Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cynhyrchu’r Llyfr Mwya Pwysig

Cynhyrchu’r Llyfr Mwya Pwysig

IONAWR 1, 2021

 “Dw i wedi bod yn aros am hyn am 19 o flynyddoedd!” Beth oedd ein brawd yn aros amdano? Cyfieithiad y New World o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn ei iaith ei hun, Bengali. Mae llawer yn ymateb yn debyg pan mae cyfieithiad y New World yn cael ei ryddhau yn eu hiaith nhw. Ond ydych chi erioed wedi ystyried sut mae’r Beiblau hyn yn cael eu cyfieithu a’u cynhyrchu?

 Yn gyntaf, mae tîm cyfieithu yn cael ei aseinio o dan arweiniad Pwyllgor Ysgrifennu y Corff Llywodraethol. Pa mor hir mae’n cymryd i dîm gyfieithu’r Beibl? Mae Nicholas Ahladis, sy’n gweithio gyda’r Gwasanaethau Cyfieithu yn Warwick, Efrog newydd, yn esbonio: “Mae ’na lawer o ffactorau, gan gynnwys faint o gyfieithwyr sydd ar gael ar gyfer y prosiect, pa mor gymhleth ydy’r iaith, pa mor dda mae’r darllenwyr yn deall diwylliant Beiblaidd, a hefyd os ydy’r iaith yn amrywio o ardal i ardal. Ar gyfartaledd, gall cymryd rhwng un i dair blynedd i gyfieithu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn unig ac fel arfer pedair blynedd neu fwy i gyfieithu’r Beibl cyfan. Mae’r proses yn hirach fyth i ieithoedd arwyddion.”

 Mae’n gofyn am fwy na thîm cyfieithu yn unig i gyfieithu’r Beibl. Mae grŵp o ddarllenwyr allanol o wahanol gefndiroedd—a weithiau o wledydd gwahanol—yn adolygu’r cyfieithiad, a hynny am ddim. Mae eu hadborth yn helpu cyfieithwyr i wneud Beibl sy’n gywir, yn glir, ac yn llawn ystyr. Mae un brawd yn Ne Affrica sy’n hyfforddi cyfieithwyr y Beibl yn dweud hyn: “Mae cyfieithwyr yn teimlo cyfrifoldeb enfawr tuag at Jehofa a’r rhai sy’n darllen ei Air.”

 Ar ôl i’r cyfieithu gael ei gwblhau, mae’n rhaid i’r Beiblau gael eu hargraffu a’u rhwymo. Er mwyn gwneud hyn, mae argraffdai yn defnyddio o leiaf deg eitem wahanol: papur, inc, defnydd ar gyfer y clawr, glud, leinin y clawr, dalen arian, rhuban, blaenrwymyn, defnydd ar gyfer cryfhau’r meingefn, a defnydd sy’n helpu i rwymo’r Beibl gyda’i gilydd. Yn 2019, cafodd cyfanswm o dros 20 miliwn o ddoleri (UDA) eu gwario ar y pethau hyn i gynhyrchu Beiblau. Gweithiodd personél ein hargraffdai fwy na 300,000 o oriau yn ystod y flwyddyn i gynhyrchu a chludo Beiblau.

“Y Beibl ydy’r cyhoeddiad pwysicaf ’dyn ni’n ei gynhyrchu”

 Pam defnyddio gymaint o amser ac arian i wneud hyn? “Y Beibl ydy’r cyhoeddiad pwysicaf ’dyn ni’n ei gynhyrchu,” meddai Joel Blue o’r Adran Argraffu Rhyngwladol. “Felly ’dyn ni eisiau i’r ffordd mae’n edrych ddod â chlod i’r Duw ’dyn ni’n ei addoli a’r neges ’dyn ni’n ei phregethu.”

 Yn ogystal â fersiynau arferol o gyfieithiad y New World, rydyn ni hefyd yn cynhyrchu fersiynau ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig. Er enghraifft, mae cyfieithiad y New World yn braille ar gael mewn deg iaith. Mae’n cymryd hyd at wyth awr i wneud un Beibl braille cyfan, ac mae ei holl gyfrolau angen 2.3 metr (7.5 tr) o le ar y silff. Rydyn ni hefyd yn cynhyrchu fersiwn arbennig o’r Beibl i rai yn y carchar, lle mae llyfrau clawr papur yn unig sy’n cael eu caniatáu.

 Mae cyfieithiad y New World yn cael effaith mawr ar ei ddarllenwyr. Ystyriwch gynulleidfa iaith Cilwbeg yn Tombe, sydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Mae Tombe dros 1,000 o filltiroedd (1,700 km) i ffwrdd o brifddinas y wlad. Dim ond un Beibl oedd ar gael i’r Tystion yno, ac roedd hynny’n defnyddio iaith hen ffasiwn. Cafodd y Beibl hwnnw ei basio o un brawd i’r llall er mwyn iddyn nhw baratoi rhannau ar gyfer y cyfarfodydd. Ond ers mis Awst 2018, mae copïau o gyfieithiad cyfan y New World mewn iaith fodern wedi bod ar gael yn Cilwbeg i bawb yn y gynulleidfa.

 Mae chwaer yn dweud am gyfieithiad y New World diwygiedig yn Almaeneg: “Dw i ddim yn dweud bellach bod rhaid imi ddarllen y Beibl. Yn lle hynny, dw i’n gofyn, ‘Pryd alla i ddarllen eto?’” Dywedodd carcharor: “Rhoddodd rhywun gopi imi o gyfieithiad y New World ac mae’n newid fy mywyd. Mae’r cyfieithiad hwn wedi helpu fi i ddeall gair Duw yn well nag erioed. Dw i eisiau gwybod mwy am Dystion Jehofa a sut i ddod yn un ohonyn nhw.”

 Mae pawb sy’n darllen cyfieithiad y New World yn ddiolchgar am y cyfraniadau sy’n mynd tuag at ei gynhyrchu. Mae’r cyfraniadau hyn i’r gwaith byd-eang yn cael eu gwneud drwy un o’r dulliau ar donate.jw.org. Diolch am roi yn hael.