ERTHYGL ASTUDIO 24

CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw

Gwersi i Ni o Eiriau Olaf Jacob—Rhan 1

Gwersi i Ni o Eiriau Olaf Jacob—Rhan 1

“Dewch at eich gilydd er mwyn imi gael dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd ichi yn y dyfodol.”—GEN. 49:1.

PWRPAS

Gwersi ymarferol o eiriau olaf Jacob ar ei wely angau i Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda.

1-2. Beth a wnaeth Jacob ar ddiwedd ei fywyd, a pham? (Gweler hefyd y llun.)

 ROEDD tua 17 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Jacob, gwas ffyddlon i Jehofa, deithio o Canaan i’r Aifft gyda’i deulu. (Gen. 47:28) Yn ystod yr adeg honno, roedd wedi profi’r llawenydd mawr o weld bod ei fab Joseff yn dal yn fyw ar ôl meddwl ei fod wedi marw, ac o weld ei deulu gyda’i gilydd unwaith eto. Ond wrth i Jacob deimlo bod ei fywyd yn dod i ben, galwodd ei deulu at ei gilydd am gyfarfod pwysig.—Gen. 49:28.

2 Yn y dyddiau hynny, roedd hi’n gyffredin i benteulu a oedd ar fin marw gasglu aelodau o’i deulu at ei gilydd i roi cyfarwyddiadau iddyn nhw. (Esei. 38:1) Efallai byddai hefyd yn datgelu pwy fyddai’r penteulu nesaf ar ôl ei farwolaeth.

Jacob ar ei wely angau, yn rhoi proffwydoliaeth i’w 12 mab (Gweler paragraffau 1-2)


3. Yn ôl Genesis 49:​1, 2, pam roedd geiriau Jacob yn bwysig?

3 Darllen Genesis 49:​1, 2. Ond nid cyfarfod arferol gyda’r teulu oedd hyn. Roedd Jacob yn broffwyd. Yn y cyfarfod hwn, gwnaeth Jehofa ysbrydoli ei was i siarad am ddigwyddiadau pwysig a fyddai’n effeithio ar ei ddisgynyddion yn fawr. Am y rheswm hwn, roedd geiriau Jacob o’i wely angau yn broffwydoliaeth.

4. Beth dylen ni ei gofio wrth ystyried geiriau olaf Jacob? (Gweler hefyd y blwch “Teulu Jacob.”)

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried beth ddywedodd Jacob wrth bedwar o’i feibion: Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod geiriau Jacob i’w wyth mab arall. Fel byddwn ni’n gweld, siaradodd Jacob nid yn unig am ei feibion ond hefyd am eu disgynyddion nhw a fyddai’n ffurfio cenedl Israel gynt mewn amser. Bydd adolygu hanes y genedl yn dangos yn glir sut daeth geiriau proffwydol Jacob yn wir. Trwy astudio ei eiriau, byddwn ni’n dysgu gwersi gwerthfawr a all ein helpu ni i blesio ein Tad nefol, Jehofa.

REUBEN

5. Pa fraint roedd Reuben efallai’n disgwyl ei derbyn oddi wrth ei dad?

5 Gwnaeth Jacob siarad yn gyntaf â Reuben, gan ddweud: “Ti yw fy nghyntaf-anedig.” (Gen. 49:3) Fel y cyntaf-anedig, mae’n debyg bod Reuben wedi disgwyl derbyn siâr ddwbl o’r etifeddiaeth gan ei dad. Efallai byddai hefyd wedi disgwyl i ddod yn benteulu ar ôl i’w dad farw, ac i’w ddisgynyddion etifeddu’r fraint honno hefyd.

