Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cân 52

Amddiffyn Dy Galon

Amddiffyn Dy Galon

(Diarhebion 4:23)

1. Dy galon, ei hamddiffyn rhaid,

Gochela rhag ei thwyll—

Agored yw i lygaid Jah,

Gweithreda felly bwyll.

Cymeriad cêl y galon, sef

Yr ysbryd addfwyn, gwiw,

A’i degwch anllygredig, sydd

O ddirfawr werth i Dduw.

2. Â chalon lân boed it ymroi

I ddod i ’nabod Jah.

Â’i foliant yn dy enau, dwed

Y cyfan wrtho. Gwna!

Ymostwng rhaid i ddeddfau pur

Yr amhrisiadwy Air.

Os byddi’n berchen calon driw,

Dy Dduw fydd iti’n gaer.

3. Yr hyn yn gyfiawn, hawddgar sydd,

Pob rhinwedd haedda glod,

Myfyrio arnynt nos a dydd

Foed beunydd iti’n nod.

Fe gâr Jehofa’i deyrngar rai.

Os cadw’n ffyddlon wnei,

Fe ddoi di’n agos at dy Dduw,

A’i gyfeillgarwch gei.

(Gweler hefyd Salm 34:1; Phil. 4:8; 1 Pedr 3:4.)