SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Cyfarfodydd Drwy Fideo-gynadledda
MEHEFIN 26, 2020
Mae llawer o lywodraethau ar draws y byd wedi gofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol ac wedi gwahardd cynulliadau. Mae Tystion Jehofa yn benderfynol o ufuddhau i’r gofynion hyn wrth addoli fel grŵp mewn ffordd ddiogel. Er mwyn gwneud hynny, mae cynulleidfaoedd yn defnyddio apiau fideo-gynadledda, fel Zoom, i gynnal eu cyfarfodydd.
Er mwyn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd, mae’r Corff Llywodraethol wedi caniatáu defnyddio cyfraniadau i brynu cyfrifon Zoom ar gyfer cynulleidfaoedd. Mae hyn wedi bod yn help mawr i gynulleidfaoedd nad oedd yn gallu fforddio prynu cyfrif fideo-gynadledda, sy’n costio £12-£16 neu fwy. Roedd y cynulleidfaoedd hynny yn aml yn gorfod dibynnu ar apiau am ddim sy’n cyfyngu ar y nifer o bobl sy’n gallu ymuno, ac sydd heb fod yn ddiogel iawn. Ond mae cyfrifon Zoom y gyfundrefn yn haws i’w defnyddio, yn fwy diogel, ac yn caniatáu i nifer mawr o bobl gysylltu â phob cyfarfod. Hyd yn hyn, mae dros 65,000 o gynulleidfaoedd, mewn mwy na 170 o wledydd yn defnyddio cyfrifon Zoom.
Fe wnaeth Cynulleidfa Kairagi, ym Manado, Gogledd Sulawesi, Indonesia, newid o ddefnyddio ap fideo-gynadledda am ddim i ddefnyddio cyfrif Zoom y gyfundrefn. Mae’r Brawd Hadi Santoso yn egluro: “Mae brodyr a chwiorydd sydd ddim yn gyfarwydd iawn â dyfeisiau electronig, nawr yn gallu mwynhau’r cyfarfodydd heb orfod mewngofnodi sawl gwaith yn ystod y cyfarfod.”
Mae Lester Jijón, henuriad yng nghynulleidfa Guayacanes Oeste yn Guayaquil, Ecwador, yn dweud: “Oherwydd sefyllfa economaidd y brodyr a chwiorydd, byddai’n amhosib i rai cynulleidfaoedd dalu am drwydded Zoom a fyddai’n galluogi’r gynulleidfa gyfan i fynychu’r cyfarfodydd. Ond nawr, diolch i’r gyfundrefn, mae gynnon ni gyfrif Zoom sy’n caniatáu i nifer mawr o bobl gysylltu. Felly rydyn ni’n gallu gwahodd pobl eraill i’r cyfarfodydd heb boeni am fynd dros y nifer o gysylltiadau.”
Mae Johnson Mwanza, henuriad yng nghynulleidfa Gogledd Ngwerere yn Lusaka, Sambia, yn ysgrifennu: “Mae llawer o’n brodyr a chwiorydd yn dweud gymaint mae trefniad Zoom y gyfundrefn, nid yn unig wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n agosach at eu brodyr a chwiorydd, ond hefyd wedi gwneud iddyn nhw deimlo cariad a gofal Jehofa.”
Mae’r cyfrifon Zoom hyn yn cael eu prynu ag arian wedi ei neilltuo ar gyfer rhoi cymorth ar ôl trychineb. Daw’r arian o roddion gwirfoddol i’r gwaith byd-eang. Mae llawer o’r cyfraniadau hyn yn cael eu rhoi ar donate.jw.org. Diolch ichi am eich rhoddion hael, sydd hefyd yn helpu i ddarparu cymorth mewn gwahanol ffyrdd ar draws y byd.—2 Corinthiaid 8:14.