6. Pam gwnaeth Reuben golli allan ar etifeddiaeth y cyntaf-anedig? (Genesis 49:​3, 4)

6 Ond, ni wnaeth Reuben dderbyn etifeddiaeth y cyntaf-anedig. (1 Cron. 5:1) Pam? Rhai blynyddoedd yn gynharach, roedd wedi cael cyfathrach rywiol gyda Bilha, un o wragedd gordderch Jacob. Roedd hi wedi bod yn forwyn i Rachel, gwraig annwyl Jacob a oedd wedi marw. (Gen. 35:​19, 22) Roedd Reuben yn fab i Lea, gwraig arall Jacob. Efallai fod Reuben wedi cael ei gymell gan drachwant neu efallai roedd yn ofni y byddai Jacob yn dechrau caru Bilha yn fwy na’i fam. Beth bynnag oedd y rheswm, roedd yr hyn a wnaeth yn digio ei dad a Jehofa.—Darllen Genesis 49:​3, 4.

7. Beth ddigwyddodd i Reuben a’i ddisgynyddion? (Gweler hefyd y blwch “ Geiriau Olaf Jacob.”)

7 Dywedodd Jacob wrth Reuben: “Fyddi di ddim yn well na dy frodyr.” Daeth y geiriau hynny’n wir. Does ’na ddim cofnod bod unrhyw un o ddisgynyddion Reuben wedi dod yn frenin, yn offeiriad, nac yn broffwyd. Er hynny, gwnaeth Jacob roi etifeddiaeth i Reuben, ac fe ddaeth ei ddisgynyddion i fod yn un o lwythau Israel. (Jos. 12:6) Mewn sefyllfaoedd gwahanol, dangosodd Reuben fod ganddo rinweddau da, a does ’na ddim sôn yn y Beibl ei fod erioed wedi cyflawni anfoesoldeb rhywiol eto.—Gen. 37:​20-22; 42:37.

8. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o esiampl Reuben?

8 Y wers i ni. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i feithrin hunanreolaeth ac i wrthod ymddygiad anfoesol. Os ydyn ni’n cael ein temtio i bechu, dylen ni gymryd amser i feddwl am sut byddai ein gweithredoedd yn brifo Jehofa, ein teulu, ac eraill. Dylen ni hefyd gofio bod “beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.” (Gal. 6:7) Ar y llaw arall, mae beth ddigwyddodd i Reuben yn ein hatgoffa ni o drugaredd Jehofa. Er na fydd Jehofa’n ein hamddiffyn ni rhag canlyniadau ein camgymeriadau, fe fydd yn bendithio ein hymdrechion os ydyn ni’n gwneud beth sy’n iawn.

SIMEON A LEFI

9. Pam na wnaeth Simeon a Lefi dderbyn cymeradwyaeth Jacob? (Genesis 49:​5-7)

9 Darllen Genesis 49:​5-7. Nesaf, siaradodd Jacob â Simeon a Lefi gan ddefnyddio geiriau cryf i ddangos nad oedden nhw wedi derbyn ei gymeradwyaeth. Flynyddoedd yn gynharach, roedd Dina, merch Jacob, wedi cael ei threisio gan ddyn o Canaan o’r enw Sechem. Does dim syndod felly bod holl feibion Jacob wedi teimlo’n ddig am beth ddigwyddodd i’w chwaer, ond ni wnaeth Simeon a Lefi reoli eu dicter. Twyllon nhw ddynion Sechem, gan addo y bydden nhw’n gwneud heddwch â nhw petasai nhw’n cael eu henwaedu. Cytunodd y dynion. Tra oedd y dynion yn dal mewn poen ar ôl cael eu henwaedu, aeth Simeon a Lefi “i mewn i’r ddinas yn annisgwyl gyda’u cleddyfau a lladd pob gwryw.”—Gen. 34:​25-29.

10. Sut cafodd geiriau Jacob i Simeon a Lefi eu cyflawni? (Gweler hefyd y blwch “ Geiriau Olaf Jacob.”)

10 Gwnaeth gweithredoedd treisgar ei ddau fab boeni Jacob yn fawr iawn. Fe ragfynegodd y bydden nhw’n cael eu gwasgaru a’u chwalu drwy wlad Israel. Daeth y geiriau proffwydol hyn yn wir tua 200 o flynyddoedd yn nes ymlaen, pan aeth genedl Israel i mewn i Wlad yr Addewid. Fel etifeddiaeth, derbyniodd llwyth Simeon rai dinasoedd o fewn tiriogaeth Jwda. (Jos. 19:1) Roedd etifeddiaeth Lefi yn cynnwys 48 dinas a oedd wedi cael eu chwalu ar led drwy wlad Israel.—Jos. 21:41.

