Josua 8:1-35

  • Josua yn gosod milwyr i ymosod ar Ai (1-13)

  • Ai yn cael ei chipio yn llwyddiannus (14-29)

  • Y Gyfraith yn cael ei darllen wrth Fynydd Ebal (30-35)

8  Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Paid ag ofni na dychryn. Cymera’r holl filwyr gyda ti a dos i fyny yn erbyn Ai. Edrycha, rydw i wedi rhoi brenin Ai, ei bobl, ei ddinas, a’i dir yn dy ddwylo di. 2  Gwna’r un fath i Ai a’i brenin ag y gwnest ti i Jericho a’i brenin, ond cewch chi gymryd ei hysbail a’i hanifeiliaid i chi’ch hunain. Gorchmynna i filwyr guddio y tu cefn i’r ddinas yn barod i ymosod.” 3  Felly aeth Josua a’r holl filwyr i fyny yn erbyn Ai. Dewisodd Josua 30,000 o filwyr cryf a’u hanfon nhw allan yn y nos. 4  Rhoddodd y gorchymyn hwn iddyn nhw: “Rhaid ichi guddio y tu ôl i’r ddinas yn barod i ymosod. Peidiwch â mynd ymhell o’r ddinas, a byddwch yn barod, bob un ohonoch chi. 5  Bydda i a’r holl filwyr gyda mi yn symud tuag at y ddinas, a phan fyddan nhw’n dod allan yn ein herbyn ni fel o’r blaen, byddwn ni’n cilio’n ôl oddi wrthyn nhw. 6  Pan fyddan nhw’n dod allan ar ein holau ni, byddwn ni’n eu denu nhw oddi wrth y ddinas, oherwydd byddan nhw’n dweud, ‘Maen nhw’n cilio’n ôl oddi wrthon ni fel o’r blaen.’ A byddwn ni’n cilio’n ôl oddi wrthyn nhw. 7  Yna dylech chi sy’n cuddio ymosod ar y ddinas a’i chipio; bydd Jehofa eich Duw yn ei rhoi hi yn eich dwylo. 8  Cyn gynted ag yr ydych chi wedi cipio’r ddinas, dylech chi ei rhoi ar dân. Dylech chi wneud fel mae Jehofa wedi dweud. Dyna fy ngorchmynion i chi.” 9  Yna gwnaeth Josua eu hanfon nhw allan, a dyma nhw’n martsio* i le roedden nhw am guddio yn barod i ymosod, rhwng Bethel ac Ai, i’r gorllewin o Ai, tra arhosodd Josua gyda gweddill y milwyr dros nos. 10  Ar ôl i Josua godi’n gynnar yn y bore a chasglu’r milwyr at ei gilydd, gwnaeth ef a henuriaid Israel eu harwain nhw i Ai. 11  Dyma’r holl filwyr oedd gydag ef yn martsio tuag at flaen y ddinas. Gwnaethon nhw wersylla i’r gogledd o Ai, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw ac Ai. 12  Yn y cyfamser, roedd ef wedi cymryd tua 5,000 o ddynion ac wedi gorchymyn iddyn nhw guddio rhwng Bethel ac Ai, i’r gorllewin o’r ddinas, yn barod i ymosod. 13  Felly dyma’r mwyafrif o’r milwyr yn gwersylla i’r gogledd o’r ddinas a gweddill y fyddin i’r gorllewin o’r ddinas. Ac ar y noson honno aeth Josua i ganol y dyffryn.* 14  Cyn gynted ag y gwelodd brenin Ai hyn, rhuthrodd ef a dynion y ddinas allan yn gynnar yn y bore i frwydro yn erbyn Israel mewn lle penodol oedd yn edrych dros yr anialwch. Ond doedd ef ddim yn gwybod bod ’na filwyr y tu cefn i’r ddinas yn barod i ymosod arno. 15  Unwaith i ddynion Ai ymosod, gwnaeth Josua a’r holl Israeliaid oedd gydag ef ffoi ar hyd y ffordd i gyfeiriad yr anialwch. 16  Yna, dyma weddill y dynion oedd yn y ddinas yn cael eu galw allan i fynd ar eu holau; ac wrth iddyn nhw fynd ar ôl Josua, cawson nhw eu denu oddi wrth y ddinas. 17  Doedd ’na’r un dyn ar ôl yn Ai na Bethel wnaeth ddim mynd allan ar ôl Israel. Gadawon nhw’r ddinas yn lled agored a mynd ar ôl Israel. 18  Nawr dywedodd Jehofa wrth Josua: “Estynna’r waywffon sydd yn dy law i gyfeiriad Ai, oherwydd bydda i’n ei rhoi yn dy ddwylo.” Felly estynnodd Josua y waywffon oedd yn ei law i gyfeiriad y ddinas. 