Exodus 32:1-35

  • Addoli’r llo aur (1-35)

    • Moses yn clywed canu rhyfedd (17, 18)

    • Moses yn malu llechau’r gyfraith (19)

    • Y Lefiaid yn ffyddlon i Jehofa (26-29)

32  Yn y cyfamser, gwelodd y bobl fod Moses yn cymryd amser hir i ddod i lawr o’r mynydd. Felly casglodd y bobl o gwmpas Aaron a dweud wrtho: “Cod, gwna dduw ar ein cyfer ni er mwyn ein harwain ni, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwn, y dyn a wnaeth ein harwain ni allan o wlad yr Aifft.” 2  Yna dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw: “Cymerwch glustlysau aur eich gwragedd, eich meibion, a’ch merched a dewch â nhw ata i.” 3  Felly dechreuodd yr holl bobl dynnu eu clustlysau aur a’u rhoi nhw i Aaron. 4  Yna cymerodd yr aur oddi arnyn nhw a defnyddio offeryn cerfio i ffurfio delw siâp llo allan ohono. Dechreuon nhw ddweud: “Dyma eich Duw, O Israel, yr un a wnaeth eich arwain chi allan o wlad yr Aifft.” 5  Pan welodd Aaron hyn, adeiladodd allor o flaen y ddelw. Yna gwaeddodd Aaron: “Fe fydd ’na ŵyl ar gyfer Jehofa yfory.” 6  Felly gwnaethon nhw godi’n gynnar y bore wedyn a dechrau cyflwyno offrymau llosg ac aberthau heddwch. Ar ôl hynny eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed. Yna fe godon nhw i gael amser da. 7  Nawr dyma Jehofa yn dweud wrth Moses: “Dos i lawr, oherwydd mae dy bobl, y rhai gwnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud rhywbeth ffiaidd. 8  Yn gyflym iawn maen nhw wedi cefnu ar y ffordd rydw i wedi gorchymyn iddyn nhw fyw. Maen nhw wedi gwneud delw siâp llo iddyn nhw eu hunain, ac maen nhw’n parhau i ymgrymu o’i blaen ac i aberthu iddi, gan ddweud, ‘Dyma eich Duw, O Israel, yr un a wnaeth eich arwain chi allan o wlad yr Aifft.’” 9  Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Rydw i wedi gweld bod y bobl hyn yn bengaled. 10  Felly gad lonydd imi, a bydda i’n eu lladd nhw yn fy nicter, ac allan ohonot ti y bydda i’n gwneud cenedl fawr yn eu lle.” 11  Yna erfyniodd Moses ar Jehofa ei Dduw a dweud: “Pam, O Jehofa, y dylet ti droi dy ddicter yn erbyn dy bobl ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft â nerth mawr a llaw gadarn? 12  Pam dylai’r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd ganddo fwriadau drwg pan aeth â nhw allan. Roedd Ef eisiau eu lladd nhw yn y mynyddoedd a chael gwared arnyn nhw oddi ar wyneb y ddaear’? Tro i ffwrdd o dy ddicter ac ailfeddylia dy benderfyniad i gosbi dy bobl. 13  Cofia dy weision Abraham, Isaac, ac Israel, y rhai y gwnest ti dyngu llw iddyn nhw yn dy enw dy hun gan ddweud: ‘Bydda i’n sicr yn lluosogi eich disgynyddion* fel sêr y nefoedd, a bydda i’n rhoi’r wlad hon i’ch disgynyddion* er mwyn iddyn nhw ei meddiannu fel eiddo parhaol.’” 14  Felly dechreuodd Jehofa ailfeddwl y gosb roedd yn bwriadu dod ar ei bobl. 15  Yna trodd Moses a mynd i lawr o’r mynydd gyda dwy lech y Dystiolaeth yn ei law. Roedd y llechau wedi cael eu cerfio ar y ddwy ochr; roedd ’na ysgrifen ar y blaen ac ar y cefn. 16  Crefftwaith Duw oedd y llechau, ac ysgrifen Duw oedd wedi ei cherfio arnyn nhw. 17  Pan glywodd Josua sŵn y bobl a’u gweiddi, dywedodd wrth Moses: “Mae ’na dwrw rhyfel yn y gwersyll.” 