Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Wrthon Ni?
“Dyma hanes y bydysawd yn cael ei greu.” (Genesis 2:4) Gyda’r geiriau hynny, mae’r Beibl yn crynhoi’r hanes o sut daeth ein planed i fodolaeth. Ydy’r Beibl yn cytuno â’r ffeithiau gwyddonol? Ystyriwch rai enghreifftiau.
Ydy’r bydysawd wastad wedi bodoli?
Mae Genesis 1:1 yn dweud: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.”
Hyd at ail hanner yr 20fed ganrif, roedd llawer o wyddonwyr yn credu bod y bydysawd wastad wedi bodoli. Ond ar sail ymchwil mwy diweddar, mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr nawr yn cydnabod bod y bydysawd wedi cael dechreuad.
Sut le oedd y ddaear yn wreiddiol?
Yn ôl Genesis 1:2, 9 roedd y ddaear yn “anhrefn gwag” i gychwyn, yn ddi-siâp, wedi ei gorchuddio â dŵr.
Mae gwyddonwyr heddiw yn cytuno â’r disgrifiad hwnnw. Dywedodd y biolegwr Patrick Shih bod ein planed wedi dechrau gydag “atmosffer heb ocsigen i’w anadlu . . . oedd ar y cyfan yn edrych fel rhyw blaned ryfedd arall.” Dywedodd y cylchgrawn Astronomy: “Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod y ddaear gynnar yn fyd o ddŵr, gydag ychydig iawn, os nad dim, tir i’w weld.”
Sut newidiodd ein hatmosffer dros amser?
Mae Genesis 1:3-5 yn dangos bod golau wedi dechrau treiddio drwy’r atmosffer, ond doedd yr haul a’r lleuad yn dal ddim i’w gweld yn glir o wyneb y ddaear. Fyddai hynny ddim yn digwydd tan yn hwyrach ymlaen.—Genesis 1:14-18.
Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod yr holl fywyd ar y ddaear wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod 24 awr
Mae Canolfan Ymchwil Amgylcheddol y Smithsonian yn dweud bod ein hatmosffer cynnar dim ond wedi gadael i olau gwan gyrraedd y ddaear. Dywedodd: “Roedd diferion methan yn yr aer yn gorchuddio’r ddaear ifanc mewn niwl byd-eang.” Yn hwyrach ymlaen, “gwnaeth y niwl hwnnw glirio, a throdd yr awyr yn las.”
Ym mha drefn wnaeth bywyd ymddangos ar y ddaear?
Mae Genesis 1:20-27 yn dweud bod pysgod, adar, anifeiliaid y tir, ac yn olaf, pobl, wedi cael eu creu. Mae gwyddonwyr yn credu bod y pysgod cyntaf wedi ymddangos ymhell cyn y mamaliaid cyntaf, a bod pobl wedi ymddangos yn llawer hwyrach wedyn.
Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod pethau byw yn methu newid dros amser
Beth Dydy’r Beibl Ddim yn ei Ddweud?
Mae rhai pobl yn honni bod y Beibl yn anghytuno â gwyddoniaeth fodern. Ond yn aml, maen nhw’n dweud hynny am eu bod nhw wedi camddeall beth mae’r Beibl yn ei ddweud.
Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod y bydysawd a’r ddaear ond yn 6,000 o flynyddoedd oed. Yn hytrach, mae’n dweud yn syml fod y bydysawd a’r ddaear wedi cael eu creu “ar y dechrau.” (Genesis 1:1) Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union pa mor bell yn ôl oedd hynny.
Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod yr holl fywyd ar y ddaear wedi cael ei greu mewn chwe diwrnod 24 awr. Yn hytrach, mae’n defnyddio’r geiriau “diwrnod” neu “dydd” i gyfeirio at gyfnodau o amser. Er enghraifft, mae’r “dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd” yn cyfeirio at y broses greu gyfan, gan gynnwys y chwe “diwrnod” creu. (Genesis 2:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly, gallai pob un o’r chwe “diwrnod” creu yn Genesis pennod 1 gynrychioli cyfnodau hir o amser.
Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod pethau byw yn methu newid dros amser. Mae llyfr Genesis yn dweud y cafodd anifeiliaid “o bob math” eu creu. (Genesis 1:24, 25) Dydy’r gair “math” yn y Beibl ddim yn derm gwyddonol. Mae’n ymddangos ei fod yn cyfeirio at wahanol grwpiau o bethau byw. Felly, gall un “math” gynnwys llawer o wahanol rywogaethau ac amrywiaethau. Mae hynny’n caniatáu am y posibilrwydd fod rhywogaethau o fewn “math” yn gallu newid ac amrywio dros amser yn dibynnu ar eu cynefin.
Beth rydych chi’n ei feddwl?
Fel rydyn ni wedi gweld, mae’r Beibl yn disgrifio pethau fel cychwyn y bydysawd, cyflwr gwreiddiol y ddaear, a datblygiad bywyd, mewn termau syml a chywir. Tybed felly a ydy’r Beibl hefyd yn gywir wrth enwi’r Un a greodd y pethau hynny? Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, “dydy’r syniad bod bywyd wedi tarddu o ganlyniad i ryw ddigwyddiad goruwchnaturiol, ddim yn anghytuno â gwyddoniaeth fodern.” *
^ Par. 20 Dydy’r Encyclopædia Britannica ddim yn hyrwyddo’r syniad bod bywyd wedi cael ei greu.