Actau’r Apostolion 9:1-43
9 Ond dyma Saul, a oedd yn dal yn chwythu bygythion a dweud y byddai’n lladd disgyblion yr Arglwydd, yn mynd at yr archoffeiriad
2 a gofyn iddo ysgrifennu llythyrau at synagogau Damascus, er mwyn iddo allu rhwymo unrhyw un y daeth ef ar ei draws a oedd yn perthyn i’r Ffordd, dynion a merched,* a dod â nhw i Jerwsalem.
3 Nawr fel roedd ef yn teithio ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd goleuni o’r nef o’i gwmpas,
4 a syrthiodd ef i’r llawr a chlywodd lais yn dweud wrtho: “Saul, Saul, pam rwyt ti’n fy erlid i?”
5 Gofynnodd: “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Dywedodd yntau: “Iesu ydw i, yr un rwyt ti’n ei erlid.
6 Ond cod a dos i mewn i’r ddinas, a bydd rhywun yn dweud wrthot ti beth sy’n rhaid iti ei wneud.”
7 Nawr roedd y dynion oedd yn teithio gydag ef yn sefyll yn fud, yn clywed llais, ond yn gweld neb.
8 Yna cododd Saul oddi ar y llawr, ac er bod ei lygaid yn agored, nid oedd yn gallu gweld dim byd. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law a mynd ag ef i mewn i Ddamascus.
9 Ac am dri diwrnod ni welodd unrhyw beth, ac ni wnaeth fwyta nac yfed.
10 Roedd ’na ddisgybl o’r enw Ananias yn Namascus, a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth: “Ananias!” Dywedodd yntau: “Dyma fi, Arglwydd.”
11 Dywedodd yr Arglwydd wrtho: “Cod, dos i’r stryd o’r enw Syth, ac edrycha am ddyn o’r enw Saul, o Tarsus, yn nhŷ Jwdas. Oherwydd edrycha! mae’n gweddïo,
12 ac mewn gweledigaeth mae wedi gweld dyn o’r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno er mwyn iddo gael ei olwg yn ôl.”
13 Ond atebodd Ananias: “Arglwydd, rydw i wedi clywed gan lawer am y dyn yma, am yr holl niwed a wnaeth ef i dy rai sanctaidd yn Jerwsalem.
14 Ac mae wedi dod yma gydag awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i arestio pawb sy’n galw ar dy enw di.”
15 Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho: “Dos! oherwydd mae’r dyn yma fel llestr rydw i wedi ei ddewis i ddwyn fy enw gerbron y cenhedloedd yn ogystal â brenhinoedd a meibion Israel.
16 Oherwydd bydda i’n dangos yn blaen iddo faint o bethau bydd yn rhaid iddo eu dioddef er mwyn fy enw.”
17 Felly aeth Ananias i ffwrdd a mynd i mewn i’r tŷ, a rhoi ei ddwylo arno a dweud: “Saul, fy mrawd, mae’r Arglwydd Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd roeddet ti’n teithio arni, wedi fy anfon i er mwyn iti gael dy olwg yn ôl a chael dy lenwi â’r ysbryd glân.”
18 Ac ar unwaith, syrthiodd rhywbeth a oedd yn edrych fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Yna cododd ef a chafodd ei fedyddio,
19 a dyma’n bwyta ychydig o fwyd ac adennill ei nerth.
Arhosodd am rai dyddiau gyda’r disgyblion yn Namascus,
20 ac yn syth, dechreuodd bregethu am Iesu yn y synagogau, gan ddweud mai hwn ydy Mab Duw.
21 Ond roedd pawb a oedd yn ei glywed yn synnu ac yn dweud: “Onid dyma’r dyn oedd yn ymosod yn ffyrnig ar y rhai yn Jerwsalem a oedd yn galw ar yr enw yma? Oni ddaeth ef yma i’w harestio nhw a’u cymryd nhw at y prif offeiriaid?”
22 Ond parhaodd Saul i fynd yn gryfach ac yn gryfach ac roedd yn syfrdanu’r Iddewon a oedd yn byw yn Namascus, wrth iddo brofi’n rhesymegol mai hwn ydy’r Crist.
