Yr Ail at y Thesaloniaid 1:1-12
1 Paul, Silfanus,* a Timotheus, at gynulleidfa y Thesaloniaid sy’n perthyn i Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist:
2 Rydyn ni’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3 Rydyn ni dan orfod i roi diolch i Dduw bob amser amdanoch chi frodyr. Mae hyn yn briodol oherwydd bod eich ffydd chi yn cynyddu yn fawr iawn a’r cariad sydd gan bob un ohonoch chi tuag at eich gilydd yn dyfnhau.
4 O ganlyniad, rydyn ni’n hunain yn falch ohonoch chi ymysg cynulleidfaoedd Duw o achos eich dyfalbarhad a’ch ffydd yn wyneb eich holl erledigaethau a’r treialon rydych chi’n eu dioddef.
5 Tystiolaeth yw hyn o farn gyfiawn Duw, sy’n arwain atoch chi’n cael eich cyfri’n deilwng o Deyrnas Dduw, y Deyrnas rydych chi’n wir yn dioddef er ei mwyn.
6 Gan fod Duw yn gyfiawn, bydd yn cosbi’r rhai sy’n gwneud ichi ddioddef.
7 Ond y chi sy’n dioddef, bydd Duw yn eich rhyddhau chi, a ninnau hefyd, pan fydd yr Arglwydd Iesu yn ymddangos* o’r nef gyda’i angylion nerthol
8 mewn tân fflamllyd, wrth iddo ddial ar y rhai sydd ddim yn adnabod Duw a’r rhai sydd ddim yn ufuddhau i’r newyddion da am ein Harglwydd Iesu.
9 Bydd yr union rai hyn yn dioddef y gosb farnwrol o ddinistr tragwyddol yn bell oddi wrth wyneb yr Arglwydd ac oddi wrth ogoniant ei nerth.
10 Pan fydd ein Harglwydd yn dod i gael ei ogoneddu gyda’i rai sanctaidd, bydd pawb sy’n ymarfer ffydd ynddo yn ei edmygu. Ac oherwydd eich bod chi wedi credu’r dystiolaeth a roddon ni, byddwch chithau hefyd yn eu plith.
11 I’r diben hwnnw, rydyn ni bob amser yn gweddïo drostoch chi er mwyn i’n Duw eich cyfri chi’n deilwng o’i alwad ac iddo gyflawni’n llwyr yr holl ddaioni y mae ef yn dymuno ei wneud trwy ei nerth, a phob gweithred o ffydd.
12 A hynny er mwyn i enw ein Harglwydd Iesu gael ei ogoneddu ynoch chi a chithau mewn undod ag ef, yn ôl caredigrwydd rhyfeddol ein Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.