ERTHYGL ASTUDIO 14
CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa
“Dewiswch Drostoch Chi’ch Hunain . . . Pwy Rydych Chi am Ei Wasanaethu”
“Rydw i a fy nheulu yn mynd i wasanaethu Jehofa.”—JOS. 24:15.
PWRPAS
I’n hatgoffa ni o’r rhesymau pam rydyn ni wedi dewis gwasanaethu Jehofa.
1. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn bod yn wirioneddol hapus, a pham? (Eseia 48:17, 18)
MAE ein Tad nefol yn ein caru ni’n fawr iawn, ac mae eisiau inni fwynhau bywyd nawr ac yn y dyfodol. (Preg. 3:12, 13) Fe wnaeth ein creu ni gyda’r gallu i wneud pethau anhygoel, ond ni wnaeth ef roi inni’r gallu i reoli droston ni’n hunain yn llwyddiannus na gosod y safon o beth sy’n dda a drwg. (Preg. 8:9; Jer. 10:23) Mae ef yn gwybod bod rhaid inni ei wasanaethu a byw yn ôl ei safonau er mwyn bod yn wirioneddol hapus.—Darllen Eseia 48:17, 18.
2. Beth mae Satan eisiau inni ei gredu, a sut mae Jehofa wedi ymateb i’r celwydd hwnnw?
2 Mae Satan eisiau inni gredu ein bod ni’n gallu bod yn hapus heb Jehofa, a bod pobl yn gallu rheoli eu hunain yn llwyddiannus. (Gen. 3:4, 5) Ymatebodd Jehofa i’r celwydd hwnnw gan ganiatáu i ddynolryw reoli eu hunain am ychydig o amser. Mae’n amlwg bod rheolaeth ddynol wedi methu’n llwyr, ond mae’r Beibl yn llawn esiamplau o ddynion a merched a wnaeth fyw bywydau hapus oherwydd eu bod nhw wedi gwasanaethu Jehofa. Iesu Grist oedd yr un hapusach ohonyn nhw. Gad inni edrych yn gyntaf ar y rhesymau pam fe ddewisodd wasanaethu Jehofa. Wedyn, byddwn ni’n ystyried pam mae ein Tad nefol yn haeddu ein haddoliad. Yn olaf, byddwn ni’n trafod rhai o’r rhesymau pam rydyn ni’n dewis gwasanaethu Jehofa.
PAM DEWISODD IESU WASANAETHU JEHOFA
3. Beth a wnaeth Satan gynnig i Iesu, a beth dewisodd Iesu ei wneud?
3 Tra oedd Iesu ar y ddaear, roedd rhaid iddo benderfynu pwy i wasanaethu. Ar ôl iddo gael ei fedyddio, dywedodd Satan wrtho y byddai’n rhoi iddo holl deyrnasoedd y ddaear petasai’n ei addoli dim ond unwaith. Ymatebodd Iesu: “Dos o ’ma, Satan! Oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.’” (Math. 4:8-10) Pam gwnaeth Iesu’r penderfyniad hwnnw? Ystyria rai rhesymau.
4-5. Beth ydy rhai rhesymau dewisodd Iesu wasanaethu Jehofa?
4 Y prif reswm dewisodd Iesu wasanaethu Jehofa ydy cariad—mae’n teimlo cariad dwfn tuag at ei Dad na ellir ei dorri. (Ioan 14:31) Hefyd, mae Iesu’n gwasanaethu Jehofa oherwydd dyna’r peth cywir i’w wneud. (Ioan 8:28, 29; Dat. 4:11) Mae’n gwybod mai Jehofa ydy ffynhonnell bywyd a’i fod yn ddibynadwy ac yn hael. (Salm 33:4; 36:9; Iago 1:17) Mae Jehofa’n wastad wedi dweud y gwir wrth Iesu, ac mae popeth sy’n perthyn i Iesu wedi dod oddi wrth Jehofa. (Ioan 1:14) I’r gwrthwyneb i hynny, mae Satan wedi achosi marwolaeth. Mae’n gelwyddog, yn farus, ac yn hunanol. (Ioan 8:44) Gan wybod y ffeithiau hyn, ni wnaeth Iesu byth hyd yn oed meddwl am efelychu Satan drwy wrthryfela yn erbyn Jehofa.—Phil. 2:5-8.
5 Rheswm arall pam dewisodd Iesu wasanaethu Jehofa ydy oherwydd roedd yn edrych ymlaen at ganlyniadau da ei wasanaeth ffyddlon. (Heb. 12:2) Roedd yn gwybod os byddai’n aros yn ffyddlon, byddai’n sancteiddio enw ei Dad ac yn ei gwneud hi’n bosib dad-wneud yr holl ddioddefaint mae’r Diafol wedi ei achosi.
