Cyntaf Samuel 17:1-58

  • Dafydd yn trechu Goliath (1-58)

    • Goliath yn herio Israel (8-10)

    • Dafydd yn derbyn yr her (32-37)

    • Dafydd yn brwydro yn enw Jehofa (45-47)

17  Casglodd y Philistiaid eu byddinoedd ar gyfer rhyfel. Daethon nhw at ei gilydd yn Socho sy’n perthyn i Jwda, a gwnaethon nhw wersylla rhwng Socho ac Aseca, yn Effes-dammim. 2  Daeth Saul a dynion Israel at ei gilydd a gwersylla yn Nyffryn* Ela, a threfnu eu hunain yn barod i frwydro yn erbyn y Philistiaid. 3  Roedd y Philistiaid ar un mynydd a’r Israeliaid ar fynydd arall, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw. 4  Yna daeth un o bencampwyr y Philistiaid allan o’u gwersyll; ei enw oedd Goliath, o Gath, ac roedd yn chwe chufydd a rhychwant o daldra.* 5  Roedd ganddo helmed gopr ar ei ben, ac roedd yn gwisgo arfwisg* oedd â haenau o fetel arni. Roedd yr arfwisg o gopr yn pwyso 5,000 sicl.* 6  Roedd ganddo goesarnau o gopr yn amddiffyn ei goesau a gwaywffon gopr ar ei gefn. 7  Roedd coes pren y waywffon yn ei law yn debyg i drawst gwehydd, ac roedd blaen haearn y waywffon honno yn pwyso 600 sicl;* ac roedd y milwr oedd yn cario ei darian yn martsio* o’i flaen. 8  Yna safodd Goliath a galw ar filwyr Israel a dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi dod allan yn barod i frwydro yn ein herbyn ni? Onid ydw i’n un o’r Philistiaid, ac onid ydych chi’n weision i Saul? Dewiswch ddyn a gadewch iddo ddod i lawr ata i. 9  Os ydy ef yn gallu ymladd yn fy erbyn i a fy nharo i lawr, yna byddwn ni’n dod yn weision i chi. Ond os ydw i’n ennill ac yn ei daro ef i lawr, byddwch chi’n dod yn weision i ni.” 10  Yna dywedodd y Philistiad: “Rydw i’n herio byddin Israel heddiw. Gadewch i’r dyn rydych chi wedi ei ddewis ddod i fy wynebu i, inni gael ymladd!” 11  Pan glywodd Saul ac Israel gyfan eiriau’r Philistiad, roedd ganddyn nhw ofn mawr ac roedden nhw wedi dychryn. 12  Nawr roedd Dafydd yn fab i Jesse a oedd yn byw yn Effratha, hynny yw Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth o feibion, ac roedd ef eisoes yn hen ddyn yn nyddiau Saul. 13  Roedd tri mab hynaf Jesse wedi dilyn Saul i’r rhyfel. Y tri mab a aeth i’r rhyfel oedd Eliab y cyntaf-anedig, Abinadab ei ail fab, a Samma ei drydydd mab. 14  Dafydd oedd yr ieuengaf, a gwnaeth y tri hynaf ddilyn Saul. 15  Tra oedd Dafydd yn gwasanaethu Saul, roedd yn mynd yn ôl ac ymlaen i ofalu am ddefaid ei dad ym Methlehem. 16  Yn y cyfamser, roedd y Philistiad yn dod ymlaen ac yn sefyll o’u blaenau nhw i’w herio nhw bob bore a nos am 40 diwrnod. 17  Yna dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd: “Plîs cymera’r effa* hon o rawn wedi ei rostio* a’r deg torth hyn o fara, a mynd â nhw’n gyflym at dy frodyr yn y gwersyll. 18  A dos â’r deg darn hyn o gaws* at bennaeth y mil, a dylet ti hefyd weld sut mae dy frodyr, a thyrd â rhywbeth yn ôl gan bob un ohonyn nhw fel tystiolaeth eu bod nhw’n iawn.” 19  Roedden nhw gyda Saul a holl ddynion eraill Israel yn Nyffryn* Ela, yn brwydro yn erbyn y Philistiaid. 20  Felly cododd Dafydd yn fuan yn y bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall; yna casglodd ei bethau a mynd yn union fel roedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Wrth iddo gyrraedd y gwersyll, roedd y fyddin yn mynd allan i faes y gad yn gweiddi bloedd ryfel. 21  Gwnaeth Israel a’r Philistiaid drefnu eu hunain yn barod i frwydro fel bod un fyddin yn wynebu’r llall. 