Josua 5:1-15

  • Enwaedu yn Gilgal (1-9)

  • Dathlu’r Pasg; manna yn stopio (10-12)

  • Tywysog byddin Jehofa (13-15)

5  Felly roedd Jehofa wedi sychu dŵr yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid nes eu bod nhw wedi ei chroesi. Unwaith i holl frenhinoedd yr Amoriaid oedd ar ochr orllewinol* yr Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid oedd wrth ymyl y môr, glywed am hyn, suddodd eu calonnau nhw, a chollon nhw bob hyder oherwydd yr Israeliaid. 2  Bryd hynny dywedodd Jehofa wrth Josua: “Gwna gyllyll o garreg fflint i ti dy hun ac enwaedu dynion Israel eto am yr ail dro.” 3  Felly dyma Josua yn gwneud cyllyll fflint ac yn enwaedu dynion Israel yn Gibeath-araloth.* 4  Dyma pam gwnaeth Josua eu henwaedu nhw: Roedd yr holl ddynion ymhlith y bobl a wnaeth adael yr Aifft, hynny yw y dynion a oedd yn ddigon hen i ryfela, wedi marw ar y daith drwy’r anialwch ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft. 5  Roedd yr holl bobl wnaeth adael yr Aifft wedi cael eu henwaedu, ond doedd yr holl bobl gafodd eu geni ar y daith drwy’r anialwch ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft ddim wedi cael eu henwaedu. 6  Roedd yr Israeliaid wedi cerdded yn yr anialwch am 40 mlynedd nes bod y genedl gyfan wedi marw, hynny yw, y dynion wnaeth adael yr Aifft ac a oedd yn ddigon hen i ryfela. Dyma’r rhai oedd yn anufudd i Jehofa, y rhai dywedodd Jehofa ar lw na fyddai’n gadael iddyn nhw weld y wlad roedd Jehofa wedi addo i’n cyndadau y byddai’n ei rhoi inni, gwlad sy’n llifo â llaeth a mêl. 7  Felly aeth eu meibion yn eu lle. Dyma’r rhai gwnaeth Josua eu henwaedu oherwydd doedden nhw ddim wedi cael eu henwaedu yn ystod y daith. 8  Unwaith iddyn nhw orffen enwaedu’r genedl gyfan, arhoson nhw lle roedden nhw yn y gwersyll nes bod y dynion wedi gwella. 9  Yna, dywedodd Jehofa wrth Josua: “Heddiw, rydw i wedi cymryd* sarhad* yr Aifft oddi wrthoch chi.” Felly mae’r fan honno wedi cael ei galw’n Gilgal* hyd heddiw. 10  Parhaodd yr Israeliaid i wersylla yn Gilgal, a dathlu’r Pasg gyda’r nos ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg o’r mis, yn anialwch Jericho. 11  Y diwrnod ar ôl y Pasg, dechreuon nhw fwyta cynnyrch y tir. Ar y diwrnod hwnnw, gwnaethon nhw fwyta bara croyw a grawn wedi ei rostio.* 12  Stopiodd y manna ar y diwrnod pan wnaethon nhw fwyta ychydig o gynnyrch y tir; doedd ’na ddim manna i’r Israeliaid mwyach, ond dechreuon nhw fwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno. 13  Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, edrychodd i fyny a gweld dyn yn sefyll o’i flaen gyda chleddyf yn ei law. Cerddodd Josua ato a gofyn: “Wyt ti ar ein hochr ni neu ar ochr ein gelynion?” 14  I hynny dywedodd: “Na, rydw i wedi dod fel tywysog* byddin Jehofa.” Gyda hynny, ymgrymodd Josua â’i wyneb ar y llawr, a dweud wrtho: “Beth sydd gan fy arglwydd i’w ddweud wrth ei was?” 15  Gwnaeth tywysog byddin Jehofa ateb Josua: “Tynna dy sandalau oherwydd mae’r fan lle rwyt ti’n sefyll yn sanctaidd.” Felly dyna wnaeth Josua ar unwaith.

Troednodiadau

Llyth., “yr ochr agosaf at y môr.”
Sy’n golygu “Bryn y Blaengrwyn.”
Neu “rholio.”
Neu “cywilydd; gwarth.”
Sy’n golygu “Rholio; Rholio i Ffwrdd.”
Neu “ei grasu.”
Neu “pennaeth.”