PAM MAE JEHOFA’N HAEDDU EIN HADDOLIAD
6-7. Pam nad ydy llawer yn gwasanaethu Jehofa, ond pam mae ef yn haeddu ein haddoliad?
6 Dydy llawer o bobl heddiw ddim yn gwasanaethu Jehofa oherwydd dydyn nhw ddim eto’n gwybod am ei rinweddau hyfryd, a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’r holl bethau da mae ef wedi eu gwneud ar eu cyfer nhw. Roedd hynny’n wir am y rhai roedd yr apostol Paul wedi pregethu iddyn nhw yn Athen.—Act. 17:19, 20, 30, 34.
7 Esboniodd Paul i’w wrandawyr bod y gwir Dduw yn “rhoi bywyd ac anadl a phob peth i bawb.” Fe ychwanegodd: “Drwyddo ef mae gynnon ni fywyd ac rydyn ni’n symud ac yn bodoli.” Fel ein Creawdwr, mae’n haeddu ein haddoliad oherwydd “allan o un dyn, fe wnaeth ef bob cenedl o ddynion.”—Act. 17:25, 26, 28.
8. Beth fydd Jehofa byth yn ei wneud? Esbonia.
8 Fel y Creawdwr a Sofran y bydysawd, gallai Jehofa orfodi pobl i’w wasanaethu ef. Ond, ni fydd Jehofa byth yn gwneud hynny. Yn lle hynny, mae’n rhoi inni dystiolaeth ei fod yn bodoli a’i fod yn caru pob un ohonon ni’n fawr iawn. Mae’n dymuno i gymaint o bobl â phosib fod yn ffrind iddo am byth. (1 Tim. 2:3, 4) Dyna pam mae Jehofa wedi ein hyfforddi ni i ddysgu eraill am ei ewyllys a’r pethau da byddai’n eu gwneud ar eu cyfer nhw. (Math. 10:11-13; 28:19, 20) Ac mae wedi rhoi inni gynulleidfaoedd lle gallwn ni ei addoli a chael help oddi wrth henuriaid cariadus.—Act. 20:28.
9. Pa dystiolaeth sydd ’na o gariad Jehofa?
9 Rydyn ni’n gweld tystiolaeth o gariad rhyfeddol Jehofa yn y ffordd mae’n trin y rhai sydd ddim yn credu ei fod yn bodoli. Ystyria’r ffeithiau hyn: Trwy gydol hanes, mae biliynau o bobl wedi dewis byw’n ôl safonau eu hunain o dda a drwg. Er hynny, yn ei garedigrwydd, mae Jehofa wedi rhoi iddyn nhw beth sydd ei angen er mwyn cynnal eu bywydau a’u mwynhau. (Math. 5:44, 45; Act. 14:16, 17) Mae wedi caniatáu iddyn nhw gael ffrindiau a theulu sy’n eu caru nhw, magu plant, a mwynhau canlyniadau da eu gwaith caled. (Salm 127:3; Preg. 2:24) Mae’n glir bod ein Tad nefol yn caru pawb. (Ex. 34:6) Nawr byddwn ni’n adolygu rhai o’r rhesymau pam rydyn ni’n dewis gwasanaethu Jehofa a sut mae ef yn ymateb.
PAM RYDYN NI’N DEWIS GWASANAETHU JEHOFA
10. (a) Beth ydy’r prif reswm dros wasanaethu Jehofa? (Mathew 22:37) (b) Sut rwyt ti wedi elwa o amynedd Jehofa? (Salm 103:13, 14)
10 Fel Iesu, y prif reswm dros wasanaethu Jehofa ydy ein cariad dwfn tuag ato. (Darllen Mathew 22:37.) Rydyn ni’n cael ein denu at Jehofa pan ydyn ni’n dysgu am ei rinweddau. Er enghraifft, ystyria amynedd Jehofa tuag aton ni. Pan oedd yr Israeliaid yn anufudd iddo, fe wnaeth erfyn arnyn nhw: “Newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi’n eu gwneud.” (Jer. 18:11) Mae Jehofa’n cofio ein bod ni’n amherffaith ac mai dim ond pridd ydyn ni. (Darllen Salm 103:13, 14.) Wrth iti fyfyrio ar amynedd Jehofa a’i rinweddau apelgar eraill, onid wyt ti’n cael dy gymell i’w wasanaethu am byth?
