CÂN 84
Rhown Help Llaw
-
1. Jehofa Dduw a ŵyr yn iawn
Sut gallwn fyw bywydau llawn,
Ac felly rhoi i ni y mae
Waith sy’n gyffrous mewn llawer maes.
(CYTGAN)
Rhown help llaw, rhown o’n dawn,
Dangos cariad wnawn.
Pan welwn angen mawr, yno’r awn—
Awn i roi help llaw.
-
2. Ledled y byd mae angen mawr
Am wirfoddolwyr cariadlawn.
Dyheuwn fynd i roi help llaw;
Lle gwelwn fwlch, i’r adwy’r awn.
(CYTGAN)
Rhown help llaw, rhown o’n dawn,
Dangos cariad wnawn.
Pan welwn angen mawr, yno’r awn—
Awn i roi help llaw.
-
3. Heb fynd ymhell o’n milltir sgwâr,
Cawn fod yn chwa o awyr iach;
Cawn bontio bwlch, cawn ddysgu iaith,
Cawn hogi sgìl a’i roi ar waith.
(CYTGAN)
Rhown help llaw, rhown o’n dawn,
Dangos cariad wnawn.
Pan welwn angen mawr, yno’r awn—
Awn i roi help llaw.
(Gweler hefyd Ioan 4:35; Act. 2:8; Rhuf. 10:14.)