At y Rhufeiniaid 5:1-21

  • Cymodi â Duw drwy Grist (1-11)

  • Marwolaeth trwy Adda, bywyd trwy Grist (12-21)

    • Pechod a marwolaeth yn lledaenu i bawb (12)

    • Un weithred o gyfiawnder (18)

5  Nawr ein bod ni wedi cael ein galw’n gyfiawn o ganlyniad i’n ffydd, gallwn ni fwynhau heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 2  Mae ein ffydd yn Iesu yn caniatáu inni fynd at Dduw ac i fwynhau ffafr* Duw. Gallwn ni lawenhau oherwydd bod gynnon ni’r gobaith o dderbyn gogoniant gan Dduw. 3  Ar ben hynny, gallwn ni lawenhau pan fyddwn ni’n wynebu dioddefaint,* gan ein bod ni’n gwybod bod ein dioddefaint yn cynhyrchu dyfalbarhad. 4  Mae ein dyfalbarhad yn dod â chymeradwyaeth Duw, mae ei gymeradwyaeth yn rhoi gobaith inni, 5  a dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom. Mae hynny oherwydd bod cariad Duw wedi cael ei dywallt* i mewn i’n calonnau trwy’r ysbryd glân a roddodd Duw inni. 6  Tra oedden ni’n dal yn wan, bu farw Crist dros ddynion drwg ar yr amser penodedig. 7  Prin y byddai unrhyw un yn marw dros ddyn cyfiawn, ond efallai byddai rhywun yn fodlon marw dros ddyn sy’n wirioneddol dda. 8  Ond mae Duw wedi dangos ei gariad ei hun tuag aton ni oherwydd, er roedden ni’n dal yn bechaduriaid, gwnaeth Crist farw droston ni. 9  Felly, nawr ein bod ni wedi cael ein galw’n gyfiawn drwy waed Iesu, gallwn ni fod yn fwy sicr byth y byddwn ni’n cael ein hachub rhag dicter Duw. 10  Er roedden ni’n elynion i Dduw, daethon ni’n ffrindiau iddo* trwy farwolaeth ei Fab. Mae hyn yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy sicr y byddwn ni’n cael ein hachub trwy fywyd Iesu, nawr ein bod ni’n ffrindiau i Dduw.* 11  Mae’r hyn mae Duw wedi ei wneud drwy ein Harglwydd Iesu Grist yn ein gwneud ni’n llawen, oherwydd trwyddo ef rydyn ni nawr wedi cael y cyfeillgarwch hwn* â Duw. 12  Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a daeth marwolaeth drwy bechod. Felly, lledaenodd marwolaeth i bawb oherwydd bod pawb wedi pechu. 13  Roedd pechod yn y byd cyn y Gyfraith, ond dydy pobl ddim yn cael eu hystyried yn euog o bechod pan does ’na ddim cyfraith. 14  Roedd marwolaeth yn rheoli fel brenin o Adda hyd at Moses. Roedd hyd yn oed yn rheoli dros y rhai nad oedd wedi pechu yn yr un ffordd ag Adda. Roedd Adda yn debyg i’r un a oedd am ddod yn hwyrach ymlaen. 15  Ond, dydy rhodd Duw ddim yn debyg i bechod Adda. Bu farw llawer o bobl oherwydd pechod y dyn hwnnw. Ond mae caredigrwydd rhyfeddol Duw a’i rodd am ddim drwy garedigrwydd rhyfeddol un dyn, Iesu Grist, yn llawer mwy. Trwy’r rhodd hon, mae Duw yn dod â digonedd* o fendithion i lawer o bobl! 16  Mae’r rhodd am ddim oddi wrth Dduw a phechod y dyn hwnnw yn wahanol yn y ffordd yma hefyd: Y dyfarniad ar ôl un pechod oedd dedfryd o euogrwydd,* ond rhodd Duw ar ôl cymaint o bechodau oedd cyhoeddi bod pobl yn ddieuog.* 17  Roedd marwolaeth yn rheoli fel brenin drwy bechod y dyn hwnnw. Ond mae hi’n fwy sicr byth y bydd y rhai sy’n derbyn digonedd o garedigrwydd rhyfeddol Duw a chyfiawnder ei rodd am ddim yn byw i reoli fel brenhinoedd drwy un dyn, Iesu Grist! 18  Yn union fel gwnaeth un pechod arwain i ddedfryd o euogrwydd* i bob math o ddynion, felly hefyd gwnaeth un weithred o gyfiawnder arwain at bob math o ddynion yn cael eu galw’n gyfiawn i gael bywyd. 19  Yn union fel gwnaeth anufudd-dod un dyn achosi i lawer fod yn bechaduriaid, yn yr un modd bydd ufudd-dod un person yn achosi i lawer fod yn gyfiawn. 20  Nawr, cafodd y Gyfraith ei rhoi i ddangos yn union pa mor bechadurus oedd pobl. Ond wrth iddi hi ddod yn amlwg faint o bechod sydd ’na, gwnaeth caredigrwydd rhyfeddol Duw gynyddu hyd yn oed yn fwy. 21  Felly yn union fel roedd pechod yn rheoli fel brenin a marwolaeth yn ganlyniad i hynny, felly hefyd mae caredigrwydd rhyfeddol Duw nawr yn rheoli fel brenin drwy gyfiawnder. A bydd hyn yn arwain i fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Troednodiadau

Neu “caredigrwydd rhyfeddol.”
Neu “treialon.”
Neu “arllwys.”
Llyth., “cawson ni ein cymodi â Duw.”
Llyth., “nawr ein bod ni wedi ein cymodi â Duw.”
Neu “wedi cael ein cymodi.”
Neu “gorlif.”
Neu “oedd condemniad.”
Neu “yn gyfiawn.”
Neu “at gondemniad.”