Ail Cronicl 12:1-16
12 Yn fuan ar ôl i frenhiniaeth Rehoboam gael ei sefydlu’n gadarn, ac ar ôl iddo ddod yn gryf, cefnodd ar Gyfraith Jehofa, a gwnaeth Israel gyfan yr un peth.
2 Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Rehoboam, daeth Sisac, brenin yr Aifft, i fyny yn erbyn Jerwsalem oherwydd roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i Jehofa.
3 Roedd ganddo 1,200 o gerbydau, 60,000 o farchogion, a milwyr di-rif a ddaeth gydag ef o’r Aifft—Libiaid, Suciaid, ac Ethiopiaid.
4 Cipiodd ddinasoedd caerog Jwda, ac yn y pen draw cyrhaeddodd Jerwsalem.
5 Daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda a oedd wedi casglu yn Jerwsalem oherwydd Sisac, a dywedodd wrthyn nhw: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Rydych chi wedi cefnu arna i, felly rydw i hefyd wedi cefnu arnoch chi, ac wedi eich rhoi chi yn llaw Sisac.’”
6 Gyda hynny, dyma’r brenin a thywysogion Israel yn dangos gostyngeiddrwydd, a dywedon nhw: “Mae Jehofa yn gyfiawn.”
7 Pan welodd Jehofa eu bod nhw wedi edifarhau yn ostyngedig, daeth gair Jehofa at Semaia gan ddweud: “Maen nhw wedi edifarhau yn ostyngedig, wna i ddim eu dinistrio nhw, a chyn bo hir bydda i’n eu hachub nhw. Fydda i ddim yn tywallt* fy llid ar Jerwsalem drwy Sisac.
8 Ond byddan nhw’n dod yn weision iddo fel y byddan nhw’n gwybod y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu brenhinoedd gwledydd eraill.”
9 Felly daeth Sisac, brenin yr Aifft, i fyny yn erbyn Jerwsalem. Cipiodd drysorau tŷ Jehofa a thrysorau tŷ’r brenin.* Cymerodd bopeth gan gynnwys y tarianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud.
10 Felly gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau o gopr yn eu lle, a’u rhoi nhw o dan ofal penaethiaid y gwarchodlu a oedd yn gwarchod mynedfa tŷ’r brenin.
11 Bryd bynnag roedd y brenin yn mynd i dŷ Jehofa byddai’r gwarchodlu yn dod i mewn gydag ef ac yn cario’r tarianau, ac yna yn eu rhoi nhw yn ôl yn ystafell y gwarchodlu.
12 Am fod y brenin wedi ymddwyn yn ostyngedig, trodd dicter Jehofa i ffwrdd oddi wrtho, ac ni wnaeth ef eu dinistrio nhw yn gyfan gwbl. Ar ben hynny, roedd ’na rywfaint o ddaioni i’w weld yn Jwda.
13 Cryfhaodd y Brenin Rehoboam ei awdurdod yn Jerwsalem a pharhaodd i deyrnasu. Roedd Rehoboam yn 41 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 17 mlynedd yn Jerwsalem, y ddinas roedd Jehofa wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i sefydlu ei enw yno. Enw mam y brenin oedd Naama yr Ammones.
14 Ond gwnaeth ef beth oedd yn ddrwg, oherwydd doedd ei galon ddim yn awyddus i chwilio am arweiniad Jehofa.
15 Ynglŷn â hanes Rehoboam, o’r dechrau i’r diwedd, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu ymhlith geiriau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd yn yr achau teuluol? Ac roedd ’na ryfela di-baid rhwng Rehoboam a Jeroboam.
16 Yna bu farw Rehoboam* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Abeia yn frenin yn ei le.
Troednodiadau
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “palas y brenin.”
^ Neu “Yna gorweddodd Rehoboam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”