Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rhoi’r Cwbl i Ti

Rhoi’r Cwbl i Ti

Lawrlwytho:

  1. 1. Y cwbl sydd gen i, dwi isio ei roi o i ti.

    Dwi’n dy garu Jehofa, ac isio rhoi o’m gorau i.

    Dwi isio dy blesio, a helpu fy mrawd a fy chwaer.

    Jehofa, dwi isio pregethu a dysgu dy Air.

    (RHAG-GYTGAN)

    Mae fy ffydd i yn tyfu, cynyddu y mae hi o hyd.

    Dwi am gadw f’adduned i ti, a’th ddilyn bob dydd.

    (CYTGAN)

    Jehofa, dy garu a’th foli di wnaf,

    Beth bynnag fydd gen i, le bynnag yr af.

    Fy nghalon, fy enaid, dwi’n rhoi nhw i ti.

    Y cwbl sydd gen i, dwi isio’i roi o i ti.

  2. 2. Caraf o’m calon fy ffrindiau sydd ledled y byd.

    Gwirfoddoli ’di ffordd o’th foli, a dangos fy ffydd.

    Mae mwy o lawenydd mewn cynnig help llaw, ac ymroi.

    Dwi’n hapusach o lawer wrth rannu, cyfrannu a rhoi.