Yn Ôl Mathew 17:1-27
17 Chwe diwrnod yn ddiweddarach dyma Iesu’n cymryd Pedr ac Iago a’i frawd Ioan a mynd â nhw i fyny mynydd uchel ar eu pennau eu hunain.
2 Ac fe gafodd gwedd Iesu ei thrawsnewid* o’u blaenau nhw; disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn llachar* fel y goleuni.
3 Ac edrycha! dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddyn nhw yn sgwrsio ag ef.
4 Yna dywedodd Pedr wrth Iesu: “Arglwydd, peth da yw inni fod yma. Os wyt ti’n dymuno, fe wna i godi yma dair pabell, un i ti, un i Moses, ac un i Elias.”
5 Tra oedd ef yn dal i siarad, edrycha! dyma gwmwl disglair yn eu gorchuddio nhw, ac edrycha! dyma lais o’r cwmwl yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i’n fawr iawn.* Gwrandewch arno.”
6 Ar ôl clywed hyn, syrthiodd y disgyblion ar eu hwynebau a daeth ofn mawr arnyn nhw.
7 Yna daeth Iesu yn nes, ac yn cyffwrdd â nhw, dywedodd: “Codwch. Peidiwch ag ofni.”
8 Pan edrychon nhw i fyny, welson nhw neb ond Iesu ei hun.
9 Wrth iddyn nhw ddod i lawr o’r mynydd, gwnaeth Iesu orchymyn iddyn nhw: “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes bydd Mab y dyn yn cael ei godi o’r meirw.”
10 Fodd bynnag, gofynnodd y disgyblion y cwestiwn iddo: “Pam, felly, mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod rhaid i Elias ddod yn gyntaf?”
11 Atebodd yntau drwy ddweud: “Mae Elias yn wir yn dod a bydd yn adfer pob peth.
12 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi fod Elias eisoes wedi dod, ac ni wnaethon nhw ei adnabod ond gwneud iddo beth bynnag roedden nhw eisiau ei wneud. Yn yr un modd hefyd, mae Mab y dyn yn mynd i ddioddef dan eu dwylo nhw.”
13 Yna sylweddolodd y disgyblion yr oedd wedi bod yn sôn am Ioan Fedyddiwr.
14 Pan ddaethon nhw at y dyrfa, daeth dyn ato, penlinio o’i flaen, a dweud:
15 “Arglwydd, bydda’n drugarog wrth fy mab, oherwydd ei fod yn epileptig ac yn sâl. Mae’n syrthio’n aml i’r tân ac yn aml i’r dŵr.
16 Des i ag ef at dy ddisgyblion, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”
17 Atebodd Iesu drwy ddweud: “O genhedlaeth ddi-ffydd a llwgr, am faint y mae’n rhaid imi barhau gyda chi? Am faint mae’n rhaid imi eich goddef chi? Dewch ag ef ata i.”
18 Yna gwnaeth Iesu geryddu’r cythraul, a daeth ef allan ohono, ac fe gafodd y bachgen ei iacháu o’r awr honno.
19 Yna daeth y disgyblion at Iesu o’r neilltu a dweud: “Pam nad oedden ni’n gallu ei fwrw allan?”
20 Dywedodd wrthyn nhw: “O achos eich ychydig ffydd. Oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os oes gynnoch chi ffydd gymaint â hedyn mwstard, byddwch yn dweud wrth y mynydd hwn, ‘Symuda o fan yma i fan acw,’ a bydd yn symud, ac ni fydd dim byd yn amhosib ichi.”
21 ——
22 Pan oedden nhw wedi dod at ei gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae Mab y dyn yn mynd i gael ei fradychu a’i roi yn nwylo dynion,
23 a byddan nhw’n ei ladd, ac ar y trydydd dydd bydd ef yn cael ei godi.” Ac roedden nhw’n ofnadwy o drist.
24 Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Capernaum, daeth y dynion a oedd yn casglu treth y ddau ddrachma* at Pedr a dweud: “Onid ydy eich athro yn talu treth y ddau ddrachma?”
25 Dywedodd yntau: “Ydy.” Fodd bynnag, pan aeth i mewn i’r tŷ, siaradodd Iesu yn gyntaf ag ef a dweud: “Beth rwyt ti’n ei feddwl, Simon? Gan bwy y mae brenhinoedd y ddaear yn derbyn tollau neu drethi? Gan eu meibion neu gan yr estroniaid?”
26 Pan ddywedodd: “Gan yr estroniaid,” dywedodd Iesu wrtho: “Felly, mae’r meibion yn wir yn rhydd o’r dreth.
27 Ond rhag inni achosi iddyn nhw faglu, dos i’r môr, tafla fachyn pysgota, a chymera’r pysgodyn cyntaf sy’n dod i fyny, a phan fyddi di’n agor ei geg, fe weli di ddarn o arian.* Cymera hwnnw a rho ef iddyn nhw drosto i a tithau.”
Troednodiadau
^ Neu “gweddnewidiwyd Iesu.”
^ Neu “yn wyn.”
^ Neu “yr un rydw i wedi ei gymeradwyo.”
^ Llyth., “y drachma dwbl.”
^ Llyth., “stater,” ystyrir mai hwn oedd y tetradrachma.