Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

CÂN 21 Ceisiwch yn Gyntaf y Deyrnas

Ceisia’r Ddinas a Fydd yn Aros

Ceisia’r Ddinas a Fydd yn Aros

“Ceisio’n daer rydyn ni [y ddinas] sydd i ddod.”HEB. 13:14.

PWRPAS

Beth gallwn ni ei ddysgu o Hebreaid pennod 13 a fydd yn ein helpu ni heddiw ac yn y dyfodol.

1. Beth ddywedodd Iesu y byddai’n digwydd i Jerwsalem yn y ganrif gyntaf?

 RHAI dyddiau cyn iddo farw, fe roddodd Iesu Grist broffwydoliaeth fanwl a gafodd ei chyflawni yn ystod dyddiau olaf y system Iddewig. Fe roddodd rybudd y byddai’r “byddinoedd yn amgylchynu Jerwsalem” un diwrnod. (Luc 21:20) Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr y dylen nhw adael yr ardal yn syth ar ôl iddyn nhw weld y byddinoedd hynny. Daeth geiriau Iesu’n wir. Gwnaeth y byddinoedd Rhufeinig amgylchynu Jerwsalem.—Luc 21:​21, 22.

2. Beth gwnaeth Paul atgoffa’r Cristnogion Hebreig yn Jwdea a Jerwsalem amdano?

2 Ychydig o flynyddoedd cyn i’r byddinoedd Rhufeinig amgylchynu Jerwsalem, ysgrifennodd yr apostol Paul lythyr pwerus sydd nawr yn cael ei alw’n llyfr Hebreaid. Yn y llythyr hwnnw, rhoddodd Paul gyngor i’r Cristnogion yn Jwdea a Jerwsalem i’w helpu nhw i baratoi ar gyfer yr amseroedd anodd a oedd o’u blaenau. A beth oedd o’u blaenau? Byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Os oedd y Cristnogion eisiau achub eu bywydau, byddai’n rhaid iddyn nhw fod yn barod i adael eu cartrefi a’u busnesau. Felly, ysgrifennodd Paul am Jerwsalem: “Nid dinas sy’n aros sydd gynnon ni yma.” Yna, fe ychwanegodd: “Ond ceisio’n daer rydyn ni yr un sydd i ddod.”—Heb. 13:14.

3. Beth yw’r “ddinas sydd â sylfeini go iawn,” a pham mae’n rhaid inni ei cheisio?

3 Mae’n debyg bod y Cristnogion a wnaeth benderfynu gadael Jerwsalem a Jwdea wedi cael eu ceryddu a’u bychanu. Ond, gwnaeth y penderfyniad hwnnw achub eu bywydau. Heddiw, mae eraill yn ein gwawdio ni oherwydd nad ydyn ni’n trystio mewn arian nac yn dibynnu ar bobl i ddatrys problemau’r byd. Felly, pam rydyn ni’n gwneud y penderfyniad hwnnw? Rydyn ni’n gwybod bydd y system hon yn dod i ben. Rydyn ni’n ceisio’r “ddinas sydd â sylfeini go iawn,” hynny yw “yr un sydd i ddod,” sef Teyrnas Dduw. a (Heb. 11:10; Math. 6:33) Bydd pob isbennawd yn yr erthygl hon yn ystyried: (1) sut gwnaeth cyngor Paul helpu Cristnogion y ganrif gyntaf i barhau i geisio’r ddinas “sydd i ddod,” (2) sut gwnaeth Paul eu paratoi nhw am y dyfodol, a (3) sut mae ei gyngor yn ein helpu ni heddiw.

TRYSTIA’R UN NA FYDD BYTH YN DY ADAEL DI

4. Pam roedd Jerwsalem yn bwysig i Gristnogion?

4 Roedd Jerwsalem yn bwysig iawn i Gristnogion. Cafodd y gynulleidfa Gristnogol gyntaf ei sefydlu yno yn 33 OG, a dyna le roedd brodyr y corff llywodraethol yn byw. Hefyd, roedd gan lawer o Gristnogion cartrefi a phethau materol eraill yn y ddinas. Er hynny, rhybuddiodd Iesu y byddai’n rhaid i’w ddilynwyr ffoi o Jerwsalem a hyd yn oed o Jwdea.—Math. 24:16.

5. Sut gwnaeth Paul helpu’r Cristnogion i baratoi am beth oedd i ddod?

5 Er mwyn paratoi’r Cristnogion am beth oedd i ddod, gwnaeth Paul eu helpu nhw i ganolbwyntio ar sut roedd Jehofa’n teimlo am ddinas Jerwsalem. Gwnaeth Paul eu hatgoffa nhw nad oedd Jehofa’n cymeradwyo’r offeiriaid yn y deml bellach, nac yn derbyn yr aberthau a oedd yn cael eu hoffrymu yno. (Heb. 8:13) Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y ddinas wedi gwrthod y Meseia. Doedd y bobl ddim yn gorfod mynd i’r deml yn Jerwsalem i addoli Jehofa bellach, ar ben hynny byddai’r deml yn cael ei dinistrio.—Luc 13:​34, 35.

