Exodus 14:1-31
14 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses:
2 “Dyweda wrth yr Israeliaid y dylen nhw droi’n ôl a gwersylla o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o fewn golwg o Baal-seffon. Mae’n rhaid ichi wersylla ar lan y môr yn wynebu Baal-seffon.
3 Yna bydd Pharo’n dweud am yr Israeliaid, ‘Maen nhw ar goll. Does ’na ddim ffordd allan o’r anialwch.’
4 Bydda i’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, a bydd yn mynd ar eu holau nhw, a bydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo a’i holl fyddin; a bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa.” Felly dyna beth wnaethon nhw.
5 Yn hwyrach ymlaen, clywodd brenin yr Aifft fod pobl Israel wedi rhedeg i ffwrdd. Ar unwaith, dyma Pharo a’i weision yn difaru eu bod nhw wedi rhyddhau’r bobl, a dywedon nhw: “Pam rydyn ni wedi gadael i’n caethweision fynd yn rhydd?”
6 Felly paratôdd Pharo ei gerbydau rhyfel, a chymryd ei bobl gydag ef.
7 Cymerodd 600 o’r cerbydau gorau a’r holl gerbydau eraill yn yr Aifft, ac roedd ’na ryfelwyr ar bob un ohonyn nhw.
8 Felly gadawodd Jehofa i galon Pharo, brenin yr Aifft, droi’n ystyfnig, ac aeth Pharo ar ôl yr Israeliaid, tra oedd yr Israeliaid yn mynd allan yn hyderus.
9 Roedd yr Eifftiaid yn mynd ar eu holau nhw, ac roedd holl geffylau a cherbydau Pharo a’i farchogion a’i fyddin yn dal i fyny â nhw tra oedden nhw’n gwersylla ar lan y môr yn agos i Pihahiroth, yn wynebu Baal-seffon.
10 Pan ddaeth Pharo’n agosach, cododd yr Israeliaid eu llygaid a gweld bod yr Eifftiaid yn dod ar eu holau. Roedd yr Israeliaid yn ofni am eu bywydau a dechreuon nhw weiddi ar Jehofa.
11 Dywedon nhw wrth Moses: “A wyt ti wedi dod â ni yma i farw yn yr anialwch oherwydd does ’na ddim beddau yn yr Aifft? Beth rwyt ti wedi ei wneud inni drwy ein harwain ni allan o’r Aifft?
12 Dyma’n union beth ddywedon ni wrthot ti yn yr Aifft: ‘Gad lonydd inni, er mwyn inni wasanaethu’r Eifftiaid.’ Byddai’n well inni wasanaethu’r Eifftiaid na marw yn yr anialwch.”
13 Yna dywedodd Moses wrth y bobl: “Peidiwch ag ofni. Safwch yn gadarn a gwelwch sut bydd Jehofa’n eich achub chi heddiw. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid hyn byth eto.
14 Bydd Jehofa ei hun yn ymladd drostoch chi, a byddwch chi’n cadw’n dawel.”
15 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Pam rwyt ti’n dal i weiddi arna i? Dyweda wrth yr Israeliaid y dylen nhw barhau ar eu taith.
16 Mae’n rhaid iti godi dy ffon ac estyn dy law dros y môr a’i hollti, er mwyn i’r Israeliaid fynd drwy ganol y môr ar dir sych.
17 Ond bydda i’n gadael i galonnau’r Eifftiaid droi’n ystyfnig, fel y byddan nhw’n mynd i mewn ar eu holau nhw; felly bydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo a’i holl fyddin, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion.
18 A bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion.”
19 Yna dyma angel y gwir Dduw, a oedd yn mynd o flaen gwersyll Israel, yn symud y tu ôl iddyn nhw, a dyma’r golofn o gwmwl a oedd ar y blaen yn symud i’r cefn ac yn sefyll y tu ôl iddyn nhw.
20 Felly daeth y cwmwl rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll Israel. Ar un ochr, roedd y cwmwl yn dywyll. Ar yr ochr arall, roedd yn goleuo’r nos. Felly ni ddaeth gwersyll yr Eifftiaid yn agos at wersyll yr Israeliaid drwy’r nos.
21 Nawr estynnodd Moses ei law dros y môr, a dyma Jehofa’n gyrru’r môr yn ôl â gwynt cryf o’r dwyrain drwy’r nos, gan droi gwely’r môr yn dir sych, a holltodd y dŵr.
22 Felly aeth yr Israeliaid drwy ganol y môr ar dir sych, tra oedd y dŵr yn ffurfio wal ar yr ochr dde ac ar yr ochr chwith.
23 Aeth yr Eifftiaid ar eu holau nhw, a dechreuodd holl geffylau Pharo, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion fynd ar eu holau nhw i ganol y môr.
24 Yn ystod gwylfa’r bore,* edrychodd Jehofa ar wersyll yr Eifftiaid o’r tu mewn i’r golofn o dân a chwmwl, a dyma’n achosi i wersyll yr Eifftiaid banicio.
25 Roedd yn cymryd olwynion oddi ar eu cerbydau fel eu bod nhw’n anodd i’w gyrru, ac roedd yr Eifftiaid yn dweud: “Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd mae Jehofa’n ymladd yn erbyn yr Eifftiaid drostyn nhw.”
26 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law dros y môr er mwyn i’r dŵr lifo’n ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel, a’u marchogion.”
27 Ar unwaith estynnodd Moses ei law dros y môr, ac wrth iddi wawrio, aeth y môr yn ôl i’w le. Tra oedd yr Eifftiaid yn ffoi oddi wrtho, dyma Jehofa’n achosi i’r Eifftiaid gael eu taflu i mewn i ganol y môr.
28 Gwnaeth y dŵr orchuddio’r cerbydau rhyfel a’r marchogion a holl fyddin Pharo a oedd wedi mynd i mewn i’r dŵr ar eu holau nhw. Ni wnaeth yr un ohonyn nhw oroesi.
29 Ond cerddodd yr Israeliaid ar dir sych ar wely’r môr, a dyma’r dŵr yn ffurfio wal ar yr ochr dde ac ar yr ochr chwith.
30 Felly ar y diwrnod hwnnw gwnaeth Jehofa achub Israel o law’r Eifftiaid, a gwnaeth Israel weld yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar y traeth.
31 Hefyd gwelodd Israel fod Jehofa wedi dinistrio’r Eifftiaid â’i nerth mawr, a dechreuodd y bobl ofni Jehofa a rhoi ffydd yn Jehofa a’i was Moses.
Troednodiadau
^ Hynny yw, rhwng tua 2:00 yb. a 6:00 yb.