11. Pa bethau da gwnaeth llwyth Simeon a Lefi eu cyflawni?

11 Ni wnaeth disgynyddion Simeon a Lefi yr un camgymeriadau â’u cyndadau. Gwnaeth llwyth Lefi lynu’n agos at addoliad pur. Pan dderbyniodd Moses y Gyfraith oddi wrth Jehofa ar Fynydd Sinai, fe wnaeth llawer o’r Israeliaid gymryd rhan mewn eilun-addoliaeth. Ond, roedd y Lefiaid yn gyflym i ochri gyda Moses a’i helpu i gael gwared ar y drygioni. (Ex. 32:​26-29) Dewisodd Jehofa osod llwyth Lefi ar wahân, gan roi iddo’r fraint arbennig o’r offeiriadaeth. (Ex. 40:​12-15; Num. 3:​11, 12) Yn nes ymlaen, pan oedd Gwlad yr Addewid yn cael ei gorchfygu, brwydrodd llwyth Simeon yn ddewr, ochr yn ochr â phobl Jehofa, yn unol â phwrpas Jehofa.—Barn. 1:​3, 17.

12. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o esiamplau Simeon a Lefi?

12 Y wers i ni. Paid byth â gadael i ddicter lywio dy benderfyniadau na dy weithredoedd. Os wyt ti, neu rywun rwyt ti’n ei garu wedi cael ei gam-drin, mae’n ddigon naturiol i ddigio. (Salm 4:​4, BCND) Ond, mae’n rhaid inni gofio nad ydy Jehofa’n cymeradwyo geiriau neu weithredoedd a all niweidio eraill. (Iago 1:20) Rydyn ni’n delio ag anghyfiawnder—naill ai yn y gynulleidfa neu tu allan iddi—yn unol ag egwyddorion y Beibl ac yn osgoi’r niwed sy’n cael ei achosi gan ddicter sydd heb ei reoli. (Rhuf. 12:​17, 19; 1 Pedr 3:9) Rydyn ni hefyd yn dysgu nad oes rhaid iti ddilyn esiampl dy rhieni os nad ydyn nhw’n gwneud beth sy’n plesio Jehofa. Paid â meddwl dy fod ti’n achos coll sydd ddim yn gallu cael bendith Jehofa. Bydd Jehofa’n dy wobrwyo di am dy ymdrechion i wneud beth sy’n iawn.

JWDA

13. Pam gallai Jwda fod wedi pryderu cyn i’w dad siarad ag ef?

13 Siaradodd Jacob â Jwda nesaf. Ar ôl clywed geiriau ei dad at ei frodyr hŷn, efallai roedd Jwda’n pryderu. Wedi’r cwbl, roedd wedi gwneud camgymeriadau difrifol hefyd. Fe gafodd rhan yn ysbeilio dinas Sechem. (Gen. 34:27) Hefyd, fe wnaeth ef a’i frodyr werthu Joseff yn gaethwas a thwyllo eu tad amdano. (Gen. 37:​31-33) Yn nes ymlaen, fe gafodd cyfathrach rywiol a’i ferch-yng-nghyfraith, Tamar, gan feddwl ei bod hi’n butain.—Gen. 38:​15-18.

14. Pa bethau da roedd Jwda wedi eu gwneud? (Genesis 49:​8, 9)

14 Ond, cafodd Jacob ei ysbrydoli i roi dim byd i Jwda heblaw am fendith a chanmoliaeth. (Darllen Genesis 49:​8, 9.) Roedd Jwda wedi ystyried teimladau ei dad yn ei henaint. Roedd hefyd wedi dangos tosturi tuag at ei frawd ieuengaf, Benjamin.—Gen. 44:​18, 30-34.