6. Pam roedd cyngor Paul yn Hebreaid 13:​5, 6 yn amserol i’r Cristnogion?

6 Pan ysgrifennodd Paul at yr Hebreaid, roedd dinas Jerwsalem yn ffynnu. Ysgrifennodd awdur Rhufeinig o’r adeg honno mai Jerwsalem oedd “y ddinas fwyaf enwog yn y Dwyrain, o bell ffordd.” Teithiodd Iddewon yno o wahanol wledydd bob blwyddyn i ddathlu’r gwyliau Iddewig ac fe wnaeth hyn gyfrannu at economi llwyddiannus. Oherwydd hyn, mae’n debyg bod rhai Cristnogion wedi ennill llawer o arian. Efallai dyma pam dywedodd Paul wrthyn nhw: “Peidiwch â charu arian, wrth ichi fod yn fodlon ar y pethau sydd gynnoch chi.” Yna, gwnaeth Paul ddyfynnu adnod lle rhoddodd Jehofa’r sicrwydd: “Ni wna i byth dy adael di, ac ni wna i byth gefnu arnat ti.” (Darllen Hebreaid 13:​5, 6; Deut. 31:6; Salm 118:6) Roedd angen i’r Cristnogion a oedd yn byw yn Jerwsalem a Jwdea gael y sicrwydd hwn. Pam? Oherwydd yn fuan ar ôl derbyn y llythyr hwn, roedd yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi, eu busnesau, a’r rhan fwyaf o’u pethau. Ac yna roedd yn rhaid iddyn nhw ddechrau bywyd newydd mewn lle newydd, a doedd hynny ddim yn hawdd.

7. Pam dylen ni ddysgu nawr i drystio Jehofa yn llwyr?

7 Y wers inni: Beth sydd o’n blaenau? Diwedd y system hon yn ystod y ‘trychineb mawr.’ (Math. 24:21) Fel Cristnogion y ganrif gyntaf, mae’n rhaid inni aros yn effro ac yn barod. (Luc 21:​34-36) Yn ystod y trychineb mawr, efallai bydd yn rhaid inni adael ein cartrefi a’n holl bethau, yn hollol hyderus bydd Jehofa’n wastad yn gofalu amdanon ni. Hyd yn oed nawr, cyn i’r trychineb mawr ddechrau, mae gynnon ni’r cyfle i ddangos pwy rydyn ni’n ei drystio. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydy fy mhenderfyniadau a fy amcanion ar gyfer y dyfodol yn dangos nad ydw i’n ymddiried yn arian ond yn Jehofa i ofalu amdana i?’ (1 Tim. 6:17) Wrth gwrs, er ein bod ni’n gallu dysgu gwersi o’r hyn a ddigwyddodd yn y ganrif gyntaf, bydd y ‘trychineb mawr’ yn y dyfodol yn llawer anoddach nag oedd hynny. Sut felly byddwn ni’n gwybod yn union beth dylen ni ei wneud pan fydd y trychineb mawr yn dechrau?

UFUDDHA I’R RHAI SY’N CYMRYD Y BLAEN

8. Pa gyfarwyddiadau roddodd Iesu i’w ddilynwyr?

8 Ychydig o flynyddoedd ar ôl i’r Cristnogion dderbyn llythyr Paul at yr Hebreaid, gwelson nhw’r byddinoedd Rhufeinig yn amgylchynu Jerwsalem. Roedd hynny’n arwydd iddyn nhw i ffoi; byddai’r ddinas yn cael ei dinistrio. (Math. 24:3; Luc 21:​20, 24) Ond i le bydden nhw’n mynd? Roedd Iesu ond wedi dweud: “Mae’n rhaid i’r rhai yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd.” (Luc 21:21) Roedd ’na lawer o fynyddoedd yn yr ardal, felly i ba gyfeiriad bydden nhw’n ffoi?

