At yr Hebreaid 1:1-14
1 Amser maith yn ôl, siaradodd Duw â’n cyndadau drwy gyfrwng y proffwydi ar lawer o achosion ac mewn llawer o ffyrdd.
2 Nawr, ar ddiwedd y dyddiau hyn, mae ef wedi siarad â ni drwy gyfrwng ei Fab, yr un mae ef wedi ei benodi yn etifedd pob peth, a’r un y gwnaeth ef greu’r systemau hyn* drwyddo.
3 Mae ef yn adlewyrchu gogoniant Duw ac yn cynrychioli ei natur yn union, ac mae’n cynnal pob peth drwy air ei rym. Ac ar ôl iddo ein puro ni o’n pechodau, eisteddodd ef ar law dde y Mawrhydi yn y nef.
4 Gan ei fod wedi etifeddu enw mwy rhagorol nag enw’r angylion, mae ef yn gymaint yn well na nhw.
5 Er enghraifft, wrth ba un o’r angylion mae Duw erioed wedi dweud: “Ti yw fy mab; heddiw rydw i wedi dod yn dad iti”? Ac eto: “Bydda i’n dad iddo, a bydd ef yn fab i mi”?
6 Ond pan fydd ef yn dod â’i Gyntaf-anedig i mewn i’r byd unwaith eto, mae’n dweud: “A gadewch i holl angylion Duw ymgrymu iddo.”*
7 Hefyd, mae’n dweud am yr angylion: “Mae’n gwneud ei angylion yn ysbrydion, a’i weision yn fflam dân.”
8 Ond am y Mab, mae ef yn dweud: “Duw ydy dy orsedd am byth bythoedd, a gwialen dy Deyrnas ydy gwialen cyfiawnder.*
9 Roeddet ti’n caru cyfiawnder, ac roeddet ti’n casáu drygioni. Dyna pam mae Duw, dy Dduw di, wedi dy eneinio ag olew llawenydd yn fwy na brenhinoedd eraill.”
10 Hefyd: “Yn y dechrau, O Arglwydd, gwnest ti osod sylfeini’r ddaear, a gwaith dy ddwylo di ydy’r nefoedd.
11 Byddan nhw’n darfod, ond byddi dithau’n aros; ac yn union fel dillad, byddan nhw’n gwisgo allan,
12 a byddi di’n eu lapio nhw fel clogyn, fel dilledyn, a byddan nhw’n cael eu newid. Ond dwyt ti byth yn newid, ac ni fydd dy flynyddoedd di byth yn dod i ben.”
13 Ond am ba un o’r angylion mae ef erioed wedi dweud: “Eistedda ar fy llaw dde nes imi osod dy elynion yn stôl i dy draed”?
14 Onid ydyn nhw i gyd yn ysbrydion ar gyfer gwasanaeth sanctaidd, wedi eu hanfon allan i weini ar y rhai sydd am etifeddu achubiaeth?