Cyntaf Samuel 5:1-12
5 Pan wnaeth y Philistiaid gipio Arch y gwir Dduw, daethon nhw â hi o Ebeneser i Asdod.
2 Cymerodd y Philistiaid Arch y gwir Dduw a dod â hi i mewn i dŷ* Dagon a’i gosod wrth ymyl Dagon.
3 Pan gododd pobl Asdod yn fuan y diwrnod wedyn, dyna lle roedd Dagon wedi disgyn ar ei wyneb ar y llawr o flaen Arch Jehofa. Felly cymeron nhw Dagon a’i osod yn ôl yn ei le.
4 Pan godon nhw’n fuan y bore wedyn, dyna lle roedd Dagon wedi disgyn ar ei wyneb ar y llawr o flaen Arch Jehofa. Roedd pen Dagon a’i ddwy law wedi cael eu torri i ffwrdd, ac roedden nhw ar y trothwy. Dim ond y rhan a oedd fel pysgodyn* oedd yn dal yn gyfan.
5 Dyna pam dydy offeiriaid Dagon, a phawb sy’n mynd i mewn i dŷ Dagon, ddim yn cerdded ar drothwy Dagon yn Asdod hyd heddiw.
6 Roedd llaw Jehofa yn drwm yn erbyn pobl Asdod, a gwnaeth ef eu difetha nhw drwy daro Asdod a’i thiriogaethau â chlwyf y marchogion.*
7 Pan welodd dynion Asdod beth roedd yn digwydd, dywedon nhw: “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros gyda ni, oherwydd mae ef wedi ein cosbi ni a’n duw Dagon yn llym.”
8 Felly dyma nhw’n galw ar holl arglwyddi’r Philistiaid ac yn eu casglu nhw at ei gilydd a gofyn iddyn nhw: “Beth dylen ni ei wneud ag Arch Duw Israel?” Atebon nhw: “Dylai Arch Duw Israel gael ei symud i Gath.” Felly dyma nhw’n symud Arch Duw Israel i fan ’na.
9 Ar ôl iddyn nhw ei symud hi yno, daeth llaw Jehofa yn erbyn y ddinas, gan wneud iddyn nhw banicio yn ofnadwy. Gwnaeth ef gosbi pob dyn yn y ddinas, yn hen neu’n ifanc, a’u taro nhw i gyd â chlwyf y marchogion.*
10 Felly anfonon nhw Arch y gwir Dduw i Ecron, ond cyn gynted ag y gwnaeth Arch y gwir Dduw gyrraedd Ecron, dechreuodd pobl Ecron weiddi: “Maen nhw wedi dod ag Arch Duw Israel aton ni i’n lladd ni a’n pobl!”
11 Yna dyma nhw’n galw ar holl arglwyddi’r Philistiaid a’u casglu nhw at ei gilydd a dweud: “Anfonwch Arch Duw Israel i ffwrdd; gadewch iddi fynd yn ôl i Israel fel na fyddwn ni na’n pobl yn cael ein lladd.” Roedd y ddinas gyfan yn poeni’n arw y bydden nhw’n marw; roedd llaw y gwir Dduw wedi bod yn drwm iawn yno,
12 a chafodd y dynion oedd yn dal yn fyw eu taro â chlwyf y marchogion.* Ac aeth cri’r ddinas am help i fyny i’r nefoedd.
Troednodiadau
^ Neu “i deml.”
^ Llyth., “Dim ond Dagon.”
^ Neu “hemoroidau; peils.”
^ Neu “hemoroidau; peils.”
^ Neu “hemoroidau; peils.”