22  Ar unwaith gadawodd Dafydd ei bethau gyda gofalwr y gwersyll a rhedeg at faes y gad. Unwaith iddo gyrraedd, dechreuodd holi am ei frodyr. 23  Tra oedd yn siarad â nhw, dyma’r pencampwr o’r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod allan o fyddin y Philistiaid, ac yn dweud yr un geiriau ag o’r blaen, a gwnaeth Dafydd ei glywed. 24  Pan wnaeth holl ddynion Israel weld Goliath, dyma nhw’n ffoi oddi wrtho mewn ofn. 25  Roedd dynion Israel yn dweud: “Ydych chi wedi gweld y dyn hwn sy’n dod allan? Mae’n dod i herio Israel. Bydd y brenin yn rhoi cyfoeth mawr i’r dyn sy’n ei daro i lawr, bydd yn rhoi ei ferch ei hun iddo, a bydd gan dŷ ei dad ryddid yn Israel.” 26  Dechreuodd Dafydd ddweud wrth y dynion oedd yn sefyll wrth ei ymyl: “Beth fydd yn digwydd i’r dyn sy’n taro’r Philistiad acw i lawr ac sy’n cymryd sarhad Israel i ffwrdd? Oherwydd pa hawl sydd gan y Philistiad paganaidd* hwn i herio byddin y Duw byw?” 27  Yna dywedodd y bobl yr un peth wrtho ag o’r blaen: “Dyma beth fydd yn digwydd i’r dyn sy’n ei daro i lawr.” 28  Pan wnaeth ei frawd hynaf Eliab ei glywed yn siarad â’r dynion, gwylltiodd â Dafydd a dweud: “Pam rwyt ti wedi dod i lawr? Ac yng ngofal pwy wnest ti adael yr ychydig o ddefaid ’na yn yr anialwch? Rydw i’n gwybod am fwriadau drwg dy galon a pha mor hy rwyt ti; rwyt ti ond yma i weld y frwydr.” 29  Atebodd Dafydd: “Beth ydw i wedi ei wneud nawr? Roeddwn i ond yn gofyn cwestiwn!” 30  Felly trodd oddi wrtho a gofyn yr un peth i rywun arall, a rhoddodd y bobl yr un ateb iddo ag o’r blaen. 31  Clywodd rhai beth roedd Dafydd wedi ei ddweud, a mynd i’w adrodd wrth Saul. Felly anfonodd Saul am Dafydd. 32  Dywedodd Dafydd wrth Saul: “Ddylai neb ddigalonni* o’i herwydd. Bydda i, dy was, yn mynd ac yn ymladd yn erbyn y Philistiad yma.” 33  Ond dywedodd Saul wrth Dafydd: “Elli di ddim mynd i ymladd yn erbyn y Philistiad yma, oherwydd dim ond bachgen wyt ti, ond mae ef wedi bod yn filwr ers iddo fod yn ifanc.” 34  Yna dywedodd Dafydd wrth Saul: “Rydw i, dy was, yn fugail ar braidd fy nhad, ac un diwrnod daeth llew a chipio dafad o’r praidd, a daeth arth hefyd a gwneud yr un peth. 35  Es i allan ar ôl y llew a’r arth ac achub fy nefaid o’u cegau. A phan wnaethon nhw godi yn fy erbyn i, gwnes i gydio yn eu blew* a’u taro nhw i lawr a’u lladd nhw. 36  Gwnes i, dy was, daro i lawr y llew a’r arth, a bydd y Philistiad paganaidd* hwn yn dod fel un ohonyn nhw, oherwydd mae ef wedi herio byddinoedd y Duw byw.” 37  Yna ychwanegodd Dafydd: “Jehofa, yr un wnaeth fy achub i o afael y llew a’r arth, ef yw’r un fydd yn fy achub i o law’r Philistiad yma.” Gyda hynny dywedodd Saul wrth Dafydd: “Dos, a gad i Jehofa fod gyda ti.” 38  Rhoddodd Saul ei ddillad ei hun ar Dafydd. Rhoddodd helmed gopr ar ei ben, ac yna rhoddodd arfwisg amdano.* 39  Yna, strapiodd Dafydd ei gleddyf dros ei ddillad a thrio symud ond doedd ef ddim yn gallu, oherwydd doedd ef ddim wedi arfer â nhw. Dywedodd Dafydd wrth Saul: “Dydw i ddim yn gallu symud yn y pethau hyn, oherwydd dydw i ddim wedi arfer â nhw.” Felly dyma Dafydd yn eu tynnu nhw i ffwrdd. 40  Yna cymerodd ei ffon yn ei law a dewis pum carreg lefn o wely’r nant* a’u rhoi nhw ym mhoced ei fag bugail, ac roedd ei ffon dafl yn ei law. A dechreuodd fynd at y Philistiad. 41  Daeth y Philistiad yn nes ac yn nes at Dafydd, ac roedd y milwr oedd yn cario ei darian o’i flaen. 