Cyntaf Samuel 12:1-25

  • Araith ffarwel Samuel (1-25)

    • ‘Peidiwch â mynd ar ôl pethau gwag’ (21)

    • Fydd Jehofa ddim yn cefnu ar ei bobl (22)

12  Yn y pen draw dywedodd Samuel wrth Israel gyfan: “Rydw i wedi gwneud popeth rydych chi wedi ei ofyn gen i, ac rydw i wedi penodi brenin i reoli drostoch chi. 2  Nawr dyma’r brenin sy’n eich arwain chi! Rydw innau wedi heneiddio ac mae fy ngwallt i’n wyn, ac mae fy meibion yma gyda chi, ac rydw i wedi eich arwain chi ers fy ieuenctid hyd heddiw. 3  Dyma fi. Tystiolaethwch yn fy erbyn i o flaen Jehofa ac o flaen ei un eneiniog: A ydw i wedi cymryd tarw neu asyn unrhyw un? A ydw i wedi sathru ar rywun neu wedi ei dwyllo? A ydw i wedi derbyn breib i edrych y ffordd arall? Os felly, gwna i roi’r cwbl yn ôl ichi.” 4  I hynny dywedon nhw: “Dwyt ti ddim wedi sathru arnon ni nac wedi ein twyllo ni, a dwyt ti ddim wedi derbyn unrhyw beth o gwbl o law unrhyw un.” 5  Felly dywedodd wrthyn nhw: “Mae Jehofa yn dyst yn eich erbyn chi, ac mae ei un eneiniog yn dyst heddiw nad ydych chi wedi darganfod unrhyw beth i fy nghyhuddo i ohono.” I hynny dywedon nhw: “Mae ef yn dyst.” 6  Felly dywedodd Samuel wrth y bobl: “Mae Jehofa yn dyst, yr un a ddefnyddiodd Moses ac Aaron ac a ddaeth â’ch cyndadau i fyny allan o wlad yr Aifft. 7  Nawr safwch yn llonydd a bydda i’n eich barnu chi o flaen Jehofa ar sail yr holl weithredoedd cyfiawn mae Jehofa wedi eu gwneud drostoch chi a’ch cyndadau. 8  “Cyn gynted ag yr oedd Jacob wedi dod i mewn i’r Aifft, a phan ddechreuodd eich cyndadau alw ar Jehofa am help, anfonodd Jehofa Moses ac Aaron i arwain eich cyndadau allan o’r Aifft ac i setlo yn y lle hwn. 9  Ond anghofion nhw am Jehofa eu Duw, a gwnaeth ef eu gwerthu nhw i law Sisera, pennaeth byddin Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab, a brwydron nhw yn eu herbyn. 10  A galwon nhw ar Jehofa am help a dweud, ‘Rydyn ni wedi pechu, oherwydd rydyn ni wedi gadael Jehofa er mwyn gwasanaethu delwau o Baal ac Astoreth; nawr achuba ni o law ein gelynion er mwyn inni allu dy wasanaethu di.’ 11  Yna anfonodd Jehofa Jerwbbaal, Bedan, Jefftha, a Samuel a’ch achub chi o law y gelynion o’ch cwmpas chi er mwyn ichi allu byw mewn heddwch. 12  Pan welsoch chi fod Nahas, brenin yr Ammoniaid, wedi dod yn eich erbyn chi, dywedoch chi wrtho i dro ar ôl tro, ‘Na, rydyn ni’n benderfynol o gael brenin arnon ni!’ er mai Jehofa eich Duw yw eich brenin. 13  Nawr dyma’r brenin rydych chi wedi ei ddewis, yr un rydych chi wedi gofyn amdano. Edrychwch! Mae Jehofa wedi penodi brenin arnoch chi. 14  Os byddwch chi’n ofni Jehofa ac yn ei wasanaethu ac yn ufuddhau i’w lais, ac os byddwch chi a’r brenin sy’n rheoli drostoch chi yn dilyn Jehofa eich Duw, ac os na fyddwch chi’n gwrthryfela yn erbyn gorchmynion Jehofa, popeth yn iawn. 15  Ond os na fyddwch chi’n ufuddhau i lais Jehofa, ac os byddwch chi’n gwrthryfela yn erbyn gorchmynion Jehofa, bydd llaw Jehofa yn eich erbyn chi a’ch tadau. 16  Nawr safwch yn llonydd a gweld y peth rhyfeddol hwn mae Jehofa yn ei wneud o flaen eich llygaid. 17  Onid ydy hi’n amser cynaeafu’r gwenith heddiw? Bydda i’n galw ar Jehofa i wneud iddi daranu a bwrw glaw; yna byddwch chi’n gwybod ac yn deall pa mor ddrwg oedd hi yng ngolwg Jehofa i ofyn am frenin arnoch chi.” 18  Gyda hynny, galwodd Samuel ar Jehofa, ac anfonodd Jehofa daranau a glaw ar y diwrnod hwnnw, fel bod y bobl i gyd yn ofni Jehofa a Samuel yn fawr iawn. 19  A dywedodd y bobl i gyd wrth Samuel: “Gweddïa ar Jehofa dy Dduw dros dy weision, oherwydd dydyn ni ddim eisiau marw. Rydyn ni wedi ychwanegu at ein holl bechodau drwy ofyn am frenin.” 20  Felly dywedodd Samuel wrth y bobl: “Peidiwch ag ofni. Do, rydych chi wedi gwneud yr holl bethau drwg hyn. Ond peidiwch â chefnu ar Jehofa, gwasanaethwch Jehofa â’ch holl galon. 21  Peidiwch â’i adael er mwyn mynd ar ôl pethau gwag sy’n ddiwerth ac sydd ddim yn gallu eich achub, oherwydd maen nhw’n wag. 22  Er mwyn ei enw mawr, fydd Jehofa ddim yn cefnu ar ei bobl, oherwydd mae Jehofa wedi dewis eich gwneud chi yn bobl iddo. 23  Ond fydda innau byth yn stopio gweddïo drostoch chi, oherwydd byddai hynny yn bechod yn erbyn Jehofa, bydda i’n dal ati i’ch dysgu chi sut i fyw mewn ffordd sy’n dda ac yn iawn. 24  Yn fwy na dim, ofnwch Jehofa a gwasanaethwch ef yn ffyddlon â’ch holl galon, a chofiwch am yr holl bethau rhyfeddol mae ef wedi eu gwneud drostoch chi. 25  Ond os byddwch chi yn fwriadol yn gwneud beth sy’n ddrwg, byddwch chi’n cael eich ysgubo i ffwrdd, y chi a’ch brenin.”

Troednodiadau