Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 128

Dyfalbarau i’r Diwedd

Dyfalbarau i’r Diwedd

(Mathew 24:13)

  1. 1. Sail gadarn sydd i’n gobaith ni,

    Paradwys ddaw’n ddiau.

    Diysgog ydyw’r angor hwn,

    Mewn ffydd, gwnawn ddyfalbarhau.

    Bydd ddewr, ac yn ddi-sigl saf,

    Dal di ati! Dal dy dir!

    Mae dydd Jehofa Dduw gerllaw,

    Yn glew, safwn dros y gwir.

  2. 2. I’r amlwg daw ein gwendid ni

    Pan ddeuwn o dan brawf.

    Heb ddigalonni, codi’n frwd,

    A bwrw iddi a wnawn.

    Yn gryfach down, bodlondeb gawn,

    A chryfhawn ein cariad byw.

    Heb ildio i’n pryderon ni,

    Dibynnwn yn llwyr ar Dduw.

  3. 3. Ein coethi ni y mae pob her,

    O nerth i nerth yr awn.

    Yn bendant, cawn ein hachub os

    I’r diwedd dyfalbarhawn.

    Yn ‘llyfr y bywyd,’ yno’n glir,

    Bydd ein henwau ni i gyd.

    Â bendith Duw a’i ysbryd glân,

    I’r diwedd parhawn ynghyd.