Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?

Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?

 Mewn un wlad ar ôl y llall, mae pobl wedi mynd allan ar y strydoedd, i brotestio am eu bod yn teimlo bod yr amodau economaidd yn annheg. Gwnaeth y pandemig COVID-19 wneud y problemau hynny’n waeth. Roedd pobl yn anhapus oherwydd bod y cyfnodau clo, y prinder nwyddau yn y siopau, a’r cyfyngiadau ar ofal iechyd wedi amlygu’r gagendor rhwng y cyfoethog a’r tlawd.

 A fyddwn ni’n gweld diwedd ar y problemau economaidd sy’n plagio’r byd? Byddwn. Mae’r Beibl yn disgrifio’r hyn bydd Duw yn ei wneud i ddatrys ein problemau.

Problemau economaidd bydd Duw yn eu datrys

 Problem: Mae dynolryw wedi methu sefydlu system economaidd sydd yn sicrhau bod gan bawb yr hyn maen nhw ei angen.

 Ateb: Bydd Duw yn disodli llywodraethau dynol gyda’i lywodraeth ei hun, sy’n cael ei galw’n Deyrnas Dduw. Bydd yn rheoli o’r nef dros y ddaear i gyd.—Daniel 2:44; Mathew 6:10.

 Canlyniad: Fel llywodraeth fyd-eang, bydd Teyrnas Dduw yn gweinyddu materion y ddaear yn berffaith. Fydd pobl byth eto yn cael eu caethiwo mewn tlodi a gorfod poeni a oes ganddyn nhw ddigon i fyw arno. (Salm 9:7-9, 18) Yn hytrach, byddan nhw’n mwynhau ffrwyth eu llafur ac yn gallu byw bywydau cynhyrchiol, llawn boddhad gyda’u teuluoedd. Mae’r Beibl yn addo: “Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth.”—Eseia 65:21, 22.

 Problem: Mae pobl yn methu ffoi rhag digwyddiadau sy’n gwneud iddyn nhw ddioddef a mynd heb yr hyn maen nhw’n ei angen mewn bywyd.

 Ateb: Drwy ei Deyrnas, bydd Duw yn cael gwared ar unrhyw beth sy’n codi ofn ar bobl ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n anniogel.

 Canlyniad: O dan ofal Duw, fydd pobl ddim bellach yn mynd trwy sefyllfaoedd a fydd yn achosi iddyn nhw neu eu teuluoedd golli’r pethau maen nhw eu hangen i fyw arnyn nhw bob dydd. Er enghraifft, bydd rhyfeloedd, prinder bwyd, a heintiau byd-eang yn perthyn i’r gorffennol. (Salm 46:9; 72:16; Eseia 33:24) Mae Duw yn dweud: “Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.”—Eseia 32:18.

 Problem: Mae pobl sydd yn hunanol ac yn farus yn aml yn cymryd mantais ar bobl eraill.

 Ateb: Bydd deiliaid Teyrnas Dduw yn dysgu dangos eu bod nhw’n caru eraill yn fwy na maen nhw’n caru eu hunain.—Mathew 22:37-39.

 Canlyniad: O dan Deyrnas Dduw, bydd pawb yn efelychu cariad Duw; cariad sydd ddim yn “mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg.” (1 Corinthiaid 13:4, 5) Yn ôl y Beibl: “Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.” aEseia 11:9.

 Mae’r Beibl yn dangos ein bod ni’n byw yn nyddiau olaf y system bresennol ac yn fuan bydd Duw yn cyflawni ei addewid i ddod â phob problem economaidd i ben. b (Salm 12:5) Yn y cyfamser, gall egwyddorion Beiblaidd eich helpu ag unrhyw broblem economaidd sydd gynnoch chi nawr. Er enghraifft, gweler yr erthyglau “How to Live on Less” ac “A Balanced View of Money.”

a Yn y Beibl mae’r teitl ARGLWYDD yn cyfeirio at enw Duw sef Jehofa.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

b I ddysgu pam gallwch chi drystio’r Beibl, gweler yr erthygl “Y Beibl—Ffynhonnell Ddibynadwy o Wirionedd.”