18  Ond dywedodd Moses: “Nid twrw canu dros fuddugoliaeth* ydy hyn,Ac nid yw’n dwrw crio dros orchfygiad;Rydw i’n clywed math arall o ganu.” 19  Unwaith i Moses ddechrau agosáu at y gwersyll a gweld y llo a’r dawnsio, gwylltiodd yn llwyr, a thaflodd y llechau o’i ddwylo a’u malu nhw wrth droed y mynydd. 20  Cymerodd y llo roedden nhw wedi ei wneud a’i losgi â thân a’i falu’n bowdr; ac yna gwasgarodd y powdr ar y dŵr a gorfodi’r Israeliaid i’w yfed. 21  A dywedodd Moses wrth Aaron: “Rwyt ti wedi achosi i’r bobl bechu’n fawr. Sut gwnaethon nhw dy berswadio di i wneud hyn?” 22  Atebodd Aaron: “Paid â gwylltio, fy arglwydd. Rwyt ti’n gwybod yn iawn bod y bobl hyn yn dueddol o wneud pethau drwg. 23  Felly dywedon nhw, ‘Gwna dduw ar ein cyfer ni er mwyn ein harwain, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwn, y dyn a wnaeth ein harwain ni allan o wlad yr Aifft.’ 24  Felly dywedais wrthyn nhw, ‘Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n gwisgo aur ei dynnu i ffwrdd a’i roi imi.’ Yna gwnes i daflu’r aur i’r tân a daeth y llo hwn allan ohono.” 25  Gwelodd Moses fod y bobl allan o reolaeth, am fod Aaron wedi gadael iddyn nhw fynd allan o reolaeth. Felly roedden nhw wedi dwyn gwarth arnyn nhw eu hunain o flaen eu gwrthwynebwyr. 26  Yna safodd Moses wrth giât y gwersyll a dweud: “Pwy sydd ar ochr Jehofa? Dewch ata i!” A chasglodd y Lefiaid i gyd o’i gwmpas. 27  Nawr dywedodd wrthyn nhw: “Dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, wedi ei ddweud, ‘Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi wisgo eich cleddyf a phasio trwy’r gwersyll cyfan o giât i giât, gan ladd ei frawd, ei gymydog, a’i ffrind agos.’” 28  Dyma’r Lefiaid yn gwneud yr hyn a ddywedodd Moses. Felly cafodd tua 3,000 o ddynion eu lladd ar y diwrnod hwnnw. 29  Yna dywedodd Moses: “Sancteiddiwch eich hunain ar gyfer gwasanaeth Jehofa, gan fod pob un ohonoch chi wedi mynd yn erbyn eich meibion eich hunain a’ch brodyr eich hunain; bydd ef yn eich bendithio chi heddiw.” 30  Y diwrnod wedyn, dywedodd Moses wrth y bobl: “Gwnaethoch chi bechu’n ddifrifol, ac nawr bydda i’n mynd i fyny at Jehofa i weld beth galla i ei wneud er mwyn iddo faddau eich pechodau.” 31  Felly aeth Moses yn ôl at Jehofa a dweud: “Mae’r bobl wedi pechu’n ddifrifol! Maen nhw wedi gwneud duw aur iddyn nhw eu hunain! 32  Ond nawr, os wyt ti’n fodlon, maddeua iddyn nhw am eu pechodau, ac os nad wyt ti, plîs dileu fy enw o dy lyfr, o’r llyfr rwyt ti wedi ei ysgrifennu.” 33  Ond, dywedodd Jehofa wrth Moses: “Pwy bynnag sydd wedi pechu yn fy erbyn i, bydda i’n dileu ei enw o fy llyfr. 34  Dos nawr, ac arwain y bobl i’r lle rydw i wedi sôn wrthot ti amdano. Edrycha! Bydd fy angel yn mynd o dy flaen di, ac ar y diwrnod bydda i’n eu barnu nhw, bydda i’n eu cosbi am eu pechodau.” 35  Yna daeth Jehofa â phla ar y bobl am eu bod nhw wedi gwneud llo, yr un roedd Aaron wedi ei wneud.

Troednodiadau

Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “dros weithred rymus.”