CÂN 21
Ceisiwch yn Gyntaf y Deyrnas
-
1. Gwerthfawr iawn i’n Duw Jehofa
Yw ei Deyrnas nefol Ef.
Mae ei Fab, Crist, yn teyrnasu
Ac am roi’r byd yn ei le.
(CYTGAN)
Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,
Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.
Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf
Wasanaethu’r Brenin nef.
-
2. Peidiwch felly â phryderu
Am eich bwyd nac am eich gwisg.
Os rhown Deyrnas Dduw yn gyntaf
Cawn ni’r pethau hyn i gyd.
(CYTGAN)
Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,
Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.
Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf
Wasanaethu’r Brenin nef.
-
3. Ewch, a chwiliwch am rai teilwng.
Rhannu’r newydd da sydd rhaid.
Ar ôl dysgu am y Deyrnas,
Safan nhwythau’n ddewr o’i phlaid.
(CYTGAN)
Ceisiwch Deyrnas Dduw yn gyntaf,
Ceisiwch ei gyfiawnder Ef.
Rhowch yn gyntaf ac yn bennaf
Wasanaethu’r Brenin nef.
(Gweler hefyd Salm 27:14; Math. 6:34; 10:11, 13; 1 Pedr 1:21.)