Genesis 50:1-26

  • Joseff yn claddu Jacob yn Canaan (1-14)

  • Joseff yn cadarnhau ei faddeuant (15-21)

  • Dyddiau olaf Joseff a’i farwolaeth (22-26)

    • Gorchymyn Joseff am ei esgyrn (25)

50  Yna taflodd Joseff ei hun ar ei dad a chrio drosto a’i gusanu. 2  Wedyn, gorchmynnodd Joseff i’w weision, y meddygon, embalmio ei dad. Felly aeth y meddygon ati i embalmio Israel, 3  a chymeron nhw y 40 diwrnod cyfan, oherwydd dyna faint o amser sydd ei angen ar gyfer embalmio, a pharhaodd yr Eifftiaid i ollwng dagrau drosto am 70 diwrnod. 4  Ar ôl i’r cyfnod o alaru drosto fynd heibio, siaradodd Joseff â swyddogion* Pharo, gan ddweud: “Os gwelwch chi’n dda, rhowch y neges hon i Pharo: 5  ‘Dywedodd fy nhad wrtho i: “Edrycha! Rydw i ar fin marw. Addo imi ar dy lw y byddi di’n fy nghladdu i yn y bedd y gwnes i ei baratoi i mi fy hun yn ngwlad Canaan.” Felly plîs, gad imi fynd i fyny a chladdu fy nhad, yna, fe ddo i yn ôl.’” 6  Atebodd Pharo: “Dos i gladdu dy dad fel gwnest ti addo iddo.” 7  Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, ac aeth holl weision Pharo gydag ef, henuriaid ei lys a holl henuriaid gwlad yr Aifft 8  a holl dŷ Joseff a’i frodyr a thŷ ei dad. Dim ond eu plant bach a’u preiddiau oedd ar ôl yng ngwlad Gosen. 9  Aeth cerbydau a marchogion i fyny gydag ef hefyd. Roedd ’na lawer iawn o bobl. 10  Yna daethon nhw at lawr dyrnu Atad, sydd yn ardal yr Iorddonen, a dyna lle gwnaethon nhw alaru gyda thristwch ofnadwy o chwerw, a galarodd am ei dad am saith diwrnod. 11  Gwnaeth pobl y wlad, y Canaaneaid, eu gweld nhw’n galaru ar lawr dyrnu Atad, a dywedon nhw: “Mae hyn yn alar mawr i’r Eifftiaid!” Dyna pam cafodd ei enwi’n Abel-misraim,* sydd yn ardal yr Iorddonen. 12  Felly gwnaeth meibion Jacob yn union fel roedd wedi gorchymyn iddyn nhw. 13  Cariodd ei feibion ef i mewn i wlad Canaan, a’i gladdu yn yr ogof yng nghae Machpela, y cae o flaen Mamre y gwnaeth Abraham ei brynu oddi wrth Effron yr Hethiad fel rhywle i gladdu ei feirw. 14  Ar ôl iddo gladdu ei dad, aeth Joseff yn ôl i’r Aifft gyda’i frodyr a phawb a oedd wedi mynd gydag ef i gladdu ei dad. 15  Ar ôl marwolaeth eu tad, dechreuodd brodyr Joseff ddweud wrth ei gilydd: “Efallai fod Joseff yn dal dig yn ein herbyn, a bydd yn talu’r pwyth yn ôl am yr holl bethau drwg wnaethon ni iddo.” 16  Felly anfonon nhw neges at Joseff yn dweud: “Rhoddodd dy dad y gorchymyn hwn inni cyn iddo farw: 17  ‘Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth Joseff: “Fy mab, mae dy frodyr wedi dy drin di’n wael, ond rydw i’n erfyn arnat ti i faddau iddyn nhw am beth wnaethon nhw.”’ Felly plîs, Joseff, maddeua inni am ein troseddau, oherwydd rydyn ninnau hefyd yn gwasanaethu Duw dy dad.” Pan glywodd Joseff hyn, dechreuodd wylo. 18  Yna daeth ei frodyr ato ac ymgrymu o’i flaen a dweud: “Dyma ni, yn gaethweision i ti!” 19  Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni. Ai fi ydy Duw? 20  Er eich bod chi wedi bwriadu fy mrifo i, gwnaeth Duw fwriadu i bethau droi allan yn dda, ac i gadw llawer o bobl yn fyw, fel mae’n gwneud heddiw. 21  Felly peidiwch ag ofni, fe wna i barhau i wneud yn siŵr bod gynnoch chi a’ch plant bach fwyd.” Felly gwnaeth ef eu cysuro nhw a’u calonogi nhw gyda’i eiriau. 22  A pharhaodd Joseff i fyw yn yr Aifft, ef a phawb yn nhŷ ei dad, a gwnaeth Joseff fyw am 110 o flynyddoedd. 23  Gwelodd Joseff drydedd genhedlaeth meibion Effraim, a hefyd meibion Machir, mab Manasse. Cawson nhw eu geni ar liniau Joseff.* 24  Ymhen hir a hwyr, dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Rydw i’n marw, ond yn sicr, bydd Duw yn troi ei sylw atoch chi, a bydd ef yn bendant yn dod â chi i fyny allan o’r wlad hon i’r wlad gwnaeth ef ei haddo ar lw i Abraham, Isaac, a Jacob.” 25  Felly dywedodd Joseff wrth feibion Israel: “Bydd Duw yn sicr o droi ei sylw atoch chi. Addo i mi ar lw y byddwch chi’n cymryd fy esgyrn i o fan hyn bryd hynny.” 26  Bu farw Joseff yn 110 mlwydd oed, a chafodd ei embalmio, a’i roi mewn arch yn yr Aifft.

Troednodiadau

Neu “tŷ.”
Sy’n golygu “galar yr Eifftiaid.”
Hynny yw, cael eu trin fel meibion a chael ffafr arbennig.