Y Cyntaf at y Thesaloniaid 4:1-18
4 Yn olaf, frodyr, yn union fel y cawsoch chi gyfarwyddyd gynnon ni ar sut y dylech chi gerdded er mwyn plesio Duw, fel yr ydych chi’n wir yn cerdded, rydyn ni’n gofyn ichi ac yn apelio atoch chi yn enw’r Arglwydd Iesu i ddal i wneud hyn yn fwy ac yn fwy.
2 Oherwydd rydych chi’n gwybod am y cyfarwyddiadau* a roddon ni ichi yn enw’r Arglwydd Iesu.
3 Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichi fod yn sanctaidd ac ichi wrthod anfoesoldeb rhywiol.*
4 Dylai pob un ohonoch chi wybod sut i reoli ei gorff* ei hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd,
5 nid mewn chwant rhywiol afreolus a barus, fel yn achos y cenhedloedd sydd ddim yn adnabod Duw.
6 Ni ddylai neb fynd y tu hwnt i’r terfynau priodol a manteisio’n annheg ar ei frawd yn y mater hwn, oherwydd bod Jehofa yn cosbi’r rhai sy’n gwneud y pethau hyn i gyd, fel rydyn ni wedi dweud wrthoch chi o’r blaen ac wedi eich rhybuddio chi’n gryf hefyd.
7 Oherwydd mae Duw wedi ein galw ni, nid i aflendid, ond i sancteiddrwydd.
8 Felly, mae’r dyn sy’n diystyru hyn yn diystyru, nid dyn, ond Duw, sy’n rhoi i chi ei ysbryd glân.
9 Fodd bynnag, ynglŷn â chariad brawdol, does dim angen arnoch chi i ni ysgrifennu atoch chi, oherwydd eich bod chi’ch hunain yn cael eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.
10 Yn wir, rydych chi’n gwneud hyn i’r brodyr i gyd ym Macedonia gyfan. Ond rydyn ni’n erfyn arnoch chi, frodyr, i ddal ati i wneud hyn yn fwy ac yn fwy.
11 Gwnewch bob ymdrech i fyw bywyd tawel a meindio eich busnes eich hunain a gweithio â’ch dwylo, yn union fel y gwnaethon ni eich cyfarwyddo,
12 fel y gallwch chi gerdded yn weddus yng ngolwg pobl sydd y tu allan heb angen dim.
13 A hefyd, frodyr, dydyn ni ddim eisiau ichi fod yn anwybodus am y rhai sy’n cysgu mewn marwolaeth, rhag ichi alaru fel y mae’r gweddill yn gwneud sydd heb obaith.
14 Oherwydd os ydyn ni’n credu bod Iesu wedi marw ac wedi codi eto, felly hefyd bydd Duw yn rhoi bywyd i’r rhai sydd wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth drwy Iesu er mwyn iddyn nhw fod gydag ef.*
15 Dyma beth rydyn ni’n ei ddweud wrthoch chi ar sail gair Jehofa: Ni fyddwn ninnau, y rhai byw sy’n goroesi hyd bresenoldeb yr Arglwydd, ar unrhyw gyfri yn mynd o flaen y rhai sydd wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth;
16 oherwydd bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o’r nef gan roi gorchmynion â llais archangel ac yn dal trwmped Duw, a bydd y rhai sydd wedi marw mewn undod â Christ yn codi gyntaf.
17 Wedi hynny byddwn ninnau’r rhai byw sy’n goroesi yn cael ein cipio i ffwrdd gyda nhw yn y cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn ni’n wastad gyda’r Arglwydd.
18 Felly daliwch ati i gysuro eich gilydd â’r geiriau hyn.