SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Adnodd Gwahanol Iawn ar Gyfer Astudio’r Beibl
EBRILL 1, 2022
Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd y Corff Llywodraethol eu bod nhw’n rhyddhau adnodd newydd ar gyfer astudio’r Beibl, sef Mwynhewch Fywyd am Byth! a Beth oedd eich ymateb i’r cyhoeddiad? “O’n i wedi cyffroi!” meddai Matthew, o Ganada. “A thyfodd y cyffro hwnnw yn ystod yr anerchiadau a’r fideos oedd yn esbonio pam cafodd y cyhoeddiad ei baratoi a’i brofi yn y maes. O’n i ar dân eisiau ei weld a’i ddefnyddio.”
Mae’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! wedi cyflwyno dull newydd o astudio’r Beibl. Ond nid dyna’r unig wahaniaeth rhwng y llyfr newydd a’r llyfrau astudio cynt. Os ydych chi’n defnyddio copi printiedig o Mwynhewch Fywyd am Byth!, efallai eich bod chi wedi sylwi ei fod yn teimlo yn wahanol hefyd. I weld pam, gadewch inni edrych yn fanylach ar sut mae’r llyfr wedi ei roi at ei gilydd.
Llyfr Newydd a Theimlad Newydd Iddo
Papur mwy trwchus. Pam roedd angen hyn? Mae gan y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! fwy na 600 o luniau lliwgar, sydd tua dengwaith yn fwy na’r llyfr Dysgu o’r Beibl. Hefyd, mae ’na fwy o ofod gwyn, heb destun na lluniau, ar dudalennau’r llyfr newydd. Mae’r ddau ffactor hyn yn creu problem. Pan fydd y papur yn denau, bydd y lluniau ar ochr arall y dudalen yn weladwy. I osgoi hyn, fe wnaeth y brodyr yn yr Adran Argraffu Rhyngwladol (IPD) yn Wallkill, Efrog Newydd, UDA, brofi pedwar math o bapur sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn ein hargraffdai. Edrychodd Pwyllgor Ysgrifennu’r Corff Llywodraethol yn fanwl ar bob sampl, a dewis y papur lleiaf tryloyw. Er bod y papur hwn yn costio tua 16 y cant yn fwy na’r papur rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ein cyhoeddiadau eraill, mae’n caniatáu i fyfyrwyr y Beibl ddarllen pob tudalen heb i’r lluniau ar gefn y papur dynnu eu sylw.
Laminiad gwahanol i’r clawr. Mae clawr y llyfr newydd yn teimlo’n wahanol i gloriau ein llyfrau eraill am ei fod wedi ei orchuddio â laminiad, neu ffilm warchod wahanol. Yn lle’r laminiad sgleiniog arferol, mae gan y llyfr newydd orffeniad mat, sydd yn gwneud i’r lluniau ar y clawr sefyll allan. Mae’r laminiad hefyd yn amddiffyn y llyfr rhag cael ei wisgo’n ormodol wrth ei ddefnyddio’n aml. Ond mae laminiad mat yn gallu costio hyd at bum gwaith yn fwy na laminiad sgleiniog. Felly gweithiodd sawl cangen gyda’i gilydd i brynu gorffeniad mat oedd yn llai drud.
Pam cafodd deunyddiau drutach eu dewis? Esboniodd brawd sy’n gweithio gyda’r IPD: “’Dyn ni’n disgwyl y bydd y llyfr hwn yn cael ei ddefnyddio’n aml, felly ’dyn ni eisiau iddo barhau i edrych yn dda.” Dywedodd Eduardo, sy’n gweithio yn Swyddfa Argraffu cangen Brasil: “Mor braf yw gweld sut mae cyfundrefn Jehofa wedi creu llyfr hardd o ansawdd uchel, sy’n bleser i afael ynddo, a llwyddo i ddefnyddio cyfraniadau yn ddoeth ar yr un pryd.”