23 Nawr ar ôl i lawer o ddyddiau fynd heibio, gwnaeth yr Iddewon gynllwynio gyda’i gilydd i’w ladd.
24 Ond, daeth Saul i wybod am eu cynllwyn yn ei erbyn. Roedden nhw hefyd yn gwylio giatiau’r ddinas yn ofalus ddydd a nos er mwyn ei ladd.
25 Felly gwnaeth ei ddisgyblion ei gymryd ef a’i ollwng i lawr mewn basged yn y nos drwy agoriad yn y wal.
26 Pan gyrhaeddodd ef Jerwsalem, gwnaeth ymdrech i ymuno â’r disgyblion, ond roedden nhw i gyd yn ei ofni, oherwydd doedden nhw ddim yn credu ei fod yn ddisgybl.
27 Felly daeth Barnabas i’w helpu a’i arwain at yr apostolion, a dywedodd wrthyn nhw yn union sut roedd Saul wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, a’i fod wedi siarad ag ef, a sut roedd ef wedi siarad yn ddi-ofn yn enw Iesu yn Namascus.
28 Felly arhosodd Saul gyda nhw, yn mynd o gwmpas Jerwsalem yn gwbl rydd, yn siarad yn ddewr yn enw’r Arglwydd.
29 Roedd yn siarad ac yn dadlau gyda’r Iddewon Groeg eu hiaith, ond dyma’r rhain yn ceisio ei ladd.
30 Pan glywodd y brodyr am hyn, gwnaethon nhw ddod ag ef i lawr i Cesarea a’i anfon i ffwrdd i Tarsus.
31 Yna’n wir, cafodd y gynulleidfa drwy holl Jwdea a Galilea a Samaria gyfnod o heddwch, a chafodd ei chryfhau; ac wrth iddi gerdded yn ofn Jehofa ac yng nghysur yr ysbryd glân, dyma hi’n parhau i luosogi.
32 Nawr fel roedd Pedr yn teithio drwy’r holl ardal, daeth i lawr hefyd at y rhai sanctaidd oedd yn byw yn Lyda.
33 Yna daeth o hyd i ddyn o’r enw Aeneas, a oedd wedi bod yn gorwedd ar ei wely am wyth mlynedd, oherwydd ei fod wedi ei barlysu.
34 Dywedodd Pedr wrtho: “Aeneas, mae Iesu Grist yn dy iacháu di. Cod a gwna dy wely.” A dyma ef yn codi ar unwaith.
35 Ar ôl i bawb a oedd yn byw yn Lyda a Saron ei weld ef, gwnaethon nhw droi at yr Arglwydd.
36 Nawr roedd ’na ddisgybl yn Jopa o’r enw Tabitha, sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Dorcas.”* Roedd hi’n llawn gweithredoedd da a rhoddion o drugaredd.
37 Ond yn y dyddiau hynny aeth hi’n sâl a bu farw. Felly dyma nhw’n ei golchi hi a’i gosod mewn uwch ystafell.
38 Gan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yn y ddinas honno, gwnaethon nhw anfon dau ddyn ato i erfyn arno: “Plîs tyrd aton ni heb oedi.”
39 Dyma Pedr yn codi ac yn mynd gyda nhw. A phan gyrhaeddodd, gwnaethon nhw ei arwain i’r uwch ystafell; a chyflwynodd yr holl wragedd gweddw eu hunain iddo, gan grio a dangos llawer o’r dillad a’r cotiau roedd Dorcas wedi eu gwneud tra oedd hi gyda nhw.
40 Yna gwnaeth Pedr anfon pawb allan, ac aeth ar ei liniau, a gweddïo. Wedyn trodd at y corff, a dweud: “Tabitha, cod!” Agorodd hi ei llygaid, ac wrth weld Pedr, dyma hi’n eistedd i fyny.
41 Rhoddodd Pedr ei law iddi, a’i chodi hi i fyny, a galwodd y rhai sanctaidd a’r gwragedd gweddw a’i chyflwyno hi’n fyw.
42 Daeth hyn yn hysbys drwy Jopa gyfan, a daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd.
43 Arhosodd ef yn Jopa am gryn dipyn o ddyddiau gyda gweithiwr lledr* o’r enw Simon.
Troednodiadau
^ Neu “menywod.”
^ Mae’r enw Groeg Dorcas yn ogystal â’r enw Aramaeg Tabitha yn golygu “Gasél.”
^ Neu “gyda barcer.”