Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 49

Llawenhau Calon Jehofa

Llawenhau Calon Jehofa

(Diarhebion 27:11)

  1. 1. Mawr Dduw, addawon ni ar lw

    I’th wasanaethu di yn driw.

    Wrth wneud d’ewyllys, rydym ni

    Yn llawenhau dy galon di.

  2. 2. Ein bwydo’n gyson, yn ddi-ball,

    Y mae’r gwas ffyddlon, y gwas call.

    Ein hatgyfnerthu gan hyn gawn,

    Ac er dy glod, d’ewyllys wnawn.

  3. 3. Rho inni plîs dy ysbryd glân.

    Adfywio mae y cryf a’r gwan.

    Ei ffrwyth sydd inni o fawr fudd

    Cans cawn dy lawenhau bob dydd.