Argraffu yn Ystod y Pandemig COVID-19
Dechreuon ni argraffu Mwynhewch Fywyd am Byth! ym mis Mawrth 2021. Roedd hyn yn ystod y pandemig COVID-19, ac yn dipyn o her. Oherwydd y cyfnod clo ym mhob Bethel, doedd ein hargraffdai ddim yn gallu dibynnu ar gymorth gwirfoddolwyr o’r tu allan i Fethel, nac yn gallu gwahodd brodyr newydd i wasanaethu ym Methel chwaith. O ganlyniad, roedd rhai argraffdai yn brin o staff, ac fe gafodd rhai eraill eu cau dros dro oherwydd rheolau a osodwyd gan wahanol lywodraethau.
Sut gwnaethon ni ddygymod â’r anawsterau hyn? Pan oedd modd i’r argraffdai weithio, cafodd brodyr a chwiorydd o adrannau eraill ym Methel eu haseinio dros dro i helpu gyda’r argraffu. “Roedd eu hysbryd hunan-aberthol a’u parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd o gymorth mawr i gwblhau’r gwaith,” meddai Joel, sy’n gweithio gyda’r IPD.
Er gwaethaf yr her, rydyn ni wedi argraffu miliynau o gopïau o Mwynhewch Fywyd am Byth! yn barod. Mae angen amrywiaeth eang o ddeunyddiau i’w cynhyrchu, gan gynnwys platiau argraffu, ffilm lamineiddio, papur, inc, a glud. Gwariwyd dros £1.7 miliwn ar ddeunyddiau yn y pum mis cyntaf o argraffu yn unig. I arbed arian, rydyn ni wedi bod yn ofalus i argraffu dim ond y llyfrau sydd eu hangen ar y cynulleidfaoedd.
“Mae’n Adnodd Gwych”
Sut mae athrawon y Beibl a’u myfyrwyr yn teimlo am yr adnodd newydd hwn? Dywedodd Paul, brawd o Awstralia: “Mae Mwynhewch Fywyd am Byth! mor bleserus i’w ddefnyddio, dw i’n cael y fath wefr o gynnal astudiaethau Beiblaidd. Mae diwyg y llyfr mor apelgar ac yn wirioneddol ryngweithiol. Mae’r cyfuniad o wybodaeth glir, cwestiynau sy’n cyrraedd y galon, fideos, lluniau, siartiau, a gwahanol nodau ar gyfer y myfyriwr yn ardderchog. Mae’n adnodd gwych, sy’n gwneud imi eisiau bod yn athro gwell.”
Dywedodd myfyriwr y Beibl yn yr Unol Daleithiau: “Dw i’n hoffi’r llyfr newydd yn fawr iawn. Mae’r lluniau yn fy helpu i ddeall y prif bwyntiau. Ac mae’r fideos yn cyffwrdd â’m calon ac yn fy sbarduno i weithredu.” Mae’r myfyriwr hwn yn astudio ddwywaith yr wythnos, ac yn mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa yn gyson.
Mae’r gwaith i argraffu miliynau o gopïau o Mwynhewch Fywyd am Byth! ar y gweill mewn llawer o ieithoedd. Hyd yma, mae’r Corff Llywodraethol wedi cymeradwyo cyhoeddi’r llyfr mewn 710 o ieithoedd, sydd yn 340 yn fwy na chafodd eu cymeradwyo ar gyfer y llyfr Dysgu o’r Beibl.
Sut rydyn ni’n talu am y costau argraffu? Drwy gyfraniadau at y gwaith byd-eang, gyda llawer o’r rhain yn cael eu gwneud drwy donate.jw.org. Gwerthfawrogwn eich haelioni yn fawr iawn. Mae’n ein helpu i gynhyrchu adnoddau astudio’r Beibl ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu am Jehofa a mwynhau bywyd am byth.—Salm 22:26.
a Cafodd ei ryddhau ar JW Broadcasting yn ystod y rhaglen ysbrydol a gynhaliwyd adeg y cyfarfod blynyddol.