Actau’r Apostolion 8:1-40
8 Roedd Saul, o’i ran ef, yn cymeradwyo ei lofruddiaeth.
Y diwrnod hwnnw cododd erledigaeth fawr yn erbyn y gynulleidfa a oedd yn Jerwsalem; cafodd pawb heblaw’r apostolion eu gwasgaru ar hyd ardaloedd Jwdea a Samaria.
2 Ond gwnaeth dynion a oedd yn parchu Duw gario Steffan i ffwrdd i’w gladdu, a dyma nhw’n galaru’n fawr iawn drosto.
3 Ond dechreuodd Saul ymosod yn ffyrnig ar y gynulleidfa. Fe fyddai’n mynd i mewn i un tŷ ar ôl y llall, yn llusgo dynion a merched* allan er mwyn iddyn nhw gael eu rhoi yn y carchar.
4 Er hynny, gwnaeth y rhai oedd wedi cael eu gwasgaru fynd drwy’r wlad yn cyhoeddi newyddion da gair Duw.
5 Nawr aeth Philip i lawr i ddinas* Samaria a dechrau pregethu iddyn nhw am y Crist.
6 Roedd y tyrfaoedd i gyd yn rhoi eu holl sylw i beth roedd Philip yn ei ddweud tra oedden nhw’n gwrando ac yn gwylio’r arwyddion roedd ef yn eu cyflawni.
7 Roedd gan lawer o bobl ysbrydion aflan, a byddai’r rhain yn gweiddi â llais uchel ac yn dod allan. Ar ben hynny, cafodd llawer a oedd yn gloff ac wedi eu parlysu eu hiacháu.
8 Felly roedd ’na lawenydd mawr yn y ddinas honno.
9 Nawr yn y ddinas roedd dyn o’r enw Simon, a oedd cyn hyn wedi bod yn ymarfer hudoliaeth* ac yn rhyfeddu cenedl Samaria, gan honni ei fod yn rhywun pwysig.
10 Byddai pob un ohonyn nhw, o’r lleiaf i’r mwyaf, yn talu sylw iddo ac yn dweud: “Y dyn yma ydy Nerth Mawr Duw.”
11 Felly bydden nhw’n talu sylw iddo oherwydd ei fod wedi eu rhyfeddu nhw â’i hudoliaeth* am gryn dipyn o amser.
12 Ond pan gyhoeddodd Philip y newyddion da am Deyrnas Dduw ac am enw Iesu Grist, dyma nhw’n ei gredu, a chafodd dynion a merched* eu bedyddio.
13 Daeth Simon ei hun yn grediniwr hefyd, ac ar ôl iddo gael ei fedyddio, parhaodd i lynu wrth Philip; ac roedd yn synnu o weld yr arwyddion a’r gweithredoedd mawr nerthol a oedd yn digwydd.
14 Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn gair Duw, anfonon nhw Pedr ac Ioan atyn nhw;
15 ac aeth y rhain i lawr i Samaria a gweddïo er mwyn iddyn nhw gael yr ysbryd glân.
16 Oherwydd nid oedd eto wedi dod ar unrhyw un ohonyn nhw, ac roedden nhw ond wedi cael eu bedyddio yn enw’r Arglwydd Iesu.
17 Yna dyma nhw’n rhoi eu dwylo arnyn nhw, a dechreuon nhw dderbyn yr ysbryd glân.
18 Nawr wrth weld bod pwy bynnag roedd yr apostolion yn rhoi eu dwylo arno yn derbyn yr ysbryd glân, dyma Simon yn cynnig arian iddyn nhw,
19 gan ddweud: “Rhowch yr awdurdod yma i minnau hefyd, fel bod unrhyw un rydw i’n rhoi fy nwylo arno yn gallu derbyn yr ysbryd glân.”
20 Ond dywedodd Pedr wrtho: “Gad i dy arian gael ei ddinistrio gyda ti, am dy fod ti wedi meddwl y gallet ti brynu ag arian beth mae Duw wedi ei roi am ddim.