15. Ym mha ffyrdd cafodd Jwda eu bendithio?

15 Rhagfynegodd Jacob y byddai Jwda’n cael rôl flaenllaw ymysg ei frodyr. Ond, ni chafodd y broffwydoliaeth honno ei chyflawni am amser hir. Roedd hi tua 200 o flynyddoedd wedyn pan gymerodd Jwda y blaen yn arwain cenedl Israel drwy’r anialwch i Wlad yr Addewid. (Num. 10:14) Degawdau wedyn, gwnaeth Jehofa benodi Jwda i fynd yn gyntaf i goncro Gwlad yr Addewid. (Barn. 1:​1, 2) Hefyd, Dafydd oedd y cyntaf o lawer o frenhinoedd a ddaeth o lwyth Jwda. Ond, mae ’na fwy.

16. Sut cafodd y broffwydoliaeth yn Genesis 49:10 ei chyflawni? (Gweler hefyd y blwch “ Geiriau Olaf Jacob.”)

16 Gwnaeth Jacob ddatgelu y byddai disgynnydd i Jwda yn rheoli dros y ddynoliaeth am byth. (Darllen Genesis 49:10 a’r troednodyn.) Iesu Grist yw’r Rheolwr hwnnw, yr un a gafodd ei alw’n Seilo gan Jacob. Dywedodd angel am Iesu: “Bydd Jehofa Dduw yn rhoi iddo orsedd Dafydd ei dad.” (Luc 1:​32, 33) Mae Iesu hefyd yn cael ei alw’r “Llew o lwyth Jwda.”—Dat. 5:5.

17. Sut gallwn ni efelychu Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n ystyried eraill?

17 Y wers i ni. Gwnaeth Jehofa fendithio Jwda er ei fod wedi gwneud camgymeriadau mawr. Efallai nad oedd brodyr Jwda’n deall beth roedd Jehofa’n ei weld ynddo. Beth bynnag yw’r rheswm, roedd Jehofa’n gweld rhywbeth da yn Jwda a’i fendithiodd o ganlyniad. Sut gallwn ni efelychu esiampl Jehofa? Pan fydd un o’n cyd-Gristnogion yn derbyn braint arbennig, efallai byddwn ni’n cael ein temtio i edrych ar amherffeithion yr unigolyn. Ond, cofia fod rhinweddau da’r person yn plesio Jehofa’n fawr. Mae Jehofa’n edrych am y da yn ei addolwyr a dylen ninnau wneud yr un fath.

18. Pam mae’n rhaid inni fod yn amyneddgar?

18 Mae profiad Jwda hefyd yn ein dysgu ni i ddangos amynedd. Mae Jehofa’n cadw ei addewidion bob tro, ond nid o reidrwydd yn y ffordd neu ar yr amser rydyn ni’n ei ddisgwyl. Ni wnaeth disgynyddion Jwda ddechrau cymryd y blaen ymysg pobl Dduw yn syth. Ond, roedden nhw’n ffyddlon wrth gefnogi’r rhai roedd Jehofa wedi eu penodi i wneud hynny, fel Moses o lwyth Lefi, Josua o lwyth Effraim, neu’r Brenin Saul o lwyth Benjamin. Dylen ninnau hefyd gefnogi pwy bynnag mae Jehofa’n ei ddewis i gymryd y blaen heddiw.—Heb. 6:12.

19. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o eiriau olaf Jacob?

19 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o eiriau olaf Jacob i’w bedwar mab cyntaf? Mae’n glir nad ydy “dyn ddim yn gweld yr un fath â Duw.” (1 Sam. 16:7) Mae Jehofa’n amyneddgar iawn ac yn faddeugar. Er nad ydy ef yn esgusodi ymddygiad drwg, dydy ef ddim yn disgwyl perffeithrwydd gan ei addolwyr. Mae’n gallu bendithio unigolion sydd wedi gwneud camgymeriadau mawr yn y gorffennol os ydyn nhw’n edifarhau ac yn dechrau gwneud beth sy’n iawn. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod beth ddywedodd Jacob wrth ei wyth mab arall.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon