Ail Brenhinoedd 16:1-20
16 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg* o deyrnasiad Peca fab Remaleia, daeth Ahas, mab Jotham brenin Jwda, yn frenin.
2 Roedd Ahas yn 20 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 16 mlynedd yn Jerwsalem. Yn wahanol i’w gyndad Dafydd, doedd ef ddim yn gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa ei Dduw.
3 Yn hytrach, roedd yn gwneud yr un fath â brenhinoedd Israel, gan hyd yn oed wneud i’w fab ei hun fynd drwy’r tân. Gwnaeth yr un pethau ffiaidd ag yr oedd y cenhedloedd wedi eu gwneud, y rhai roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid.
4 Roedd ef hefyd yn parhau i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar ei aberthau ar yr uchelfannau, ar y bryniau, ac o dan bob coeden ddeiliog.
5 Dyna pryd daeth Resin brenin Syria, a Peca fab Remaleia brenin Israel, i fyny i ryfela yn erbyn Ahas. Gwnaethon nhw warchae ar Jerwsalem, ond doedden nhw ddim yn gallu cipio’r ddinas.
6 Bryd hynny, gwnaeth Resin brenin Syria roi Elath yn ôl i Edom, ac ar ôl hynny gyrrodd yr Iddewon* allan o Elath. Ac aeth yr Edomiaid i mewn i Elath ac maen nhw wedi byw yno hyd heddiw.
7 Felly anfonodd Ahas negeswyr at Tiglath-pileser brenin Asyria, yn dweud: “Rydw i’n was ac yn fab iti. Tyrd i fyny a fy achub i o law brenin Syria ac o law brenin Israel sy’n ymosod arna i.”
8 Yna cymerodd Ahas yr arian a’r aur oedd yn nhŷ Jehofa ac yn nhrysordai tŷ’r brenin* a rhoi breib i frenin Asyria.
9 Dyma frenin Asyria yn ymateb i’w gais, ac aeth i fyny i Ddamascus a’i chipio a chaethgludo ei phobl i Cir, a lladdodd Resin.
10 Yna aeth y Brenin Ahas i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria yn Namascus. Pan welodd yr allor a oedd yn Namascus, anfonodd y Brenin Ahas gynllun o’r allor at Ureia yr offeiriad, gan ddangos ei dyluniad a’i holl fanylion.
11 Dyma Ureia yr offeiriad yn adeiladu allor yn ôl yr holl gyfarwyddiadau roedd y Brenin Ahas wedi eu hanfon o Ddamascus. Roedd Ureia yr offeiriad wedi gorffen ei hadeiladu cyn i’r Brenin Ahas ddod yn ôl o Ddamascus.
12 Pan ddaeth y brenin yn ôl o Ddamascus a gweld yr allor, aeth at yr allor ac offrymu arni.
13 A pharhaodd i wneud i fwg godi oddi ar ei offrymau llosg a’i offrymau grawn ar yr allor honno; gwnaeth ef hefyd dywallt* ei offrymau diod arni a thaenu diferion o waed ei aberthau heddwch arni.
14 Yna gwnaeth ef symud yr allor gopr a oedd o flaen Jehofa o’i lle yn y tŷ, rhwng ei allor ei hun a thŷ Jehofa, a’i rhoi ar ochr ogleddol ei allor ei hun.
15 Gorchmynnodd y Brenin Ahas i Ureia yr offeiriad: “Gwna i fwg godi oddi ar offrwm llosg y bore ar yr allor fawr, a hefyd oddi ar offrwm grawn y noswaith, offrwm llosg y brenin, a’i offrwm grawn, yn ogystal ag oddi ar offrymau llosg, offrymau grawn, ac offrymau diod yr holl bobl. Dylet ti hefyd daenellu’r holl waed sy’n dod o’r offrymau llosg arni, a’r holl waed sy’n dod o’r aberthau eraill. Ynglŷn â’r allor gopr, fe wna i benderfynu beth i’w wneud â hi.”
16 A gwnaeth Ureia yr offeiriad bopeth roedd y Brenin Ahas wedi gorchymyn iddo.
17 Ar ben hynny, gwnaeth y Brenin Ahas dorri’r paneli oedd ar ochrau’r cerbydau yn ddarnau a chymryd y basnau oddi arnyn nhw, a chymerodd y Môr i lawr oddi ar y teirw copr a oedd yn ei ddal i fyny a’i roi ar balmant carreg.
18 A chymerodd i ffwrdd y canopi a oedd wedi cael ei adeiladu yn agos at y deml, ac a oedd yn cael ei ddefnyddio ar y Saboth, a gwnaeth ef gau mynedfa’r brenin i dŷ Jehofa; gwnaeth hyn i gyd oherwydd brenin Asyria.
19 Ynglŷn â gweddill hanes Ahas, beth wnaeth ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes Jwda?
20 Yna bu farw Ahas* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Heseceia* yn frenin yn ei le.
Troednodiadau
^ Neu “17eg flwyddyn.”
^ Neu “gyrrodd ddynion Jwda.”
^ Neu “palas y brenin.”
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “Yna gorweddodd Ahas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
^ Sy’n golygu “Mae Jehofa yn Cryfhau.”