21 Does gen ti ddim byd i wneud â’r mater yma, oherwydd dydy dy galon ddim yn onest yng ngolwg Duw.
22 Edifarha am dy ddrygioni, ac erfyn ar Jehofa i fwriad drwg dy galon gael ei faddau, os yw hynny’n bosib;
23 oherwydd rydw i’n gweld dy fod ti’n wenwyn chwerw ac yn gaethwas i anghyfiawnder.”
24 Dyma Simon yn eu hateb nhw: “Erfyniwch ar Jehofa drosto i fel na fydd yr un o’r pethau rydych chi wedi ei ddweud yn digwydd imi.”
25 Felly, unwaith roedden nhw wedi rhoi tystiolaeth drylwyr ac wedi siarad am air Jehofa, dechreuon nhw fynd yn ôl i Jerwsalem, ac roedden nhw’n cyhoeddi’r newyddion da i lawer o bentrefi’r Samariaid.
26 Ond, siaradodd angel Jehofa â Philip, gan ddweud: “Cod a dos i’r de i’r ffordd sy’n rhedeg o Jerwsalem i Gasa.” (Mae’r ffordd hon yn yr anialwch.)
27 Ar hynny, dyma’n codi a mynd, ac edrycha! roedd ’na eunuch* o Ethiopia, dyn a oedd ag awdurdod o dan Candace, brenhines yr Ethiopiaid, ac a oedd yn gyfrifol am ei holl drysor hi. Roedd ef wedi mynd i Jerwsalem i addoli,
28 ac roedd ar ei ffordd yn ôl yn eistedd yn ei gerbyd, yn darllen y proffwyd Eseia yn uchel.
29 Felly dywedodd yr ysbryd wrth Philip: “Dos a dal i fyny â’r cerbyd hwn.”
30 Rhedodd Philip wrth ochr y cerbyd a chlywed ef yn darllen y proffwyd Eseia yn uchel, a dywedodd: “Wyt ti’n wir yn deall* beth rwyt ti’n ei ddarllen?”
31 Dywedodd yntau: “Sut galla i wneud hynny heb i rywun fy nysgu?” Felly fe wnaeth wahodd Philip i ddod i fyny ac eistedd gydag ef.
32 Nawr dyma’r rhan o’r Ysgrythurau roedd ef yn ei darllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i’r lladdfa, ac fel oen sy’n ddistaw o flaen ei gneifiwr, nid yw’n agor ei geg.
33 Tra oedden nhw’n ei drin yn gywilyddus, cafodd cyfiawnder ei gymryd oddi arno. Pwy fydd yn adrodd manylion ei genhedlaeth? Oherwydd mae ei fywyd wedi cael ei gymryd oddi ar y ddaear.”
34 Yna dywedodd yr eunuch wrth Philip: “Rydw i’n ymbil arnat ti, am bwy mae’r proffwyd yn sôn? Amdano’i hun neu am ryw ddyn arall?”
35 Dechreuodd Philip siarad, ac yn cychwyn gyda’r rhan hon o’r Ysgrythurau, dyma’n cyhoeddi iddo’r newyddion da am Iesu.
36 Nawr fel roedden nhw’n mynd ar hyd y ffordd, dyma nhw’n dod at ddŵr, a dywedodd yr eunuch: “Edrycha! Dyma ddŵr; beth sy’n fy rhwystro i rhag cael fy medyddio?”
37 ——
38 Ar hynny gorchmynnodd i’r cerbyd stopio, ac aeth Philip a’r eunuch i lawr a mynd i mewn i’r dŵr, a dyma’n ei fedyddio.
39 Pan ddaethon nhw i fyny allan o’r dŵr, gwnaeth ysbryd Jehofa arwain Philip i ffwrdd yn gyflym, ac ni welodd yr eunuch ef ddim mwy, ond aeth ar ei ffordd yn llawen.
40 Ond, fe aeth Philip i Asotus, a mynd drwy’r diriogaeth yn parhau i gyhoeddi’r newyddion da i’r holl ddinasoedd nes iddo gyrraedd Cesarea.
Troednodiadau
^ Neu “menywod.”
^ Neu efallai, “i un o ddinasoedd.”
^ Neu “y gelfyddyd o hudoliaeth.”
^ Neu “â’i gelfyddyd o hudoliaeth.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “swyddog llys.”
^ Neu “gwybod.”