Datguddiad i Ioan 6:1-17

  • Yr Oen yn agor y chwe sêl gyntaf (1-17)

    • Concwerwr ar y ceffyl gwyn (1, 2)

    • Marchogwr y ceffyl fflamgoch i gymryd heddwch i ffwrdd (3, 4)

    • Marchogwr y ceffyl du i ddod â newyn (5, 6)

    • Marchogwr y ceffyl llwyd yn cael yr enw Marwolaeth (7, 8)

    • Rhai a gafodd eu lladd o dan yr allor (9-11)

    • Daeargryn mawr (12-17)

6  Ac fe welais pan agorodd yr Oen un o’r saith sêl, ac fe glywais un o’r pedwar creadur byw yn dweud â llais fel taran: “Tyrd!” 2  Ac edrychwch! fe welais geffyl gwyn, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno fwa; ac fe gafodd coron ei rhoi iddo, ac fe aeth allan yn concro ac i gwblhau ei goncwest. 3  Pan agorodd ef yr ail sêl, fe glywais yr ail greadur byw yn dweud: “Tyrd!” 4  Daeth un arall allan, ceffyl fflamgoch, ac fe gafodd yr un a oedd yn eistedd arno yr awdurdod i gymryd heddwch oddi ar y ddaear er mwyn iddyn nhw ladd ei gilydd, ac fe gafodd cleddyf mawr ei roi iddo. 5  Pan agorodd ef y drydedd sêl, fe glywais y trydydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!” Ac edrychwch! fe welais geffyl du, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno glorian yn ei law. 6  Fe glywais rywbeth yn debyg i lais yng nghanol y pedwar creadur byw yn dweud: “Litr* o wenith am ddenariws* a thri litr o haidd am ddenariws; a phaid â gadael i’r olew olewydd a’r gwin redeg allan.”* 7  Pan agorodd ef y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!” 8  Ac edrychwch! fe welais geffyl llwyd,* ac enw’r un a oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth. Ac roedd y Bedd* yn ei ddilyn yn agos. Ac fe gafodd awdurdod ei roi iddyn nhw dros y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf hir ac â phrinder bwyd ac â phla marwol a thrwy fwystfilod gwyllt y ddaear. 9  Pan agorodd ef y bumed sêl, fe welais o dan yr allor eneidiau’r* rhai a gafodd eu lladd oherwydd gair Duw ac oherwydd y dystiolaeth roedden nhw wedi ei rhoi. 10  Gwaeddon nhw â llais uchel, gan ddweud: “Faint o amser fydd yn mynd heibio, Sofran Arglwydd, sanctaidd a gwir, cyn iti farnu a dial ein gwaed ar y rhai sy’n byw ar y ddaear?” 11  Ac fe roddodd yr Arglwydd fantell wen i bob un ohonyn nhw, a dweud wrthyn nhw am orffwys am ychydig eto, nes bod nifer eu cyd-gaethweision a’u brodyr yn cael ei gwblhau, y rhai a oedd yn mynd i gael eu lladd fel y cawson nhwthau eu lladd. 12  Ac fe welais pan agorodd ef y chweched sêl, ac fe wnaeth daeargryn mawr ddigwydd; ac fe drodd yr haul yn ddu fel sachliain wedi ei wneud o flew,* ac fe drodd y lleuad gyfan yn goch fel gwaed, 13  ac fe syrthiodd sêr y nef i’r ddaear fel coeden ffigys yn cael ei hysgwyd gan wynt mawr yn bwrw ei ffigys anaeddfed. 14  Ac fe aeth y nef i ffwrdd fel sgrôl yn cael ei rholio, ac fe gafodd pob mynydd a phob ynys eu symud allan o’u lle. 15  Yna, dyma frenhinoedd y ddaear, yr uwch swyddogion, cadlywyddion y fyddin, y cyfoethog, y cryfion, pob caethwas, a phob person rhydd yn mynd i guddio yn yr ogofâu ac ymhlith creigiau’r mynyddoedd. 16  Ac maen nhw’n dweud o hyd wrth y mynyddoedd ac wrth y creigiau: “Syrthiwch arnon ni a chuddiwch ni rhag wyneb yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd a rhag dicter yr Oen, 17  oherwydd bod dydd mawr eu dicter wedi dod, a phwy sy’n gallu sefyll?”

Troednodiadau

Neu “Chwart.”
Ceiniog arian Rufeinig a oedd yn gyfartal â chyflog diwrnod.
Neu “a phaid â niweidio’r olew olewydd a’r gwin.”
Neu “gwelw.”
Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at eu gwaed, sy’n cynrychioli bywyd, a gafodd ei dywallt ar yr allor. Gweler Geirfa.
Blew geifr yn fwy na thebyg.