42  Pan welodd y Philistiad Dafydd, dyma ef yn chwerthin am ei ben a’i ddirmygu oherwydd mai dim ond bachgen golygus oedd ef. 43  Felly dywedodd y Philistiad wrth Dafydd: “Ydw i’n gi, iti ddod yn fy erbyn i â ffyn?” Gyda hynny gwnaeth y Philistiad felltithio Dafydd yn enw ei dduwiau. 44  Dywedodd y Philistiad wrth Dafydd: “Tyrd yma, a gwna i fwydo dy gorff di i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt.” 45  Atebodd Dafydd: “Rwyt ti’n dod yn fy erbyn i â chleddyf a dwy waywffon, ond rydw i’n dod yn dy erbyn di yn enw Jehofa y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr un rwyt ti wedi ei herio. 46  Bydd Jehofa yn dy roi di yn fy llaw i heddiw, a bydda i’n dy daro di i lawr ac yn torri dy ben i ffwrdd; a heddiw bydda i’n bwydo cyrff gwersyll y Philistiaid i’r adar a’r anifeiliaid gwyllt; a bydd pobl yr holl ddaear yn gwybod bod ’na Dduw yn Israel. 47  A bydd pawb yma yn gwybod nad trwy’r cleddyf na’r waywffon mae Jehofa yn achub, oherwydd Jehofa biau’r frwydr, a bydd ef yn eich rhoi chi i gyd yn ein dwylo.” 48  Yna cododd y Philistiad a dechrau cerdded tuag at Dafydd, ond rhedodd Dafydd yn gyflym tuag at fyddin y gelyn i gyfarfod y Philistiad. 49  Estynnodd Dafydd ei law i mewn i’w fag, cymryd carreg allan, a’i hyrddio gyda’i ffon dafl. Tarodd y Philistiad yn ei dalcen, a suddodd y garreg i’w ben a syrthiodd ar ei wyneb ar y llawr. 50  Felly cafodd Dafydd fuddugoliaeth dros y Philistiad gyda ffon dafl a charreg; tarodd y Philistiad i lawr a’i ladd, er nad oedd gan Dafydd gleddyf yn ei law. 51  Parhaodd Dafydd i redeg, a sefyll drosto. Yna gafaelodd yng nghleddyf y Philistiad a’i dynnu allan o’i wain a gwneud yn siŵr ei fod yn farw drwy dorri ei ben i ffwrdd gyda’r cleddyf. Pan welodd y Philistiaid fod eu pencampwr wedi marw, dyma nhw’n ffoi. 52  Gyda hynny dyma ddynion Israel a Jwda yn codi ac yn dechrau gweiddi a mynd ar ôl y Philistiaid yr holl ffordd o’r dyffryn hyd at giatiau Ecron. Gwnaethon nhw ladd llawer o Philistiaid ar hyd y ffordd i Saaraim, ac roedd eu cyrff i’w gweld ym mhobman mor bell â Gath ac Ecron. 53  Ar ôl i’r Israeliaid fynd ar ôl y Philistiaid yn ffyrnig, aethon nhw yn ôl i ysbeilio gwersylloedd y Philistiaid. 54  Yna aeth Dafydd â phen y Philistiad i Jerwsalem, ond rhoddodd arfau’r Philistiad yn ei babell ei hun. 55  Y foment gwelodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, dywedodd wrth Abner, pennaeth y fyddin: “Mab pwy ydy’r bachgen yma, Abner?” Atebodd Abner: “Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, O frenin, dydw i ddim yn gwybod!” 56  Dywedodd y brenin: “Dos i ddarganfod pwy sy’n dad i’r dyn ifanc yma.” 57  Cyn gynted ag y daeth Dafydd yn ôl o daro’r Philistiad i lawr, aeth Abner ag ef o flaen Saul gyda phen y Philistiad yn ei law. 58  Nawr dywedodd Saul wrtho: “Mab pwy wyt ti, fachgen?” Atebodd Dafydd: “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”

Troednodiadau

Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Ei daldra oedd tua 2.9 m (9 tr 5.75 mod).
Neu “llurig.”
Tua 57 kg (125 lb).
Tua 6.84 kg (15 lb).
Neu “gorymdeithio.”
Neu “wedi ei grasu.”
Tua 22 L.
Llyth., “llaeth.”
Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Llyth., “heb ei enwaedu.”
Neu “Ddylai neb golli dewrder.”
Neu “genau.”
Llyth., “heb ei enwaedu.”
Neu “rhoddodd lurig amdano.”
Neu “o’r wadi.”