11. Beth ydy rhai rhesymau arall dros ddewis gwasanaethu ein Tad nefol?
11 Rydyn ni hefyd yn cael ein cymell i wasanaethu Jehofa oherwydd dyna’r peth iawn i’w wneud. (Math. 4:10) Ar ben hynny, rydyn ni’n gwybod bydd ein ffyddlondeb yn cael canlyniadau da. Mae’n helpu i sancteiddio enw Jehofa, yn profi bod y Diafol yn gelwyddog, ac yn dod â llawenydd i’n Tad. Ac os ydyn ni’n dewis gwasanaethu Jehofa nawr, bydd gynnon ni’r gobaith o’i wasanaethu am byth!—Ioan 17:3.
12-13. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o brofiad Jane a Pam?
12 Gallwn ni feithrin cariad dwfn tuag at Jehofa hyd yn oed yn ein hieuenctid, y fath gariad a fydd yn parhau i losgi wrth inni heneiddio. Ystyria esiampl ddwy chwaer. Roedd Jane yn 11 mlwydd oed a Pam a yn 10 mlwydd oed pan ddechreuon nhw astudio’r Beibl. Er nad oedd gan eu rhieni ddiddordeb mewn astudio, gwnaethon nhw ganiatáu i Jane a Pam gymdeithasu â’r Tystion dim ond os oedden nhw’n mynychu’r eglwys gyda’r teulu bob penwythnos. Dywedodd Jane: “Gwnaeth yr hyn a ddysgais yn y Beibl gan y Tystion fy helpu i i wrthod pwysau gan fy nghyfoedion i gymryd cyffuriau a bod yn anfoesol.”
13 Pan gyrhaeddon nhw eu harddegau hwyr, daeth y ddwy ohonyn nhw’n gyhoeddwyr. Yn hwyrach ymlaen, dechreuon nhw arloesi tra oedden nhw’n gofalu am eu rhieni yn eu henaint. Wrth edrych yn ôl ar eu profiad, mae Jane yn dweud: “Dysgais fod Jehofa’n ffyddlon ac yn gofalu am ei ffrindiau, fel mae 2 Timotheus 2:19 yn dweud, ‘Mae Jehofa’n adnabod y rhai sy’n perthyn iddo.’” Mae’n amlwg bod Jehofa’n gofalu am y rhai sy’n dewis ei garu a’i wasanaethu!
14. Sut gall ein geiriau a’n gweithredoedd helpu i glirio enw Jehofa o unrhyw gyhuddiad? (Gweler hefyd y lluniau.)
14 Rydyn ni eisiau i enw Jehofa gael ei glirio o unrhyw gyhuddiad. Dychmyga hyn: Mae gen ti ffrind agos sy’n garedig, hael, a maddeugar. Un diwrnod, rwyt ti’n clywed rhywun yn ei gyhuddo o fod yn greulon ac yn anonest. Sut rwyt ti’n ymateb? Rwyt ti’n ei amddiffyn. Mewn ffordd debyg, pan mae Satan a’r rhai o dan ei ddylanwad yn ceisio difetha enw da Jehofa drwy ledaenu celwyddau amdano, rydyn ni’n ymateb drwy ddweud y gwir am Jehofa ac amddiffyn Ei enw. (Salm 34:1; Esei. 43:10) Mewn gair a gweithred, rydyn ni’n dangos ein bod ni eisiau gwasanaethu Jehofa â’n holl galon.
15. Sut gwnaeth yr apostol Paul elwa o wneud newidiadau yn ei fywyd? (Philipiaid 3:7, 8)
15 Rydyn ni’n fodlon gwneud newidiadau yn ein bywydau fel ein bod ni’n gallu gwasanaethu Jehofa’n fwy neu mewn ffordd dderbyniol. Er enghraifft, dewisodd yr apostol Paul gefnu ar ei statws yn y gymuned er mwyn dilyn Crist a gwasanaethu Jehofa. (Gal. 1:14) O ganlyniad, fe wnaeth fyw bywyd llawn bendithion ac fe dderbyniodd y cyfle i reoli gyda Christ yn y nef. Ni wnaeth ef byth ddifaru ei benderfyniad i wasanaethu Jehofa, ac ni fyddwn ninnau chwaith.—Darllen Philipiaid 3:7, 8.
16. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Julia? (Gweler hefyd y lluniau.)