19  Y foment estynnodd ei law, gwnaeth y rhai a oedd yn cuddio godi yn gyflym a rhedeg i mewn i’r ddinas a’i chipio. Ar unwaith dyma nhw’n rhoi’r ddinas ar dân. 20  Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, gwelson nhw fwg y ddinas yn codi i’r awyr, a doedd ganddyn nhw ddim nerth i ffoi i unrhyw gyfeiriad. Yna gwnaeth yr Israeliaid oedd wedi bod yn ffoi tuag at yr anialwch droi ar y rhai oedd wedi bod yn rhedeg ar eu holau. 21  Pan welodd Josua a’r holl Israeliaid gydag ef fod y rhai oedd wedi bod yn cuddio wedi cipio’r ddinas, a gweld mwg y ddinas yn codi, dyma nhw’n troi ar eu sodlau ac yn ymosod ar ddynion Ai. 22  A daeth y rhai oedd wedi cipio’r ddinas allan i’w cyfarfod nhw, fel bod dynion Ai wedi eu dal yn y canol, gyda rhai Israeliaid ar yr ochr hon ac eraill ar yr ochr draw, a lladdodd yr Israeliaid nhw i gyd; wnaeth neb oroesi na dianc. 23  Ond gwnaethon nhw ddal brenin Ai yn fyw a mynd ag ef o flaen Josua. 24  Ar ôl i Israel orffen lladd holl bobl Ai â’r cleddyf yn yr anialwch lle roedden nhw wedi dod ar eu holau nhw, aeth holl Israel yn ôl i Ai a’i tharo â’r cleddyf. 25  Cafodd 12,000 o bobl eu lladd y diwrnod hwnnw, dynion a merched,* holl boblogaeth Ai. 26  Wnaeth Josua ddim gostwng y llaw oedd yn dal y waywffon nes bod pawb yn Ai wedi cael eu dinistrio’n llwyr. 27  Ond cymerodd Israel anifeiliaid ac ysbail y ddinas honno iddyn nhw eu hunain, yn ôl y gorchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi i Josua. 28  Yna gwnaeth Josua losgi Ai nes ei bod hi’n bentwr o gerrig, ac felly mae hi hyd heddiw. 29  Rhoddodd gorff brenin Ai i hongian ar stanc* nes iddi nosi, a phan oedd yr haul ar fin machlud, rhoddodd Josua y gorchymyn i gymryd ei gorff i lawr oddi ar y stanc. Yna gwnaethon nhw ei daflu wrth fynedfa giât y ddinas a chodi pentwr mawr o gerrig drosto, sydd yno hyd heddiw. 30  Dyna pryd cododd Josua allor i Jehofa, Duw Israel, ar Fynydd Ebal, 31  yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi gorchymyn i’r Israeliaid, ac fel sydd wedi cael ei ysgrifennu yn llyfr Cyfraith Moses: “Allor o gerrig cyfan sydd heb gael eu torri â haearn.” Gwnaethon nhw gyflwyno offrymau llosg i Jehofa arni yn ogystal ag aberthau heddwch. 32  Yna ysgrifennodd ar y cerrig gopi o’r Gyfraith roedd Moses wedi ei hysgrifennu o flaen yr Israeliaid. 33  Roedd yr Israeliaid i gyd, eu henuriaid, y swyddogion, a’u barnwyr yn sefyll ar ddwy ochr yr Arch o flaen yr offeiriaid a oedd yn Lefiaid ac a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa. Roedd yr estroniaid yno yn ogystal â’r brodorion. Safodd hanner ohonyn nhw o flaen Mynydd Gerisim a’r hanner arall o flaen Mynydd Ebal (yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi gorchymyn ynghynt), er mwyn bendithio pobl Israel. 34  Ar ôl hynny, darllenodd holl eiriau’r Gyfraith yn uchel, y bendithion a’r melltithion, yn union fel maen nhw wedi cael eu hysgrifennu yn llyfr y Gyfraith. 35  Doedd ’na’r un gair o bopeth roedd Moses wedi ei orchymyn wnaeth Josua ddim ei ddarllen yn uchel o flaen holl gynulleidfa Israel, gan gynnwys y merched,* y plant, a’r estroniaid a oedd yn byw* yn eu plith.

Troednodiadau

Neu “gorymdeithio.”
Neu “gwastatir isel.”
Neu “menywod.”
Neu “ar goeden.”
Neu “menywod.”
Llyth., “cerdded.”