9. Pam efallai byddai’r Cristnogion wedi bod yn ansicr am ba fynyddoedd i ffoi iddyn nhw? (Gweler hefyd y map.)

9 Ystyria rai o’r mynyddoedd y gallai’r Cristnogion fod wedi ffoi iddyn nhw: mynyddoedd Samaria, mynyddoedd Galilea, Mynydd Hermon a mynyddoedd Lebanon, neu’r mynyddoedd ar ochr arall yr Iorddonen. (Gweler y map.) Efallai fod rhai o’r dinasoedd hynny wedi ymweld fel llefydd saff i fyw. Er enghraifft, roedd dinas Gamla wedi ei lleoli ar fynydd uchel ac roedd yn hynod o anodd i’w chyrraedd. Roedd rhai Iddewon yn credu ei bod yn lle gwych i gael lloches. Ond, roedd ’na frwydr ffyrnig yno rhwng yr Iddewon a’r Rhufeiniaid a bu farw llawer o bobl y ddinas. b

Roedd ’na lawer o fynyddoedd y byddai’r Cristnogion cynnar wedi gallu ffoi iddyn nhw, ond nid pob un oedd yn saff (Gweler paragraff 9)


10-11. (a) Sut efallai gwnaeth Jehofa roi arweiniad? (Hebreaid 13:​7, 17) (b) Beth oedd y canlyniad i’r Cristnogion a wnaeth ufuddhau i’r arweiniad? (Gweler hefyd y llun.)

10 Mae’n debyg fod Jehofa wedi arwain y Cristnogion trwy’r rhai a oedd yn cymryd y blaen yn y gynulleidfa. Yn hwyrach ymlaen, ysgrifennodd hanesydd o’r enw Eusebius am yr adeg honno. Fe ddywedodd fod Duw wedi datgelu i rai o’r brodyr yn Jerwsalem y dylai’r Cristnogion adael Jerwsalem a mynd i Pela, dinas yn Perea. Roedd Pela’n edrych fel lle da i’w ddewis. Nid oedd yn bell oddi wrth Jerwsalem ac felly roedd yn hawdd i’w chyrraedd. Hefyd, doedd y mwyafrif o’r bobl yn Pela ddim yn Iddewon. Felly, doedden nhw ddim yn ceisio rhyfela yn erbyn y Rhufeiniad.—Gweler y map.

11 Gwnaeth y Cristnogion a oedd wedi ffoi i’r mynyddoedd roi ar waith cyngor Paul: “Byddwch yn ufudd i’r rhai sy’n eich arwain chi.” (Darllen Hebreaid 13:​7, 17.) Gwnaeth y cyngor hwnnw achub eu bywydau. Mae hanes yn dangos bod Duw heb gefnu ar y rhai a oedd “yn disgwyl am y ddinas sydd â sylfeini go iawn,” sef Teyrnas Dduw.—Heb. 11:10.

Doedd Pela ddim y bell ac roedd yn saff (Gweler paragraffau 10-11)


12-13. Sut mae Jehofa wedi arwain ei bobl yn ystod adegau anodd iawn?

12 Y wers inni: Mae Jehofa’n defnyddio’r rhai sy’n cymryd y blaen i arwain ei bobl. Mae’r Ysgrythurau yn llawn esiamplau sy’n dangos bod Jehofa wedi defnyddio dynion ffyddlon i arwain ei bobl yn ystod adegau anodd iawn. (Deut. 31:23; Salm 77:20) A heddiw, rydyn ni’n gweld tystiolaeth glir fod Jehofa’n parhau i ddefnyddio’r rhai sy’n cymryd y blaen.

13 Er enghraifft, ar ôl i’r pandemig COVID-19 ddechrau, rhoddodd y brodyr a oedd yn cymryd y blaen arweiniad angenrheidiol. Cafodd yr henuriaid gyfarwyddiadau i’w helpu nhw i ofalu am anghenion ysbrydol eu brodyr a’u chwiorydd. Yn fuan ar ôl i’r pandemig ddechrau, cafodd cynhadledd ei chynnal mewn mwy na 500 o ieithoedd am y tro cyntaf ar lein, ar y teledu, ac ar y radio. Ni wnaeth unrhyw beth ein stopio ni rhag cael bwyd ysbrydol. O ganlyniad, arhoson ni’n unedig. Gallwn ni fod yn hyderus ni waeth pa dreialon byddwn ni’n eu hwynebu yn y dyfodol, bydd Jehofa yn parhau i helpu’r rhai sy’n cymryd y blaen i wneud penderfyniadau doeth. Er mwyn paratoi ar gyfer y trychineb mawr a dangos doethineb yn ystod yr adeg anodd iawn honno, mae’n rhaid inni ymddiried yn Jehofa ac ufuddhau i’w orchmynion. Pa rinweddau eraill sydd eu hangen arnon ni?

