn y pen draw, buodd hi farw. Roedd teulu Bethel yn gefn ardderchog imi yn y cyfnod hwnnw. Gwnaeth un cwpl yn enwedig fy helpu i addasu a dal ati i drystio Jehofa. Yn hwyrach ymlaen, wnes i gyfarfod chwaer oedd yn gwasanaethu’n rhan amser yn y Bethel. Roedd ganddi brofiad o fod yn arloeswraig arbennig, ac roedd ei chariad tuag at Jehofa yn dangos ei bod hi’n berson ysbrydol. Priododd Ann a minnau ym 1989, ac rydyn ni wedi gwasanaethu ym Methel Llundain ers hynny.
O 1995 i 2018, ges i’r fraint o wasanaethu fel cynrychiolwr y pencadlys (arolygwr parth gynt), ac ymweld â bron i 60 o wahanol wledydd. Ym mhob un, gwelais dystiolaeth o sut mae Jehofa yn bendithio ei weision o dan amryw amgylchiadau.
Yn 2017, ces i’r cyfle i ymweld ag Affrica unwaith eto. O’n i wrth fy modd yn cyflwyno Ann i Bwrwndi, ac roedd y ddau ohonon ni’n rhyfeddu at dwf y maes! Ar yr union stryd lle wnes i bregethu o ddrws i ddrws yn ôl ym 1964, heddiw mae ’na gartref Bethel hyfryd sy’n gofalu am dros 15,500 o gyhoeddwyr ar draws y wlad.
O’n i ar ben fy nigon o weld fy rhestr ymweliadau ar gyfer 2018. Yna ar y rhestr oedd y Traeth Ifori. Roedd cyrraedd y brifddinas, Abidjan, fel dod adref imi. Wrth imi edrych yn sydyn ar y rhestr o rifau ffôn, gwelais fod enw’r brawd oedd yn byw drws nesaf i’n hystafell Bethel yn gyfarwydd iawn imi, Soussou. O’n i’n cofio mai ef oedd arolygwr y ddinas pan o’n i yn Abidjan. Ond o’n i’n anghywir. Soussou arall oedd hwn—ei fab.
Mae Jehofa wedi cadw at ei air. Drwy’r holl brofiadau anodd, dw i wedi dysgu os byddwn ni’n trystio Jehofa, bydd ef yn bendant yn dangos y ffordd iawn inni. A nawr, ’dyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddilyn y llwybr diddarfod fydd yn goleuo’n fwyfwy yn y byd newydd.—Diar. 4:18.