Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Drechu Blinder Pandemig

Sut i Drechu Blinder Pandemig

 Ydy byw o dan fygythiad COVID-19 wedi dechrau dweud arnoch chi? Os felly, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Ers misoedd, mae pobl o gwmpas y byd wedi gorfod addasu i fywyd o dan fygythiad y pandemig hwn. Mae llawer “wedi gwneud aberthau mawr i rwystro COVID-19 rhag lledaenu,” meddai’r Dr Hans Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop. “O dan y fath amgylchiadau, mae hi’n ddigon hawdd teimlo’n apathetig a cholli’r awydd i wneud pethau, sy’n arwydd o flinder.”

 Os ydych chi’n dioddef o’r hyn sy’n cael ei alw’n flinder pandemig, peidiwch â digalonni. Mae’r Beibl yn helpu llawer i ymdopi â bywyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gall eich helpu chithau hefyd.

 Beth yw blinder pandemig?

 Dydy blinder pandemig ddim yn gyflwr meddygol, mae’n derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ymateb naturiol pobl i’r teimlad o ansicrwydd hirdymor a’r diffyg rwtîn sy’n cael ei achosi gan bandemig. Mae pawb yn ymateb yn wahanol, ond mae arwyddion cyffredin blinder pandemig yn cynnwys:

  •   Diffyg awydd gwneud pethau

  •   Newid mewn arferion bwyta neu gysgu

  •   Colli tymer yn hawdd

  •   Stres oherwydd tasgau na fyddai’n broblem fel arfer

  •   Trafferth canolbwyntio

  •   Anobeithio

 Pam mae blinder pandemig mor ddifrifol?

 Gall blinder pandemig fod yn beryglus i ni ac i eraill. Os nad ydyn ni’n ofalus, efallai y byddwn ni’n raddol yn colli’r cymhelliad i ddilyn arferion COVID-ddiogel. Dros amser gallwn anghofio pa mor beryglus ydy’r feirws, er iddo barhau i ledaenu a lladd. Wedi cael llond bol o fyw o dan gyfyngiadau, efallai y byddwn ni’n ceisio mwy o ryddid a allai fod yn beryg i ni ac i eraill.

 Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae llawer yn gweld gwirionedd yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud: “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth.” (Diarhebion 24:10) Mae’r Beibl yn cynnig egwyddorion sy’n gallu ein helpu ni i ymdopi â sefyllfaoedd sy’n ein digalonni, gan gynnwys y pandemig hwn.

 Pa egwyddorion o’r Beibl all eich helpu chi i drechu blinder pandemig?

  •   Cadwch eich pellter yn gorfforol—ond nid yn gymdeithasol

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind . . . wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

     Pam mae’n bwysig? Mae ffrindiau go iawn yn ein calonogi. (1 Thesaloniaid 5:11) Ar y llaw arall, mae cadw ar wahân am gyfnod hir yn peryglu ein hiechyd.—Diarhebion 18:1.

     Rhowch gynnig ar hyn: Cadwch mewn cysylltiad â’ch ffrindiau dros alwadau fideo, galwadau ffôn, neu e-byst a negeseuon testun. Cysylltwch â ffrindiau pan ydych chi’n cael diwrnod drwg, a chodwch y ffôn yn aml i weld sut maen nhw’n cadw. Rhannwch syniadau ynglŷn â beth sy’n eich helpu chi i ymdopi yn ystod y pandemig. Ffeindiwch ffyrdd o wneud rhywbeth caredig ar gyfer ffrind, a byddwch chi’n goleuo diwrnod du.

  •   Gwnewch y gorau o’ch amgylchiadau presennol

     Mae’r Beibl yn dweud: “Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi.”—Effesiaid 5:16.

     Pam mae’n bwysig? Gall gwneud defnydd doeth o’ch amser eich helpu i aros yn bositif ac osgoi pryderu gormod.—Luc 12:25.

     Rhowch gynnig ar hyn: Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allwch chi ei wneud bellach, edrychwch am ffyrdd y gallwch fanteisio ar eich sefyllfa. Er enghraifft, oes gynnoch chi’r amser nawr ar gyfer prosiectau neu hobïau oeddech chi’n rhy brysur i’w gwneud o’r blaen? Allwch chi dreulio mwy o amser gyda’ch teulu?

