At Titus 3:1-15

  • Ymostwng priodol (1-3)

  • Bod yn barod ar gyfer gweithredoedd da (4-8)

  • Gwrthod dadleuon ffôl a sectau (9-11)

  • Cyfarwyddiadau personol a chyfarchion (12-15)

3  Dal ati i’w hatgoffa nhw i ymostwng ac i ufuddhau i’r llywodraethau a’r awdurdodau, i fod yn barod ar gyfer pob gweithred dda, 2  i beidio â lladd ar neb,* i beidio â bod yn gwerylgar, ond i fod yn rhesymol, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn. 3  Oherwydd roedden ninnau hefyd ar un adeg yn annoeth, yn anufudd, wedi ein camarwain, yn gaethweision i amryw chwantau a phleserau, yn parhau i fyw bywydau llawn drygioni a chenfigen, yn ffiaidd, yn casáu ein gilydd. 4  Fodd bynnag, pan gafodd caredigrwydd ein Hachubwr, Duw, a’i gariad tuag at ddynolryw eu gwneud yn amlwg 5  (nid oherwydd unrhyw weithredoedd cyfiawn roedden ni wedi eu gwneud, ond oherwydd ei drugaredd ei hun), fe wnaeth ein hachub ni drwy gyfrwng y dŵr* a ddaeth â ni i fywyd a thrwy ein gwneud ni’n newydd drwy’r ysbryd glân. 6  Tywalltodd* yr ysbryd hwn arnon ni’n hael drwy Iesu Grist ein Hachubwr, 7  er mwyn i ni, ar ôl cael ein galw’n gyfiawn drwy garedigrwydd rhyfeddol yr un hwnnw, allu cael ein gwneud yn etifeddion yn ôl y gobaith o fywyd tragwyddol. 8  Mae’r geiriau hyn yn ddibynadwy, ac rydw i eisiau iti barhau i bwysleisio’r materion hyn, er mwyn i’r rhai sydd wedi credu yn Nuw roi eu meddwl ar ddal ati yn eu gweithredoedd da. Mae’r pethau hyn yn dda ac yn fuddiol i ddynion. 9  Ond cadwa’n glir oddi wrth ddadleuon ffôl ac achau ac anghytundebau a chwerylau ynglŷn â’r Gyfraith, oherwydd eu bod nhw’n ddiwerth ac yn ofer. 10  Os ydy dyn yn hyrwyddo gau ddysgeidiaethau,* ar ôl iddo gael ei rybuddio a’i ail rybuddio,* mae’n rhaid iti ei wrthod, 11  gan wybod bod dyn o’r fath wedi crwydro oddi wrth y ffordd ac yn pechu ac wedi ei gondemnio ei hun. 12  Pan anfona i Artemas neu Tychicus atat ti, gwna dy orau i ddod ata i yn Nicopolis, oherwydd fy mod i wedi penderfynu treulio amser yno dros y gaeaf. 13  Gwna bob ymdrech i helpu Senas, sy’n arbenigwr yn y Gyfraith, ac Apolos fel y bydd popeth ganddyn nhw ar gyfer eu taith. 14  Ond dylai ein pobl ni hefyd ddysgu i barhau mewn gweithredoedd da fel y byddan nhw’n gallu helpu mewn achosion o angen brys a bod yn gynhyrchiol.* 15  Mae pawb sydd gyda mi yn anfon eu cyfarchion atat ti. Rho fy nghyfarchion i’r rhai sy’n ein caru ni yn y ffydd. Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol fod gyda phob un ohonoch chi.

Troednodiadau

Neu “i beidio â siarad yn niweidiol am neb.”
Neu “y bath; y golchiad.”
Neu “Arllwysodd.”
Neu “yn hyrwyddo sect.”
Neu “ei geryddu a’i ail geryddu.”
Llyth., “yn ffrwythlon.”