Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 119

Rhaid Inni Gael Ffydd

Rhaid Inni Gael Ffydd

(Hebreaid 10:38, 39)

  1. 1. Drwy lais ei broffwydi, siarad wnaeth Duw

    Â dyn yn yr oesoedd o’r blaen.

    Ond heddiw mae’n siarad trwy Iesu Grist,

    Gan ddweud, “Rhaid edifarhau.”

    (CYTGAN)

    A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?

    A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?

    Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.

    Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.

  2. 2. Yn ufudd i Grist, ymunwn â’r gwaith,

    A sôn am y Deyrnas wrth bawb.

    Heb ofn, yn gyhoeddus, gobaith a rown,

    A sail ein ffydd a gryfhawn.

    (CYTGAN)

    A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?

    A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?

    Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.

    Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.

  3. 3. Fel angor sefydlog y mae ein ffydd,

    Trwy stormydd gwnawn ddyfalbarhau.

    Heb gilio yn ôl, yn gadarn parhawn.

    Ein gwobr sy’n agosáu.

    (CYTGAN)

    A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?

    A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?

    Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.

    Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.