DANGOSA GARIAD BRAWDOL A LLETYGARWCH

14. Yn ôl Hebreaid 13:​1-3, pa rinweddau roedd yn rhaid i Gristnogion eu dangos yn ystod dyddiau olaf y system Iddewig?

14 Pan fydd y trychineb mawr yn taro, bydd angen inni ddangos cariad tuag at ein gilydd yn fwy nag erioed o’r blaen. Bryd hynny, bydd yn rhaid inni ddilyn esiampl y Cristnogion a oedd yn byw yn Jerwsalem a Jwdea. Roedden nhw’n wastad wedi dangos cariad tuag at ei gilydd. (Heb. 10:​32-34) Ond yn y blynyddoedd olaf cyn diwedd y system Iddewig, roedd yn rhaid i’r Cristnogion ddangos “cariad brawdol” a ‘lletygarwch’ yn fwy byth. c (Darllen Hebreaid 13:​1-3.) Bydd yn bwysig inni wneud yr un peth wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon.

15. Pam roedd angen i’r Cristnogion Hebreig ddangos cariad brawdol a lletygarwch ar ôl ffoi?

15 Ar ôl i’r byddinoedd Rhufeinig amgylchynu Jerwsalem ac wedyn gadael yn sydyn, gwnaeth y Cristnogion ffoi heb lawer o’u heiddo. (Math. 24:​17, 18) Roedd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ei gilydd wrth iddyn nhw deithio i’r mynyddoedd a setlo yn eu cartref newydd. Mae’n rhaid bod “achosion o angen brys” wedi rhoi llawer o gyfleoedd i’r Cristnogion ddangos eu cariad cryf tuag at ei gilydd ac i fod yn lletygar drwy rannu beth oedd ganddyn nhw ag eraill.—Titus 3:14.

16. Sut gallwn ni ddangos cariad at ein cyd-gredinwyr mewn angen? (Gweler hefyd y llun.)

16 Y wers inni: Mae cariad yn ein cymell ni i gefnogi ein cyd-gredinwyr pan maen nhw angen help. Mae llawer o bobl Dduw wedi bod yn awyddus i ofalu am anghenion ysbrydol a materol eu brodyr a’u chwiorydd sydd wedi ffoi oherwydd rhyfeloedd a thrychinebau naturiol. Dywedodd un chwaer a wnaeth adael ei chartref yn Wcráin oherwydd rhyfel: “Trwy ein brodyr, rydyn ni wedi teimlo llaw Jehofa yn ein harwain a’n helpu ni. Maen nhw wedi ein croesawu ni a’n helpu ni gymaint yn Wcráin, yn Hwngari, ac nawr yma yn yr Almaen.” Mae’r rhai sy’n dangos lletygarwch i’w brodyr a’u chwiorydd ac sy’n gofalu am eu hanghenion mor ddefnyddiol i Jehofa.—Diar. 19:17; 2 Cor. 1:​3, 4.

Mae angen i Gristnogion heddiw sy’n ffoaduriaid gael ein cefnogaeth (Gweler paragraff 16)


17. Pam mae’n hollbwysig inni feithrin cariad brawdol a lletygarwch nawr?

17 Yn ystod y trychineb mawr, bydd yn rhaid inni hefyd helpu ein gilydd yn fwy byth. (Hab. 3:​16-18) Mae Jehofa’n ein hyfforddi ni nawr i feithrin cariad brawdol ac i fod yn lletygar, rhinweddau a fydd yn hanfodol ar gyfer yr adeg honno.

YR HYN SYDD O’N BLAENAU

18. Sut gallwn ni efelychu Cristnogion Hebreig y ganrif gyntaf?

18 Fel mae hanes yn dangos, gwnaeth y Cristnogion a aeth i’r mynyddoedd osgoi’r trychineb a darodd Jerwsalem. Er eu bod nhw wedi gadael y ddinas, ni wnaeth Jehofa byth eu gadael nhw. Beth am heddiw? Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond mae gynnon ni rybudd Iesu am fod yn barod i weithredu. (Luc 12:40) Hefyd, mae gynnon ni gyngor Paul yn ei lythyr at yr Hebreaid, sydd yr un mor berthnasol nawr ag yr oedd yn y ganrif gyntaf. Ac mae Jehofa ei hun wedi addo i bob un ohonon ni na fydd ef byth yn ein gadael ni. (Heb. 13:​5, 6) Gad inni geisio’n daer y ddinas a fydd yn aros, sef Teyrnas Dduw, a mwynhau bendithion tragwyddol o ganlyniad.—Math. 25:34.

CÂN 157 Heddwch Pur!

a Yn adeg y Beibl, roedd dinasoedd yn aml yn cael eu rheoli gan frenin. Gallai dinas o’r fath gael ei hystyried yn deyrnas.—Gen. 14:2.

b Digwyddodd hyn yn 67 OG, yn fuan ar ôl i Gristnogion ffoi o Jwdea i Jerwsalem.

c Gallai’r gair sy’n cael ei gyfieithu “cariad brawdol” gyfeirio at gariad at deulu agos, ond mae Paul yn ei ddefnyddio i ddisgrifio’r cariad cynnes yn y gynulleidfa.