  •   Cadwch at rwtîn

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dylai popeth gael ei wneud . . . yn drefnus.”—1 Corinthiaid 14:40.

     Pam mae’n bwysig? Mae llawer o bobl yn dueddol o fod yn hapusach eu byd pan fydd ganddyn nhw rwtîn.

     Rhowch gynnig ar hyn: Gwnewch amserlen sy’n adlewyrchu eich sefyllfa bresennol. Neilltuwch amser penodol i wneud gwaith ysgol, gwaith seciwlar, a gwaith tŷ yn ogystal â gwneud pethau i glosio at Dduw. Sicrhewch eich bod yn cynnwys gweithgareddau eraill sy’n dda ichi, fel treulio amser gyda’r teulu, treulio amser tu allan, a chael ymarfer corff. Adolygwch eich amserlen bob hyn a hyn, a’i addasu yn ôl yr angen.

  •   Addaswch i’r tymhorau

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi.”—Diarhebion 22:3.

     Pam mae’n bwysig? Gan ddibynnu ar le rydych yn byw, gall y newid mewn tymhorau olygu eich bod yn cael llai o gyfleoedd i fwynhau awyr iach a golau’r haul, sy’n gwneud lles i’ch iechyd corfforol a meddyliol.

     Rhowch gynnig ar hyn: Os ydy’r gaeaf yn dod, ceisiwch addasu eich ystafell fyw neu’ch man gweithio i adael gymaint o olau â phosib i mewn. Cynlluniwch weithgareddau gallwch chi eu gwneud tu allan er gwaethaf y tywydd oer. Os yw’n bosib, ceisiwch gael dillad gaeaf a fydd yn caniatáu ichi dreulio mwy o amser tu allan.

     Os ydy’r haf ar y ffordd, bydd pobl yn treulio mwy o amser tu allan, felly byddwch yn ofalus. Cynlluniwch le byddwch chi’n mynd, a dewiswch amser pan na fydd gormod o bobl yno.

  •   Daliwch ati i ymddwyn mewn ffordd COVID-ddiogel

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.”—Diarhebion 14:16.

     Pam mae’n bwysig? Mae COVID-19 yn lladd, a chawn ein heintio os nad ydyn ni’n ofalus.

     Rhowch gynnig ar hyn: Edrychwch ar gyfarwyddiadau dibynadwy lleol yn aml, ac ystyriwch a ydych chi’n dal i ymddwyn yn ofalus. Meddyliwch am sut bydd eich gweithredoedd yn effeithio arnoch chi, eich teulu, ac eraill.

  •   Cryfhewch eich perthynas â Duw

     Mae’r Beibl yn dweud: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

     Pam mae’n bwysig? Gall Duw eich helpu i ymdopi ag unrhyw her.—Eseia 41:13.

     Rhowch gynnig ar hyn: Darllenwch ran o Air Duw, y Beibl, bob dydd. Gall y rhaglen hon eich helpu i roi cychwyn ar ddarllen y Beibl.

 Beth am gysylltu â Thystion Jehofa i weld sut gallwch chi elwa ar eu trefniadau i barhau i gyfarfod yn ystod y pandemig COVID-19. Er enghraifft, yn fyd-eang maen nhw wedi bod yn defnyddio fideogynadledda ar gyfer eu cyfarfodydd cynulleidfaol, coffadwriaeth flynyddol marwolaeth Iesu, a’u cynhadledd flynyddol.

 Adnodau o’r Beibl i’ch helpu chi i ddelio â blinder pandemig

 Eseia 30:15, New World Translation: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.”

 Ystyr: Gall trystio cyngor Duw ein helpu i beidio â chynhyrfu yn ystod cyfnod anodd.

 Diarhebion 15:15: “Mae pobl sy’n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.”

 Ystyr: Gall canolbwyntio ar bethau positif ein helpu i fod yn hapus hyd yn oed mewn cyfnodau anodd.

 Diarhebion 14:15: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”

 Ystyr: Gwrandewch ar y cyfarwyddiadau iechyd, a pheidiwch â neidio i’r casgliad nad oes angen y fath gyfyngiadau.

 Eseia 33:24: “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”

 Ystyr: Mae Duw yn addo rhoi diwedd ar bob math o salwch.