16 Os ydyn ni’n blaenoriaethu ein gwasanaeth i Jehofa, gallwn ni gael bywyd llawn bendithion nawr ac yn y dyfodol. Ystyria brofiad un chwaer o’r enw Julia. Pan oedd hi’n ifanc a chyn iddi ddysgu’r gwir, roedd hi’n canu mewn côr yn yr eglwys. Gwelodd canwr opera pa mor dalentog oedd hi ac fe wnaeth hi ei hyfforddi hi. Cafodd Julia enw da yn gyflym a dechreuodd hi berfformio mewn neuaddau cyngerdd enwog. Tra oedd hi’n mynychu ysgol cerddoriaeth nodedig, dechreuodd un o’i chyd-ddisgyblion siarad â hi am Dduw ac esbonio bod gan Dduw enw, sef Jehofa. Yn fuan wedyn, dechreuodd Julia astudio’r Beibl ddwywaith yr wythnos. Mewn amser, dewisodd hi roi blaenoriaeth i wasanaethu Jehofa yn hytrach nag i yrfa gerddorol. Doedd hynny ddim yn hawdd gwneud. Mae hi’n dweud: “Dywedodd llawer o bobl wrtho i fy mod i’n gwastraffu fy nhalent, ond roeddwn i eisiau defnyddio fy holl fywyd yn gwasanaethu Jehofa.” Sut mae hi’n teimlo nawr am y penderfyniad a wnaeth hi dros 30 o flynyddoedd yn ôl? “Rydw i mor hapus, ac rydw i’n trystio y bydd Jehofa’n gwireddu fy holl freuddwydion yn y dyfodol.”—Salm 145:16.
PARHA I WASANAETHU JEHOFA
17. Sut mae byw’n agos at ddiwedd y system hon yn effeithio arnon ni ac ar y rhai sydd ddim eto’n gwasanaethu Jehofa?
17 Rydyn ni’n byw yn agos iawn at ddiwedd y system hon. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Oherwydd ‘mewn ychydig o amser,’ ‘bydd yr un sy’n dod yn cyrraedd heb oedi.’” (Heb. 10:37) Sut mae hyn yn effeithio arnon ni? Am un peth, mae’r amser sydd ar ôl i bobl ddewis gwasanaethu Jehofa yn fyr. (1 Cor. 7:29) Ac os ydyn ni wedi penderfynu gwasanaethu Duw yn barod, rydyn ni’n gwybod byddwn ni ond yn gorfod wynebu treialon am “ychydig o amser.”
18. Beth mae Iesu a Jehofa yn ein hannog ni i’w wneud?
18 Gwnaeth Iesu annog ei ddisgyblion nid yn unig i ddechrau dilyn ef ond hefyd i ddal ati i’w ddilyn. (Math. 16:24) Felly, os ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd, gad inni fod yn benderfynol o barhau i’w wasanaethu. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i fyw’n unol â’n penderfyniad i’w wasanaethu ef. Gall hynny fod yn anodd, ond gallwn ni fod yn hapus a mwynhau llawer o fendithion hyd yn oed nawr!—Salm 35:27.
19. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o brofiad Gene?
19 Mae rhai yn teimlo bod gwasanaethu Jehofa yn golygu aberthu gormod. Os wyt ti’n ifanc, a wyt ti’n teimlo byddi di’n colli allan ar rywbeth drwy wasanaethu Jehofa? Mae un brawd o’r enw Gene yn dweud: “Roeddwn i’n teimlo fel bod y gwir yn fy nal i’n ôl rhag cael hwyl. Roedd yn ymweld fel bod plant eraill yn mwynhau pethau fel partïo, dêtio, neu chwarae gemau fideo treisgar, tra oedd rhaid imi dreulio fy amser yn y cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth.” Sut gwnaeth meddwl fel hyn effeithio ar Gene? Dywedodd: “Dechreuais fyw bywyd dwbl, ac fe ges i hwyl am gyfnod. Ond ni wnaeth ddod â gwir hapusrwydd imi. Dechreuais feddwl am wirioneddau o’r Beibl roeddwn i wedi dewis eu hanwybyddu a phenderfynais wasanaethu Jehofa â fy holl galon. Ers hynny, rydw i’n teimlo fel bod Jehofa wedi ateb pob un o fy ngweddïau.”
20. O beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?
20 Canodd un salmydd i Jehofa: “Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis, a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.” (Salm 65:4) Gad inni fod yn benderfynol o barhau i wasanaethu Jehofa. Fel Josua, rydyn ni’n dweud: “Rydw i a fy nheulu yn mynd i wasanaethu Jehofa.”—Jos. 24:15.
CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa
a Newidiwyd rhai enwau.